Swydd Wag -- Cynghorydd Datblygu Archifau

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
Llyfrgelloedd ac Archifau
HEO - £32,460 - £39,690
£31,210
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Bydd y swydd hon yn cyfrannu at ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisi a darpariaeth gwasanaethau archifau i Lywodraeth Cymru.  Bydd hyn yn cynnwys y dyletswyddau statudol yn ymwneud â'r ddarpariaeth o wasanaethau archifau sydd yn Adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, a rheolaeth a gweinyddiaeth gysylltiedig Cynllun Achredu Gwasanaethau Archifau ledled y DU yng Nghymru.  Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd arwain ar fentrau polisi y cytunwyd arnynt i gefnogi darpariaeth rheoli archifau a chofnodion o fewn sector cyhoeddus Cymru, gan ganolbwyntio'n benodol ar agendâu mynediad a chadwraeth ddigidol.

Prif dasgau

  • Darparu cyngor polisi i Weinidogion am ddarpariaeth archifau lleol a chyfrannu at ddatblygu polisi a strategaeth y dyfodol ar archifau
  • Gweinyddu'r cynllun Achredu Gwasanaethau Archif yng Nghymru. Cynnal ymweliadau cynghori a dilysu i wasanaethau sy'n cymryd rhan yn y cynllun Achredu a mynychu cyfarfodydd y Panel Achredu
  • Cymryd cyfrifoldeb am gynlluniau 'Adran 60' Adran 60 Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 i gefnogi'r Gweinidog i gyflawni'r dyletswyddau statudol
  • I gysylltu â'r Archifau Cenedlaethol (DU, Cymru a Lloegr) ar faterion megis rheoli Deddf Cofnodion Cyhoeddus 1958 yng Nghymru, gan fod hyn yn ymwneud â'r system Lleoliadau Adneuo lleol
  • Datblygu a rheoli rhaglenni a phrosiectau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r sector archifau yng Nghymru.
  • Monitro cyllidebau a gwariant cysylltiedig
  • Meithrin perthynas a gweithio'n effeithiol gydag amrywiaeth o bartneriaid o'r sector archif yng Nghymru ac yn ehangach, gan gynnwys cyrff proffesiynol a grwpiau, a sefydliadau cenedlaethol blaenllaw
  • Paratoi cyngor a sesiynau briffio gweinidogion, ymatebion drafft i ohebiaeth ac ymholiadau, a mynychu ymweliadau gweinidogol yn ôl y galw
  • Darparu cyngor i gydweithwyr o fewn Llywodraeth Cymru ar faterion sy'n effeithio ar archifau gan gynnwys dynodi cyrff cofnodion cyhoeddus newydd
  • Gweithredu fel rheolwr llinell os oes angen a chyfrannu at reoli tîmau
  • Tasgau eraill yn ôl yr angen sy'n briodol i'r rôl hon a'r radd hon, gan gynnwys gwaith a blaenoriaethau traws-adrannol

Cyfleoedd datblygu

Yn ogystal â chael gwybodaeth a phrofiad manwl o'r sector archifau yng Nghymru, bydd y deiliad swydd llwyddiannus yn datblygu eu sgiliau rheoli mewn maes polisi sy'n effeithio ar lawer o feysydd sy’n flaenoriaeth ar draws Llywodraeth Cymru gan gynnwys addysg a dysgu, gwasanaethau digidol, cymunedau a threchu tlodi, iechyd a lles, cyfiawnder cymdeithasol a chynaliadwyedd.

Dyddiad Cau

03/10/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda rhywfaint o wirio

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  1. Gweld y Darlun Cyflawn - Ceisio deall sut y mae’r gwasanaethau, y gweithgareddau a’r strategaethau yn y maes yn ategu ei gilydd i greu gwerth am arian ar gyfer y cwsmer/defnyddiwr
  2. Newid a Gwella - Bod yn barod i wynebu heriau neu newidiadau anodd neu gymhleth, gan annog a chefnogi eraill i wneud yr un fath
  3. Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi’r broses o wireddu canlyniadau busnes
  4. Rheoli Gwasanaeth Safonol - Datblygu, gweithredu, cynnal ac adolygu systemau a safonau gwasanaethau er mwyn sicrhau rhagoriaeth ac arbenigedd proffesiynol ynghyd â gwerth am arian

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

1. Gwybodaeth eang am safonau proffesiynol, gan gynnwys y Cynllun Achredu Gwasanaethau Archifau
2. Profiad o weithio gydag ystod o gasgliadau o archif gan gynnwys cyfryngau cymysg/deunydd digidol
3. Profiad o reoli prosiectau a rhaglenni sy'n cynnwys sawl partner

Proses Asesu

Bydd angen i ymgeiswyr sgorio o leiaf 3 ar gyfer cymwyseddau a 4 ar gyfer meini prawf penodol i’r swydd 1 a 2 i gael eu gwahodd i gyfweliad.

Bydd pwnc y cyflwyniad yn cael ei anfon at yr ymgeiswyr llwyddiannus ar ôl sifftio.  Y maes a fydd yn cael ei brofi bydd Maen Prawf Penodol i’r Swydd 2.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Ar gyfer cyhoeddiad yr Archives and Records Association cysylltwch â Mary Ellis am fanylion cyswllt.
Mary Ellis - 03000622105

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.