Swydd Wag -- Dirprwy Reolwr Bil (SEO - Sawl rôl) - Benthyciad o’r Tu Allan (Symud ar draws y Gwasanaeth Sifil yn unig)
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Ein nod yw helpu'r Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru i adeiladu Cymru decach, gwyrddach a mwy cyfartal. Rydym yn awyddus i ddefnyddio profiad staff o bob rhan o'r Gwasanaeth Sifil i gael effaith ymarferol a chadarnhaol yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Rydym yn chwilio am bobl angerddol a medrus o bob cefndir, sy'n gallu dod â phrofiadau gwahanol i'n prosesau gwneud penderfyniadau, a ffynnu mewn timau cydweithredol. Rydym yn awyddus i gael ceisiadau gan amrywiaeth o unigolion sy'n gallu dod â sgiliau, profiadau a safbwyntiau newydd i'n gwaith.
Rydyn ni i gyd yn cael ein cymell gan y gwerthoedd a nodir yng Nghod y Gwasanaeth Sifil: hygrededd, gwrthrychedd, gonestrwydd, a didueddrwydd. Yn ogystal â'r Cod mae gennym ein gwerthoedd a'n disgwyliadau ein hunain sy'n crisialu ein ‘ffordd Gymreig’ o weithio, gan adlewyrchu'r uchelgeisiau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Dyma gyfle cyffrous i ymuno ag Uned y Rhaglen Ddeddfwriaethol a’i Llywodraethiant (LPGU) yn Llywodraeth Cymru, sy'n rheoli'r rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer Cymru, sy'n flaenoriaeth Weinidogol allweddol.
Er mwyn canolbwyntio ar gyflawni ein rhaglen ddeddfwriaethol a meithrin ein gallu deddfwriaethol, mae'r rolau hyn wedi'u creu i ganolbwyntio'n bennaf ar agweddau rheoli prosiect y Biliau. Er bod y swyddi wedi'u lleoli'n ffurfiol o fewn Uned y Rhaglen Ddeddfwriaethol a'i Llywodraethiant, byddant yn ffurfio rhan o adnodd hyblyg, ac yn cael eu neilltuo i adrannau polisi o fewn Llywodraeth Cymru i weithio ar Filiau penodol.
Mae'r rolau hyn yn gyfle gwych i unigolion sy'n chwilio am gyfle i ymestyn eu hunain. Byddant yn dod i gysylltiad ag uwch randdeiliaid, yn gweithio mewn amgylchedd cyflym, ac mewn swydd sy’n cael effaith sylweddol ac yn ymdrin â chylch gwaith eang. Byddant yn gweithio ar Filiau penodol, sy'n gyfyngedig o ran amser, ac yn rhoi cymorth i Reolwr Bil (Gradd 7) a Phrif Berchennog Cyfrifol (SRO) i gyflawni Bil yn unol â’r amserlen ddeddfwriaethol.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu paru â rolau addas yn seiliedig ar yr wybodaeth y maent yn ei darparu yn eu ffurflen gais i symud ar draws a, lle bo hynny'n berthnasol, mewn proses gyfweld anffurfiol. Er y gwneir pob ymdrech i baru ymgeiswyr â’r rolau a ffefrir, ni ellir gwarantu y byddant yn cael eu lleoli mewn swyddi penodol. Cyfeiriwch at y canllawiau i ymgeiswyr i gael rhagor o wybodaeth am y broses baru.
Prif dasgau
Efallai na fydd angen gwneud yr holl dasgau allweddol a amlinellir isod o fewn un swydd ac efallai y gwneir tasgau eraill yn ogystal.
Prif dasgau:
- Cefnogi’r Rheolwr Bil i gynllunio a rheoli’r gwaith o gyflwyno'r Bil o fewn yr amserlen y cytunwyd arni, gan gynnwys goruchwylio, rheoli a chyflwyno cyfarwyddiadau polisi i gyfreithwyr a drafftwyr yn Swyddfa'r Cwnsler Deddfwriaethol.
- Helpu i sicrhau bod dull cydgysylltiedig a chydlynol o ymdrin â’r ethos sylfaenol, bwriad polisi a chynnwys y Bil, drwy gyfathrebu ag arweinwyr polisi, cyfreithiol a rhanddeiliaid mewnol eraill;
- Cyfrannu at baratoi dogfennau ategol allweddol, gan gynnwys y Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, Asesiad Effaith Integredig a'r Datganiad o Fwriad Polisi ar gyfer llunio is-ddeddfwriaeth o dan y Bil;
- Helpu i baratoi a gweithredu strategaeth ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol yn ystod oes y Bil yn ogystal â strategaeth gyfathrebu / trin;
- Cyfrannu at weithredu trefniadau llywodraethu priodol y Bil, gan gynnwys darparu ysgrifenyddiaeth i Fwrdd Prosiect y Bil, adnabod risgiau a materion sy'n effeithio ar gyflawni, monitro cynnydd a pharatoi'r asesiadau Coch Melyn Gwyrdd a diweddariadau cynnydd;
- Cyfrannu at drafodaethau gyda Swyddfa Cymru ac adrannau eraill perthnasol Llywodraeth y DU ar gyfer sicrhau unrhyw un o gydsyniadau Gweinidog y Goron a allai fod yn ofynnol ar gyfer darpariaethau yn y Bil;
- Briffio Gweinidog arweiniol y Bil yn fanwl gywir, ei gynghori a’i gynorthwyo wrth baratoi'r Bil ac yn ystod ei hynt drwy'r Senedd, gan weithio'n agos gyda’r Cynghorwyr Arbennig a Swyddfeydd Preifat perthnasol;
- Goruchwylio datblygiad cynllun gweithredu ar gyfer y Bil.
