Swydd Wag -- Rheolwr Trwyddedu Tanwydd Ffosil a Storio a Dal Carbon

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Datgarboneiddio ac Ynni
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£48,650
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae gan y swydd ddau brif bwrpas:

  1. Sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y fframwaith deddfwriaethol, yr offer, y systemau trwyddedu a’r polisïau angenrheidiol i reoleiddio a gweinyddu swyddogaethau trwyddedu ar gyfer petrolewm, glo a dal carbon yn unol â' gofynion statudol newydd sydd wedi eu datganoli.
  2. Cyflwyno rhaglen Gymreig o drwyddedu gwaith achos tanwydd ffosil, gan sicrhau y darperir rhaglen waith i drwyddedai drwy ymwneud yn uniongyrchol â gweithredwyr ar lefel uwch, rheoli gweithgareddau trwyddedu, penderfynu ar geisiadau cymhleth a threfniadau cadw cofnodion manwl.

Mae hon yn rôl newydd arwyddocaol i Lywodraeth Cymru. Mae' n ei gwneud yn ofynnol i fod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer holl ryngweithiadau deiliaid trwydded allanol, ac yn gyswllt allweddol rhwng gweithrediadau mewnol ac allanol, timau polisi a rheoleiddio ar bob achos trwydded. Bydd y rôl hefyd yn gofyn am gysylltu â grwpiau amgylcheddol a phrotest.

Bydd y swydd yn adroddiad i'r Dirprwy Gyfarwyddwr, bydd deiliad y swydd yn rheoleiddio'n effeithlon ac yn effeithiol gyda llwyth gwaith heriol a phroffil uchel o geisiadau am gydsyniad tanwydd ffosil.

Disgwylir y bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth helaeth a phrofiad uniongyrchol o ddatblygu a rheoli systemau trwyddedu, yn ddelfrydol gyda phwyslais ar weithgareddau diwydiannol ac ynni, gan gynnwys penderfynu ar geisiadau a chyfarwyddo ymwneud â gweithredwyr ar lefel uwch.

Mae'r rôl yn gofyn am reoli rhaglen effeithiol i sicrhau bod rhaglen waith trwyddedu yn cael ei chyflawni o fewn yr amserlenni priodol, yn unol â'r gyfraith, a bod penderfyniadau yn adlewyrchu dealltwriaeth gywir o'r dystiolaeth, y Rheoliadau a'r polisi .

Bydd y rôl yn gweithredu mewn amgylchedd heriol, lle bydd pob penderfyniad trwyddedu yn destun craffu dwys gan y diwydiant, gwleidyddol, y cyfryngau a grwpiau buddiant. Felly, bydd angen asesu risg parhaus i sicrhau bod y risgiau posibl i Lywodraeth Cymru a'r Gweinidogion yn cael eu nodi, eu deall a'u lliniaru.

Mae'r swyddogaethau newydd eisoes yn creu llwyth achosion statudol sylweddol mewn perthynas â petrolewm a glo, ac felly mae'n angenrheidiol i ddeiliad y swydd ddangos y cymwyseddau a'r profiad sydd eu hangen i gyflawni'r tasgau allweddol ar unwaith.

Prif dasgau

Mae gan y swydd ddwy elfen benodol:

