Swydd Wag -- Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Rheoliadau Adeiladu
Gradd 6 - £67,100 - £76,990
£67,100 - Mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i gynnig hyd at frig y raddfa gyflog ar gyfer ymgeiswyr eithriadol sy'n dangos yn briodol y wybodaeth a'r profiad helaeth sydd eu hangen.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Bydd deiliad y swydd hon yn gyfrifol am dîm o staff arbenigol, polisi a gweinyddol sy'n ymdrin â'r polisïau rheoli adeiladu sy’n seiliedig ar Ddeddf Adeiladu 1984, yr is-ddeddfwriaeth gysylltiedig – yn bennaf Rheoliadau Adeiladu 2010, a chanllawiau statudol (Dogfennau Cymeradwy). Ers trosglwyddo'r swyddogaeth hon i Weinidogion Cymru yn 2012, mae newidiadau polisi sylweddol wedi cynnwys newidiadau i Ran L (Arbed Tanwydd a Phŵer) a Rhan B (Diogelwch Tân) systemau atal tanau preswyl (systemau chwistrellu). Yn dilyn drychineb Grenfell ac adolygiad Hackitt o ddiogelwch adeiladau wedyn yn 2018, sef 'Building a Safer Future', mae Gweinidogion Cymru wedi cychwyn ar raglen i wneud newidiadau sylfaenol, sydd â'r nod o ddarparu system rheoli adeiladu sy'n sicrhau hyder yn y ffordd mae adeiladau risg uwch yn cael eu dylunio, eu hadeiladu a'u meddiannu. Bwriad rhai elfennau o'r Bill Diogelwch Adeiladau sydd gerbron Senedd y DU ar hyn y bryd yw cyflwyno'r system well honno. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn sefydlu cynaliadwyedd ar draws holl feysydd Busnes Llywodraeth Cymru.  Mae gan Reoliadau Adeiladu rôl bwysig i'w chwarae wrth helpu i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu cynaliadwy a newid hinsawdd.

Prif dasgau

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am y canlynol:

  • Datblygu a rheoli rhaglen o weithgareddau ar gyfer gweithredu amcanion y Papur Gwyn ar Ddiogelwch Adeiladau a'r Bil Diogelwch Adeiladau yng Nghymru, gan gynnwys drafftio is-ddeddfwriaeth, trafod â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fel y rheoleiddiwr yn Lloegr a chefnogi gweithgareddau mewn perthynas â datblygu cymhwysedd o fewn y diwydiant ac ar gyfer rheoli adeiladu, a safonau gweithredol ar gyfer rheoli adeiladu.
  • Rheoli cyllideb flynyddol ar gyfer ariannu ymchwil, cyngor arbenigol a gwaith ymgysylltu, a chyhoeddi gweithgareddau i lywio adolygiad cyfnodol o Rannau A – R o Reoliadau Adeiladu 2010.
  • Rheoli adolygiadau o reoliadau adeiladu, gan gynnwys caffael a chomisiynu arbenigwyr allanol, sefydlu gweithgorau diwydiant, ymgynghoriadau cyhoeddus, dadansoddiadau ac ymatebion.
  • Rheoli Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu, gan gynnwys recriwtio ac arfarnu perfformiad.
  • Gweithio gydag adrannau eraill o fewn Llywodraeth Cymru, a chynrychioli buddiannau Llywodraeth Cymru mewn amrediad o weithgareddau rhynglywodraethol, gan weithio gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill.
  • Goruchwylio polisi cyllido Adeiladau Cynaliadwy Llywodraeth Cymru (BREEAM).
  • Cynrychioli buddiannau Llywodraeth Cymru wrth ymgysylltu â'r diwydiant adeiladu a'i sefydliadau.
  • Datblygu rhaglen waith flynyddol a rheoli adnoddau i adlewyrchu blaenoriaethau gweinidogion.
  • Cyfarwyddo a thrafod â Gwasanaethau Cyfreithiol o fewn Llywodraeth Cymru mewn perthynas â darparu cyngor a chymorth cyfreithiol.
  • Darparu cyfraniadau effeithiol ar bob agwedd ar fusnes y Llywodraeth (gan gynnwys Cwestiynau'r Senedd, Gohebiaeth Gweinidogion, Cyflwyniadau ac ati) ac ymateb i sylw gan y cyfryngau a darparu cyngor cynhwysfawr sy'n seiliedig ar wybodaeth gadarn.
  • Datblygu a chynnal perthynas gynhyrchiol â phob rhanddeiliad mewnol/allanol er mwyn cefnogi'r amcanion uchod, gan gynnwys Gweinidogion a Chynghorwyr Arbennig.

