Swydd Wag -- Uwch Reolwr Cyflawni

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Taliadau Gwledig Cymru (RPW) - Cangen TG RPW
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Cyflog cychwynnol fyddai fel arfer yn £53,440
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Cefndir  

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru, gyda chyllideb flynyddol o ryw £15 miliwn. Mae’n gyfrifol am agweddau sylfaenol ar fywyd cyhoeddus Cymru gan gynnwys iechyd, addysg, yr economi, trafnidiaeth, amaeth a’r amgylchedd.

Pwrpas y swydd

Daw’r swydd o dan y gangen technoleg gwybodaeth (TG) yn is-adran Taliadau Gwledig Cymru (RPW). Yr is-adran hon sy’n gyfrifol am reoli datblygiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (NMS), y cyfnod pontio iddynt ac am eu rhoi ar waith a’u cyflenwi yn y dyfodol. Mae’r ddau’n rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn ei Rhaglen Lywodraethu i greu system newydd o gymorth i ffermwyr fydd yn gwneud y gorau trwy ffermio o bŵer amddiffynnol natur.

Hefyd, RPW yw adain Cyflawni Gweithredol Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllun cymorth arfaethedig y Môr a Physgodfeydd ynghyd â grantiau eraill yr Amgylchedd a Materion Gwledig gan gynnwys coedwigaeth a chreu coetir. Bydd yn y cyfamser yn parhau i ddarparu Cynllun y Taliad Sylfaenol, y Rhaglen Datblygu Gwledig a rhaglenni EMFF 2014-2020 y CE yng Nghymru hyd at ddiwedd 2023.

Cangen TG yr RWP sy’n darparu’r gwasanaeth digidol y mae’n rhaid wrtho i roi’r SFS a’r NMS, ac ymrwymiadau eraill y Rhaglen Lywodraethu o fewn Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ar waith. Mae’r gangen yn gyfrifol am gynnal systemau TG cyfredol ac arfaethedig y bydd gweithgarwch yr Is-adran yn dibynnu arnynt, gan sicrhau bod datblygiad yn adlewyrchu gofynion busnes, arferion gorau’r diwydiant TG, rheoliadau’r CE a’r DU a pholisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru. Mae’r gangen yn gweithio gyda chontractau darparu gwasanaethau TG allanol ac yn gweithio ar sawl safle yng Nghymru.

Y rôl

Bydd gan y Rheolwr Prosiectau Technegol ran hanfodol i’w chwarae o ran cynnal nifer o brosiectau o fewn cangen TG yr RPW fel rhan o Raglen yr SFS. Bydd Tîm y Rheolwr Prosiectau Technegol yn arwain y Rhaglen TB at gerrig milltir penodol a thîm y prosiect o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod amcanion y prosiect yn cael eu diffinio’n glir ac yn cael eu cyflawni yn unol â’r amser, y gost a’r ansawdd y cytunwyd arnynt.

Bydd y Rheolwr Prosiectau Technegol yn gweithio yn unol â’r trefniadau llywodraethu penodedig, yn cadw at safonau adrodd a rheoli risgiau/problemau effeithiol ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid, i sicrhau bod canlyniadau’r prosiectau yn cael eu cyflawni i wireddu manteision ac amcanion y Rhaglen.

Mae’r rôl yn gofyn am reolaeth weithredol effeithiol ar adnoddau tîm yr RPW ac am gydweithio effeithiol ag adrannau eraill Llywodraeth Cymru sydd weithiau â gofynion ac amserlen sy’n cystadlu.

Prif dasgau

Llywodraethiant:

  • Cefnogi llywodraethiant a phrosesau penderfynu effeithiol ar gyfer y Prosiect a chyflawni ei amcanion yn llwyddiannus.

