Swydd Wag -- Swyddog Ymchwil ac Uwch-swyddog Ymchwil

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Ymchwil Gymdeithasol
SEO - £41,700 - £49,370
Gwaelod yr ystod cyflog
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Ein nod yw helpu Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru i adeiladu Cymru decach, wyrddach a mwy cyfartal.

Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig a galluog o bob cefndir. Nid yw profiad blaenorol fel gwas sifil yn ofynnol. Rydym yn chwilio am bobl â phrofiadau bywyd gwahanol i’n helpu yn ein penderfyniadau. Pobl sy’n gallu ffynnu mewn timau cydweithredol a fydd yn helpu i newid y ffordd rydym yn meddwl. Rydym yn chwilio am geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol sy'n dod â sgiliau newydd, profiadau bywyd a safbwyntiau gwahanol i'n gwaith.

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â grŵp o ymchwilwyr sy'n gweithio fel rhan o broffesiwn Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth. Fel Swyddog Ymchwil neu Uwch-swyddog Ymchwil yn Llywodraeth Cymru, byddai deiliaid y swyddi yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr polisi a dadansoddwyr eraill. Bydd deiliaid y swyddi yn gyfrifol am ddatblygu a goruchwylio rhaglen ymchwil.

Dyma'r math o swyddi a gynigir:

  • Uwch-swyddog Ymchwil Tai. Bydd y swydd yn arwain ar weithgarwch ymchwil a gwerthuso yn y Gyfarwyddiaeth Tai ac Adfywio ar nifer o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Digartrefedd, Rhenti Teg a Fforddiadwyedd, Diogelwch Adeiladau a Diwygiadau Preswylwyr a Datgarboneiddio Tai. Mae’r rôl yn golygu gweithio’n agos gyda dadansoddwyr eraill yn Llywodraeth Cymru yn ogystal ag uwch-reolwyr o bob rhan o’r sefydliad ac ymchwilwyr allanol o nifer o wahanol sefydliadau. Mae’r rôl yn cynnwys cyfrifoldeb rheoli llinell ar gyfer Swyddog Ymchwil.
  • Uwch-swyddog Ymchwil Ysgolion. Ymchwil i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ac arfarnu polisïau, darparu cyngor ar gynllunio ymgyngoriadau, rhoi cymorth o ran gweithredu a gwerthuso effaith ar gyfer ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru i sicrhau bod tymhorau ysgol a gwyliau ysgol yn gweithio yn y ffordd orau posibl ar gyfer dysgu ac i deuluoedd.
  • Uwch-swyddog Ymchwil Datblygu Cynnwys Arolwg Cenedlaethol Cymru. Blaenoriaethu pynciau’r arolwg a datblygu a rheoli ei gynnwys ar gyfer pob blwyddyn yr arolwg. Ymgynghori â defnyddwyr; nodi a blaenoriaethu anghenion gwybodaeth ar gyfer y tymor byr a chanolig a’r tymor hwy; cytuno â’r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol a’r Prif Ystadegydd ar bynciau’r arolwg a ddylai gael blaenoriaeth; nodi a datblygu modiwlau cwestiynau a’u profi’n wybyddol neu gaffael a rheoli contractau i’w profi; cadarnhau cynnwys terfynol yr holiadur fel y bydd yn barod i gael ei gynnal gan gontractiwr yr arolwg; a sicrhau ansawdd y gwaith o gynnal yr holiadur.   
  • Uwch-swyddog Ymchwil Addysg Ôl-16. Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ym maes polisi, dadansoddwyr a rhanddeiliaid eraill i arwain ar y gwaith o gefnogi gofynion tystiolaeth yr Is-adran Addysg Uwch, yn benodol tystiolaeth i gefnogi gwaith i ddiwygio cyllid myfyrwyr a sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
  • Uwch-swyddog Ymchwil yn Uned Ymchwil Data Gweinyddol-Cymru. Bydd y rôl yn arwain ar y gwaith o sicrhau defnyddioldeb data dienw a data diogel drwy wneud yn siŵr bod prosiectau Ymchwil Data Gweinyddol-Cymru yn berthnasol i’r Rhaglen Lywodraethu. Bydd deiliad y swydd yn rheolwr llinell i Swyddog Ymchwil. 
  • Swyddog Ymchwil i helpu i ddarparu tystiolaeth i gefnogi meysydd polisi gan gynnwys Cynnig Gofal Plant Cymru, Addysg a Gofal Plant yn y Blynyddoedd Cynnar, polisïau gofal plant a chwarae, Bwndeli Babi, cofrestru’r gweithlu, hyfforddiant a gwaith modelu capasiti ar gyfer y gweithlu gofal plant a chwarae, ac adolygu asesiadau digonolrwydd gofal plant ac adolygiadau digonolrwydd cyfleoedd chwarae.
  • Swyddog Ymchwil yn yr Is-adran Tystiolaeth a Chefnogaeth ar gyfer Cydraddoldeb, Tlodi a Phlant, sy’n is-adran newydd yn yr adran Cymunedau a Threchu Tlodi. Bydd y swydd yn cefnogi ymchwil naill ai ym maes Plant, Teuluoedd a Gofal Plant neu ym maes Cyfiawnder Cymdeithasol a Thlodi.
  • Swyddog Ymchwil yn y tîm Tystiolaeth Amodau Tai. Yn cefnogi’r tîm ehangach ar ymchwil i amrywiaeth o feysydd tai a meysydd cysylltiedig – tai cymdeithasol, amodau, datgarboneiddio, newid hinsawdd, safonau, y sector rhentu preifat, diogelwch adeiladau, tlodi tanwydd, effeithlonrwydd ynni a dadansoddi data sy’n deillio o’r Arolwg o Gyflwr Tai yng Nghymru a gynhaliwyd yn flaenorol.
  • Dwy swydd Swyddog Ymchwil i ddarparu cymorth ymchwil ym maes Newid Hinsawdd, gan helpu i gyflawni yn erbyn nodau Cymru Sero Net a Chymru sy’n Effro i’r Hinsawdd. Bydd y swyddi yn golygu gweithio gyda gwahanol ddadansoddwyr yn ogystal â rhaglenni ac ymyriadau uchel eu proffil, gan gynnwys gwaith dadansoddi economaidd a gwyddor ymddygiadol.

