Swydd Wag -- Uwch Reolwr Gwasanaethau Ymwelwyr

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cadw
SEO - £41,700 - £49,370
£38,355
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Cadw yn un o asiantaethau mewnol Llywodraeth Cymru ac yn cyfuno swyddogaethau rheoleiddio, cynghori a grantiau yn yr amgylchedd hanesyddol ehangach â gwarchod, cynnal a chyflwyno’r casgliad cenedlaethol o henebion hanesyddol, gan gynnwys dau Safle Treftadaeth y Byd.

Mae nodau Cadw yn cynnwys darparu profiad ymwelwyr o'r radd flaenaf yn y safleoedd o dan ein gofal, gan gynyddu perfformiad masnachol trwy wneud y defnydd gorau o'n henebion a thrwy gynyddu buddion i gymunedau gan greu mwy o gyfleoedd i bobl fwynhau, dysgu a bod yn rhan o weithgareddau treftadaeth. Mae gennym hefyd rôl yn cynyddu ymwybyddiaeth a mwynhad yr amgylchedd hanesyddol ehangach, ynghyd â'r angen i ofalu amdano, er mwyn llesiant cenedlaethau'r dyfodol a'r presennol.

Mae hon yn rôl uwch reoli o fewn Gwasanaethau Ymwelwyr ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd. Mae'n adrodd i Bennaeth y Gangen, yn rheoli 2 Reolwr Rhanbarthol ac yn darparu arweinyddiaeth i dros 100 o geidwaid sy'n gweithio mewn 24 o safleoedd wedi'u staffio ledled Cymru.

Bydd y rôl yn arwain darpariaeth gwasanaethau ymwelwyr yn y safleoedd sydd o dan ofal Cadw, gyda chyfrifoldeb penodol dros safon gwasanaeth cyhoeddus a pherfformiad ceidwaid y safleoedd wedi'u staffio. Bydd deiliad y swydd yn arwain datblygiad diwylliant sy'n cydbwyso rhagoriaeth mewn gwasanaethau cwsmeriaid, ymgysylltiad â'r gymuned ac entrepreneuriaeth ymhob rhan o'r ystâd.

Prif dasgau

  • Arwain gweithlu mawr sy'n wasgaredig yn ddaearyddol ac sy'n gyfrifol am groesawu ymwelwyr i'r 24 o henebion wedi'u staffio sydd o dan ofal Cadw.
  • Rheoli, hyfforddi a datblygu staff o fewn y tîm er mwyn sicrhau bod gweithrediadau'n cael eu cyflawni'n effeithiol o ddydd i ddydd a bod diwylliant o barch ac urddas rhwng cydweithwyr yn cael ei annog.
  • Rheoli cyfraniad y Gwasanaethau Ymwelwyr i Gynlluniau Busnes blynyddol a thair blynedd Cadw, gan amlinellu sut y bydd y sefydliad yn cyflawni'r hyn sydd yn rhaglen y llywodraeth a'r targedau busnes perthnasol, gan ganolbwyntio'n benodol ar hyfywedd masnachol yr henebion.
  • Dadansoddi perfformiad yn barhaus er mwyn gosod cyfeiriad, gan sicrhau bod rhaglenni gwaith yn cefnogi amcanion ehangach y busnes a gweithredu newidiadau i sicrhau'r defnydd gorau o adnoddau.
  • Gweithio gyda rheolwyr rhanbarthol y Gwasanaethau Ymwelwyr i ddatblygu strategaeth ddysgu a datblygu sy'n canolbwyntio ar anghenion datblygu'r ceidwaid.
  • Gweithredu fel prif ffynhonnell gyngor i Weinidogion ac uwch swyddogion ar faterion allweddol yn ymwneud â Gwasanaethau Ymwelwyr, gan baratoi cyflwyniadau a briffiau ar ystod o weithgareddau a materion, a chyflwyno opsiynau ac argymhellion i'w gweithredu.
  • Cyfrifoldeb ac atebolrwydd am fonitro a gwariant rhaglen gyllideb refeniw, gan gynnwys darparu adroddiadau misol i'r uwch reolwyr.
  • Cyfrifoldeb ac atebolrwydd am sicrhau bod safleoedd wedi'u staffio yn cydymffurfio â rheolau Iechyd a Diogelwch i staff, ymwelwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau cysondeb wrth gadw cofnodion priodol a datblygu polisïau i sicrhau bod y safleoedd yn fannau gwaith ac atyniadau ymwelwyr diogel, gan gydweithio gyda staff arbenigol.
  • Arwain ar gynnal a gwella safonau gwasanaeth cwsmeriaid a bodlonrwydd ymwelwyr, gan gynnwys monitro adborth ymwelwyr, ymateb a mynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n codi yn sgil cwynion gan ymwelwyr ac ymchwilio dulliau newydd o gasglu adborth gan gwsmeriaid ac o ddefnyddio safleoedd Cadw.
  • Cynnal perthynas waith agos gyda chydweithwyr yn Cadw sy'n gyfrifol am faterion cynnal a chadw, cadwraeth ac eiddo er mwyn sicrhau bod y safleoedd yn edrych yn dda, eu bod yn lân a'u bod yn ddiogel i weithio ynddynt ac ymweld â hwy.
  • Gweithio mewn ffordd ragweithiol gyda chydweithwyr yn Cadw i gyfrannu'n effeithiol tuag at weithgareddau'n ymwneud â marchnata, digwyddiadau a gweithgareddau dysgu a masnachol er mwyn sicrhau bod anghenion ymwelwyr yn cael eu hystyried fel rhan o raglenni a phrosiectau datblygu henebion. 
  • Annog diwylliant sy'n cefnogi perthynas wych rhwng safleoedd Cadw a chymunedau lleol a rhanddeiliaid er mwyn hybu effaith gadarnhaol safleoedd treftadaeth ar gymunedau lleol.
  • Dylunio dulliau ymchwil a chasglu data i helpu i fesur effaith economaidd safleoedd Cadw ar yr economi leol.
  • Bod yn bwynt cyswllt cychwynnol ar gyfer ymateb i faterion y tu hwnt i oriau swyddfa ar safleoedd Cadw, gan ofyn am gymorth gan aelodau staff cefnogi allweddol eraill yn ôl yr angen trwy ddefnyddio'r Rhestr Cysylltiadau mewn Argyfwng tu allan i oriau swyddfa.

