Swydd Wag -- Uwch-swyddog Ystadegol – Siaradwr Cymraeg

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Proffesiwn Ystadegau
SEO - £41,700 - £49,370
£40,100
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Diben yr ymgyrch recriwtio hon yw recriwtio ystadegwyr sy'n siarad Cymraeg yn benodol. DS Rhaid i chi wneud cais yn Gymraeg er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.

Os oes gennych ddiddordeb mewn rôl Uwch-swyddog Ystadegol yn Llywodraeth Cymru ond nad ydych yn siarad Cymraeg, gwnewch gais am ein swydd wag arall, Uwch-swyddog Ystadegol – nid oes angen sgiliau Cymraeg (ID Swydd Wag 7707). Os ydych yn siarad Cymraeg, fe'ch anogir i wneud cais i'r ddwy hysbyseb, er mwyn cael eich ystyried ar gyfer ein holl swyddi Uwch-swyddog Ystadegol sydd ar gael (gallwch gyflwyno'r un cais, yn Gymraeg, i'r ddwy swydd wag).

Mae'r hysbyseb hon ar gyfer swyddi Uwch-swyddogion Ystadegol. Mae gennym hefyd hysbyseb ar wahân (ID Swydd Wag 7706) ar gyfer swyddi Swyddog Ystadegol Uwch (gradd yn is). Mae'n bosibl gwneud cais am swyddi gwag Swyddog Ystadegol Uwch ac Uwch-swyddog Ystadegol, ond argymhellir eich bod yn teilwra eich datganiadau personol i gyd-fynd â'r Fanyleb Person wahanol ar gyfer y ddwy radd.

Mae nifer o swyddi ar gael. Caiff ymgeiswyr eu penodi yn ôl teilyngdod, a chedwir rhestr wrth gefn am gyfnod o 12 mis rhag ofn y bydd rhagor o swyddi'n codi.

Rôl ystadegwyr Llywodraeth Cymru yw cefnogi'r broses o wneud penderfyniadau, dyrannu adnoddau, ymchwilio a thrafod yn y llywodraeth ac yn y gymuned ehangach, drwy ddarparu gwasanaethau ystadegol dibynadwy ac effeithlon. Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys addysg, iechyd, tai, tlodi, cyfiawnder cymdeithasol, diwydiant, yr economi, llywodraeth leol, trafnidiaeth, yr amgylchedd, amaethyddiaeth, demograffeg a'r Gymraeg. Mae'r rhan fwyaf o'n hystadegwyr yn gweithio gyda'i gilydd mewn canolfan ganolog o ddadansoddwyr a elwir yn yr Is-adran Gwasanaethau Ystadegol; fodd bynnag, mae nifer bach o dimau ystadegol hefyd wedi'u lleoli o fewn adrannau polisi Llywodraeth Cymru.

Diben cyffredinol ein swyddi Uwch-swyddog Ystadegol yw rheoli'r gwaith o ddarparu dadansoddiadau a chyngor drwy gasglu, coladu, dadansoddi a chyflwyno data ar bynciau penodol.

Mae ein swyddi Uwch-swyddog ystadegol yn rhai parhaol. Os ydych eisoes yn was sifil, mae hefyd yn bosibl dewis gwneud y swyddi hyn fel benthyciad rhwng adrannau am hyd at 2 flynedd, os byddai'n well gennych wneud hyn. Noder, fodd bynnag, mai dim ond ar sail symud ar draws y mae ein benthyciadau ar gael. 

