Swydd Wag -- Cyfreithiwr y Llywodraeth, Cyfraith Gyhoeddus

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Swyddfa'r Prif Weinidog
Gwasanaethau Cyfreithiol
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Gradd 7: Cyflog yn dechrau ar £51,380 (dim modd negodi) gyda dros dair blynedd o brofiad wrth gael cynnig y swydd ac yn codi’n raddol dros 3 blynedd i £61,440 - Swyddog Cyfreithiol: yn dechrau ar £31,210 (dim modd negodi) os oes gennych lai na thair blynedd o brofiad ar ôl cymhwyso wrth gael cynnig y swydd. Gallech fod yn gymwys i gael eich ail-raddio i radd a chyflog Cyfreithiwr pan fyddwch wedi gwneud blwyddyn o wasanaeth neu pan fydd gennych dair blynedd o brofiad ar ôl cymhwyso, pa un bynnag fydd yn digwydd gyntaf (yn amodol ar berfformiad boddhaol). Noder, os bydd y dyddiad pan fo gan unigolyn dair blynedd o brofiad yn dod o fewn y cyfnod prawf, ni fydd yn mynd i'r radd nesaf hyd nes y bydd y cyfnod prawf wedi dod i ben.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Llywodraeth Cymru yng nghanol cyfnod o newid a heriau na welwyd eu tebyg erioed o’r blaen ac mae angen ymgymryd â gwaith hollbwysig mewn cysylltiad â threfniadau pontio’r UE, yr ymateb i bandemig COVID-19 a’r gwaith adfer cysylltiedig, ymhlith pethau eraill. Mae'r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol o fewn Llywodraeth Cymru yn chwilio am nifer o gyfreithwyr hynod ddawnus i gryfhau ei gallu i weithredu mewn cyfnod hanfodol bwysig yn hanes Cymru a'r DU.

A chanddi fwy na 100 o gyfreithwyr a staff cymorth, sy’n gweithio mewn amrywiaeth eang o feysydd pwnc, yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol yw’r adran gyfreithiol fwyaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am ddarparu pob gwasanaeth cyfreithiol i Weinidogion Cymru. Golyga’r gwaith hwn fod cyfreithwyr yr Adran wrth galon y llywodraeth ddatganoledig. Maent yn cynghori ar faterion cymhleth o ran y gyfraith gyhoeddus, ar brosiectau ac iddynt arwyddocâd cenedlaethol, ar ddatblygiadau cyfansoddiadol mawr, ac ar fynd i’r afael â heriau trefniadau pontio’r UE. Mae ganddynt hefyd rôl ganolog wrth ddatblygu deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth Gymreig, a darpariaethau ar gyfer Cymru yn neddfwriaeth y DU. 

Mae’r swyddi a hysbysebir mewn meysydd pwnc sy’n ymwneud â’r gyfraith weinyddol gyhoeddus.

Os yw gweithio ar flaen y gad ym maes y gyfraith yn apelio atoch, byddai Llywodraeth Cymru yn falch pe bai gennych ddiddordeb. Efallai eich bod yn gyfreithiwr ar gychwyn eich gyrfa, yn gyfreithiwr profiadol sy’n dymuno cymhwyso’ch sgiliau mewn cyd-destun newydd a gwahanol, neu’n awyddus i weithio mewn amgylchedd sy’n cynnig ac yn mabwysiadu trefniadau gwaith hyblyg. Croesewir ceisiadau gan rai sydd heb gymhwyso eto hefyd, ond byddech yn cael eich penodi ar yr amod eich bod yn cymhwyso cyn diwedd 2022. Croesewir ceisiadau gan rai sydd wedi mynegi diddordeb o’r blaen mewn ymuno â thîm cyfreithiol Llywodraeth Cymru yn ogystal.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan rai sydd, ar hyn o bryd, yn cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu, er enghraifft pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a phobl anabl.

Prif dasgau

Byddwch yn darparu cyngor cyfreithiol a gwasanaethau drafftio cyfreithiol mewn amgylchedd cyfraith gyhoeddus, lle mae’r gwaith yn digwydd yn gyflym ac yn ymwneud â materion sy’n aml yn bwysig o ran polisi (a’r cyfansoddiad weithiau). Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd tîm, ochr yn ochr â swyddogion polisi a chyfreithwyr profiadol y llywodraeth er mwyn cefnogi gweithredu blaenoriaethau deddfwriaethol Gweinidogion Cymru a’u “Rhaglen Lywodraethu” ehangach.

Am ragor o fanylion am y rolau hyn, darllenwch y pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr:

https://llyw.cymru/sites/default/files/inline-documents/2021-10/gwasanaethau-cyfreithiol-pecyn-gwybodaeth-medi-2021.pdf

Cyfleoedd datblygu

Fel un o gyfreithwyr y llywodraeth byddwch yn rhan o'r Gwasanaeth Sifil ac o Broffesiwn Cyfreithiol y Llywodraeth. Bydd eich profiad yn rhoi dealltwriaeth unigryw ichi o’r setliad datganoli yng Nghymru. Caiff cyfreithwyr gyfle i weithio mewn amgylchedd deinamig sy'n dod â hwy i gysylltiad â phrosiectau ac iddynt arwyddocâd a phroffil cenedlaethol, sy’n eu rhoi wrth galon llywodraeth ddatganoledig, ar flaen y gad o ran datblygiadau cyfansoddiadol mawr, gan gynnwys yr heriau sylweddol sy’n codi wrth inni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, ac yn flaenllaw yn y broses o greu polisi a gwneud cyfraith.