1. Dylunio a pharatoi'r system drwyddedu

  • Arwain datganoli a throsglwyddo swyddogaethau o ran trwyddedu tanwydd ffosil a dal carbon drwy weithio gyda Llywodraeth y DU, adrannau Llywodraeth Cymru, yr awdurdod olew a nwy, yr awdurdod glo, Cyfoeth Naturiol Cymru a phrif randdeiliaid.
  • Arwain y gwaith o sefydlu systemau trwyddedu tanwydd ffosil, gan gynnwys datblygu, gweithredu a chynnal a chadw prosesau, systemau ac offer trwyddedu newydd, gan gynnwys ‘profi straen’.
  • Datblygu prosesau gwneud penderfyniadau mewnol yn unol â deddfwriaeth berthnasol domestig, y DU a'r UE, deddfwriaeth ynghlwm â’r diwydiant a pholisi ynni a datgarboneiddio Llywodraeth Cymru.
  • Cyhoeddi canllawiau technegol ar gyfer swyddogion a’r rhai sydd angen trwydded.
  • Nodi bylchau rheoleiddio yn y ddeddfwriaeth tanwydd ffosil, yna cwmpas a chynorthwyo i ddrafftio'r is-ddeddfwriaeth angenrheidiol i sicrhau bod gan Weinidogion y gyfres lawn o swyddogaethau trwyddedu ar gael iddynt.
  • Rheoli'r berthynas wleidyddol, reoleiddiol, fasnachol ac anffurfiol gyda'r awdurdod olew a nwy, yr awdurdod glo, Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r Gweithredwr Iechyd a Diogelwch (HSE), gan gynnwys paratoi, trafod a rheoli trefniadau masnachol a gweithio cytundebau gyda'i gilydd.
  • Rheoli'r broses o drosglwyddo dogfennaeth a samplau trwyddedau tanwydd ffosil presennol, ac unrhyw gytundebau, trefniadau, neu gydsyniadau cysylltiedig perthnasol, o'r awdurdod trwyddedu neu reoleiddio hanesyddol i Gymru. 
  • Datblygu hanes cyfreithiol a chydsynio cywir ar gyfer pob trwydded tanwydd ffosil er mwyn galluogi iddynt gael eu rheoli'n effeithiol wrth symud ymlaen.
  • Cynnig, gwerthuso a gweithredu mesurau i wella effeithlonrwydd deddfwriaeth ddatganoledig y DU i adlewyrchu polisi Cymru yn well a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r dyfodol.
  • Rheoli materion ariannol sy'n gysylltiedig ag incwm o drwyddedau, gan gynnwys sefydlu prosesau effeithiol ar gyfer incwm a rheolaeth ariannol.
  • Cysylltu ag arweinwyr polisi mewnol i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau sy'n benodol i drwyddedu yn adlewyrchu hawliau cyfreithiol gwarchodedig y trwyddedai a hefyd ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio. 
  • Paratoi deunyddiau cyfathrebu a rheoli'r wybodaeth ar-lein er mwyn sicrhau cyfathrebu clir ynghylch y prosesau trwyddedu yng Nghymru

2. Gweithredu'r system drwyddedu

  • Cyflwyno rhaglen Gymreig o drwyddedu tanwydd ffosil gwaith achos, gan sicrhau darpariaeth rhaglen waith i drwyddedai drwy ymwneud yn uniongyrchol â gweithredwyr ar lefel uwch, a rheoli gweithgareddau trwyddedu a phenderfynu ar geisiadau (gan gynnwys estyniadau, hepgor, a hildio), gan gynnwys cadw cofnodion yn gadarn, dogfennaeth a gohebiaeth.
  • Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf yn y rheng flaen ar gyfer pob rhyngweithiad trwydded tanwydd ffosil allanol, ac fel cyswllt allweddol rhwng gweithrediadau mewnol ac allanol, timau polisi a rheoleiddio ar bob achos trwydded.
  • Darparu canllawiau technegol, polisi a deddfwriaethol clir i'r diwydiant ar faterion trwyddedu, gan gynnwys gofynion rheoleiddio, a chyfathrebu'n gadarn a theg â hwy.
  • Olrhain a rheoli digwyddiadau trwydded ar draws petrolewm, glo a dal a storio carbon, a rheoli prosiect yr achosion hyn drwy'r  broses drwyddedu.
  • Dylanwadu'n uniongyrchol ar weithredwyr, rheoleiddwyr a swyddogion y Llywodraeth ar lefel uwch i hyrwyddo gwersi a ddysgwyd a'r arferion gorau ar draws yr holl archwilio i gylch oes adfer.
  • Cysylltu ag arweinwyr cyfreithiol a pholisi mewnol er mwyn sicrhau bod penderfyniadau trwyddedu unigol yn adlewyrchu'r gyfraith, ac fel y bo'n briodol, ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio. 
  • Cefnogi'r diwydiant a rhanddeiliaid eraill drwy roi cipolwg ar arfer gorau ac argymhellion ar sut i fodloni ymrwymiadau datgarboneiddio ac ynni Llywodraeth Cymru drwy reoli ' r drwydded yn well.
  • Cynllunio a gweithredu gweithgareddau trwydded proffil uchel:

                          - Cynnal a diweddaru'r canllawiau technegol, y meini prawf asesu, a'r wefan.
                          - Paratoi datganiadau i'r wasg, cyhoeddiadau dyfarnu a chysylltiadau allanol eraill.
                          - Llunio mapiau i'w cyhoeddi a diweddaru cronfeydd data cyhoeddus.
                          - Trefnu cyfweliadau â deiliaid trwydded i roi eglurhad ar raglenni gwaith a'r risgiau cysylltiedig.
                          - Creu trwyddedau, dilysu data a chyhoeddi dogfennau trwydded.

