Swydd Wag -- Cynghorydd Technegol - Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
HEO - £32,460 - £39,690
£29,850
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Caerdydd
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae'r Gangen Rheoli Llifogydd a'r Arfordir o fewn yr Is-adran Dŵr a Llifogydd ac mae ganddi nifer o brif feysydd o gyfrifoldeb gan gynnwys datblygu a gweithredu polisïau rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol, datblygu y broses o reoli rhaglen bwysig i gefnogi'r amcanion polisi hyn a darparu cyngor technegol ac arbenigedd ym maes risg llifogydd ac erydu arfordirol.

Dros gyfnod y Llywodraeth  hon, byddwn yn buddsoddi bron £300 miliwn (gan gynnwys cyllid Ewropeaidd) yn rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru gan ddiogelu miloedd o gartrefi.  Bydd £150 miliwn yn ychwanegol ar gael ar gyfer cynlluniau arfordirol drwy'r Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol o 2018.

Bydd y buddsoddiad yn cael ei ysgogi gan reoli risg fel a nodir yn ein Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru.  Mae'n dilyn bod Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn argymell symud oddi wrth adeiladu amddiffynfeydd yn unig i ddull o reoli risg gyda manteision ehangach a mwy cynaliadwy.

Prif bwrpas y swydd yw cefnogi rhaglen lifogydd Llywodraeth Cymru drwy werthuso achosion busnes ar gyfer cynlluniau rheoli llifogydd ac erydu arfordirol a sicrhau eu bod yn cael eu monitro yn effeithiol yn ystod y cynlluniau ac wedi'u cwblhau. Bydd deiliad y swydd yn rhoi cyngor ariannol i uwch-swyddogion ac Awdurdodau Lleol i alluogi Llywodraeth Cymru i helpu i ddarparu'r rhaglen lifogydd a datblygu polisi rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol a'r Strategaeth Genedlaethol.

Byddai deiliad y swydd yn gweithio ochr yn ochr â'r rhaglen bresennol a swyddogion polisi o fewn y tîm llifogydd gan gysylltu â Rheolwyr Cyllid Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhaglen yn cael ei chyflenwi'n llwyddiannus.

Byddant yn gwerthuso ceisiadau/cynlluniau ac yn rhoi cymorth technegol ychwanegol i'r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol.

Prif dasgau

  • Asesu gwerthusiadau technegol ac economaidd o gynlluniau unigol ar gyfer llifogydd ac amddiffyn arfordirol
  • Monitro y broses o baratoi a datblygu y cynlluniau llifogydd ac arfordir i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rhaglen ac yn sicrhau'r canlyniadau
  • Rhoi cyfeiriad ac arweiniad i awdurdodau lleol ar y broses o wneud cais am grant.
  • Paratoi canllaw technegol/cyngor i Uwch Swyddogion a chefnogaeth i'r Swyddog Technegol Uwch wrth asesu cynlluniau risg llifogydd a pharatoi cynlluniau busnes.
  • Cynorthwyo gyda paratoi/datblygu y polisi Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol.
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol a grwpiau arfordirol i gyflawni rhaglen Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol, y rhaglen cyllid arloesol (arfordirol), cynlluniau gweithredu Rheoli Traethlin, a mentrau eraill.
  • Casglu gwybodaeth gadarn i ddangos cydymffurfedd ariannol ac amgylcheddol a chydraddoldeb.
  • Sicrhau bod y rhaglen yn dilyn dull o reoli risg fel a nodir yn y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru.
  • Chwilio am gyfleoedd ar gyfer cyllid partneriaeth a manteision lluosog ar gyfer cynlluniau o fewn y rhaglen. Gallai'r enghreifftiau gynnwys adfywio, seilwaith trafnidiaeth a chyfleustodau, twristiaeth, creu swyddi a gwella'r amgylchedd. 
  • Ni fydd deiliad y swydd yn gyfrifol am fod yn rheolwr llinell uniongyrchol ar y cychwyn. Er hynny, mae cyfle i fod yn rheolwr llinell.
  • Helpu gyda cofnodi y rhaglen a rheoli cyllideb.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd yn rhoi cyfle i staff gyda phrofiad technegol/peirianyddol i symud i'r maes gwaith pwysig hwn.   Her y swydd fydd datblygu, cynnal a defnyddio arbenigedd wrth ystyried agweddau technegol, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cynlluniau rheoli risg llifogydd a'r arfordir. Mae'n cynnig cyfle i weithio gyda sefydliadau allanol ledled Cymru i ddatblygu a gweithredu y rhaglen llifogydd a'r arfordir ac i gynrychioli Llywodraeth Cymru mewn grwpiau rhanddeiliaid. Bydd cyfle hefyd i fod yn rhan o waith datblygu polisi. Rhoddir cefnogaeth wrth dderbyn hyfforddiant a chyfleoedd datblygu perthnasol.

Dyddiad Cau

16/12/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Manylion y swydd

  1. Mae'n hanfodol bod y cymhwyster priodol a pherthnasol gennych yn gysylltiedig â pheirianneg sifil, rheoli risg llifogydd neu arfordirol.   Byddai'n ddymunol i'r ymgeisydd fod neu anelu i fod yn aelod o gorff proffesiynol priodol.
  2. Y gallu i ddangos profiad technegol/peirianyddol sy'n berthnasol i brosiectau seilwaith neu reoli tir.
  3. Y gallu i ddangos dealltwriaeth o egwyddorion y broses gwerthuso prosiect sy'n gysylltiedig ag atebion peirianyddol.

Cymwyseddau

1. Gosod y Trywydd - Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol.

2. Ymwneud â Phobl - Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth

Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi’r broses o wireddu canlyniadau busnes

3. Gwireddu Canlyniadau - Cyflawni’n Brydlon

Cynllunio ymlaen llaw ond gan ailystyried llwythau gwaith a blaenoriaethau os bydd sefyllfaoedd yn newid neu os bydd y galwadau ar unigolion yn gwrthdaro

4. Gosod y Trywydd – Gweld y Darlun Cyflawn

Bod yn effro i faterion a thueddiadau newydd a allai effeithio ar eu gwaith eu hunain a’u tîm, neu a allai fod o fudd i’r gwaith hwnnw

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Tom McLean - Thomas.Mclean@gov.wales - 0300 025 8244

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.