Bydd nifer o swyddi Swyddog Ymchwil eraill ar gael am ein bod wrthi’n dyrchafu’n fewnol i swyddi Uwch-swyddog Ymchwil ar hyn o bryd hefyd. 

Bydd pob swydd yn cynnwys cefnogi anghenion sy'n dod i'r golwg yn y meysydd polisi perthnasol yn ogystal â chyfrannu at brosiectau ar draws timau gwahanol y Proffesiwn Ymchwil. Mae croeso ichi gysylltu os hoffech gael gwybod mwy am unrhyw rai o'r swyddi hyn neu’r cyfleoedd sy’n datblygu.

Prif dasgau

Efallai na fydd y tasgau allweddol a amlinellir isod i gyd yn angenrheidiol mewn un swydd benodol, a gallai tasgau eraill gael eu pennu hefyd. Bydd lefel y cyfrifoldeb yn amrywio rhwng rolau'r Swyddog Ymchwil a'r Uwch-swyddog Ymchwil. Bydd mwy o bwyslais ar weithio’n annibynnol ac arwain prosiectau o fewn rôl Uwch-swyddog Ymchwil.

Beth fydd eich sefydliad yn ei ddisgwyl?

  • Cyfrannu at ddatblygu sylfaen o dystiolaeth ar gyfer polisi a dylanwadu ar benderfyniadau cyllidebol. Gwneud hyn drwy ddarparu tystiolaeth berthnasol, brydlon a dibynadwy. 
  • Gweithio gyda chydweithwyr polisi a dadansoddwyr eraill i helpu i gyflawni cynlluniau tystiolaeth adrannol. Gwneud hyn drwy nodi a blaenoriaethu gofynion ymchwil a bylchau mewn tystiolaeth. Hefyd datblygu prosiectau sy'n bodloni gofynion adrannol.
  • Meddu ar wybodaeth gyfredol ynghylch tystiolaeth a dulliau perthnasol, a chyfleu canfyddiadau i gydweithwyr polisi allweddol.
  • Sicrhau bod prosiectau a chontractau'n cael eu cyflawni o fewn terfynau amser, cyfyngiadau adnoddau. Hefyd sicrhau cydymffurfiaeth â safonau proffesiynol priodol, drwy ddefnyddio technegau rheoli prosiectau.
  • Sicrhau bod gweithdrefnau rheolaeth ariannol cadarn yn cael eu dilyn.
  • Hyrwyddo'r defnydd effeithiol o ymchwil gymdeithasol mewn strategaethau, wrth ddatblygu polisi ac wrth weithredu. Gwneud hyn ar draws Llywodraeth Cymru ac yn allanol.
  • Cyfrannu at weithgarwch sy'n ymwneud ag ansawdd/gwella o fewn y swydd, ac ar lefel rhwydwaith ehangach Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.