Dyletswyddau cyffredinol:

  • Rhoi cymorth a chyngor pwrpasol i uwch reolwyr, cynghorwyr arbennig a Gweinidogion ar drwyddedu tanwydd ffosil a thrwyddedu storio a chadw carbon.
  • Darparu'r ystod lawn o gymorth busnes y Llywodraeth, gan gynnwys cwestiynau'r Cynulliad, Cyngor yr Aelodau a llythyrau ar ran Weinidogion. 
  • Cynrychioli Cymru mewn cynadleddau, fforymau a phwyllgorau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol, a chadw mewn cysylltiad rheolaidd â chyrff rheoleiddio y tu allan i'r DU.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i greu system statudol newydd i Gymru a bydd yn rhoi cyfle i ddeiliad y swydd gyflawni'r fframwaith deddfwriaethol, y system I ddelio â’r trwyddedau, system drwyddedu a pholisïau yn ogystal ag ymdrin â gwaith achos trwyddedu.  Mae'r swydd o fewn yr is-adran Datgarboneiddio ac Ynni sy'n ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd dysgu i unigolion,  ac yn annog staff i ymgymryd â chyfleoedd hyfforddi priodol a nodir wrth ochr datblygiad proffesiynol parhaus

Dyddiad Cau

29/10/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  • Gwneud penderfyniadau effeithiol – Dod i gasgliadau rhesymol ar sail amrywiaeth eang o dystiolaeth a data anghyflawn a chymhleth, a chyflwyno’r casgliadau hynny – gan allu gweithredu neu benderfynu hyd yn oed pan nad yw’r manylion yn glir.
  • Gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth – Mynd ati i feithrin a chynnal rhwydwaith o gydweithwyr a chysylltiadau, er mwyn bwrw ati ag amcanion a buddiannau sy’n gyffredin rhyngddynt.
  • Gweld y darlun cyflawn - Rhagweld datblygiadau economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol, amgylcheddol a thechnolegol i sicrhau bod gweithgareddau yn berthnasol ac yn cael eu targedu’n briodol.
  • Cyflawni’n brydlon - Cynnal perfformiad effeithiol mewn amgylchiadau anodd a heriol, ac annog eraill i wneud yr un fath.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  1. Profiad o reoli, cymhwyso a chynnal systemau trwyddedu cymhleth, yn ddelfrydol rhai sy’n ymwneud a phrosesau diwydiannol.
  2. Profiad o ddehongli darnau lluosog o ddeddfwriaeth, a ' u cymhwyso i brosesau newydd.
  3. Dangos gwybodaeth dechnegol am brosesau diwydiannol a phennu eu heffaith ar strwythurau daearegol ac effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o'r canlynol yn y cyfweliad:

All yr ymgeisydd ddarparu tystiolaeth o brofiad uniongyrchol yn ymwneud â thrwyddedu, trwyddedu diwydiannau yn ddelfrydol?

All yr ymgeisydd ddarparu tystiolaeth o allu dehongli a chymhwyso deddfwriaeth mewn perthynas â chyflwyno proses/gweithdrefn?

All yr ymgeisydd ddarparu tystiolaeth o'i allu i ddehongli tystiolaeth gymhleth a dod i gasgliad cytbwys a chadarn?

All yr ymgeisydd ddangos gwybodaeth ddigonol am brosesau'r diwydiant, diwydiannau sy’n echdynnu yn ddelfrydol, i farnu a yw cynigion ar gyfer gweithgarwch yn gywir, yn realistig ac a ydynt yn adlewyrchu cyfyngiadau polisi deddfwriaethol?


Nodwch - ni fydd yna ofyniad i chi baratoi cyflwyniad cyn diwrnod y cyfweliad, a bydd y cyflwyniad yn cyflwyno dadansoddiad o'r wybodaeth a ddarparwyd ar y diwrnod.

Cam 1: Ymarferiad ysgrifenedig - arbenigedd proffesiynol wedi'i lleoli wrth ddesg.

Cam 2: Dadansoddi a chyflwyno'r dadansoddiad hwnnw - papur i edrych drwyddo, ei ddadansoddi a'i gyflwyno i banel 2 berson.

Jennifer Pride - 03000 250853 - jennifer.pride1@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.