Swydd Wag -- Cymorth Busnes – Cafcass Cymru (Gwent)

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil

Manylion y Swydd

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
HSS - Cafcass Cymru
Band Tîm - £19,240 - £22,500
£19,240
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Y De-ddwyrain
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae CAFCASS Cymru yn un o Is-adrannau'r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Llywodraeth Cymru. Mae CAFCASS Cymru yn gyfrifol am ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant wedi'u heffeithio gan achosion llys teuluol. 

Mae gan CAFCASS Cymru 11 o swyddfeydd ar draws Cymru o fewn pum ardal weithredol ddaearyddol. Y pum ardal ddaearyddol yw:

• Gogledd Cymru

• De Cymru

• Canolbarth a Gorllewin Cymru

• De-orllewin Cymru

• Gwent 

Mae'r hysbyseb hon yn cwmpasu swyddi gwag yn ardal Gwent (Casnewydd). 

Mae swyddi Cymorth Busnes yn Cafcass Cymru yn ganolog wrth roi cymorth hanfodol i'r timoedd gweithredol o fewn y sefydliad, a sicrhau bod y timoedd gweithredol yn cael eu rheoli mewn modd hwylus ac effeithlon. 

Mae'r swyddi hyn yn unigryw o fewn Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi Rheolwyr Ymarfer, Cynghorwyr Llys Teulu/Gweithwyr Cymdeithasol Llys Teulu a Rheolwyr Cymorth Busnes i ddarparu gwasanaeth effeithiol i Lysoedd Teulu ar draws Cymru. 

Mae'r maes gwaith hwn yn ymwneud â gwybodaeth sensitif, gyfrinachol a manwl iawn, gan fydd y deiliaid swydd yn ymdrin â gwybodaeth ynglŷn ag achosion wrth gefnogi gwasanaethau ar gyfer plant agored i newid yn ystod cyfnodau anodd iawn yn eu bywydau.

Prif dasgau

• Darparu gwasanaeth cymorth gweithredol cynhwysfawr gan gynnwys sgrinio ceisiadau a gorchmynion llys, fformatio dogfennau cyfrinachol, drafftio gohebiaeth a chofnodion i safon uchel, trefnu cyfarfodydd, monitro'r mewnlif gohebiaeth, ffeilio a dyletswyddau gweinyddol eraill, wrth fodloni terfynau amser tyn. 

• Cyfathrebu'n broffesiynol ac effeithiol ag amrywiaeth eang o randdeiliaid mewnol ac allanol gan gynnwys llysoedd, yr Heddlu ac Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol, cyfreithwyr, ymarferwyr gwaith cymdeithasol a defnyddwyr gwasanaethau. 

• Delio â thrafodaethau ffôn sensitif ac ymholiadau wrth y dderbynfa gan ddefnyddwyr gwasanaethau fel bo angen. 

• Bod yn gyfrifol am eich tasgau mewnbynnu data eich hun, cyfrannu at sicrhau dilysrwydd y data yn system rheoli achosion Cafcass Cymru (IRIS), adrodd am wallau a rhoi cymorth a chyngor i gydweithwyr. 

• Cyfrannu at gadw a chynnal cofnodion mewnol, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn ag achosion, sicrhau bod cofnodion iShare wedi'u cwblhau a bod y gwaith yn cydymffurfio â gofynion Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth. 

• Bod yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl wybodaeth gyfrinachol yn cael ei thrin yn effeithlon ac yn briodol ac yn unol â'r arweiniad a’r dogfennau polisi perthnasol. 

• Cyfrannu at sicrhau bod y swyddfa’n cael ei rheoli’n hwylus o ddydd i ddydd, gan ymdrin â gohebiaeth, ei chofnodi a'i dosbarthu, a chynnal a dyrannu offer swyddfa. 

• Efallai bydd angen i ddeiliad y swydd ymgymryd â dyletswyddau eraill o fewn ei dîm er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau corfforaethol, e.e. Swyddog Cymorth Cyntaf, Swyddog Tân, Swyddog Asesu Cyfarpar Sgrin Arddangos.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn  rhoi'r cyfle i weithio mewn rôl o bwys mewn sefydliad sy'n canolbwyntio ar blant. Mae'r swyddi yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau â Cafcass Cymru, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol.

Dyddiad Cau

26/06/19 16:00

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu ei gweithlu dwyieithog, ac yn croesawu ceisiadau ar gyfer unrhyw swydd gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau

Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl

Pennu’r Cyfeiriad – Gwneud penderfyniadau effeithiol

Gwneud penderfyniadau effeithiol a'u cofnodi gan fodloni'r meini prawf, fframwaith neu ganllawiau priodol ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Ymgysylltu â Phobl – Cydweithio a Chreu Partneriaethau

Ymdrin â phobl eraill mewn ffordd deg a pharchus

Sicrhau Canlyniadau – Rheoli Gwasanaeth o Safon

Mynd ati i gasglu adborth cwsmeriaid i ddeall eu hanghenion ac ymdrin â'r wybodaeth yn briodol.

Sicrhau Canlyniadau – Cyflawni’n Brydlon

Gweithio mewn modd trefnus, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u harbenigedd i gyflawni’n brydlon a safonol

Meini prawf penodol i'r swydd

Dealltwriaeth dda a phrofiad o ddefnyddio amrywiaeth o becynnau TG gan gynnwys Microsoft Word, Excel a PowerPoint.
Gallu gweithio fel rhan o dîm yn dda ac ar eich pen eich hun yn ddigymell. Mae angen rhywfaint o brofiad o weithio gyda sefydliadau allanol.
Gallu monitro a storio data allweddol yn ddiogel, yn gywir, yn hyderus ac yn gyfrifol.

Gwybodaeth arall

Mae'r hysbyseb hon yn cwmpasu swyddi gwag yn ardal Gwent (Casnewydd). Bydd angen teithio rhwng lleoliadau swyddfeydd ardal y tîm.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gorfod aros yn y swydd am o leiaf 2 flynedd cyn bod yn gymwys i symud swyddi (amod eu bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd eraill sy'n gymwys ar y pryd).
Mae staff cymorth busnes Cafcass Cymru yn darparu gwasanaeth llinell flaen sy’n gweithredu rhwn 9yb a 5yh, er bod hyblygrwydd o ran oriau gwaith sy’n gymwys o’r angen busnes
Kate Critcher - 03000 251753

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.