Beth fydd eich tîm yn ei ddisgwyl?

  • Arwain a/neu reoli'r gwaith o ddatblygu a gweithredu prosiectau ymchwil a gwerthuso.
  • Cefnogi ac annog cydweithwyr polisi i ddatblygu eu dealltwriaeth o ymchwil gymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys gwerthfawrogi sut y gall ymchwil gymdeithasol gefnogi nodau ehangach Llywodraeth Cymru.
  • Darparu cyngor a chymorth i gydweithwyr mewnol ar faterion technegol a phroffesiynol sy'n ymwneud ag ymchwil gymdeithasol. 
  • Sicrhau bod unrhyw staff a reolir yn cael eu datblygu. Gwneud hyn drwy ddarparu arweiniad, cyngor a chefnogaeth i dderbyn hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.
  • Dirprwyo ar ran Prif Swyddogion Ymchwil yn ôl y gofyn.
  • Cyfrannu at feysydd ymchwil a gwerthuso eraill, fel y pennir yn briodol gan y rheolwr llinell.

Beth fydd eich rhanddeiliaid yn ei ddisgwyl?

  • Sicrhau bod canfyddiadau ymchwil yn cael eu cyfleu'n effeithiol, gan gynnwys canfyddiadau sy’n cyfrannu at y gwaith o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisïau a gwasanaethau.
  • Datblygu a chynnal cysylltiadau strategol â'r gymuned ymchwil ehangach. Gwneud hyn yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol.
  • Cydweithio â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus sydd â meysydd cyffredin o ran diddordebau.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r holl swyddi'n cynnig cyfleoedd datblygu gwych, megis y cyfle i fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu a gwerthuso rhai o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru, ac i weithio Ochr yn ochr ag uwch swyddogion, ac mewn rhai achosion y Gweinidogion a Chynghorwyr Arbennig. 

Bydd cyfleoedd i gyfrannu at waith timau dadansoddi eraill a gweithgareddau GSR corfforaethol. Bydd deiliaid y swyddi'n cael eu hannog i fanteisio ar gyfleoedd o ran hyfforddiant a datblygiad proffesiynol, fel y bo'n briodol. 

Fel y nodir uchod, byddai'r swyddi'n cynnig cyfleoedd i unrhyw ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg ddefnyddio a datblygu'r sgiliau hyn.

Dyddiad Cau

23/02/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Ardaloedd i Brofi:

Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’r 7 maes canlynol yn eu cais: 

1.    Cymhwysedd ar gyfer aelodaeth o Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth –  bodloni naill ai'r gofynion cymhwysedd neu feddu ar y profiad ymchwil gofynnol ar gyfer bod yn aelod o Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.
2.    Gwybodaeth ymchwil - gan gynnwys dulliau ymchwil feintiol ac ansoddol. Dylech roi trosolwg o'ch profiad perthnasol fel tystiolaeth.
3.    Rheoli ymchwil - rheoli neu gomisiynu gwaith ymchwil sy'n bodloni anghenion cydweithwyr polisi a/neu gwsmeriaid. Dylech roi trosolwg o'ch profiad perthnasol fel tystiolaeth.
4.    Cydweithio - Meithrin perthynas broffesiynol ag amrywiaeth o randdeiliaid.   Cydweithio â'r rhain i rannu gwybodaeth, adnoddau a chefnogaeth.
5.    Gwneud penderfyniadau effeithiol - Dadansoddi a defnyddio ystod o wybodaeth berthnasol, gredadwy o ffynonellau mewnol ac allanol i gefnogi penderfyniadau. 
6.    Cyfathrebu a dylanwadu - Cyfathrebu mewn modd clir, gonest a dymunol, gan ddewis arddulliau priodol er mwyn sicrhau cymaint o ddealltwriaeth ac effaith â phosibl.
7.    Cyflawni’n effeithlon - Hyrwyddo diwylliant o ddilyn y gweithdrefnau priodol i sicrhau bod canlyniadau'n cael eu cyflawni'n brydlon gan barhau i sicrhau bod modd arloesi.