Cyfleoedd datblygu

  • Bydd deiliad y swydd hon yn rhan o'r datblygiadau pwysicaf i safonau diogelwch adeiladau ers Deddf Adeiladu 1984.
  • Bydd yn datblygu dealltwriaeth o faes polisi datganoledig sydd â chysylltiadau agos i'r diwydiant adeiladu yng Nghymru a gweddill y DU.
  • Bydd yn datblygu perthynas weithio â Gweinyddiaethau eraill y DU yn ogystal â rhanddeiliaid allanol.
  • Bydd yn datblygu sgiliau ym maes polisi a deddfwriaeth drwy weithio'n uniongyrchol ar ddatblygu deddfwriaeth newydd.

Dyddiad Cau

12/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Proffiliau Llwyddiant – Ymddygiadau

  • Gweld y Darlun Cyflawn – Sicrhau bod cynlluniau a gweithgareddau yn eich maes gwaith yn adlewyrchu blaenoriaethau strategol ehangach a chyfathrebu'n effeithiol gydag uwch arweinwyr i ddylanwadu ar strategaethau yn y dyfodol.
  • Rheoli Gwasanaeth Safonol – Sefydlu sut mae'r ardal fusnes yn cymharu ag arfer gorau'r diwydiant.
  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol – Dadansoddi a dehongli data o wahanol  ffynonellau yn gywir i gefnogi penderfyniadau.
  • Arweinyddiaeth – Sefyll yn gadarn, hyrwyddo neu amddiffyn gweithredoedd a phenderfyniadau eich hun a’r tîm lle bo angen.

Meini prawf penodol i’r swydd

  1. Tystiolaeth o sgiliau drafftio cryf, gan gynnwys adroddiadau ffurfiol, gohebiaeth a briffio uwch-reolwyr.
  2. Tystiolaeth o brofiad sylweddol, uniongyrchol, ôl-raddedig o weithio yn y diwydiant adeiladu mewn rolau arwain a thechnegol, gyda ffocws ar gyrff rheoli adeiladu a rheoliadau adeiladu ar adeiladau presennol ac adeiladau newydd
  3. Byddwch yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf ac yn gallu dangos tystiolaeth o ymgysylltu ag amrediad o randdeiliaid, a dylanwadu arnynt, gyda'r gallu i ddeall ac egluro materion cyfreithiol a thechnegol cymhleth ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Proses Asesu

Y Broses Ymgeisio

Bydd dau gam i'r broses ymgeisio.


Cam 1

Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r ffurflen gais ar-lein a lanlwytho'r dogfennau canlynol:

1. Copi o'ch CV. Ni ddylai hwn fod yn fwy na thair tudalen o A4 (bydd unrhyw beth dros hyn yn cael ei ddiystyru) a dylid ei deilwra i roi sylw i'r canlynol:

  • Manylion eich statws fel Peiriannydd Siartredig, Syrfëwr Rheoli Adeiladau Siartredig neu Bensaer Cofrestredig NEU fanylion profiad arall cyfatebol, derbyniol.
  • Penodol i'r Swydd 2 – Tystiolaeth o brofiad sylweddol, uniongyrchol, ôl-raddedig o weithio yn y diwydiant adeiladu mewn rolau arwain a thechnegol, gyda ffocws ar gyrff rheoli adeiladu a rheoliadau adeiladu ar adeiladau presennol ac adeiladau newydd.
  • Penodol i'r Swydd 3 –  Byddwch yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf ac yn gallu dangos tystiolaeth o ymgysylltu ac amrediad o randdeiliaid, a dylanwadu arnynt, gyda'r gallu i ddeall ac egluro materion cyfreithiol a thechnegol cymhleth ar lafar ac yn ysgrifenedig.

2. Tystiolaeth o'ch Statws Siartredig neu Gofrestredig (os yw ar gael) fel copi o'ch tystysgrif neu ddyfarniad.

 

Cam 2

Bydd ymgeiswyr yr asesir eu bod yn bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer Cam 1 yn cael eu gwahodd i Gam 2. Bydd hyn yn cynnwys dwy ran: ymarfer senario gwaith (rhoddir manylion i ymgeiswyr ar yr adeg honno) a chyfweliad. Bydd yr ymarfer senario gwaith a'r cyfweliad yn cynnwys cwestiynau sy’n seiliedig ar y Proffiliau Llwyddiant a manylion y swydd a restrir uchod.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Gellir hefyd ystyried lwfans recriwtio a chadw pellach hyd at 5% ar gyfer ymgeiswyr eithriadol yn unig ac nid ydynt mewn unrhyw ffordd warantedig


Mae'r tîm Rheoliadau Adeiladu wedi'i leoli yn swyddfa Llywodraeth Cymru ym Merthyr Tudful ond yn aml maent yn gweithio o wahanol leoliadau ar draws yr ystâd. Mae'r tîm yn gweithio o gartref ar hyn o bryd o ganlyniad i sefyllfa Covid19.