Cyflawni:

  • Arwain prosiectau i sicrhau canlyniadau yn unol â’r amserlen, y gost a’r ansawdd y cytunwyd arnynt

Rheoli Prosiectau

  • Hyfforddi ac arwain timau mewn arferion Agile. Gweithredu fel arbenigwr a eiriolwr cydnabyddedig ar gyfer y dulliau, gan adlewyrchu a herio’r tîm yn barhaus. Creu neu teilwra ffyrdd newydd o weithio, gan arloesi’n gyson.
  • Arwain y sgarmes ddyddiol a bod yn gyfrifol amdani, gan weithio gyda’r dulliau Ystwyth a ddefnyddir yn RPW
  • Rheoli ac arwain prosiectau a thimau prosiectau yn effeithiol o ddydd i ddydd
  • Rheoli’r pontio rhwng camau gwahanol prosiectau’n effeithiol.
  • Cydlynu’r gweithgareddau ar draws tîm prosiect, y strwythurau rheoli a’r partneriaid cyflawni. Sbarduno a rhoi gwybod i dimau eraill yn Llywodraeth Cymru am amserlen a gofynion prosiectau. 
  • Cysylltu ag adrannau eraill Llywodraeth Cymru i sicrhau bod prosiectau a’u gofynion yn cael eu cyflawni’n brydlon, yn unol â’r safonau a ddisgwylir.

Perfformiad a Rheolaethau’r Prosiect:

  • Rhaeadru’r weledigaeth a’i mynegi ar ffurf amcanion cyflawni wrth y tîm
  • Sicrhau bod cynlluniau prosiectau wedi’u cysylltu â’i gilydd ac yn lleihau unrhyw risgiau/problemau a nodir
  • Yn gyfrifol am reoli’r gwaith DEVOPS RPW o ddydd i ddydd i sicrhau bod canlyniadau prosiectau’n parhau’n unol â’r safon ac yn brydlon.
  • Monitro perfformiad prosiectau i sicrhau ei fod yn cael eu cyflawni’n brydlon yn unol â cherrig milltir y Rhaglen.
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am statws prosiectau i Reolwr Cyflawni’r Rhaglen TG
  • Cysylltu â thimau prosiectau i sicrhau y bodlonir y safonau a’r cerrig milltir, a bod sianelu cyfathrebu â Rhanddeiliaid yn eu lle ac yn effeithiol.

Rheoli Rhanddeiliaid:

  • Gweithio gydag Uwch Berchennog Cyfrifol prosiectau, Rheolwr Cyflawni Rhaglenni TG a’r uwch dîm rheoli yn RPW, nodi prif randdeiliaid a datblygu perthynas effeithiol, rheoli perthnasoedd mewnol ac allanol yn ôl y gofyn.
  • Cymryd cyfrifoldeb am berthynas cymhleth gyda chyflenwyr dan gontract. Adnabod cyflenwyr fframweithiau cytundebol priodol. Trafod gyda chyflenwyr dan gontract i gael gwerth da amlwg.

Gwireddu Manteision:

  • Sicrhau bod manteision yn cael eu nodi, eu deall, eu mesur, eu tracio a’u perchenogi
  • Sicrhau bod Strategaeth Gwireddu Manteision briodol yn ei lle, a monitro manteision yn y tymor hir ar sail Achos Busnes y Rhaglen.

Perspectif Cylch Bywyd:

  • Cymhwyso profiad mewn sawl rhan o gylch bywyd y cynnyrch. Cydnabod y pethau priodol i’w cyflawni a’r bobl iawn i gwrdd a nhw, gweithio gyda gweithrediadau dosbarthu Agile eraill drwy gydol cylch bywyd y cynnyrch.
  • Sefydlu model cymorth Busnes Arferol priodol ar gyfer y gwasanaeth (au) newydd.

Rheoli Newid:

  • Sicrhau’ch bod yn dilyn prosesau Rheoli Newid o fewn y Rhaglen, cytuno ar newidiadau i’r canlyniadau gyda Llywodraethwr prosiect ac Uwch Berchennog Cyfrifol prosiect, a’u cofnodi.
  • Rhoi gwybodaeth am newidiadau i’r canlyniadau i randdeiliaid a thimau’r prosiect yn ôl y gofyn.

