Swydd Wag -- Rheolwr Rhaglen y Polisi Cyflawnwyr Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
SEO - £41,700 - £49,370
£39,310
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Benthyciad
2 blynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae'r rôl hon yn cefnogi Pennaeth y Polisi Cyflawnwyr Trais i sicrhau bod amcanion Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, mewn perthynas â chyflawnwyr trais, yn cael eu gweithredu'n effeithiol, gan wneud cyfraniad allweddol at ddwyn cyflawnwyr trais i gyfrif a rhoi cyfleoedd iddynt newid eu hymddygiad yn seiliedig ar ddiogelwch dioddefwyr. Fel dirprwy Pennaeth y Polisi Cyflawnwyr Trais, bydd deiliad y swydd yn cadeirio ffrwd waith amlasiantaethol y fframwaith i gefnogi newid positif ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru yn 2018-2023, gan arwain partneriaid statudol, anstatudol, datganoledig a rhai nad ydynt wedi'u datganoli wrth gydweithio i gyflawni blaenoriaethau a rennir.

Prif dasgau

Bydd deiliad y swydd yn cadeirio ffrwd waith Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) y fframwaith i gefnogi newid positif ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru 2018-2023.  Mae’r fframwaith yn cefnogi blaenoriaethau Bwrdd Rheoli Integredig Troseddwyr Cymru a Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru Gyfan, sy’n cynnwys rhoi Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ar waith yn effeithiol. Mae ffrwd waith Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol y fframwaith yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn y sector hyd yma, ac mae wedi alinio’i hamcanion â blaenoriaethau cysylltiedig Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, y Cwmni Adsefydlu Cymunedol, y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, heddluoedd a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid.

Fel y dirprwy Brif Swyddog Cyfrifol, bydd deiliad y swydd yn arwain ffrwd waith Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (gan gadeirio cyfarfodydd y ffrwd waith a goruchwylio’r grwpiau gorchwyl a gorffen sy’n adrodd yn ôl i’r ffrwd waith) wrth fynd ati i ddatblygu pum maes allweddol o waith amlasiantaethol i sefydlu cymunedau mwy diogel drwy ddatblygu a chynnal dull effeithiol o atal a mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru, gan ddiogelu’r cyhoedd ac adsefydlu’r rhai sy’n troseddu.

Bydd deiilad y swydd yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni amcanion y ffrwd waith:

Sefydlu dealltwriaeth o'r 'hyn sy'n gweithio' gyda chyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (er enghraifft, drwy gynnal/comisiynu ymchwil berthnasol, cymhwyso ymchwil genedlaethol a rhyngwladol, cefnogi’r broses o werthuso gwasanaethau sy’n gweithio gyda chyflawnwyr trais yn drylwyr, gan gynghori ar brosesau archwilio/sicrhau ansawdd gwasanaethau sy’n gweithio gyda chyflawnwyr trais)

Llywio'r gwaith o gomisiynu gwasanaethau effeithiol a chynaliadwy ar gyfer cyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (er enghraifft, drwy lywio gofynion ar gyfer grantiau sy'n gysylltiedig â chyflawnwyr trais a roddir gan Lywodraeth Cymru, adolygu ceisiadau/tendrau a chymeradwyo ceisiadau am gyllid, cynghori cyllidwyr/comisiynwyr eraill ar gomisiynu gwasanaethau i weithio gyda chyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru)

Datblygu dulliau atal ac ymyrryd yn gynnar (er enghraifft, drwy ddarparu cyngor sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar raglenni dargyfeiriol, llywio'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd mewn perygl o gyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, llywio ymgyrchoedd sydd wedi’u hanelu at gyflawnwyr trais)

Gwella cysylltiadau rhwng gwasanaethau, cyfathrebu ac arfer effeithiol (er enghraifft, monitro datblygiadau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol sy'n gysylltiedig â pholisi cyflawnwyr trais ac ystyried eu goblygiadau i Lywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol, gan sicrhau aliniad; trefnu a mynd i gyfarfodydd a digwyddiadau rhannu arferion sy'n cynnwys rhanddeiliaid amlasiantaethol er mwyn hwyluso dull o weithredu mewn partneriaeth)

Datblygu gweithlu medrus a chadarn (er enghraifft, drwy gynghori ar gomisiynu hyfforddiant a goruchwyliaeth glinigol ar gyfer staff gwasanaethau sy’n gweithio gyda chyflawnwyr trais).

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli rhaglen ffrwd waith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol y fframwaith i gefnogi newid positif ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru yn 2018–2023, yn ogystal ag unrhyw waith ehangach sy'n gysylltiedig ag unrhyw waith polisi a wneir gan Lywodraeth Cymru sy’n ymwneud â chyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd hyn yn cynnwys pennu a monitro cerrig milltir ar draws amserlenni perthnasol, a nodi a monitro risgiau a manteision, gan ddefnyddio disgyblaeth gadarn o ran rheoli rhaglenni a phrosiectau.