Ble caf i weithio?

Ar gyfer llawer o rolau, rydym o blaid cynnig ffordd hybrid o weithio – ‘Gweithio Clyfar’ fel y’i gelwir. Mae’n golygu cyfuniad o weithio gartref a gweithio yn y swyddfa.  Efallai y cewch gyfle i weithio gartref gan ddibynnu ar anghenion y busnes ac ymrwymiadau eich tîm Byddwch yn trafod ac yn cytuno ar eich trefniadau gweithio gyda’ch rheolwr llinell pan fyddwch yn ymuno.

Byddwn ni'n ystyried ceisiadau gennych i weithio mewn lleoliad penodol oherwydd eich amgylchiadau personol fel cyfrifoldebau gofalu neu amhariad neu gyflwr iechyd. Dywedwch ble yr hoffech weithio yn eich CV, yn y blwch 'Dewis lleoliadau'.

Drwy ymgeisio am y rôl hon, byddwch yn barod i weithio yn un o'r lleoliadau canlynol fel eich prif swyddfa:

  • Caerdydd, Bedwas, Merthyr Tudful, Abertawe, Aberystwyth, Llandudno, Caerfyrddin

 

Beth yw’r manteision?

Mae nifer o fanteision gwych i weithio i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Yr ystod cyflog ar gyfer y radd hon yw £67,100 – £76,990
  • Byddwch yn cael 31 diwrnod o wyliau yn ogystal â 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint
  • Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i'ch helpu i daro’r cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith
  • Byddwch hefyd yn cael bod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

 

Manteision eraill

  • Gweithio Hyblyg – Rydym yn helpu staff sydd am reoli’r cydbwysedd rhwng eu bywyd a’u gwaith trwy weithio gartref (gan ddibynnu ar anghenion y busnes ac os yw'n briodol ar gyfer y rôl)
  • Patrymau Gweithio – Mae opsiynau gwahanol ar gael: Llawn Amser, Rhan Amser, Rhannu Swydd, Oriau Cywasgedig, Amser Tymor ac ati (gan ddibynnu ar anghenion y busnes ac os yw'n briodol ar gyfer y rôl)
  • Cynllun Ceir Gwyrdd – Ichi gael prydlesu car allyriadau carbon isel iawn newydd sbon a thalu amdano drwy’ch cyflog
  • Cyllid Cymorth – Benthyciadau cyn talu cyflog ar gyfer amrywiaeth o bethau gan gynnwys: tocynnau teithio tymor, gofal llygaid, offer TG, Cycle2Work a mwy
  • Absenoldeb rhiant – 26 wythnos o gyfnod mamolaeth/mabwysiadu ar gyflog llawn a 15 diwrnod o gyfnod tadolaeth
  • Amser Lles – Awr les bwrpasol bob wythnos i'w defnyddio yn ystod oriau swyddfa. Boed er mwyn mynd am dro yn y parc lleol, ioga, myfyrdod neu amser yn y gampfa. Amser i chi yw hwn
  • Tâl – Incrementau cystadleuol drwy’r bandiau cyflog
  • Hyfforddiant a Dyrchafiad – Cyfleoedd hyfforddi a datblygu wedi'i deilwra i'ch rôl
  • Cynhwysiant ac Amrywiaeth – Rydym yn annog gweithle cyfoethog ac amrywiol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael bod nhw eu hunain, a does neb yn teimlo unrhyw wahaniaethu yn ei erbyn
  • Cysylltu â Staff – Mae gennym ystod eang o rwydweithiau bywiog a chroesawgar iawn, ar gyfer: Awtistiaeth, Gofalwyr, Merched Gyda'n Gilydd, PRISM (ein rhwydwaith LGBTQ+) a llawer mwy
  • Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol – Timau ymroddedig i roi cymorth a chefnogaeth i staff pan fydd eu hangen fwyaf
  • Iechyd Meddwl – Rhaglen Cymorth i Weithwyr a llinell gymorth bwrpasol i gefnogi staff i ofalu am eu hiechyd meddwl
  • Offer TG modern – Gliniaduron Office 365 i roi mwy o hyblygrwydd ichi o ran pryd, sut a ble i weithio
  • Tri undeb – Mae gennym dri undeb yn ein sefydliad ar hyn o bryd
Neil Hemington - externalrecruitment@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.