Swydd Wag -- Rheolwr Tîm – Arolygu Gwasanaethau Oedolion
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru. Mae arolygu a gorfodi yn swyddogaethau allweddol wrth sicrhau y caiff gwasanaethau rheoleiddiedig diogel o ansawdd da eu darparu i ddinasyddion Cymru.
Prif dasgau'r Rheolwr Tîm yw rheoli tîm o rhwng 6 ac 8 Arolygydd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau gofal rheoleiddiedig i oedolion a phlant yn darparu gofal diogel o ansawdd da, ac yn annog ac yn ysgogi gwelliant. Bydd y Rheolwr Tîm yn cynorthwyo ac yn cefnogi'r Uwch-reolwr gyda'r gwaith o reoli'r gwasanaeth yn effeithiol, yn amserol ac yn effeithlon.
Bydd Rheolwyr Tîm yn atebol i Uwch-reolwr. Bydd ganddynt rôl bwysig i'w chwarae er mwyn sicrhau y caiff cyfrifoldebau craidd AGC eu cyflawni'n effeithiol ac yn amserol ym mhob agwedd ar wasanaethau gofal cymdeithasol plant sy'n derbyn gofal ac oedolion.
Prif dasgau
- Rheoli tîm o Arolygwyr yn effeithiol o ddydd i ddydd.
- Sicrhau y darperir sesiynau goruchwylio myfyriol rheolaidd i arolygwyr dynodedig ac y caiff eu perfformiad ei reoli'n effeithiol.
- Hyrwyddo a chyfrannu at ymwreiddio'r defnydd o systemau digidol a TGCh yn AGC.
- Cefnogi datblygiad staff y tîm drwy roi hyfforddiant sefydlu, sesiynau briffio a gweithredu fel mentor neu hyfforddwr gydag arolygwyr rheoleiddio a nodir ac aelodau o'r staff. Monitro ac arsylwi ar arferion arolygu er mwyn nodi a rhannu arferion da a meysydd i'w datblygu'n broffesiynol.
- Bod yn gyfrifol am ddyrannu gwaith i arolygwyr dynodedig yn amserol ac yn effeithlon, yn unol â phrosesau a gofynion sefydliadol.
- Helpu'r Uwch-reolwr perthnasol a'r Pennaeth Arolygu Gwasanaethau Oedolion a Phlant i gyfrannu at y gwaith o sicrhau ymatebion amserol a chyflawn i bob sylw, canmoliaeth a chŵyn, a cheisiadau o dan y Ddeddf Diogelu Data yn unol â phrosesau a gofynion sefydliadol.
- Gwneud penderfyniadau rheoli achosion a gorfodi yn unol â'r dyletswyddau dirprwyedig a nodir yng nghanllawiau sicrhau gwelliant a gorfodi AGC.
- Gweithio'n agos gydag uwch-reolwyr timau Arolygu Awdurdodau Lleol i rannu gwybodaeth.
- Bod yn gyfrifol am reoli gweithgareddau rheoleiddio a pherfformiad drwy gyfrannu'n effeithiol at ddewis, recriwtio a sefydlu staff.
- Gweithredu fel rheolwr llinell a goruchwylio'r trefniadau ar gyfer sicrhau atebolrwydd a chydymffurfiaeth o ran safonau ac ansawdd pob gweithgaredd arolygu a rheoleiddio ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Phlant.
- Bod yn rheolwr llinell cryf a gweladwy i arolygwyr rheoleiddio gan ddangos ymrwymiad personol i werthoedd a nodau'r sefydliad ar bob lefel o weithgarwch.
- Bod yn gyfrifol am hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus, lle caiff materion amrywiaeth a chydraddoldeb eu hystyried yn llawn a'u hintegreiddio mewn ymarfer rheoleiddio, a gweithredu fel hyrwyddwr newid fel sy'n ofynnol gan y sefydliad.
- Bod yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch Llywodraeth Cymru yn y maes cyfrifoldeb.
- Helpu i gynnal archwiliadau ac adolygiadau sicrhau ansawdd yn ôl y gofyn.
- Helpu arolygwyr gyda gweithgarwch arolygu cymhleth a heriol yn ôl y gofyn.
- Bod yn gyfrifol am gysylltu â rheoleiddwyr eraill, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, yr heddlu ac arolygiaethau eraill, er mwyn cefnogi proses reoleiddio effeithiol.
- Bod yn gyfrifol am gysylltu ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd mewn perthynas â diogelu ac ansawdd gwasanaethau a gomisiynir.
- Cynnig cymorth i Uwch-reolwyr yn y tîm Arolygu Gwasanaethau Oedolion a Phlant wrth oruchwylio a monitro darparwyr sydd â sawl gwasanaeth, yn unol â chanllawiau AGC.
- Ystyried sylwadau yn unol â'r rota y cytunwyd arni.
- Casglu a darparu tystiolaeth i wrandawiadau'r Tribiwnlys Safonau Gofal, a bod yn bresennol ynddynt.