Dyddiad Cau

22/11/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Adnabod y prif faterion mewn problemau cymhleth, gwirio dealltwriaeth neu ddisgwyliadau rhanddeiliad er mwyn dod o hyd i'r opsiwn gorau.

Arwain a Chyfathrebu 

  • Arwain drwy esiampl, gan gyfathrebu mewn modd gonest a chlir a chan ddangos moeseg, uniondeb a didueddrwydd a hyrwyddo amgylchedd gweithio sy’n cefnogi gwerthoedd a Chod y Gwasanaeth Sifil.

Cydweithio a Phartneriaeth 

  • Gweithio fel aelodau effeithiol o dîm, gan reoli deinameg timau wrth weithio ar draws ffiniau Adrannol a ffiniau eraill.

Cyflawni'n Brydlon 

  • Cynnal perfformiad effeithiol mewn amgylchiadau anodd a heriol, gan annog eraill i wneud yr un fath.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. Dealltwriaeth o gyfraith Gyfansoddiadol a Gweinyddol, a setliad datganoli Cymru yn benodol.
  2. Dealltwriaeth o’r fframwaith cyfreithiol sy’n berthnasol i ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd a / neu brofiad o gynghori ar y gyfraith sy’n ymwneud â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol / Deddf Hawliau Dynol 1998.

Proses Asesu

Ffurflen Ymgeisio yn dangos tystiolaeth o bob cymhwysedd a maen prawf penodol i'r swydd.

CV

Bydd proses sifftio gychwynnol yn cael ei chynnal ar yr ymateb i’r meini prawf penodol i'r swydd, dim ond yr ymgeiswyr hynny sy'n bodloni'r gofyniad sylfaenol fydd yn mynd ymlaen i'r cam nesaf. Yna, bydd ail broses sifftio yn asesu'r cymwyseddau, dim ond yr ymgeiswyr hynny sy'n bodloni'r gofyniad sylfaenol fydd yn cael eu gwahodd i'r cam nesaf.

Cam y cyfweliad (os yw'r ymgeisydd wedi llwyddo yn y cam sifftio);

Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yn yr ail gam sifftio yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Bydd y meini prawf penodol i'r swydd a'r cymwyseddau hefyd yn cael eu hasesu yn y cam hwn. Ynogystal, gofynnir i ymgeiswyr a wahoddir i gyfweliad wneud cyflwyniad byr i’r panel a fydd yn cael ei asesu hefyd. Bydd testun y cyflwyniad yn cael ei hysbysu i’r ymgeiswyr a wahoddir i gyfweliad ar yr adeg y cânt eu gwahodd.

Os yw cyfanswm y sgôr a roddir i ymgeiswyr yn gyfartal, bydd yr ymgeiswyr hynny sydd wedi cael sgôr uwch mewn perthynas â’r meini prawf penodol i’r swydd yn cael eu ffafrio.

Adborth

Darperir adborth ar gyfer y cam sifftio dim ond ar ôl i'r cynllun gael ei gwblhau.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Cymhwysedd Proffesiynol:

Rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys i ymarfer fel Cyfreithiwr, Bargyfreithiwr neu Weithredwr Cyfreithiol Siartredig (gan fodloni'r meini prawf mynediad proffesiynol isod, neu rai cyfatebol) yng Nghymru a Lloegr. Caiff cyfreithwyr o dan hyfforddiant, disgybl fargyfreithwyr a'r rhai sy'n hyfforddi i fod yn Weithredwr Cyfreithiol Siartredig wneud cais hefyd, ond bydd yn ofynnol cymhwyso cyn diwedd 2022.

Mynediad proffesiynol i Weithredwyr Cyfreithiol Siartredig (h.y. Cymrodyr): mae Gweithredwyr Cyfreithiol Siartredig yn gymwys i wneud cais (i) pan fo ganddynt Radd Gymwys yn y Gyfraith (QLD); neu (ii) pan fyddant wedi cwblhau Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith (GDL)/yr Arholiad Proffesiynol Cyffredinol (CPE); neu (iii) pan fyddant wedi pasio arholiadau (h.y. wedi cael sgôr o 50% neu uwch) Lefel 6 CILEx ym mhob un o'r saith pwnc cyfraith sylfaenol a ganlyn:

  1. Cyfraith Contractau
  2. Cyfraith Trosedd
  3. Cyfraith Ecwiti ac Ymddiriedolaethau
  4. Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd
  5. Cyfraith Tir
  6. Cyfraith Gyhoeddus
  7. Y Gyfraith Gamweddau

Dylai Gweithredwyr Cyfreithiol Siartredig nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn fodlon derbyn sgôr gyfartalog gyffredinol o 65% neu uwch ar gyfer yr arholiadau yn y saith pwnc cyfraith sylfaenol (pan y'u hastudiwyd ar Lefel 6 CILEx).

Mae'r Diploma Lefel 6 CILEx yn y Gyfraith ac ym maes Ymarfer yn cael ei osod a'i asesu ar Lefel 6, lefel gradd anrhydedd. I'r unigolion y mae ganddynt eisoes radd gymwys yn y gyfraith, mae CILEx hefyd yn cynnig diploma cyflym i Raddedigion y gellir ei ddefnyddio yn hytrach nag LPC neu BPTC i gwblhau eich astudiaethau cyfreithiol. Ar ôl ichi gwblhau'r Diploma Lefel 6 yn y Gyfraith ac ym maes Ymarfer, bydd arnoch angen cwblhau cyfnod o gyflogaeth gymhwyso ac yna bydd modd ichi ymgeisio i fod yn Gymrawd CILEx a defnyddio'r dynodiad CILEx.

Fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi, bydd hi'n ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu tystiolaeth eu bod yn gyfreithwyr cymwys.

LegalRecruitment.WG.Legal@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.