Prif dasgau

Mae'r tasgau allweddol nodweddiadol y bydd angen i Uwch-swyddog Ystadegol eu cyflawni yn amrywio o swydd i swydd. Ymhlith yr enghreifftiau mae:

  • Cyfrifoldeb am faes gwaith penodol, gan arwain ar y gwaith o ddarparu dadansoddiad ystadegol a chyngor i swyddogion polisi i lywio'r gwaith o ddatblygu a monitro polisïau.
  • Rheoli rhaglenni a chynllunio busnes yn effeithiol, goruchwylio'r rhaglen waith ar gyfer y tîm, a chynllunio a monitro gweithgarwch drwy gydol y flwyddyn.
  • Rheoli'r gwaith o gynhyrchu allbynnau ystadegol, gan gynnwys ymgynghori â defnyddwyr a sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.
  • Rheoli adnoddau, a bod yn gyfrifol fel arfer am dîm o 2-3 aelod o staff, gan sicrhau bod amcanion perfformiad unigol yn cyd-fynd â chynllun gwaith y tm a blaenoriaethau'r is-adran, a rheoli ansawdd gwaith y tîm.
  • Rheoli perthynas â rhanddeiliaid gan gynnwys cwsmeriaid polisi, cyflenwyr data allanol, adrannau eraill y llywodraeth a defnyddwyr ystadegau Llywodraeth Cymru.
  • Briffio Gweinidogion ac uwch swyddogion polisi ar faterion ystadegol.
  • Goruchwylio'r gwaith o weithredu dull strategol o gasglu, storio a lledaenu data – gallai hyn gynnwys cysylltu â chontractwyr ar gyfer systemau neu arolygon.
  • Gweithio gyda chydweithwyr dadansoddol i fanteisio'n llawn ar botensial ffynonellau data sy'n bodoli eisoes e.e. drwy gysylltu data.
  • Arwain ar ddatblygu ac adolygu a gwella allbynnau a phrosesau ystadegol yn barhaus, er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr mewnol ac allanol mewn ffordd effeithlon ac effeithiol, ac asesu'r galw yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys ystyried y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol wrth ddadansoddi a chyflwyno yn unol â'r strategaeth ar gyfer system ystadegol y DU (Ystadegau er Lles y Cyhoedd)
  • Hyrwyddo arferion gorau o ran gwaith ystadegol, sicrhau cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a deddfwriaeth gysylltiedig.
  • Meithrin dealltwriaeth o ystod ac ansawdd ffynonellau data mewn portffolio perthnasol, gan werthuso a chynghori ar ddefnydd priodol o ffynonellau data

Cyfleoedd datblygu

  • Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda'r staff ystadegol profiadol, ac yn cael ei fentora ganddynt.
  • Cyfle i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o bolisïau Llywodraeth Cymru mewn ystod o feysydd amrywiol sy'n aml yn drawsbynciol ac i weithio gyda chydweithwyr i lunio a monitro polisïau o'r fath.
  • Cyfleoedd dysgu a datblygu penodol, wedi'u llywio gan fframwaith Datblygiad Proffesiynol Parhaus Ystadegwyr y Llywodraeth.
  • Profiad o friffio Gweinidogion ac uwch swyddogion, a gweithio mewn partneriaeth o fewn Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a chyda chyrff allanol fel Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Estyn.
  • Cyfle i ddatblygu sgiliau arwain.

Dyddiad Cau

18/07/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunydd mewn sefyllfa waith
Gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gwaith
Deall y rhan fwyaf o sgyrsiau mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi'r rhan fwyaf o waith ysgrifenedig yn y Gymraeg

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth ar gyfer y manyleb person canlynol yn eu datganiad personol;

Manyleb Person yr Uwch-swyddog Ystadegol

  • Profiad o reoli tîm a blaenoriaethu tasgau yn unol ag amcanion sefydliadol
  • Sgiliau arwain cryf gyda'r gallu a'r profiad i oresgyn heriau er mwyn cyflawni canlyniadau busnes o safon
  • Profiad dadansoddol cryf, gan gynnwys hanes o gymhwyso dadansoddiad neu ymchwil yn ymarferol gyda gwybodaeth fanwl o ffynonellau data
  • Gallu profedig i reoli'r gwaith o gyflawni prosiectau cymhleth, cyflawni canlyniadau o ansawdd i'r dyddiad cau a nodi risgiau
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da, gyda'r gallu i gyfathrebu dadansoddiad cymhleth i bobl nad ydynt yn arbenigwyr a chyfrannu'n effeithiol at drafodaethau gyda gweinidogion, uwch swyddogion a rhanddeiliaid allanol
  • Y gallu i ddarparu dadansoddiad effaith uchel i derfynau amser tynn, gan ddefnyddio blaengynllunio i nodi risgiau a materion