Paratoi adroddiadau cynnydd a chyflwyniadau o ansawdd uchel ar gyfer Pennaeth y Polisi Cyflawnwyr Trais ac uwch randdeiliaid. Gall hyn gynnwys paratoi Cyngor Gweinidogol.

Dirprwyo ar gyfer Prif Swyddog Cyfrifol y ffrwd waith (Pennaeth y Polisi Cyflawnwyr Trais) mewn cyfarfodydd allweddol, gan gynnwys Bwrdd Rheoli Integredig Troseddwyr Cymru, Grŵp Strategaeth Cyfiawnder yng Nghymru, y Grŵp Lleihau Aildroseddu, cyfarfodydd fframwaith y Prif Swyddog Cyfrifol, cyfarfodydd tîm Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, cyfarfodydd strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol mewn perthynas â Covid-19, cyfarfodydd Swyddfa Gartref y DU, cyfarfodydd swyddfa Comisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr, y Panel Ymchwil a Dadansoddi Integredig.

Dirprwyo a goruchwylio gweithgareddau cysylltiedig gan aelodau o staff Llywodraeth Cymru i gefnogi ffrwd waith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (e.e. Cymorth Tîm).

Bydd y rôl hon a'i dyletswyddau cysylltiedig yn hyblyg i ddiwallu anghenion Llywodraeth Cymru a'r sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol sy'n esblygu mewn perthynas â’r polisi cyflawnwyr trais.

 

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn rhoi cyfle i:-

  • arwain ar weithredu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys dylanwadu'n uniongyrchol ar bolisi
  • gweithio ar draws meysydd polisi'r llywodraeth, gan gydweithio â phartneriaid mewnol ac allanol
  • cael cipolwg ar fecanweithiau Llywodraeth Cymru.

Bydd deiliad y swydd yn gallu manteisio ar yr holl hyfforddiant perthnasol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i'w alluogi i gyflawni ei rôl yn effeithiol.

Os yw’n aelod o gorff proffesiynol perthnasol (ee Cymdeithas Seicolegol Prydain), yn amodol ar y costau a’r dystiolaeth o’r budd i Lywodraeth Cymru, caiff ei gefnogi i fanteisio ar gyfleoedd DPP arbenigol yn unol â’r gofynion

Dyddiad Cau

01/07/21 16:00

Hyderus o ran Anabledd

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda rhywfaint o wirio

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth

Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi’r broses o wireddu canlyniadau busnes

Arwain a Chyfathrebu

Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

 Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu’r costau, y manteision, y risgiau a’r ymatebion posib

Gweld y Darlun Cyflawn

Bod yn effro i faterion a thueddiadau newydd a allai effeithio

ar eu gwaith eu hunain a’u tîm, neu a allai fod o fudd i’r gwaith hwnnw.

 

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. Profiad o weithio yn sector y gwasanaethau ar gyfer cyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  2. Wedi cymhwyso hyd at lefel Gradd Feistr o leiaf mewn pwnc cysylltiedig (ee seicoleg, troseddeg)
  3. Profiad o arwain prosiectau cymhleth, amlasiantaethol yn y system cyfiawnder troseddol

Proses Asesu

Caiff y cyfweliad ei gynnal yn rhithiol, a chaiff yr ymgeiswyr eu profi yn erbyn yr holl gymwyseddau a’r manylion sy’n benodol i’r swydd, a hynny ar ffurf cyfuniad o gwestiynau, cyflwyniad a chwestiwn senario – rhoddir mwy o fanylion ichi os byddwch yn llwyddiannus yn y cam sifftio.

Gwybodaeth arall

  • Dim ond i’r rheini sydd eisoes yn Weision Sifil y mae’r cyfleoedd hyn yn agored (ar sail benthyciad yn unig).
  • Ni ddisgwylir ichi gael eich trosglwyddo i Lywodraeth Cymru yn barhaol.
  • Mae’r rôl ar gael ar eich gradd arferol os byddwch yn symud ar draws, ond hefyd yn agored i ymgeiswyr wneud cais am ddyrchafiad dros dro, ond byddwch yn dychwelyd i’ch adran eich hun ar eich gradd arferol ar ddiwedd y cyfnod.
  • Gofalwch fod eich rheolwr llinell wedi cymeradwyo/awdurdodi eich rhyddhau.
  • Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob proffesiwn, a’r rheini sydd â sgiliau arbenigol neu gyffredinol.
  • Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl ddu ac ethnig leiafrifol a phobl anabl, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi pob aelod o’n staff i ffynnu mewn amgylchedd gwaith cynhwysol.
  • Rydym yn cefnogi trefniadau gweithio gartref a theilwra patrymau yn ôl amgylchiadau’r unigolyn. Yn y tymor byr, bydd y rhan fwyaf o’n gweithwyr yn gweithio gartref/o bell.
  • Gan mai trefniant benthyg yw hwn, os daw’r swydd i ben, cofiwch y bydd disgwyl ichi ddychwelyd i’ch sefydliad presennol.
Paul Webb - paul.webb@gov.wales - 03000 251292

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.