- Gweithio'n agos gyda rheolwyr tîm yn y Tîm Cofrestru a Gorfodi a'r Tîm Arolygu Awdurdodau Lleol i rannu gwybodaeth a fydd yn llywio penderfyniadau.
- Cymryd cyfrifoldeb am reoli eich perfformiad a'ch datblygiad proffesiynol eich hun, gan gynnwys sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau polisi a deddfwriaethol perthnasol a manteisio ar gyfleoedd datblygu priodol yn unol â phroses perfformiad a datblygiad Llywodraeth Cymru ac ar ôl trafod â'r Uwch-reolwr – Arolygu Gwasanaethau Oedolion.
Cyfleoedd datblygu
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Cymwyseddau:
Gosod y Trywydd – Gweld y Darlun Cyflawn
Ceisio deall sut y mae’r gwasanaethau, y gweithgareddau a’r strategaethau yn y maes yn ategu ei gilydd i greu gwerth am arian ar gyfer y cwsmer/defnyddiwr.
Gosod y Trywydd – Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu’r costau, y manteision, y risgiau a’r ymatebion posibl.
Ymwneud â Phobl – Arwain a Chyfathrebu
Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.
Gwireddu Canlyniadau – Cyflawni'n Brydlon
Blaengynllunio ond ailasesu llwythau gwaith a blaenoriaethau os bydd sefyllfaoedd yn newid neu os bydd pobl yn wynebu gofynion sy'n gwrthdaro.:
Meini Prawf Penodol i’r Swydd:
1. Yn ddelfrydol, dylid meddu ar gymhwyster gofal cymdeithasol/addysg cydnabyddedig ynghyd â phrofiad perthnasol. Fodd bynnag, derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gymwys i lefel gradd neu'n uwch (mewn unrhyw bwnc) y mae ganddynt brofiad sylweddol o ddiogelu a/neu wella canlyniadau i oedolion mewn cyd-destun iechyd neu ofal cymdeithasol.
Mae enghreifftiau o gymwysterau gofal cymdeithasol / addysg derbyniol yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
• Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol),
• cymhwyster nyrsio neu gymhwyster sy'n gysylltiedig â gofal iechyd,
• cymhwyster addysgu neu addysg,
• gradd mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar/Plentyndod,
• Diploma Lefel 5 mewn Arwain Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
• Dyfarniad Rheoleiddio Gwasanaethau Cymdeithasol (RCSA)
2. Profiad o arwain, rheoli a datblygu tîm yn effeithiol.
3. Tystiolaeth o arwain a llywio'r gwaith o wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion a bodloni gofynion amrywiol defnyddwyr gwasanaethau/cwsmeriaid/defnyddwyr.
Proses Asesu
Proses Gwneud Cais:
Mae AGC yn dilyn prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru sef ffurflenni cais a chyfweliadau sy'n seiliedig ar gymwyseddau. Sicrhewch eich bod yn darllen Canllawiau Recriwtio Llywodraeth Cymru a cyn gwneud cais ac wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau, a defnyddiwch ddull STAR wrth roi tystiolaeth.
Llunio Rhestr Fer/Sifftio Ceisiadau:
Rhoddir ymgeiswyr ar restr fer drwy asesu'r dystiolaeth a ddarperir yn y cais, y CV a'r dystiolaeth a gaiff ei lanlwytho. Caiff hyn ei asesu gan ddefnyddio'r matrics sgorio (gweler y Canllawiau i Ymgeiswyr Allanol ym mharagraff 6) yn erbyn y cymwyseddau a'r meini prawf penodol i'r swydd a nodir yn y disgrifiad swydd/hysbyseb swydd.
Os daw nifer mawr o geisiadau i law, efallai mai dim ond yn seiliedig ar eich ymatebion i'r tri maen prawf penodol i'r swydd y bydd y panel yn llunio'r rhestr fer. Noder: bydd angen i chi ddarparu ymateb ysgrifenedig mewn perthynas â'r pedwar cymhwysedd o hyd, er mwyn pasio'r cam rhestr fer yn llwyddiannus.
Cewch eich hysbysu am y canlyniad drwy'r system ar-lein.
Gellir ystyried cyflog cychwynnol hyd at bwynt 3 (£45,970) os caiff y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad hanfodol eu dangos yn y cyfweliad.
Cyfweliadau:
Caiff cyfweliadau eu cynnal yn rhithwir dros Microsoft Teams. Os na allwch gymryd rhan mewn cyfweliad ar-lein am ba reswm bynnag, rhowch wybod i ni a gallwn geisio gwneud trefniadau amgen lle y bo'n bosibl.
Os ydych yn anabl, os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, os ydych yn niwrowahanol neu os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain a hoffech wneud cais am addasiadau rhesymol neu drefniadau amgen, cysylltwch â ni drwy e-bostio CIWHR@gov.wales
Efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflawni asesiad neu roi cyflwyniad fel rhan o'r broses gyfweld. Os felly, byddwn yn rhoi rhybudd o bum diwrnod gwaith o leiaf o'r gofynion.