Cyngor: Wrth benderfynu pa enghreifftiau i'w defnyddio yn eich datganiad personol, cofiwch gyfeirio'n ôl at yr hysbyseb swydd, cymwyseddau lefel Uwch-swyddog Ystadegol fframwaith cymwyseddau Grŵp Ystadegwyr y Llywodraeth 2021 a Lefel 3 Ymddygiadau Proffil Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil am ddangosyddion ymddygiad effeithiol.

Ceir rhagor o wybodaeth am rôl ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyngor ar lunio cais a pharatoi ar gyfer cyfweliad yn y pecyn i ymgeiswyr sydd ynghlwm: Candidate Pack - Senior Statistical Officer - WELSH (llyw.cymru)

 

Mae'r hysbyseb hon ar gyfer gradd lle mae angen rhywfaint o brofiad blaenorol o weithio ym maes ystadegau. Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa fel ystadegydd yn Llywodraeth Cymru ond nad oes gennych unrhyw brofiad gwaith ystadegau eto (er enghraifft os ydych wedi graddio'n ddiweddar gyda gradd sydd gyda chynnwys ystadegol a addysgir), yna rydym yn eich annog i wneud cais i ni drwy ymgyrch recriwtio Swyddog Ystadegol canolog Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.

Proses Asesu

Meini Prawf Cymhwysedd

Mae'n rhaid eich bod yn meddu ar un o'r canlynol er mwyn gwneud cais:

  • Gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth mewn pwnc sy'n cynnwys hyfforddiant ystadegol ffurfiol (e.e. Ystadegau, Mathemateg, Economeg, y Gwyddorau, Astudiaethau Busnes, Seicoleg, Daearyddiaeth, Gwyddor Data neu bwnc tebyg): neu
  • Gradd uwch, e.e. MSc neu PhD, mewn pwnc sy'n cynnwys hyfforddiant ystadegol ffurfiol (e.e. Ystadegau, Mathemateg, Economeg, y Gwyddorau, Astudiaethau Busnes, Gwyddor Data, Seicoleg, Daearyddiaeth neu bwnc tebyg).
  • Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr nad oes ganddynt radd, ond bydd yn rhaid iddynt ddangos eu bod wedi gweithio mewn maes sy'n gysylltiedig ag ystadegau/gwyddor data. Bydd angen i ymgeiswyr heb radd berthnasol ddangos eu datblygiad proffesiynol parhaus (drwy Gofnodlyfr DPP) ym maes ystadegau/gwyddor data i ddangos gwybodaeth ar yr un lefel â gradd sylfaen/Diploma Cenedlaethol Uwch (Lefel 5).

Sylwch, os cewch eich gwahodd i gyfweliad, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch cymhwysedd (e.e. drwy ddarparu copi o'ch tystysgrif gradd).

Ffurflen gais a sifft

Gwnewch gais drwy gyflwyno CV a datganiad personol drwy ein system gwneud cais ar-lein. Rhaid i chi wneud cais yn Gymraeg. Dylai eich CV gynnwys manylion eich addysg a’ch cymwysterau proffesiynol, hanes cyflogaeth a sgiliau a phrofiad perthnasol.

Dylai eich datganiad personol adlewyrchu manyleb y person a nodir uchod. Rhaid iddo gynnwys manylion eich cyflawniadau technegol a phroffesiynol, ac ni ddylai fod yn fwy na 1250 o eiriau.

Wrth edrych ar geisiadau, bydd yr aseswyr yn chwilio am dystiolaeth glir o'ch gwybodaeth a'ch profiad ystadegol a sut rydych yn bodloni meini prawf Manyleb y Person; felly fe'ch cynghorir i'w deilwra'n unol â hynny.

Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, bydd eich CV a'ch datganiad personol yn cael eu hystyried gan y panel recriwtio.

