Swydd Wag -- Cyfreithiwr dan Hyfforddiant

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Swyddfa'r Prif Weinidog
Gwasanaethau Cyfreithiol
EO - £26,900 - £30,610
£25,860
Amser llawn (dydy hyn ddim yn addas i bobl sydd am weithio'n rhan-amser neu rannu'r swydd).
Tymor penodol
2 flynedd (gyda phosibilrwydd o swydd barhaol)
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae'r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cyfreithiol i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys rhoi cyngor ar faterion cymhleth ym maes cyfraith gyhoeddus, ymdrin ag ymgyfreitha proffil uchel a llunio holl ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru.
Bydd Cyfreithwyr dan Hyfforddiant Llywodraeth Cymru, yn yr un modd â chyfreithwyr yn yr adran, yn gweithio i Uwch-gyfreithiwr sy'n arwain tîm pwnc sy'n gyfrifol am gyfrifoldebau gweithredol penodol y Llywodraeth.
Bydd Cyfreithwyr dan Hyfforddiant yn cael eu dyrannu i dimau pwnc yn unol ag anghenion datblygu'r unigolyn ac anghenion busnes yr adran.  Mae'n debyg y bydd yr hyfforddiant yn cael ei rannu'n 6 chyfnod ac o fewn hynny, mae'n debyg y bydd cyfnod o 4 mis yn ymgymryd ag ymgyfreitha mewn adran gyfreithiol arall yn y sector cyhoeddus neu mewn cwmni cyfreithwyr.
Bydd Cyfreithwyr dan Hyfforddiant yn gweithio o dan oruchwyliaeth gyffredinol un o Uwch-gyfreithwyr yr Adran.

Prif dasgau

Cynnig cyngor cyfreithiol o fewn tîm portffolio, a chyfrannu at y ddarpariaeth honno;

Helpu i ddrafftio amrywiaeth o is-ddeddfwriaeth ac i lunio cyfarwyddiadau cyfreithiol ar gyfer drafftio deddfwriaeth sylfaenol a monitro eu hynt drwy weithdrefnau'r Senedd yn ôl yr angen. Helpu i ddrafftio dogfennau ffurfiol eraill o fewn y tîm portffolio;

Cyfrannu at y tîm a sicrhau ei fod yn ymateb i anghenion y cwsmer/cleient a newidiadau mewn amgylchiadau;

Ymgymryd ag unrhyw ymchwil, tasgau a phrosiectau a bennir gan yr Uwch-gyfreithiwr neu Ddirprwy Gyfarwyddwr sy'n gymesur â lefel Cyfreithiwr dan Hyfforddiant;

Darparu cymorth i gydweithwyr o fewn yr adran ar gais yr Uwch-gyfreithiwr neu'r Dirprwy Gyfarwyddwr.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swyddi hyn yn cynnig y cyfle i ddatblygu sgiliau cynghori a drafftio deddfwriaeth o fewn timau arbenigol o gyfreithwyr. Mae'r swydd hefyd yn cynnig cyfle i weithio fel rhan o grŵp medrus o gyfreithwyr y sector cyhoeddus mewn amgylchedd gwleidyddol lle mae cyfle gwych i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth yn y gyfraith gyfansoddiadol a'r gyfraith weinyddol. Bydd hefyd yn darparu'r cyfle i fod yn ganolog i waith y llywodraeth yng Nghymru mewn amgylchedd deinamig a newidiol wrth i newidiadau i'r setliad datganoli gael eu llunio.

Dyddiad Cau

28/01/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau: 

Y Clwstwr Strategol – Gosod y Trywydd - Gwneud Penderfyniadau Effeithiol:
Pwyso a mesur gwybodaeth gymhleth a chael rhagor o wybodaeth er mwyn gwneud y penderfyniadau cywir.

Y Clwstwr Pobl – Ymwneud â Phobl - Arwain a Chyfathrebu:
Mynegi syniadau’n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, mewn modd sy’n dangos sensitifrwydd a pharch at eraill.

Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth:
Gwrando’n astud ar eraill a gwneud yn siŵr eu bod yn deall drwy ofyn cwestiynau.

Y Clwstwr Perfformiad – Gwireddu Canlyniadau - Cyflawni’n Brydlon:
Gosod a chyflawni nodau heriol a monitro ansawdd.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd:

1. Gwybodaeth sylfaenol o'r gyfraith gyfansoddiadol a'r gyfraith weinyddol.

2. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd 2:2 o leiaf, er nad oes rhaid i'r radd hon fod yn y Gyfraith. Fel arall, os oes gennych Dystysgrif Safon Academaidd neu Gymhwyster Cyfwerth oddi wrth yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA), byddwch yn gymwys i wneud cais. Mae cymrodyr ac aelodau graddedig o CILEx sydd wedi bodloni cyfnod hyfforddiant academaidd yr SRA hefyd yn gymwys.

3. Naill ai wedi pasio’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) neu wedi pasio’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) 1 ac SQE 2 erbyn 1 Hydref 2022. 

Proses Asesu

Ffurflen Gais yn dangos tystiolaeth o bob cymhwysedd a maen prawf penodol i'r swydd.

CV
Bydd proses sifftio gychwynnol yn cael ei chynnal ar yr ymateb i’r meini prawf penodol i'r swydd; dim ond yr ymgeiswyr hynny sy'n bodloni'r gofynion sylfaenol fydd yn mynd ymlaen i'r cam nesaf. Yna, bydd ail broses sifftio yn asesu'r cymwyseddau; dim ond yr ymgeiswyr hynny sy'n bodloni'r gofynion sylfaenol fydd yn cael eu gwahodd i'r cam nesaf. 

Cam y cyfweliad (os yw'r ymgeisydd wedi llwyddo yn y cam sifftio);
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio'r cam sifftio yn cael eu gwahodd i sefyll prawf cyfreithiol a dim ond y rheini sy'n pasio'r prawf fydd yn cael eu hasesu yn y cam hwn hefyd. Bydd ymgeiswyr a wahoddir am gyfweliad hefyd yn cael cais i wneud cyflwyniad byr i’r panel, a rhoddir gwybod am bwnc y cyflwyniad maes o law.

Adborth
Darperir adborth ar gyfer y cam sifftio dim ond ar ôl i'r cynllun gael ei gwblhau.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Bydd nifer o swyddi ar gael

Mae 'Cymru gyfan' yn golygu y gellir bod yn hyblyg o ran lleoliad y swydd, yn amodol ar anghenion y busnes. Gellir gweld rhestr o swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar ein gwefan (www.cymru.gov.uk). Noder na fydd hi bob amser yn bosibl ichi allu gweithio yn y lleoliad a ddewisir gennych, ond bydd ceisiadau yn cael eu hystyried.

Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’n staff yn gweithio o bell ar hyn o bryd oherwydd y pandemig. Er bod union drefniadau gwaith y cyfnod ar ôl y pandemig yn dal yn cael eu hystyried, mae’n debygol y bydd y trefniadau gwaith cyfunol neu “leoliad gwaith” hybrid yn dod yn fwy arferol i lawer o staff yn y dyfodol.

Legalrecruitment.wg.legal@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.