Proses Asesu

Darllenwch y ddogfen Canllawiau i Ymgeiswyr ar gyfer y swydd hon am y manylion asesu llawn: Canllawiau i ymgeiswyr

Y Cam Sifftio

Cofiwch roi manylion am bob un o'r 7 maes tystiolaeth. 

I fod yn gymwys i wneud cais am y rolau hyn, rhaid ichi fodloni gofynion mynediad proffesiwn Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth. Drwy gymhwyster neu brofiad (maes tystiolaeth 1):
Meddu ar radd 2:1 o leiaf neu radd 2:2 gyda gradd ôl-raddedig

A

naill ai
[llwybr cymhwyster] Pwnc gwyddor gymdeithasol perthnasol ar lefel israddedig neu ôl-raddedig. Bydd yn cynnwys hyfforddiant sylweddol mewn dulliau ymchwil gymdeithasol. (Byddem yn disgwyl i ryw un rhan o dair o’r modiwlau a gymerwyd roi sylw i ddulliau ymchwil gymdeithasol) 
neu
[llwybr profiad] O leiaf 4 blynedd o brofiad o ymarfer ymchwil gymdeithasol (profiad o ddylunio, rheoli a chyflawni gwaith ymchwil mewn asiantaeth ymchwil, asiantaeth ymchwil i farchnad benodol neu dîm ymchwil arbenigol. Ar gyfer y llwybr hwn, rhaid ichi nodi'n glir ehangder a dyfnder eich profiad a'ch sgiliau ymchwil.)

 
I wneud cais am y cyfle hwn, bydd angen ichi gyflwyno CV (dim mwy na 2 ochr A4) a datganiad personol. Dylai'r datganiad personol ddangos tystiolaeth o'r meini prawf Ymddygiadau a Phrofiad. Rhestrir y rhain yn adran 'Meysydd tystiolaeth' yr hysbyseb. Ni ddylai eich Datganiad Personol fod yn fwy na 2100 o eiriau (gan gynnwys penawdau). Yn eich datganiad personol dylech egluro sut yr ydych yn dangos tystiolaeth o bob un o'r 7 maes. Rydym yn argymell tua pharagraff ar gyfer pob un o'r 7 maes. Dylai eich tystiolaeth fynd i'r afael â'r rhan benodol o'r dystiolaeth y gofynnir amdani yn hytrach na'r ymddygiad cyffredinol. 
Ceir gwybodaeth am ba dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer 4-7 yng nghanllawiau ymddygiadau y proffiliau llwyddiant (gweler Lefel 3 – HEO a SEO). Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i ymateb i dystiolaeth yn y ddogfen Canllawiau i Ymgeiswyr: Canllawiau i ymgeiswyr

Disgwylir i’r canlyniadau sifftio gael eu cyhoeddi ym mis Mawrth pan fyddwch yn gallu trefnu slot cyfweliad. Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam sifftio, ni fydd modd ichi ofyn am eich sgoriau yn y cam sifftio hyd nes y bydd y broses asesu lawn wedi'i chwblhau.

Y Cam Asesu

Bydd yr ymgeiswyr hynny sy'n llwyddo i basio'r cam sifftio yn cael eu hasesu drwy dechnegau asesu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.  

Mae’r rhain yn cynnwys yr isod:

  • Prawf gwybodaeth Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth;
  • Ymarfer briffio llafar a fydd yn asesu 2, 3 a 6 yn y rhestr o feysydd tystiolaeth;
  • Cyfweliad cyffredinol yn dilyn yr ymarfer briffio llafar a fydd yn ymwneud â meysydd 4, 5 a 7 o’r meysydd tystiolaeth a restrir yn yr hysbyseb. At hynny, gofynnir cwestiwn ichi sy’n ymwneud â chydraddoldeb wrth reoli ymchwil (maes 3) a fydd yn gofyn ichi ganolbwyntio ar un o’r canlynol: gwrth-hiliaeth, y model cymdeithasol o anabledd neu gydgynhyrchu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y canllawiau i ymgeiswyr, a byddwn hefyd yn eich atgoffa o fanylion y broses asesu os cewch eich gwahodd am gyfweliad.
  • Caiff rhif 1 yn y meysydd tystiolaeth ei asesu ar y cam gwneud cais yn unig.