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Lleoliad:
Lleolir y rôl hon yn Swyddfa AGC ym Merthyr. Disgwylir i gydweithwyr weithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys rhywfaint o gartref, fel sy'n ofynnol. Y lleoliad swyddfa y cytunir arno fydd y man gwaith dynodedig ac ni fydd unrhyw drefniant gweithio o bell neu weithio gartref yn gyfystyr â newid eich man gwaith dynodedig na'ch telerau ac amodau cytundebol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus dalu unrhyw gostau cymudo i'w fan gwaith arferol. Bydd deiliad y swydd yn rheolwr llinell ar Arolygwyr o ardal De-ddwyrain Cymru ac, felly, bydd angen iddo deithio yn achlysurol. Bydd AGC yn talu costau teithio i leoliadau eraill ar wahân i'ch man gwaith arferol dewisol.
Nid yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rolau hyn. Rydym yn annog ceisiadau ar gyfer y swyddi hyn gan siaradwyr Cymraeg a'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg.
Gweithio Hyblyg – Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i'ch helpu i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng gwaith a bywyd.
Gwyliau Blynyddol – Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig 31 diwrnod o wyliau blynyddol os byddwch yn gweithio'n llawn amser, pro rata ar gyfer rhan amser (e.e. 4 diwrnod = 25 diwrnod).
Gwyliau Banc – Mae cyflogeion llawn amser yn cael 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint y flwyddyn, pro rata ar gyfer rhan amser.
Cyflog – Rydym yn gyflogwr Cyflog Byw â graddfeydd cyflog cynyddrannol. Mae gennym hefyd strwythur cyflog cyfartal, beth bynnag fo oedran, statws priodasol, anabledd, hil, crefydd neu gred, neu hunaniaeth o ran rhywedd. Ceir rhagor o wybodaeth yma. https://llyw.cymru/datganiad-polisi-tal-llywodraeth-cymru-2020
Lwfans Defnyddiwr Car Hanfodol – Mae rolau Arolygwyr, Rheolwyr Tîm ac Uwch-reolwyr sy'n cynnal Arolygiadau a Gweithgarwch Rheoleiddiedig yn gymwys ar gyfer Lwfans Defnyddiwr Car Hanfodol o £1,000 y flwyddyn os ydych yn defnyddio eich car eich hun ac yn teithio mwy na 2,000 o filltiroedd statudol y flwyddyn. Mae trwydded yrru ddilys ac yswiriant cerbyd modur yn ofynnol.
Teithio a Chynhaliaeth – Bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu costau angenrheidiol, ychwanegol yr eir iddynt ar deithio a chynhaliaeth pan fydd cyflogeion yn teithio i ffwrdd o leoliad arferol y swyddfa o ganlyniad i fusnes swyddogol. Ni fydd yn ad-dalu costau y gellid bod wedi eu hosgoi drwy gynllunio'n well neu a oedd yn angenrheidiol fel arall i gyflawni diben swyddogol yr ymweliad.
Pensiwn – Ceir rhagor o wybodaeth am gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yma: https://www.civilservicepensionscheme.org.uk/
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi ei holl gyflogeion. Mae gennym rwydweithiau staff cryf a rhagweithiol a rhaglenni hybu talentau ar sail amrywiaeth er mwyn helpu pawb, ni waeth beth fo'u cefndir, i gyrraedd eu llawn botensial.
Dysgu a Datblygu – Caiff pob aelod o staff yn Llywodraeth Cymru ei gefnogi i ddatblygu ei sgiliau a'i alluoedd, sy'n cynnwys mynediad i gyfleoedd dysgu a datblygu gyda darparwyr o'r radd flaenaf. Mae AGC yn ymrwymedig i Ddysgu a Datblygu ac rydym yn sicrhau bod ein staff yn cael o leiaf 5 diwrnod o ddysgu y flwyddyn. Cefnogir hyn gan raglen ddysgu bwrpasol ar gyfer cyflogeion AGC.
Sefydlu – Caiff pob newydd-ddyfodiad hyfforddiant Sefydlu fel un o gyflogeion Llywodraeth Cymru. Cefnogir hyn gan raglen sefydlu bwrpasol ar gyfer cyflogeion AGC.
Cod y Gwasanaeth Sifil – Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn nodi'r gwerthoedd craidd a'r safonau a ddisgwylir gan bob gwas sifil: hygrededd, gonestrwydd, gwrthrychedd a didueddrwydd. Disgwylir i bob gwas sifil ymddwyn yn unol â Chod y Gwasanaeth Sifil, https://llyw.cymru/cod-y-gwasanaeth-sifil
Gwerthoedd Craidd AGC – Mae ein gwerthoedd craidd yn sicrhau bod pobl wrth wraidd popeth a wnawn a'n dyheadau fel sefydliad.
Gofalgar: rydym yn dosturiol ac yn gyfeillgar
Teg: rydym yn gyson, yn ddiduedd ac yn gynhwysol
Uniondeb: rydym yn onest a gellir ymddiried ynom
Proffesiynol: rydym yn fedrus, yn wybodus ac yn arloesol
Parch: rydym yn gwrando ar bobl, yn ymgysylltu â nhw ac yn eu gwerthfawrogi
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.