Sicrwydd:

  • Rhoi sicrwydd i reolwyr TG RPW y gwnaiff y prosiect gyflawni’i amcanion yn brydlon ac o fewn y gyllideb ac yn unol â’r ansawdd y cytunwyd arnynt.
  • Cynnal adolygiadau sicrwydd a helpu i roi argymhellion ar waith.
  • Trefnu prosesau sicrwydd fel adolygiadau porth, yn ôl y gofyn.
  • Sicrhau bod mesurau diogelwch TG RPW yn cydymffurfio â pholisïau diogelwch Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cynnal ITHC priodol a rheoli gweithgarwch.

Risgiau a phroblemau:

  • Rhoi adroddiad a gwybodaeth am hynt y prosiect ac am unrhyw Risgiau/Problemau trwy lenwi a chadw’r gofrestr risgiau/log problemau.
  • Gweithio law yn llaw ag Uwch Berchennog Cyfrifol prosiect a PMO y Rhaglen
  • Datblygu mesurau lliniaru a’u dwysáu yn ôl y gofyn. Nodi rhyngddibyniaethau a gweithio i’w rheoli.

Dynameg tîm a chydweithio:           

  • Adnabod problemau neu faterion yn deinamig y tîm a’u cywiro. Nodi materion drwy 'wiriadau iechyd' Agile gyda'r tîm, a helpu i ysgogi’r ymatebion cywir. Cymryd rhan mewn mathau amrywiol o adborth, dewis y math cywir ar yr adeg briodol a sicrhau’r drafodaeth a’r ffon benderfyniad. Gallwch gyflymu cylch datblygu'r tîm, gan hyrwyddo perfformiad unigol a thîm effeithiol.
  • Dangos ymrwymiad i ddatblygiad personol.

Cyfleoedd datblygu

Mae hon yn swydd drom ym mhen blaen gwasanaethau digidol geo-ofodol Llywodraeth Cymru, lle bydd deiliad y swydd yn magu profiad o weithio mewn amgylchedd deinamig sy’n rhoi’r cwsmer yn gyntaf.

Bydd cyfle i ddeiliad y swydd weithio’n glos ag uwch swyddogion o fewn Llywodraeth Cymru a chyrff eraill.

Mae llawer iawn o fanteision o weithio i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • 31 diwrnod o wyliau a 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint.
  • Trefniadau gweithio hyblyg i’ch helpu i gadw’r ddysgl yn wastad rhwng bywyd a gwaith.
  • Bod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

Manteision eraill

  • Gweithio hyblyg – Rydyn ni’n helpu staff i reoli’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith trwy weithio gartref (gan ddibynnu ar anghenion y busnes ac os yw’n briodol i’r swydd)
  • Patrymau Gweithio – mae gwahanol opsiynau ar gael: Amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, Oriau cywasgedig, amser tymor ac ati (gan ddibynnu ar anghenion y busnes ac os yw’n briodol i’r swydd)
  • Cynllun Ceir Gwyrdd – sy'n eich galluogi i brydlesu car newydd sbon sydd ag allyriadau carbon isel iawn a thalu amdano drwy aberthu cyflog
  • Cyllid Cefnogol – Rhagdalu benthyciadau cyflog ar gyfer amrywiaeth o sefyllfaoedd gan gynnwys: tocynnau teithio tymor, gofal llygaid, offer TG, Beicio i’r Gwaith (Cycle2Work) a mwy
  • Absenoldeb rhiant – 26 wythnos absenoldeb mamolaeth/mabwysiadu ar gyflog llawn a 15 diwrnod o absenoldeb tadolaeth
  • Amser Llesiant – Awr lesiant bwrpasol bob wythnos i'w defnyddio yn ystod oriau swyddfa. Boed mynd am dro yn y parc lleol, ioga, myfyrdod neu fynd i’r gampfa, mae hyn yn amser i chi
  • Tâl – Incrementau cystadleuol drwy’r holl fandiau cyflog
  • Hyfforddiant a Dyrchafiad - hyfforddiant a datblygiad wedi'u teilwra i'ch rôl
  • Cynhwysiant ac Amrywiaeth – Rydym yn annog gweithle cyfoethog ac amrywiol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn gallu bod nhw eu hunain, ac nid oes unrhyw un yn teimlo y gwahaniaethir yn ei erbyn
  • Ymgysylltu â Staff – Mae gennym ystod eang o rwydweithiau bywiog a chroesawgar iawn, gan gynnwys: Awtistiaeth, Gofalwyr, Menywod Ynghyd, PRISM (ein rhwydwaith LHDTC+) a llawer mwy
  • Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol – Timau ymroddedig i ddarparu’r cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen fwyaf ar staff
  • Iechyd Meddwl – Rhaglen Cymorth i Weithwyr a llinell gymorth bwrpasol i gefnogi staff i ofalu am eu hiechyd meddwl
  • Offer TG cyfredol – Gliniaduron gydag Office 365 i roi mwy o hyblygrwydd i chi o ran pryd, sut a ble i weithio
  • 3 Undeb – Mae 3 undeb yn weithredol yn ein sefydliad ar hyn o bryd

