Swydd Wag -- Uwch-reolwr – Gwasanaethau Corfforaethol a Busnes

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Arolygiaeth Gofal Cymru
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
53,440
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Gall y swydd hon fod wedi'i lleoli yn unrhyw un o swyddfeydd AGC, ym Merthyr, Caerfyrddin neu Gyffordd Llandudno. Disgwylir i gydweithwyr weithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys rhywfaint o gartref, fel sy'n ofynnol. Y lleoliad swyddfa y cytunir arno fydd y man gwaith dynodedig ac nid yw unrhyw drefniant gweithio o bell neu gartref yn golygu newid i'ch man gwaith dynodedig na'ch telerau ac amodau cytundebol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus dalu unrhyw gostau cymudo i'w fan gwaith arferol.
'I' w gadarnhau

Pwrpas y swydd

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant.  Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er mwyn sicrhau llesiant pobl Cymru.

Yn atebol i'r Pennaeth Gwasanaethau Cymorth, bydd yr uwch-swydd hon yn arwain pum tîm amlddisgyblaethol sy'n darparu arweinyddiaeth a rheolaeth strategol ar gyfer gwasanaethau corfforaethol a busnes y tîm Gwasanaethau Cymorth.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddosbarthu adnoddau'n effeithiol a sicrhau y caiff yr holl gyfrifoldebau rheoli eu cyflawni yn unol â blaenoriaethau gweithredol a strategol y sefydliad, ac o fewn llinellau atebolrwydd priodol. 

Bydd deiliad y swydd yn meithrin cysylltiadau strategol a gweithredol cadarn â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, rhanddeiliaid allweddol a sefydliadau partner.

Prif dasgau

Prif dasgau:

  • Arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau cymorth o safon uchel, gan ddarparu arweinyddiaeth effeithiol a hyrwyddo a chefnogi'r ffordd y caiff y sefydliad ei redeg yn weithredol.
  • Arwain y gwaith o sicrhau y caiff adnoddau, cyllidebau a staff y tîm gwasanaethau cymorth eu rheoli mewn ffordd gadarn, gan ddatblygu a rhoi camau unioni ar waith yn ôl yr angen.
  • Arwain a goruchwylio'r gwaith o gyflawni strategaeth y gweithlu, gan weithio gyda thimau ac uwch-reolwyr i adeiladu gweithlu amrywiol a chadarn.
  • Arwain ar roi'r Fframwaith Sicrhau Ansawdd ar waith, gan sicrhau bod gwelliant parhaus yn cael ei ymgorffori drwy ddysgu'n fyfyriol
  • Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu ar gyfer y sefydliad.
  • Arwain a goruchwylio'r ffordd y caiff y broses cynllunio gorfforaethol ei rheoli, gan sicrhau bod prosesau'n cyd-fynd â'r gofynion o ran cyfeiriad strategol; goruchwylio'r gwaith o lunio'r Adroddiad Blynyddol, cynlluniau Strategol a gweithredol, a sicrhau prosesau monitro gweithredol effeithiol.
  • Arwain prosesau llywodraethu, cydymffurfio a busnes, gan gynnwys:
  • rheoli a chynnal systemau ariannol a chaffael yn effeithiol
  • cyfathrebu mewnol ac allanol, gan arwain tîm i gydweithio ag amrywiaeth eang o randdeiliaid a hyrwyddo gweithgarwch ymgysylltu y tu fewn a'r tu allan i'r sefydliad
  • recriwtio, adnoddau dynol a dysgu a datblygu, gan arwain tîm i gefnogi holl brosesau recriwtio mewnol ac allanol AGC a dysgu a datblygu ar gyfer pob aelod o staff
  • rheoli'r broses o rannu gwybodaeth a chwynion ar gyfer y sefydliad
  • Sicrhau bod cydberthnasau gwaith rhagorol rhwng y tîm gwasanaethau cymorth a thimau gweithredol y sefydliad, er mwyn gwella a datblygu arferion, cysondeb, a safon ac ansawdd gwasanaethau.
  • Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu cynllun cyflawni gweithredol y tîm gwasanaethau cymorth a dylanwadu ar gynlluniau timau eraill, gan gynnwys dadansoddi data digidol a datblygu prosiectau ym mhob rhan o AGC.
  • Arwain y gwaith o ddarparu cyngor, cymorth, gwybodaeth ac adroddiadau rheolaidd i'r Prif Arolygydd/Prif Arolygwyr Cynorthwyol/Pennaeth Gwasanaethau Cymorth yn ôl yr angen.
  • Dirprwyo ar gyfer y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth yn ôl yr angen.
  • Rheoli eich datblygiad proffesiynol eich hun a cheisio cyfleoedd priodol mewn trafodaeth â'r Pennaeth Gwasanaethau Cymorth.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i weithio mewn sefydliad dynamig sy'n hyrwyddo gwelliannau mewn gofal cymdeithasol drwy ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dinesydd.

Dyddiad Cau

19/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Cyflawni'n Brydlon

  • Cael y gorau o bobl drwy roi negeseuon brwdfrydig a chalonogol am flaenoriaethau, amcanion a disgwyliadau.

