Swydd Wag -- Goruchwyliwr y Gyflogres

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol
EO - £26,900 - £30,610
£26,900, ar gyfer ymgeiswyr eithriadol gellir cynnig cyflog o hyd at £30,610 yn dibynnu ar berfformiad yr ymgeisydd mewn asesiad a phrofiad. Mae hyn yn ôl disgresiwn Llywodraeth Cymru ac nid yw wedi’i warantu mewn unrhyw ffordd.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Llywodraeth Cymru yn recriwtio ac yn datblygu pobl sy'n frwdfrydig i ddysgu, yn frwdfrydig am rannu eu gwybodaeth ac yn cael effaith ystyrlon wrth gymhwyso gwerthoedd sefydliadol i'w tasgau bob dydd. Bydd gennych chwilfrydedd deallusol, sgiliau dadansoddol a sylw i fanylion sy'n ein galluogi i edrych y tu hwnt i'r rhifau.

Diben y rôl hon yw cefnogi a goruchwylio pob proses o fewn y Gangen Cyflog a Phensiynau, gan sicrhau bod cyflogau'n cael eu prosesu'n gywir ac yn brydlon. Rôl allweddol o fewn y tîm Cyflog a Phensiynau yw sicrhau bod cydnabyddiaeth ariannol gywir, brydlon ac effeithlon yn cael ei thalu i'r holl staff sydd ynghlwm wrth ei phum cyflogres tra'n darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i gwsmeriaid mewnol ac allanol.

Mae Goruchwyliwr y Gyflogres yn gweithio gyda Rheolwr y Gyflogres i gynllunio gwaith y Tîm Cyflog a Phensiynau, monitro ei berfformiad, dathlu llwyddiannau a gweithredu ar unrhyw broblemau. Byddwch yn cyfrannu at lwyddiant cyffredinol y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol drwy weithio'n effeithiol gyda thimau a meysydd gwasanaeth eraill.

Mae llywodraethu da yn hanfodol – byddwch yn sicrhau bod y tîm yn gweithredu safonau uchel o ran rheoli, priodoldeb, rheoleidd-dra a gwahanu dyletswyddau, ac yn cynnal llwybrau archwilio a chofnodion o'i waith sy'n destun archwiliad rheolaidd.

Prif dasgau

  • Gweithio gyda Rheolwr y Gyflogres i sicrhau bod y gyflogres yn cael ei chwblhau'n llwyddiannus bob mis.
  • Delio'n broffesiynol ac yn gyfrinachol ag amrywiaeth o ymholiadau cyflog gan unigolion a rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol gan gynnwys darparwyr cyflogres a CThEM.
  • Gwneud cyfrifiadau manwl i gefnogi gwaith cyflogres.
  • Gweithio gyda'r Uwch Reolwr Cyflogres i weinyddu a rheoli gwaith y tîm i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n amserol ac yn gywir, gan gynnwys adolygu a gwirio gwaith y tîm Cyflogau a gwella prosesau'n barhaus.
  • Gwneud gwaith ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r gyflogres fel hawliadau goramser.
  • Rheoli ystod o fuddion cyflogeion (gan gynnwys blaensymiau/benthyciadau, aberthu cyflog, gweinyddu pensiwn a thalebau gofal plant) a sicrhau bod y gwahanol gynlluniau'n cael eu rheoli'n effeithiol.
  • Rheoli cydweithwyr yn y tîm Cyflogau.

    Cyfleoedd datblygu

    Drwy ymuno â'r tîm Cyflog a Phensiynau, cewch gyfle i gael cyflwyniad i'r proffesiwn Adnoddau Dynol yn ei gyfanrwydd a rhoi cyfle i chi ennill cymwysterau proffesiynol, er enghraifft CIPP (Sefydliad Siartredig y Gyflogres a Phensiynau) a CIPD (Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu).

    Dyddiad Cau

    07/02/23 16:00

    Cymhwystra

    Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

    Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

    Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

    Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

    Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

    Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

    Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

     

    Hyderus o ran Anabledd

    Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

    Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


    Sgiliau yn y Gymraeg

    Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

     

    Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

    Dymunol
    Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
    Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith
    Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
    Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith

    Partneriaeth Gymdeithasol

    O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

    Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
    •         PCS
    •         Prospect
    •         FDA

    Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
    •         cyflog
    •         telerau ac amodau
    •         polisïau a gweithdrefnau
    •         newid sefydliadol

    Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

    Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

    Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

    Cymwyseddau:

    Gosod y Trywydd - Egluro’n glir sut y daethpwyd i benderfyniad, ar lafar ac yn ysgrifenedig

    Gwireddu Canlyniadau - Gweithio gyda’r tîm i osod blaenoriaethau, creu cynlluniau clir a rheoli’r holl waith er mwyn diwallu anghenion y cwsmer a’r busnes

    Gwireddu Canlyniadau - Edrych ar eu perfformiad eu hunain a pherfformiad y tîm yn erbyn canlyniadau, gan wneud awgrymiadau am welliannau neu gymryd camau i ddatrys problemau 

    Ymwneud â Phobl - Cymryd cyfrifoldeb am ansawdd eu gwaith eu hunain a chwilio am gyfleoedd i wella drwy ddysgu’n barhaus

    Meini Prawf Penodol i’r Swydd: 

    1. Profiad proffesiynol o ddarparu gwasanaethau cyflogres a phensiwn misol electronig o fewn sefydliadau sy'n fwy na 1,000 o weithwyr
    2. Sgiliau TG ardderchog gan gynnwys Pecynnau Microsoft Office yn enwedig y defnydd o daenlenni Excel
    3. Y gallu i gymhwyso gwybodaeth a phrofiad o ddeddfwriaeth sylfaenol y gyflogres a gofynion treth i ddelio ag ymholiadau cwsmeriaid. Mae cymhwyster cyflogres (e.e. CIPP) yn ddymunol a bydd y rhai hebddynt yn cael eu hannog a'u cefnogi i ymgymryd â chymwysterau proffesiynol

    Proses Asesu

    Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau cais a darparu tystiolaeth yn erbyn y Cymwyseddau a Meini Prawf Penodol i Swyddi a restrir ar yr hysbyseb.

    Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddiannus ar y cam sifftio yn cael eu gwahodd i gyfweliad rhithwir a gynhelir drwy Microsoft Teams a fydd yn profi'r Cymwyseddau a'r Manylion Swyddi a restrir, bydd y cyfweliad hefyd yn cynnwys prawf sefyllfaol (nad oes angen paratoi ymlaen llaw) i asesu cymhwysedd yn erbyn darparu meini prawf cyflogres misol a gwasanaethau pensiynau.  Bydd y prawf tua 30 munud o hyd a bydd yn cael ei gynnal yn syth cyn y cyfweliad.  

    Gwybodaeth arall

    • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
    • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
    • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
    • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
    Kaleigh Simms (Pay & Pensions Manager): sharedservicehelpdesk@gov.wales 0300 025 5454

    Sut i wneud cais

    Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

    I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

    I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

    Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

    Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

    Anghydfod a Chwynion

    Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

    Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.