Swydd Wag -- Pennaeth Gwasanaethau Fferylliaeth a Rhagnodi

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Bydd cyflog cychwynnol rhwng £51,380 a £57,190 yn cael ei gynnig i'r ymgeisydd llwyddiannus ar sail eu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad a pherfformiad yn y cyfweliad. Nid yw'r ystod hon yn agored i drafodaeth.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

 Mae cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol "Cymru Iachach" yn nodi'r uchelgais i ddiwallu anghenion iechyd a lles pobl yn well yn y cartref neu'n agos ato, gan wella'r broses o integreiddio gwasanaethau, yn enwedig yn y gymuned, a chanolbwyntio'n gryfach ar atal.

 Mae gofal sylfaenol a chymunedol yn un o’r pum blaenoriaeth Weinidogol yn Fframwaith Cynllunio Blynyddol GIG Cymru 2021 i 2022.  Mae Fframwaith Cynllunio Gofal Sylfaenol a Chymunedol 2021-22 yn nodi'r blaenoriaethau penodol ar gyfer gofal sylfaenol a chymunedol – o ran COVID-19 ac o ran adfer gweithgarwch nad yw'n ymwneud â COVID-19, gan adeiladu ar wersi allweddol o 2020-21.

 Mae'r gangen yn cefnogi nifer o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu a blaenoriaethau Cymru Iachach, yn enwedig: sicrhau gwell mynediad at feddygon, nyrsys, deintyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill; diwygio gofal sylfaenol a gweithredu “Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach”.

 Bydd deiliad y swydd yn ymwneud â’r gwaith o ddatblygu a gweithredu polisi ar amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â gwasanaethau fferylliaeth a rhagnodi.  

 

Gwasanaethau Fferylliaeth a Rhagnodi.

 Mae'r tîm yn gweithredu ar draws dau faes blaenoriaeth; Mynediad at Feddyginiaethau a Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach.

 Mae Mynediad at Feddyginiaethau yn cynnwys amrywiaeth o feysydd polisi gan gynnwys gwerthuso meddyginiaethau newydd, y Gronfa Triniaethau Newydd, Ceisiadau am Arian i Gleifion Unigol a phresgripsiynau am ddim. Yn ogystal, gan weithio ochr yn ochr ag Adrannau Iechyd y DU, cydweithwyr yn y GIG, y Diwydiant Fferyllol a'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, mae'r gangen yn ymwneud â'r Cynllun Prisio a Mynediad Gwirfoddol, y Cynllun Mynediad i Gleifion, Cytundebau Mynediad Masnachol a Chytundebau Mynediad a Reolir. Mae gwaith ar brinder meddyginiaethau a gwydnwch hirdymor mewn ymateb i COVID-19 ac Ymadael â'r UE hefyd yn cael ei wneud drwy gydweithio â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

 Mae “Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach” yn strategaeth 10 mlynedd sy'n nodi'r dull system gyfan o drawsnewid gwasanaethau fferyllol er mwyn sicrhau'r manteision iechyd mwyaf posibl i ddinasyddion Cymru o'u hymwneud â'r proffesiwn fferyllol. Wrth wraidd y gwaith hwn o ddatblygu polisi mae diwallu anghenion a gwella mynediad a chanlyniadau i gleifion a'r cyhoedd drwy ddarparu tystiolaeth o ofal sy'n canolbwyntio ar gleifion, wedi'i ategu gan ddiwygiadau i’r fframwaith contractiol presennol ar gyfer fferylliaeth gymunedol. Yn ogystal, rydym yn ymwneud â datblygu a gweithredu cynllun adfer ar gyfer gwasanaethau deintyddol ac iechyd y geg ar ôl pandemig COVID-19 gan ddefnyddio mesurau newydd sy'n seiliedig ar ddulliau casglu ac asesu data presennol a ddatblygwyd ar gyfer diwygio contractau.