Cyfleoedd datblygu

Mae Cadw yn annog staff i fanteisio ar gyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus yn ogystal â chefnogi’r gweithgareddau dysgu a datblygu penodol sy’n gysylltiedig ag anghenion y busnes.

Mae'r swydd yn cynnwys arwain gwasanaethau ymwelwyr yn atyniadau treftadaeth Cadw, gan gynnwys dau Safle Treftadaeth y Byd, sef Cestyll a Muriau Trefi Brenin Edward yng Ngwynedd a Thirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn Nhorfaen. Mae'n cynnig y cyfle i weithio mewn sefydliad treftadaeth blaenllaw, sy'n darparu croeso o'r radd flaenaf i Gymru ac sy'n gwella gwybodaeth, mwynhad a gwerthfawrogiad ymwelwyr o'n hanes unigryw.

Dyddiad Cau

28/01/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Meini Prawf Penodol i'r Swydd:

  1. Profiad sylweddol o arwain ac ysgogi timau sydd ar wasgar, a hynny'n ddelfrydol mewn amgylchedd atyniad ymwelwyr neu atyniad dreftadaeth.
  2. Y gallu i weithredu systemau effeithiol o ran cynllunio busnes, gosod targedau, monitro perfformiad a dadansoddi canlyniadau er mwyn mesur a gwella perfformiad.
  3. Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar, gan gynnwys ymgysylltu â staff a darparu cyngor amserol, cywir a llawn gwybodaeth.

Cymhwyseddau:

  • Adolygu gweithdrefnau neu systemau yn rheolaidd gyda thimau er mwyn nodi gwelliannau a symleiddio prosesau a phenderfyniadau
  • Gwneud penderfyniadau pan fo angen, hyd yn oed os ydynt yn rhai anodd neu amhoblogaidd
  • Datblygu cynigion i wella ansawdd gwasanaethau gydag amrywiaeth eang o staff, rhanddeiliaid neu bartneriaid cyflenwi
  • Rheoli, cefnogi ac ymestyn eu hunain a’u tîm yn llwyddiannus i gyflawni nodau ac amcanion y cytunwyd arnynt

Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio, yna bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad lle gofynnir iddynt wneud cyflwyniad

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Huw Gwillim - 03000622376 - Huw.Gwillim@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.