Cyfleoedd datblygu
Dyma gyfle gwych i gael dylanwad drwy ddod â'ch gwybodaeth, eich sgiliau a'ch profiad gwerthfawr i adran wahanol o'r llywodraeth. Byddwch hefyd yn gallu datblygu eich gallu a'ch sgiliau drwy gymryd rhan mewn ystod eang o waith hanfodol.
Cewch brofiad o gefnogi Tîm Bil i ddatblygu deddfwriaeth sylfaenol a dilyn ei hynt drwy'r Senedd. Mae hyn yn rhoi cyfle ichi weithio mewn amgylchedd gwleidyddol heriol, gan weithio gyda Gweinidogion ac uwch-arweinwyr yn Llywodraeth Cymru a'r gwasanaeth cyhoeddus ehangach.
Bydd cyfle i ddatblygu eich sgiliau polisi ac i ddylanwadu ar feddylfryd mewn maes polisi penodol.
Dyddiad Cau
Hyderus o ran Anabledd
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth yn y fformat canlynol yn eu cais.
- Profiad o weithio ar ddeddfwriaeth neu o gyflawni canlyniadau blaenoriaeth o fewn terfynau amser y cytunwyd arnynt. (300 gair)
- Tystiolaeth o ddarparu nodiadau briffio o safon uchel o fewn amserlenni byr, yn ddelfrydol i Weinidogion. (300 gair)
- Yn gallu bod yn hyblyg er mwyn ymateb i ofynion newydd a gweithio dan bwysau. (300 gair)
Proses Asesu
Y mae hon yn hysbyseb ‘agored’ fydd yn rhedeg tan y dyddiad cau a nodir uchod. Y mae hyn yn golygu y bydd ceisiadau yn cael eu sifftio, a bydd ymgeiswyr yn symud drwy’r broses asesu, pan ddaw’r ceisiadau i law. Unwaith y byddwn yn agos at lenwi ein swyddi gweigion byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd sydd wedi dechrau cais i roi gwybod y bydd yr hysbyseb yn cau ymhen pythefnos o ddyddiad yr e-bost.
Am ragor o wybodaeth ar y broses asesu gweler y pecyn ymgeisydd yma.
Gweler ‘Sut i Wneud Cais’ isod am ragor o gyfarwyddyd ar sut i gyflwyno ffurflen gais am y cyfle hwn.
Gwybodaeth arall
Swyddi a Thelerau ac Amodau
- Mae'r cyfleoedd benthyciad o’r tu allan ar gael i Weision Sifil presennol yn unig (ar sail benthyciad yn unig). Mae'r cyfle hwn ar gael i weithwyr presennol y gwasanaeth sifil sydd ar gontract cyfnod penodol neu barhaol ac a gafodd eu recriwtio i'w swydd bresennol drwy gystadleuaeth deg ac agored. Dim ond am weddill eu contract cyfnod penodol y gellir penodi'r rhai ar gontractau cyfnod penodol. Nid yw'r rhai sydd ar gontractau cyfnod penodol neu gontractau parhaol sydd ddim yn gweithio yn y gwasanaeth sifil ar hyn o bryd yn gymwys i wneud cais.
- Does dim disgwyl i chi gael eich trosglwyddo’n barhaol draw i Lywodraeth Cymru.
- Mae'r holl swyddi ar gael ar radd bresennol y gweithiwr ar sail symud ar draws yn unig. Nid yw'r cyfle hwn ar gael ar sail dyrchafiad dros dro.
- Nid yw cyfleoedd am ddyrchafiad dros dro neu barhaol ar gael drwy'r cyfle hwn, fodd bynnag, bydd llawer o'r rolau yn cynnig cyfle i gael profiad gwerthfawr, ehangu rhwydweithiau a dysgu sgiliau newydd.
- Byddwn yn gwneud pob ymdrech i'ch paru â swydd yn seiliedig ar y dystiolaeth a roddwyd gennych yn eich ffurflen gais ac yn eich cyfweliad anffurfiol.
- Ni allwn warantu y cewch gynnig swydd neu swydd benodol.