Arwain a Chyfathrebu

  • Ymwneud yn hyderus â rhanddeiliaid a chydweithwyr ar bob lefel i ennyn ymrwymiad at gyrraedd nodau.

Gweithio ar y cyd ac Mewn Partneriaeth

  • Annog cyfraniadau gan amrywiaeth eang o staff drwy fod yn amlwg ac yn groesawgar.

Meithrin Gallu Pawb

  • Pennu’r gofynion o ran gallu sydd eu hangen er mwyn cyflawni amcanion y tîm yn y dyfodol a chefnogi timau i lwyddo wrth gyflawni er mwyn bodloni’r anghenion hynny.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  • Dangos y gallu i arwain a rheoli timau amlddisgyblaethol er mwyn sicrhau y caiff gwasanaethau eu darparu'n effeithiol ac yn amserol i amrywiaeth eang o randdeiliaid mewnol ac allanol.
  • Profiad o arwain a chefnogi newid strategol a chydweithio â staff ar lefel uwch, a dylanwadu arnynt.
  • Y gallu i ddangos sgiliau cyfathrebu cryf yn ogystal â thystiolaeth o roi cyfarwyddiadau clir er mwyn cyflawni safonau perfformiad y cytunwyd arnynt.

Proses Asesu

Mae'r broses recriwtio yn cynnwys dau gam:

Cam 1 – Cwblhau cais ar-lein a chyflwyno CV (heb fod yn fwy na 2 dudalen) a datganiad personol.

Cam 2 – Cyfweliad ac asesiad.

Mae AGC yn dilyn prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru sef ffurflenni cais a chyfweliadau sy'n seiliedig ar gymwyseddau. Sicrhewch eich bod yn darllen Canllawiau Recriwtio Llywodraeth Cymru a Phecyn Ymgeiswyr AGC cyn gwneud cais ac wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau, a defnyddiwch ddull STAR wrth roi tystiolaeth.

Llunio Rhestr Fer/Sifftio Ceisiadau

Caiff rhestr fer o ymgeiswyr ei llunio drwy asesu'r dystiolaeth a ddarparwyd yn y CV a'r datganiad personol a lanlwythwyd.

Cam 1 - Sifftio

Lanlwythwch eich CV (heb fod yn fwy na 2 dudalen) yn manylu ar eich rôl bresennol, hanes gwaith blaenorol, cymwysterau ac unrhyw hyfforddiant perthnasol. Nid oes angen i ni weld tystysgrifau ar y cam hwn.

Ynghyd â'ch CV, gwnewch yn siŵr eich bod yn lanlwytho datganiad personol yn amlinellu sut rydych yn bodloni'r 4 cymhwysedd a'r 3 maen prawf penodol i'r swydd yn yr hysbyseb (un enghraifft ar gyfer pob un = 7 enghraifft i gyd).  Sicrhewch eich bod yn defnyddio penawdau fel bod y panel yn gallu gweld pa gymhwysedd neu faen prawf penodol i'r swydd y mae eich tystiolaeth yn berthnasol iddo hefyd.

Os daw nifer mawr o geisiadau i law, efallai mai dim ond yn seiliedig ar eich ymatebion i'r tri maen prawf penodol i'r swydd y bydd y panel yn llunio'r rhestr fer.  Noder: bydd angen i chi ddarparu ymateb ysgrifenedig mewn perthynas â'r pedwar cymhwysedd o hyd, er mwyn pasio'r cam rhestr fer yn llwyddiannus.

Cewch wybod y canlyniad drwy'r system ar-lein. Bydd rhywfaint o adborth ysgrifenedig yn cael ei roi yn ystod y cam sifftio.

Cam 2 – Cyfweliad

Os byddwch yn llwyddiannus ar y cam sifftio, cewch eich gwahodd i gyfweliad rhithwir dros Microsoft Teams. Efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflawni asesiad neu roi cyflwyniad fel rhan o'r broses gyfweld. Os felly, byddwn yn rhoi rhybudd o bum diwrnod gwaith o leiaf o'r gofynion.

Os yw'r swydd yn gofyn am sgiliau Cymraeg, bydd asesiad ysgrifenedig Cymraeg hefyd.

Os na allwch gymryd rhan mewn cyfweliad ar-lein am ba reswm bynnag, rhowch wybod i ni a gallwn geisio gwneud trefniadau amgen lle y bo'n bosibl. 

Os ydych yn anabl, os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, os ydych yn niwrowahanol neu os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain ac yr hoffech wneud cais am addasiadau rhesymol neu drefniadau amgen, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i CIWHR@gov.wales.

Yn ystod y cam sifftio a chyfweld, byddwn yn eich   asesu gan ddefnyddio'r matrics sgorio (gweler y Canllawiau i Ymgeiswyr Allanol ym mharagraff 6) yn erbyn y pedwar cymhwysedd a'r tri maen prawf penodol i'r swydd a nodir yn y disgrifiad swydd/hysbyseb swydd.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Jackie Bracey

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.