Dyddiad Cau

17/04/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau;

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn Ymddygiadau o Broffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil a fframweithiau DDaT.

Gweld y Darlun Mawr – Sicrhau bod cynlluniau a gweithgareddau yn eich maes gwaith yn adlewyrchu blaenoriaethau strategol ehangach, a chyfathrebu’n effeithiol ag uwch arweinwyr i ddylanwadu ar strategaethau’r dyfodol.

Gweithio gyda’n gilydd – Meithrin a chynnal rhwydwaith o gydweithwyr a chysylltiadau i gyflawni amcanion ar y cyd.  Herio tybiaethau ond bod yn barod i gyfaddawdu os bydd hynny’n fanteisiol i’r gwaith.

Sgiliau DDaT sy'n gysylltiedig â Fframwaith: Delivery manager - GOV.UK (www.gov.uk)

Cynnal momentwm cyflenwi. Gallwch optimeddio llif cyflenwi timau. Gallwch fynd i'r afael â'r risgiau mwyaf cymhleth, materion a dibyniaethau gan gynnwys lle mae perchnogaeth yn bodoli y tu allan i'r tîm neu nad oes perchnogaeth glir yn bodoli.

Cyfathrebu rhwng y technegol a'r di-dechnegol. Gallwch gyfryngu rhwng pobl a diwygio perthynas, cyfathrebu gyda rhanddeiliaid ar bob lefel.


Meini Prawf Penodol i’r Swydd;

Mae'r sgiliau technegol a ganlyn yn HANFODOL ar gyfer llwyddo yn y rôl hon. Gwnewch yn siŵr eich bod yn atodi CV, heb fod yn hwy na dwy ochr o A4, sy'n dangos eich gallu mewn perthynas â'r sgiliau hyn.

  1. Profiad o weithio mewn amgylchedd ystwyth sy’n symud yn gyflym, gan ddefnyddio technegau rheoli prosiectau cyfredol i gyflawni amcanion a nodau.
  2. Profiad o weithio law yn llaw â phartneriaid cyflawni fel Integreiddydd Gwasanaethau i sefydlu systemau a phrosesau sy’n cyflawni canlyniadau busnes.
  3. Profiad o sicrhau atebion TG effeithiol, cynnal cynlluniau effeithiol a mesurau effeithiol ar gyfer rheoli prosiectau, rheoli risgiau a phroblemau a rheoli rhanddeiliaid.

Proses Asesu

Bydd eich cais yn cael ei asesu mewn tri cham:

  1. Bydd proses sifftio gychwynnol yn cael ei chynnal yn erbyn eich CV a'r sgiliau penodol sy'n hanfodol i'r swydd. Fel rhan o'ch cais gofynnir ichi lanlwytho copi o'ch CV. Ni ddylai eich CV fod yn hwy na dwy ochr A4. Bydd unrhyw beth dros ddwy ochr A4 yn cael ei ddiystyru, ac ni fydd yn cael ei ystyried yn ystod y cam sifftio. Gofynnir ichi dynnu eich enw a'ch cyfeiriad o'ch CV i'n helpu ni i gynnal proses sifftio ddienw.
  2. Gwahoddir ymgeiswyr sydd wedi pasio'r cam sifftio cychwynnol i gymryd rhan yn yr Ymarfer Technegol.
  3. Wedyn gwahoddir ymgeiswyr sydd wedi pasio'r Ymarfer Technegol i gymryd rhan mewn cyfweliad.