 Mae'r rôl yn gofyn am berthynas waith effeithiol gydag ystod eang o randdeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru yn yr Is-adran Gofal Sylfaenol a'r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ehangach, Prif Swyddogion Fferyllol a'u dirprwyon yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, Byrddau Iechyd, gweithwyr iechyd proffesiynol, Contractwyr Annibynnol Fferylliaeth a'u corff cynrychioliadol, y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (swyddfa Cymru), Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan, Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, partneriaid y GIG megis Technoleg Iechyd Cymru a'r Ganolfan Gwyddor Bywyd, cyrff academaidd cenedlaethol a'r DU, Grŵp Gweithredu Strategaeth Ymchwil Cymru, Cymdeithas Technegwyr Fferylliaeth y DU (swyddfa Cymru), Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, Ymddiriedolaeth Thalidomide, Adrannau Iechyd y DU a'r cyfryngau drwy Swyddfa'r Wasg Llywodraeth Cymru.

 Mae hwn yn faes gwaith uchel ei broffil, sy’n denu sylw sylweddol yn y cyfryngau ac yn wleidyddol a bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd reoli'r gofynion hyn yn effeithiol tra'n datblygu polisi ochr yn ochr ag ymgysylltu cadarn ag amrywiaeth o randdeiliaid a rhaglenni cenedlaethol. 

 Bydd disgwyl i'r unigolyn weithio ar brosiectau cydgysylltiedig sy'n ymdrin â sawl agwedd ar ddiwygio contractau, datblygu polisi ar draws meysydd contractwyr fferyllol a'r proffesiwn fferylliaeth ehangach. Bydd yn cael trosolwg rhagorol o'r newidiadau a geisir ym maes Gofal Sylfaenol yng Nghymru.

 

Prif dasgau

Sicrhau y darperir cyngor amserol priodol o ansawdd uchel ar wasanaethau fferylliaeth a rhagnodi i Weinidogion a chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru  

 Darparu arweinyddiaeth gref ac effeithiol, gan gynrychioli buddiannau Llywodraeth Cymru a Chymru mewn gwasanaethau fferylliaeth a rhagnodi.

 Arwain y polisi ar wella mynediad at wasanaethau fferyllol, gan ganolbwyntio ar ddulliau o wella mynediad, anghenion mynediad a sut y caiff mynediad ei wella yn y dyfodol. Mae mynediad yn flaenoriaeth allweddol i Weinidogion ac yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu.

 Cefnogi'r Gweinidog, uwch-swyddogion, a rhanddeiliaid allanol, i lunio a chyflawni amcanion polisi o fewn yr adnoddau sydd ar gael yn erbyn Rhaglenni Cenedlaethol fel Model Gofal Sylfaenol i Gymru, Datblygu Clystyrau’n Gyflym, Fframwaith Clinigol Cenedlaethol; ac Adfer, Ailosod a Thrawsnewid.

Cydweithio drwy ddull tair ffordd o drafod rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a Fferylliaeth Gymunedol Cymru i weithredu gwelliannau i'r Fframwaith Contractiol ar gyfer Fferylliaeth Gymunedol o flwyddyn i flwyddyn

 Arwain y polisi “Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach” gan gynnwys gweithgareddau sy'n cyd-fynd â thrawsnewid a chynaliadwyedd gwasanaethau fferylliaeth a rhagnodi

 Arwain y polisi datgarboneiddio gwasanaethau fferylliaeth a rhagnodi mewn ymateb i ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu a chefnogi'r Is-adran Gofal Sylfaenol yn eu hymateb

 Gweithio gyda chydweithwyr yn LlC a DHCW i lywio a dylanwadu ar ddatblygu a defnyddio systemau TG i helpu’r maes fferylliaeth i ddarparu gwasanaethau yn unol â pholisi strategol Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol

 Goruchwylio, dirprwyo a chymeradwyo pob Apêl Fferylliaeth ar ran Gweinidogion Cymru yn unol â Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol 2020

 Goruchwylio a dirprwyo gweithgarwch polisi o fewn Mynediad at Feddyginiaethau, gan gynnwys: y Gronfa Triniaethau Newydd, ymadael â'r UE, proses Cais am Gyllid Cleifion Unigol, parhad y cyflenwad meddyginiaethau a chanabis meddyginiaethol

 Rheoli'r defnydd o gynghorwyr proffesiynol (ariannol, cyfreithiol, masnachol ac ati) i sicrhau bod gwybodaeth gadarn a dibynadwy ar gael ar gyfer penderfyniadau effeithiol

Cyfleoedd datblygu

Mae gan y swydd hon gyfleoedd datblygu sylweddol o ran rheoli a datblygu/cyflawni polisïau. Bydd deiliad y swydd hefyd yn gallu ehangu ar yr ystod lawn o gymwyseddau. 

