Swydd Wag -- Cwnsler Deddfwriaethol Cynorthwyol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Swyddfa'r Prif Weinidog
Swyddfa'r Cwnsleriaid Deddfwriaethol
Gradd 6 - £67,100 - £76,990
I'w Gadarnhau
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Caerdydd â phosibilrwydd o weithio yn swyddfeydd arall Llwyodraeth Cymru
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Tîm o gyfreithwyr arbenigol sy'n gyfrifol am ddrafftio deddfau Cymru yw Swyddfa'r Cwnsler Deddfwriaethol. Ein prif bwrpas yw rhoi polisïau Llywodraeth Cymru ar waith drwy ddrafftio Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rydym hefyd yn cynghori'r Llywodraeth ar faterion sy'n ymwneud â chymhwysedd, dehongli a gweithdrefnau deddfwriaethol.

 Rhaid i Ddeddfau'r Cynulliad fod o fewn cymhwysedd datganoledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru: sy’n cynnwys bod yn gyson â chyfraith Ewrop a’r hawliau a warchodir gan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, ymysg pethau eraill. Mae’r Swyddfa yn drafftio deddfwriaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg: rhaid i Ddeddfau’r Cynulliad gael eu deddfu yn y ddwy iaith, ac mae iddynt statws cyfreithiol cyfartal.

 Rydym hefyd yn ymdrechu i ddrafftio deddfwriaeth mewn modd sy'n gyson â chyfrifoldeb ehangach y Llywodraeth i reolaeth y gyfraith. Mae'r modd y caiff cyfreithiau eu drafftio yn gwneud cyfraniad allweddol i system gyfreithiol sy'n gweithredu'n briodol: rhaid drafftio'r cyfreithiau'n glir er mwyn eu gwneud yn ddealladwy i'r cyhoedd ac osgoi gorfodi cyfreithiau annheg; rhaid i gyfreithiau beidio â gwrthddweud ei gilydd, a rhaid iddynt beidio â gorchymyn yr hyn sy'n amhosibl.

 Rydym yn rhannu cyfrifoldeb, gyda'r deddfwyr a'r rheini sy'n gwneud polisïau, i gynnal eglurder a threfn y cyfreithiau sy'n gymwys i Gymru, sef yr hyn y cyfeirir ato'n aml fel y llyfr statud. Gan weithio o fewn un awdurdodaeth ar gyfer Cymru a Lloegr ac o fewn cyd-destun deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes a ddeddfwyd ar gyfer Cymru a Lloegr (neu'r Deyrnas Unedig gyfan), ein nod yw creu deddfau sy'n unigryw i Gymru pan fo hynny'n ymarferol. 

Rydym yn dymuno penodi hyd at dri unigolyn i rôl Cwnsler Deddfwriaethol Cynorthwyol.

Prif dasgau

Prif gyfrifoldebau deiliad y swydd yw drafftio deddfwriaeth, a chynghori cyfreithwyr y Llywodraeth a'r rheini sy'n gwneud polisïau mewn cysylltiad â drafftio deddfwriaeth. 

Caiff deiliad y swydd ei gynnwys fel rhan o'r Proffesiwn Cyfreithiol o fewn Llywodraeth Cymru ar gyfer pob mater, gan gynnwys Datblygu Proffesiynol Parhaus. 

Prif dasgau’r swydd yw: 

