Swydd Wag -- Rheolwr Cronfa’r Economi Gylchol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Yr Is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau a'r Economi Gylchol
HEO - £32,460 - £39,690
£32,460
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
Dwy flynedd. Penodiad cyfnod penodol.
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau.

Pwrpas y swydd

Mae'r swydd hon yn ymwneud â darparu ffrydiau allweddol o'r Gronfa Economi Gylchol – gan gefnogi Awdurdod Lleol, Busnes, Sector Cyhoeddus a'r trydydd sector i gyflymu'r broses o drosglwyddo i economi gylchol. Y Cronfa’r Economi Gylchol, sy'n cefnogi'n uniongyrchol y gwaith o gyflawni ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu ar ganolfannau ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu; gwelliannau o ran ailgylchu; y newid ehangach i economi gylchol, fel elfen hanfodol o ddatgarboneiddio ac un sydd â chyfleoedd economaidd sylweddol ar gyfer Cymru wyrddach a mwy ffyniannus.

Mae Cronfa'r Economi Gylchol yn cefnogi camau gweithredu'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i gyflymu'r broses o symud i economi gylchol, i sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio cyhyd â phosibl ac osgoi gwastraff, gan sicrhau arbedion carbon sylweddol a hanfodol.  Mae'n ei gwneud yn bosibl i ymgeiswyr i fod yn fwy cadarn, drwy wella effeithlonrwydd adnoddau, defnyddio mwy o ddeunydd wedi'i ailgylchu a byrhau a chryfhau cadernid y gadwyn gyflenwi.  Mae elfen fusnes y gronfa wedi creu cyfleoedd gwaith newydd fel rhan o'r symud i economi carbon isel.
Crëwyd y Gronfa Economi Gylchol yn 2019/20, i ddechrau fel cronfa i gefnogi busnesau i ddod yn fwy effeithlon o ran adnoddau a throsi eu prosesau.  Gwnaeth ail elfen o'r Gronfa Economi Gylchol sicrhau bod cyllid ar gael i awdurdodau lleol a chyrff eraill a ariennir yn gyhoeddus i sbarduno cynnydd pellach mewn ailgylchu ac effeithlonrwydd adnoddau.  Yng Ngwanwyn 2020, ehangwyd cwmpas y Gronfa Economi Gylchol i gefnogi'r ymateb ôl-Covid-19 yn uniongyrchol a helpu i sbarduno adferiad gwyrdd yng Nghymru. Canolfannau ailddefnyddio ac atgyweirio a ariennir gan drydedd ffrwd i gefnogi adferiad gwyrdd yng nghanol ein trefi.

Mae'r Is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau a'r Economi Gylchol (RECE) yn datblygu'r gronfa fel elfen allweddol sy'n cyflawni'r strategaeth Mwy nag Ailgylchu.  Mae symud i economi gylchol yn ei gwneud yn ofynnol sefydlu'r seilwaith a'r prosesau sydd eu hangen i sefydlu a phrif ffrydio ailddefnyddio, atgyweirio ac ailweithgynhyrchu o fewn ein heconomi a'n diwylliant, fel yr ydym wedi'i wneud ar gyfer ailgylchu.  Mae cyfleoedd yn bodoli i sicrhau llawer mwy o werth ychwanegol o'n hailgylchu o'r radd flaenaf a'r deunyddiau a gasglwn.

Bydd y swydd hon yn rheoli datblygu, cyflwyno a monitro'r broses ymgeisio, gwerthuso, hawliadau a monitro ar gyfer y cynlluniau a ddarperir gan Is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau a'r Economi Gylchol.  Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod prosesau'n cael eu datblygu a'u cyflawni yn unol â'r fframweithiau rheoleiddio perthnasol. Bydd deiliad y swydd yn rheoli'r gofynion rhagweld ac adrodd ar gyfer y cynlluniau.  Byddant hefyd yn datblygu ac yn cyflwyno prosesau monitro a gwerthuso ar gyfer prosiectau a gymeradwywyd.

Prif dasgau

  1. Datblygu cynllun cyllido’r economi gylchol ymhellach yn seiliedig ar y gwersi a ddysgwyd/gwaith gwerthuso o gylchoedd blaenorol.
  2. Arwain gwaith cyfathrebu ar gyfer cylchoedd ariannu.
  3. Ymdrin ag ymholiadau gan ymgeiswyr, cyn dyfarnu cyllid.
  4. Rheoli a phrosesu ceisiadau am gyllid.
  5. Cynnal diwydrwydd dyladwy, arfarniadau cymhwysedd a sicrhau ansawdd ceisiadau.
  6. Trefnu cyfarfodydd panel a choladu sgoriau aelodau'r panel.
  7. Rheoli canlyniadau cyfarfodydd y panel ar gyfer pob cais.
  8. Cefnogi/cael eich cefnogi gan y tîm ôl-ddyfarnu, ar adegau prysur/llai prysur o ran y llwyth gwaith.
  9. Diweddaru'r Is-adran ar gynnydd.
  10. Cwblhau llythyrau dyfarnu cyllid.
  11. Archwilio’r cyllid a ddyfarnwyd.
  12. Trefnu taliadau ar gyfer cyllid a ddyrannwyd.
  13. Ymdrin ag ymholiadau gan reolwyr prosiect ar hawliadau talu.
  14. Arwain ar waith datblygu astudiaethau achos ar gyfer prosiectau a ariennir.
  15. Hyrwyddo'r gronfa'n gadarnhaol.
  16. Cefnogi gwaith rheoli grantiau eraill ar draws RECE.
  17. Mynychu cyfarfodydd a chysylltu ar draws Llywodraeth Cymru, gyda grwpiau partneriaeth allanol a sefydliadau eraill i gynrychioli buddiannau'r Is-adran.
  18. Cyfrannu at ymatebion Gweinidogol a cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth, a’u drafftio yn ôl y gofyn.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd yn cynnig cyfle i weithio mewn tîm cyflawni gweithredol proffil uchel, gan gefnogi mentrau polisi sy’n anelu at gefnogi busnesau, y sector cyhoeddus a chymunedau.  Mae'r swydd yn cynnig y cyfle i gyfrannu at waith datblygu a gweithredu cynlluniau yn y dyfodol.

Dyddiad Cau

26/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Newid a Gwella - Adolygu gweithdrefnau neu systemau'n rheolaidd gyda thimau i nodi gwelliannau a symleiddio prosesau a gwneud penderfyniadau.

Arwain a Chyfathrebu - Cyfathrebu'n barhaus â staff, gan helpu i egluro nodau a gweithgareddau a'r cysylltiadau rhwng y strategaeth hon ac Adrannol. 

Cydweithio a Phartneru - Sefydlu perthnasoedd ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi'r gwaith o gyflawni canlyniadau busnes. 

Cyflawni ar Gyflymder - monitro gwaith eich hun a'ch tîm yn rheolaidd yn erbyn cerrig milltir neu dargedau a gweithredu'n brydlon i gadw gwaith ar y trywydd iawn a chynnal perfformiad.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  1. Profiad o reoli grantiau yn y sector cyhoeddus.
  2. Profiad a dealltwriaeth gadarn o systemau rheoli ariannol a monitro cyllidebau.
  3. Profiad o reoli tîm neu dimau mewn amgylchedd cyflawni gweithredol o bwysau uchel.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio a gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i fynychu cyfweliad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio a gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i fynychu cyfweliad.
Gail Merriman - ResourceEfficiencyAndCircularEconomy@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.