- Os ydych yn llwyddo i gael eich paru â rôl, byddwch yn symud o dan drefniadau ffurfiol benthyciad o’r tu allan, h.y. byddwch yn symud i Delerau ac Amodau Llywodraeth Cymru, gan fod y benthyciad am gyfnod o fwy na 6 mis.
- Bydd y cyflog yn cyfateb i’ch cyflog presennol i'r pwynt cyflog agosaf o fewn y band cyflog, ac ni fyddwch ar eich colled https://www.llyw.cymru/telerau-buddion-gwasanaeth-sifil-llywodraeth-cymru
- Sicrhewch eich bod wedi cael cymeradwyaeth/awdurdodiad y rheolwr llinell ar gyfer eich rhyddhau.
- Rhaid i chi fod ar gael i gael eich rhyddhau ar unwaith, oherwydd ar ôl eich paru â rôl, bydd disgwyl i chi ddechrau yn y swydd yn gyflym.
- Er nad yw sgiliau yn y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y broses ddethol ar gyfer yr ymgyrch hon, rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sy'n gallu gweithio'n ddwyieithog.
- Gan mai cyfle ar fenthyg yw hwn, cofiwch os daw'r swydd i ben, neu os yw eich contract gyda'ch sefydliad gwreiddiol ar fin dod i ben, y bydd disgwyl i chi ddychwelyd i'ch sefydliad presennol.
Sut i wneud cais
Dylid cyflwyno pob cais ar gyfer y swydd hon ar-lein drwy system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.
I wneud cais am gyfle benthyciad o’r tu allan, bydd angen i chi baratoi ffurflen gais i Symud ar Draws. Os na fydd y ffurflen hon yn cael ei chwblhau a/neu ei chyflwyno, ni fydd y cais yn cael ei ystyried.
Yn y Ffurflen Gais i Symud ar Draws, bydd gofyn i chi ddarparu'r canlynol:
- Datganiad Personol – yn rhoi trosolwg byr o'ch sgiliau a pham eich bod yn gwneud cais i symud. (300 gair)
- Hanes gyrfa yn gryno.
- Tystiolaeth sy’n benodol i’r swydd - bydd gofyn i chi ddweud wrthym am eich sgiliau, eich profiad a'ch gallu yn unol â'r dair elfen benodol i’r swydd a restrir yn yr hysbyseb swydd (300 gair ar gyfer pob un).
Bydd y dystiolaeth a ddarperir yn eich Ffurflen Gais i Symud ar Draws yn cael ei hasesu gan banel sifftio.
Yn dibynnu ar nifer y ceisiadau a ddaw i law, efallai y bydd proses gyfweld anffurfiol yn dilyn lle bydd y panel yn cwrdd â phob ymgeisydd i archwilio ymhellach y dystiolaeth a gyflwynir yn eu cais a sut maent yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y swydd a restrir yn yr hysbyseb swydd.
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio'r broses sifftio (a lle bo hynny'n berthnasol y cyfweliad swydd anffurfiol) yn symud ymlaen i'r broses baru. I gael rhagor o fanylion ynglŷn â'r broses hon, y camau a restrir uchod a'r cyfle hwn, cyfeiriwch at y pecyn canllawiau i ymgeiswyr.
Os oes gennych amhariad sy’n golygu na allwch wneud cais ar-lein, anfonwch neges e-bost at: recriwtioallanol@llyw.cymru i ofyn am becyn cais mewn fformat arall, neu i ofyn am addasiad rhesymol sy’n gysylltiedig ag amhariad, er mwyn cyflwyno'ch cais.
I wneud cais, bydd angen i chi gael cyfrif ar ein system ymgeisio ar-lein. Cliciwch ar y botwm 'Gwneud Cais' isod, a gofynnir i chi fewngofnodi os oes gennych gyfrif eisoes, neu 'Gofrestru' os nad oes gennych gyfrif. Gallwch gofrestru mewn ychydig funudau'n unig. Bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch er mwyn gallu cofrestru. Ar ôl i chi gofrestru i gael cyfrif, a mewngofnodi, ewch i'r ffurflen gais ar-lein. Bydd angen i chi lenwi a chyflwyno’r ffurflen cyn y dyddiad cau.
Os hoffech wneud cais am y swydd hon yn Saesneg, defnyddiwch y ddolen 'Newid Iaith / Change Language' ar frig y dudalen hon, a fydd yn mynd â chi at y fersiwn Saesneg o'r hysbyseb, er mwyn ichi allu gwneud cais yn Saesneg.
**Noder: Os oes cyfrif gennych eisoes ar gyfer y system benodi ac yr hoffech ddiweddaru eich enw defnyddiwr a'ch cyfeiriad e-bost i'r cyfeiriad @llyw.cymru newydd, dylech fewngofnodi gan ddefnyddio eich hen fanylion, clicio ar eich enw yn y ddewislen, a dewis 'Golygu Manylion Personol' ar y gwymplen. Gallwch ddiweddaru unrhyw fanylion personol ar y dudalen hon.**
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.