  • Llunio ddrafft effeithiol.
  • Dadansoddi ar gyfer deddfwriaeth arfaethedig yn drylwyr ac yn,  gan gynnwys drwy gyfeirio at ddeddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, amcanion polisi, cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, cyfraith gyfansoddiadol a gweinyddol, cyfraith Ewrop, a hawliau'r Confensiwn.
  • Deall materion gweithdrefnol a chynghori yn eu cylch yn drylwyr ac yn effeithiol.
  • Cyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, gyda chyfreithwyr Llywodraeth Cymru, y rheini sy'n gwneud polisïau, a phan fo'n briodol, staff Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol, at ddibenion dadansoddi cyfarwyddiadau ar ddeddfwriaeth arfaethedig, cynhyrchu drafftiau, a chynghori ar faterion gweithdrefnol.
  • Caffael a chymhwyso gwybodaeth am feysydd newydd o'r gyfraith a chyfrannu at ddysgu o fewn y swyddfa.
  • Gweithio’n effeithiol i gynorthwyo’r broses o gynhyrchu testunau dwyieithog o ddeddfwriaeth.
  • Datblygu a chynnal perthynas dda gydag Adran Gwasanaethau Cyfreithiol ac adrannau eraill Llywodraeth Cymru.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn rhoi'r cyfle i weithio fel rhan o dîm ymrwymedig a medrus iawn, mewn amgylchedd cyfreithiol unigryw a bywiog sy'n gweithredu ar flaen y gad o ran y gyfraith, gwleidyddiaeth a setliad datganoli Cymru. 

Ar ôl cwblhau cyfnod prawf cychwynnol o ddwy flynedd fel Cwnsler Deddfwriaethol Cynorthwyol lefel 1 (ar raddfa dâl Gradd 7) yn llwyddiannus, bydd deiliad y swydd yn dod yn Gwnsler Deddfwriaethol Cynorthwyol lefel 2 (ar raddfa dâl Gradd 6). Mae posibilrwydd ar ôl hynny i fynd ymlaen, drwy fyrddau mewnol cyfnodol, o fod yn Gwnsler Deddfwriaethol Cynorthwyol i fod yn Gwnsler Deddfwriaethol ar raddfa uwch. Bydd dyrchafiadau pellach i lefelau uwch yn bosibl hefyd wrth i gyfleodd godi.

Dyddiad Cau

02/06/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau (Profir y rhain yn ystod cyfweliad yn unig):


Y Clwstwr Strategol – Gosod y Trywydd           

  1. Gwneud Penderfyniadau Effeithiol: Dadansoddi a gwerthuso’r manteision a’r anfanteision, a nodi’r risgiau, er mwyn gwneud penderfyniadau sy’n ystyried y cyd-destun ehangach, gan gynnwys amrywiaeth a chynaliadwyedd

Y Clwstwr Pobl – Ymwneud â Phobl

  1. Arwain a Chyfathrebu: Bod yn agored a chroesawgar i safbwyntiau pobl eraill ac ymateb iddynt (er gwaethaf pwysau i’w hanwybyddu), gan newid penderfyniadau neu gyfaddawdu yn eu sgil. 
  2. Gweithio ar y Cyd ac Mewn Partneriaeth - Chwilio am ganlyniadau adeiladol i drafodaethau, gan herio rhagdybiaethau ond bod yn barod i gyfaddawdu pan fydd hynny’n helpu i symud pethau yn eu blaenau. 

Y Clwstwr Perfformiad – Gwireddu Canlyniadau

  1. Cyflawni’n Brydlon Cynnal perfformiad effeithiol mewn amgylchiadau anodd a heriol, ac annog eraill i wneud yr un fath.

Meini Prawf penodol i'r Swydd (Profir y rhain yn y datganiad personol):

  1. Gradd Anrhydedd o radd 2:1 o leiaf neu dystiolaeth arall o allu academaidd o safon uchel.
  2. Lefel uchel o sgiliau dadansoddol a gallu i feistroli cysyniadau cyfreithiol cymhleth a sefyllfaoedd ymarferol.
  3. Diddordeb mewn iaith a dulliau o glir ac yn gywir fynegi cysyniadau cyfreithiol cymhleth, ac yn gallu dangos sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar yn effeithiol iawn.

I ymgeisio, mi fydd angen paratoi CV cyfoes a datganiad personol 2 tudalen sydd yn disgrifio sut rydych yn cyflawni'r meini prawf swydd. Gweler isod 'Pecyn Ymgeisydd' i bawb sydd â diddordeb yn y swydd:

https://gweddill.gov.wales/docs/caecd/publications/190502-candidate-pack-2019-assistant-legislative-counsel-cy.pdf


Am ymgyrch hon yn unig, anwybyddwch y neges isod am ddogfen cymwyseddau a mwyafswm o 300 o eiriau.


Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Dylan.Hughes@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.