Gyda golwg ar ddatblygu gyrfa yn y dyfodol, mae'n cynnig: digon o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau polisi cyflawn; y cyfle i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol cryf, gan weithio gydag ystod eang o gysylltiadau mewn Adrannau eraill, y GIG a'r proffesiwn fferyllol; a phrofiad uniongyrchol o weithredu polisi, cyflawni a rheoli perfformiad, gan gynnwys helpu i lunio deddfwriaeth a drafftio dogfennau polisi a chanllawiau. Mae cyllideb sylweddol wedi’i dirprwyo i’r swydd hon a chyfrifoldeb personol sy'n gysylltiedig â thrafod yn rheolaidd â Gweinidogion, cydweithwyr proffesiynol yn y swyddfa ac yn allanol gyda'r proffesiwn fferyllol a'r GIG yn ehangach.

Mae'r swydd hefyd yn cynnig y cyfle i chwarae rôl arweiniol wrth gyflawni agenda feddyginiaethau Llywodraeth Cymru a dangos cymhwysedd ar y lefel uwch.  Mae hyn yn uchel ei broffil ac o bwysigrwydd strategol yng nghyd-destun yr agenda iechyd gyffredinol.

 Mae'r Is-adran Gofal Sylfaenol wedi ymrwymo'n llwyr i hyfforddi a datblygu ei holl staff.  Bydd deiliad y swydd yn derbyn cymorth a hyfforddiant rheoli llinell. Bydd deiliad y swydd yn cael cymorth i ymgymryd ag unrhyw weithgaredd hyfforddi a datblygu perthnasol.

Dyddiad Cau

18/08/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymyseddau

Newid a Gwella - Casglu, defnyddio a rhannu sylwadau a safbwyntiau eu cwsmeriaid yn effeithiol, gan gynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid, er mwyn gwella’r polisi a’r ffordd y caiff ei weithredu

Gwneud penderfyniadau effeithiol - Llywio a chydbwyso ystod o bwysau gwleidyddol, cenedlaethol a rhyngwladol i lunio strategaeth a blaenoriaethau'r Adran.

Arwain a chyfathrebu - Bod yn weladwy a chredadwy iawn ar y lefelau uchaf ar draws a'r tu allan i'r Gwasanaeth Sifil, gan gyfathrebu pwrpas a chyfeiriad gydag eglurder a brwdfrydedd.

Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Mynd ati i feithrin a chynnal rhwydwaith o gydweithwyr a chysylltiadau, er mwyn bwrw ati ag amcanion a buddiannau sy’n gyffredin rhyngddynt.


Meini Prawf Penodol i'r Swydd 

1. Arweinyddiaeth – Yn gweithio'n dda gydag eraill ac yn meithrin perthynas effeithiol i gyflawni nodau corfforaethol. Trefnus iawn, yn gallu rheoli eich llwyth gwaith eich hun a gweithio o fewn terfynau amser tynn pan fo angen

2. Dadansoddi a defnyddio tystiolaeth – Dadansoddi gwybodaeth, gan ystyried cyngor perthnasol a barn arbenigol.


3. Cyfathrebu – Sgiliau cyfathrebu da, yn gallu gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar unrhyw lefel. Gwrando a bwydo'n ôl yn effeithiol.

 

Proses Asesu

Math o Gyflog:
Mae hon yn rôl barhaol, sy'n agored i'r rhai sy'n dymuno gwneud cais ar sail benthyciad neu secondiad.

Broses Ddethol:
Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio, yna bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad lle gofynnir iddynt wneud cyflwyniad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Alex Slade alex.slade2@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.