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu i ddechrau ar gyfer rolau'r Uwch-swyddog Ymchwil ar y radd SEO. Fodd bynnag, os na fydd modd penodi’r ymgeisydd ar y radd honno, byddant yn cael eu hasesu ar gyfer rôl y Swyddog Ymchwil ar y radd HEO. 

Os bydd ymgeisydd yn cael swydd SEO (Uwch-swyddog Ymchwil), bydd yn cael cyflog cychwynnol o £41,700.
Os bydd ymgeisydd yn cael swydd HEO sydd ar radd is (Swyddog Ymchwil), bydd yn cael cyflog cychwynnol o £32,460.

I gael rhagor o wybodaeth a newyddion am Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, ewch i'r wefan:
Government Social Research Profession - GOV.UK (www.gov.uk).

I gael rhagor o fanylion am y Broses Asesu, gweler y Canllawiau i Ymgeiswyr: Canllawiau i ymgeiswyr

Y Canlyniad Terfynol

Yn dilyn yr asesiad, bydd yr ymgeiswyr yn cael eu rhestru yn nhrefn eu teilyngdod. Bydd swyddi'n cael eu cynnig i'r ymgeiswyr sydd â'r sgôr uchaf yn ôl trefn teilyngdod.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Bydd yr ymarfer recriwtio hwn hefyd yn cael ei ddefnyddio i sefydlu rhestr wrth gefn ar gyfer swyddi Swyddogion Ymchwil a/neu Uwch-swyddogion ymchwil, yn rhai parhaol, dros dro neu ar secondiad/ar fenthyg yn ystod y 12 mis nesaf. 

Ymrwymiad i amrywiaeth
Mae'r amgylchedd allanol wedi dangos bod angen inni wrando ar brofiadau'r rhai sy'n cael eu tangynrychioli yn y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru a'u deall. Mae hyn yn cynnwys pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, pobl o gymunedau difreintiedig a phobl anabl. 

Rydym yn gweithio'n galed i greu amgylchedd cefnogol a chynhwysol lle gall yr holl staff dyfu a chyflawni hyd eithaf eu gallu. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r holl staff i ffynnu mewn amgylchedd gwaith cynhwysol.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol.

Addasiadau Recriwtio
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r model cymdeithasol o anabledd. Byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol i ddileu unrhyw rwystrau yn y broses recriwtio ac yn gwneud addasiadau yn y gweithle. Byddwn yn sicrhau cydraddoldeb i staff ag amariadau, cyflyrau iechyd, sy’n niwrowahanol neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Gallwn wneud addasiadau i unrhyw ran o'r broses recriwtio (y broses gais yn ogystal â'r ganolfan asesu). Byddwn yn sicrhau bod ymgeiswyr anabl yn cael eu paru â rolau lle gellir gwneud addasiadau i'r gweithle. Gallwn ddarparu cyngor i staff sy'n meddwl y gallai fod angen addasiadau rhesymol arnynt, ond sydd angen gwybod mwy am y broses asesu. Gallwn roi gwybodaeth ar ba fath o addasiadau y gallem eu gwneud i sicrhau asesiad teg. 

Os ydych yn gwybod (neu’n meddwl y gallai) bod angen gwneud addasiad rhesymol er mwyn ichi wneud cais, cysylltwch â’r Recriwtio.YmchwilCymdeithasol@llyw.cymru  Dylech wneud hyn cyn gynted â phosibl i drafod unrhyw addasiadau sy’n ofynnol.

Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os yw ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. 

Y Gymraeg
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swyddi hyn, ond croesewir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg a chan pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg. Caiff ymgeiswyr gyfleoedd i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg a’u datblygu. Mae pob un o’r swyddi sy’n cael ei hysbysebu yn cynnig cyfleoedd i ddefnyddio Cymraeg ysgrifenedig a llafar, yn ogystal â chyfle i defnyddio’r iaith ar gyfer gwaith is-adrannol ehangach.

Chief Social Research Officer: 03000 255868 Head of the Internal Research Programme: 03000 255540 socialresearch.recruitment@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.