Rhoddir rhagor o wybodaeth am y camau hyn yn dilyn y cam sifftio.

Y Rhestr Wrth Gefn

Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus sydd wedi derbyn yr isafswm sgôr ym mhob asesiad yn cael y cyfle i fod ar restr 'wrth gefn' Llywodraeth Cymru am 12 mis o ddyddiad cyhoeddi'r canlyniadau.  Os bydd swyddi eraill yn cael eu creu neu os bydd swyddi presennol yn dod yn wag yn ystod yr adeg hon, mae'n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig y rôl i'r ymgeisydd hwnnw ar y rhestr wrth gefn sydd â'r sgôr uchaf.  Os bydd yn gwrthod y swydd, gall Llywodraeth Cymru gynnig y swydd i'r ymgeisydd â'r sgôr uchaf nesaf ac yn y blaen.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hamcanion cydraddoldeb strategol yn 2016 ac roedd y rhain yn cynnwys ymrwymiad i fod yn batrwm o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu ceisiadau gan bawb, ni waeth be fo’u sefyllfa o ran oedran, priodas (yn cynnwys priodasau o’r un rhyw) a phartneriaeth sifil, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, hunaniaeth rhyw, anabledd, hil, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd/mamolaeth.

Yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi ennill Statws Arweinydd Lefel 3 am fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn wythfed yn y DU ar hyn o bryd ym Mynegai Gweithle Stonewall sy’n cefnogi gweithwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT), rydym wedi ymuno â’r Siarter Hil yn y Gwaith ac rydym wedi ein cynnwys ar y rhestr o sefydliadau sydd wedi’u cydnabod fel cyflogwyr cynhwysol o ran hil. Ymhellach, rydym wedi ennill statws Aur gan a:gender, sef rhwydwaith cymorth cynhwysol i staff yn Adrannau ac Asiantaethau’r Llywodraeth, sy’n ymdrin â phob agwedd ar ailbennu rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd, mynegiant rhywedd a phobl ryngrywiol. Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr o ddewis, ac yn sefydliad y mae pobl yn dymuno ac yn falch o gael gweithio ynddo. Oherwydd hyn, rydym wedi rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth galon a chraidd ein gwerthoedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas sy’n analluogi pobl sydd ag amhariadau neu gyflyrau iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pob aelod o staff (neu aelodau staff newydd posibl) berfformio ar ei orau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd (“amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd”).

Enw cyswllt os hoffech fwy o wybodaeth am y swydd  

Shared Service Helpdesk - SharedServiceHelpdesk@gov.wales - 0300 0255454

Sut i wneud cais

Dylai pob cais am y swydd hon gael ei wneud ar-lein drwy system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych anabledd sy’n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, anfonwch e-bost at SharedServiceHelpdesk@gov.cymru i ofyn am becyn cais mewn fformat arall, neu i ofyn am addasiad rhesymol sy'n gysylltiedig ag anabledd er mwyn cyflwyno'ch cais.

I wneud cais, bydd angen i chi greu cyfrif ar ein system ymgeisio ar-lein.  Cliciwch y botwm 'Gwneud cais' isod, a gofynnir i chi 'Mewngofnodi' os oes gennych gyfrif eisoes, neu 'Cofrestru' os nad oes gennych gyfrif eto. Dim ond ychydig funudau y mae cofrestru'n ei gymryd i'w gwblhau.   Bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i allu cofrestru.  Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer cyfrif ac wedi mewngofnodi, byddwch yn mynd i dudalen y ffurflen gais ar-lein, a bydd angen i chi ei llenwi'n llawn a'i chyflwyno cyn y dyddiad cau.

Os hoffech wneud cais am y swydd wag hon yn Saesneg, defnyddiwch y ddolen 'Newid Iaith’ ar frig y dudalen hon, i fynd â chi i fersiwn Saesneg yr hysbyseb hon, a gallwch wneud cais yn Saesneg.

Wrth ddangos eich addasrwydd ar gyfer y swydd, argymhellir eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau'r Gwasanaeth Sifil (linc) Civil Service Competency Framework (link)

Hugh Morgan - RPWCommunications@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.