Swydd Wag -- Dylunydd Profiad Defnyddiwr (UX)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Swyddfa'r Prif Weinidog
Y Tîm Digidol Corfforaethol
HEO - £32,460 - £39,690
£29,850 to £36,500
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Caerdydd
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Llywodraeth Cymru wrth inni ddiweddaru'r ffordd rydym yn datblygu ein gwasanaethau ar-lein.

Fel Dylunydd Profiad Defnyddiwr, byddwch yn cyflawni tasgau cymhleth ac yn eu trawsnewid yn ddyluniadau sy'n hawdd eu deall a'u defnyddio, i bobl a fydd yn eu defnyddio am y tro cyntaf ac arbenigwyr.

Byddwch yn helpu i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y mwyaf o'i gwefannau a gwasanaethau ar-lein ac yn cael cyfle i'w treialu gyda'r defnyddwyr.

Prif dasgau

  • Dilyn dull Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr i ddeall anghenion defnyddwyr ac ymchwilio i ddod o hyd i atebion
  • Dylunio cydrannau, patrymau, cynlluniau a theithiau’r defnyddiwr sy’n effeithiol ar gyfer ystod o wasanaethau ar-lein
  • Creu prototeipiau rhyngweithiol a defnyddio proses o iteru cyflym gan ddefnyddio pecynnau codio a dylunio
  • Cymryd rhan mewn ymchwil gan ddefnyddwyr a gweithgareddau profi defnyddioldeb
  • Rhoi cyngor i gleientiaid ar arferion gorau o ran profiad y defnyddiwr a saernïaeth gwybodaeth
  • Gweithio mewn amgylchedd tîm gan fodloni prosesau a methodoleg y Tîm Dylunio Rhyngweithio
  • Rhoi cyngor creadigol a syniadau ymarferol ar gyfer gwella gwasanaethau digidol a gwefannau sy’n bodoli eisoes

Cyfleoedd datblygu

Mae hon yn rôl heriol ond yn un sy'n cynnig boddhad mewn maes sy'n datblygu'n gyson. Mae'r swydd yn cynnig y cyfle i feithrin sgiliau yn y meysydd dylunio rhyngweithio a disgyblaethau digidol ehangach.

Dyddiad Cau

11/02/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

1. User focus: You know how to collaborate with user researchers and can represent users internally. You understand the difference between user needs and the desires of the user. You can champion user research to focus on all users. You can prioritise and define approaches to understand the user story, guiding others in doing so. You can offer recommendations on the best tools and methods to be used.

(Saesneg yn Unig: Digital, Data and Technology Capability Framework Llywodraeth y DU)

2. Gwneud Penderfyniadau Effeithiol: Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu’r costau, y manteision, y risgiau a’r ymatebion posibl.

3. Digital perspective: You are responsive to changes in technology, adapting your approach accordingly. You can make decisions to meet user needs in the government context. You understand the importance of assisted digital and can design services and make decisions to meet users needs. 

(Saesneg yn Unig: Digital, Data and Technology Capability Framework Llywodraeth y DU)

4. Arwain a Chyfathrebu: Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen


Meini Prawf Penodol i'r Swydd

1. Yn gallu dangos bod ganddynt hanes blaenorol o ddylunio gwasanaethau ar-lein a/neu safleoedd yn dilyn dull Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr. Rhowch enghreifftiau fel tystiolaeth o hyn gan gynnwys urls.

2. Yn hyddysg ac yn meddu ar brofiad mewn creu prototeipiau drwy godio â llaw ac wrth ddefnyddio pecynnau dylunio fel Sketch, Adobe Creative Suite, Invision ac Axure. Rhowch enghreifftiau fel tystiolaeth o hyn gan gynnwys urls.

3. Profiad o ddarganfod, dadansoddi a deall ymddygiad defnyddwyr mewn perthynas â gwefannau drwy ddulliau, gweithgareddau neu becynnau. Rhowch enghreifftiau fel tystiolaeth o hyn gan gynnwys urls.

Proses Asesu

Bydd ymgeiswyr a fydd yn llwyddo yn y sifft yn mynd ymlaen i gael cyfweliad. Bydd gliniadur ar gael i ymgeiswyr yn y cyfweliad er mwyn iddynt allu rhoi tystiolaeth weledol wrth ateb y cwestiynau.

Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad 10 munud a fydd yn asesu'r maen prawf penodol i'r swydd cyntaf. Bydd pwnc y cyflwyniad yn cael ei gadarnhau yn y gwahoddiad i gyfweliad.

 

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Timothy Andrews - timothy.andrews@gov.wales - 0300 025 3012

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.