Prawf amlddewis

Os yw eich cais yn dangos y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y rôl, cewch eich gwahodd i ymgymryd â phrawf amlddewis ar-lein, wedi'i gynllunio i brofi eich sgiliau rhifedd a'ch gwybodaeth ystadegol. Anfonir e-bost atoch gyda dolen i'r prawf. Bydd gennych wythnos i gwblhau'r prawf. Mae'n brawf wedi'i amseru a rhaid ei gwblhau a'i gyflwyno erbyn canol dydd ar y dyddiad a bennir yn yr e-bost er mwyn i chi gael eich ystyried ar gyfer cam nesaf y broses. Nodwch mai yn Saesneg y cynhelir y prawf. Mae hyn er mwyn asesu eich galluoedd yn Saesneg, o ystyried bod angen sgiliau Saesneg ar ddeiliad y swydd hefyd.  

Os ydych eisoes yn aelod o Grŵp Ystadegydd y Llywodraeth, rydych wedi'ch eithrio rhag sefyll y prawf. E-bostiwch Rebecca.Gillard@llyw.cymru gyda'ch rhif aelodaeth Grŵp Ystadegydd y Llywodraeth, er mwyn cael cadarnhad nad oes angen i chi gwblhau'r prawf. Byddwch wedyn yn symud ymlaen i'r cam nesaf (cyfweliad).

Cyfweliad ar-lein a phrawf lledaenu

Os byddwch yn pasio'r prawf amlddewis, cewch eich gwahodd i gyfweliad ar-lein. Bydd y cyfweliad ar-lein yn cael ei gynnal dros Microsoft Teams. Bydd y cyfweliad yn defnyddio technegau asesu amrywiol sy'n cyd-fynd â fframwaith Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil. Mae arddulliau cwestiynu yn cynnwys Profiadau o wahanol Sefyllfaoedd a phrofiadau blaenorol. Bydd hyn yn rhoi'r cyfle gorau posibl i ni ddod o hyd i'r unigolyn cywir ar gyfer y swydd. Gan fod sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, cynhelir y cyfweliad yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, caiff un ymddygiad/cymhwysedd ei asesu yn Saesneg, er mwyn asesu eich sgiliau Saesneg hefyd. Yn ogystal, gofynnir cwestiynau ichi ar gymwyseddau Technegol Grŵp Ystadegwyr y Llywodraeth, pan fydd disgwyl i chi ddangos dealltwriaeth o ddwy dechneg ystadegol. Cyn y cyfweliad, byddwch yn cael 30 munud i sefyll prawf byr, a fydd yn ffurfio cyflwyniad i'w roi i'r panel ar ddechrau'r cyfweliad. Ni ddylai'r cyflwyniad bara mwy na phum munud, a byddwch yn aros yn eich sedd yn ystod y cyflwyniad. Os ydych eisoes yn aelod o Grŵp Ystadegwyr y Llywodraeth, rydych wedi'ch eithrio rhag sefyll y prawf hwn.

Cymwyseddau Technegol:

  • Ystadegwyr – Cyflwyno a Lledaenu data yn effeithiol
  • Ystadegwyr - Dadansoddi Data
  • Ystadegwyr – Caffael data/Deall anghenion y cwsmer

Ymddygiadau'r Gwasanaeth Sifil:

  • Cyflawni’n Brydlon
  • Gweld y Darlun Cyflawn
  • Arweinyddiaeth

Eisiau gwybod mwy? 

Er mwyn helpu i esbonio'r broses ymgeisio ac ateb unrhyw gwestiynau am ein swyddi Swyddog Ystadegol Uwch ac Uwch-Swyddog Ystadegol, byddwn yn cynnal dwy Weminar MS Teams. 

Ymunwch ar eich cyfrifiadur neu ap symudol trwy glicio ar un o'r dolenni canlynol:

12:00-13:00 ar 30 Mehefin 2022: Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

16:00-17:00 ar 4 Gorffennaf 2022: Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Rebecca Gillard - rebecca.gillard@gov.wales or statscareers1@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.