Swydd Wag -- Arolygydd Safleoedd y Goron

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diogelwch Cymunedol
SEO - £41,700 - £49,370
£42,690 (pwynt 3 o'r raddfa)
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Llywodraeth Cymru'n cynnig cyfle ar gyfer swyddog diogelwch tân cymwysedig a phrofiadol. 

Mae gan Arolygydd Safleoedd y Goron awdurdod i orfodi Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (y ‘Gorchymyn Diogelwch Tân’) yn yr holl safleoedd sydd ym mherchnogaeth neu ym meddiannaeth y Goron yng Nghymru (ac eithrio safleoedd y Weinyddiaeth Amddiffyn). Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o safleoedd, gan gynnwys Adeiladau Cyhoeddus, swyddfeydd, depos a warysau, adeiladau treftadaeth a safleoedd gwarchodol – mae'r un olaf o'r rhain yn achosi risgiau penodol a chymhleth o ran diogelwch tân.  Mae hwn yn gyfle ardderchog i'r ymgeisydd cywir weithio wrth galon y Llywodraeth gan ysgwyddo cyfrifoldebau allweddol dros ddiogelwch tân yn safleoedd y Goron ledled Cymru.  Bydd y rôl hefyd yn cynnig y cyfle i weithio ar ystod ehangach o bolisi diogelwch tân fel cynghorydd, gan ddelio â materion megis diwygio'r Gorchymyn Diogelwch Tân. 

Bydd y swydd yn cwmpasu holl safleoedd y Goron ledled Cymru.

Prif dasgau

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli'r rhaglen arolygu a sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n cadw cronfa ddata gyflawn o wybodaeth am safleoedd. 

Bydd yr arolygydd yn adrodd i Gynghorydd Tân ac Achub Cynorthwyol Llywodraeth Cymru ac yn ffurfio cysylltiadau agos â chydweithwyr perthnasol yn Llywodraeth Cymru. 

Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant sy'n gallu gweithio ar ei fenter ei hun ac sydd â llwyddiant blaenorol ym maes Diogelwch Tân mewn Busnesau. 

Mae'r dyletswyddau'n amrywiol ac yn cynnwys:

  1. Rheoli rhaglen sy'n seiliedig ar risg o arolygiadau o safleoedd y Goron - trwy weithio ar safleoedd ac adolygiadau pen bwrdd, ac archwilio ac arolygu safleoedd ledled Cymru at ddibenion asesu cydymffurfiad â'r Gorchymyn Diogelwch Tân.
  2. Archwilio trefniadau rheoli diogelwch tân adrannol Adeiladau'r Goron.
  3. Mynd ar drywydd ac ymchwilio i ddigwyddiadau tan yn safleoedd y goron, yn aml fel rhan o dîm ar y cyd â swyddogion y Gwasanaeth Tân ac Achub y digwyddodd y digwyddiad yn eu hardal. 
  4. Cymryd camau gorfodi priodol o dan y gorchymyn yn unol â pholisi ac egwyddorion gorfodi da a nodir yng Nghod y Rheoleiddwyr.
  5. Darparu cyngor ac arweiniad (trwy gyfarfodydd a chyflwyniadau, yn ôl yr angen) i'r holl randdeiliaid ynghylch diogelwch tân mewn safleoedd penodol a safleoedd y Goron yn gyffredinol.
  6. Cydweithio â gwasanaethau tân ac achub, awdurdodau gorfodi eraill, cyrff statudol ac eraill lle mae angen cydweithio, er mwyn hybu cysondeb, ac at ddibenion cyfnewid gwybodaeth.
  7. Gweithio gyda phersonél o wasanaethau tân ac achub sy'n helpu gydag arolygiadau o safleoedd gwarchodol a'u harwain.
  8. Cydweithio ag Arolygwyr safleoedd y Goron o awdurdodaethau eraill i sicrhau y caiff gwybodaeth ac arferion da eu rhannu.
  9. Cwblhau a diweddaru ffurflenni sy'n seiliedig ar risg, a chadw cofnod o weithgarwch.
  10. Llunio ystod o adroddiadau, drafftio llythyrau a hysbysiadau a rhoi cymorth cyffredinol fel y bo'n briodol.
  11. Darparu cyngor technegol am ddiogelwch tân yn gyffredinol, a chyfrannu at ddiwygio polisi a'r gyfraith mewn perthynas â diogelwch tân ac atal tân. Yn arbennig, bydd hyn yn cynnwys diwygio'r Gorchymyn Diogelwch Tân yng ngoleuni tân Tŵr Grenfell.
  12. Sicrhau bod gwybodaeth am ddiogelwch tân yn dal yn gyfoes, trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus, o leiaf digon i fodloni gofynion Sefydliad y Peirianwyr Tân neu sefydliad tebyg.

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar wybodaeth gadarn am ddeddfwriaeth diogelwch tân a gorfodi yn seiliedig ar risg, (gan gynnwys egwyddorion asesu'r risg o dân) a gallu dangos yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i allu delio ag atebion diogelwch tân.  

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau trefnu a rhyngbersonol ardderchog, gallu gweithio i derfynau amser tynn, gweithio ar eu menter eu hunain, yn ogystal â chydweithio'n rheolaidd â Changen Gwasanaethau Tân Llywodraeth Cymru.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd yn cynnig cyfle ardderchog i weithio o fewn amgylchedd cenedlaethol safleoedd y Goron, sy'n amrywio o safleoedd y llywodraeth ganolog i leoedd unigryw o dreftadaeth genedlaethol. Mae hyn hefyd yn cynnwys safleoedd gwarchodol sy'n achosi risgiau penodol a chymhleth o ran diogelwch tân.  Bydd y rôl hefyd yn cynnig y cyfle i weithio ar ystod ehangach o bolisi diogelwch tân fel cynghorydd, gan ddelio â materion megis diwygio'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân).

Dyddiad Cau

24/01/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Meini Prawf Penodol i'r Swydd:

  1. Gwybodaeth arbenigol am Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.
  2. Profiad o archwilio ac arolygu safleoedd gan gydymffurfio â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 
  3. Profiad o ddarparu cyngor a chanllawiau ar ddiogelwch tân mewn adeiladau.

Cymwyseddau:

  • Bod yn effro i faterion a thueddiadau newydd a allai effeithio ar eu gwaith eu hunain a’u tîm, neu a allai fod o fudd i’r gwaith hwnnw
  • Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi’r broses o wireddu canlyniadau busnes
  • Gwneud penderfyniadau pan fo angen, hyd yn oed os ydynt yn rhai anodd neu amhoblogaidd
  • Bod yn barod i rannu adnoddau er mwyn helpu â gwaith sydd â mwy o flaenoriaeth iddo, gan fod yn ymarferol a chefnogi nodau cyffredin y sefydliad

Proses Asesu

Bydd y broses yn cynnwys sifft papur syml, gan symud ymlaen i gyfweliad ar gyfer y ceisiadau llwyddiannus (ni fydd angen cyflwyniad).

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Steve Pomeroy - Steve.pomeroy@gov.wales - 0300 062 8219

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.