Swydd Wag -- Cynghorydd Llys Teulu - Gogledd Cymru (Cyffordd Llandudno neu Wrecsam)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cafcass Cymru
SEO - £41,700 - £49,370
Cyflog Cychwynnol: Cynigir cyflog cychwynnol rhwng £39,310 a £41,560 i'r ymgeisydd llwyddiannus yn seiliedig ar ei sgiliau, gwybodaeth a phrofiad a pherfformiad yn y cyfweliad. Nid yw'r ystod hon yn agored i drafodaeth
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Gogledd Cymru, Lleoliad arall
Cyffordd Llandudno neu Wrecsam
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Asesu anghenion, diogelu a hyrwyddo lles plant unigol sy'n rhan o Achosion Teulu a rhoi cyngor ac adroddiadau i'r llysoedd teulu i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl i'r plant hyn.

Prif dasgau

Fel Cynghorydd Llys Teulu byddwch yn:

  • Gyfrifol am lwyth achosion cyfraith breifat a/neu gyhoeddus.
  • Darparu cyngor a chymorth gwaith cymdeithasol proffesiynol i Lysoedd er mwyn i achosion ddod i gasgliad amserol a sicrhau'r canlyniad gorau posibl i'r plentyn yn seiliedig ar ei anghenion unigol a'i les pennaf.
  • Darparu tystiolaeth o ansawdd uchel (ar lafar ac yn ysgrifenedig) i'r Llys.
  • Sicrhau bod lles y plentyn yn ganolog drwy gydol achos, gan gynnwys sicrhau bod y plentyn cael ei ddiogelu yn unol â gofynion sefydliadol a Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan. 
  • Sicrhau bod cynrychiolaeth gyfreithiol ar gyfer y plentyn yn cael ei phenodi a'i chyfarwyddo fel sy'n ofynnol ac yn unol â gofynion statudol a sefydliadol.
  • Sicrhau bod dymuniadau a theimladau'r plentyn yn cael eu hystyried yn briodol ac adrodd ar y rhain yn brydlon ac o ansawdd uchel drwy gydol yr asesiad o anghenion y plentyn fel rhan o achos teulu.
  • Cynghori a chynorthwyo rhieni a phartïon perthnasol eraill i achosion mewn anghydfod er lles pennaf y plentyn er mwyn lleihau'r angen am ymyrraeth gan y llys.
  • Gweithio'n effeithiol gyda sefydliadau partner, rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau wrth gynnal yr annibyniaeth ofynnol fel rhan o achos.
  • Sicrhau eich bod yn gwybod y diweddaraf am newidiadau mewn deddfwriaeth, canllawiau, rheolau'r llys, polisïau, gweithdrefnau a datblygiadau arfer gorau.
  • Cydymffurfio â pholisïau sefydliadol, gweithdrefnau, gofynion statudol a rheolau'r llys wrth ddarparu gwasanaethau i blant a theuluoedd sy'n rhan o achos teulu.
  • Bod yn gyfrifol am ddysgu a datblygu personol yn unol â gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru a phroses rheoli perfformiad Llywodraeth Cymru.
  • Gweithio fel aelod o dîm, mynd i gyfarfodydd perthnasol a chyfrannu at effeithiolrwydd a chynllunio ehangach Cafcass Cymru yn ôl yr angen.
  • Darparu gwybodaeth reoli am lwythi gwaith, arfer a pherfformiad yn ôl yr angen.
  • Defnyddio TGCh yn effeithiol ar gyfer cynllunio a chofnodion achosion a chynorthwyo darparu gwasanaeth.
  • Cynrychioli Cafcass Cymru a Llywodraeth Cymru mewn modd proffesiynol sy'n ffafriol i hyrwyddo delwedd gadarnhaol ar bob adeg.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig cyfleoedd sylweddol i chwarae rôl allweddol wrth reoli, datblygu a gwella gwasanaeth Cymru gyfan, gan gynnwys cysylltu ag amrywiaeth o asiantaethau a sefydliadau.

Dyddiad Cau

14/10/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Proses Asesu

Dylai ymgeiswyr nodi mai pwrpas yr hysbyseb hon yw paratoi ar gyfer swyddi gwag yn y dyfodol yn rôl Cynghorydd Llys Teulu. Efallai na fydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cynnig swydd ar unwaith, ond cânt eu cadw ar restr wrth gefn am 12 mis o ddyddiad cyhoeddi canlyniadau cyfweliad. Cynigir swyddi i ymgeiswyr ar y rhestr hon yn nhrefn teilyngdod pan fydd swyddi gwag yn codi.

Dyddiad cau'r hysbyseb hon ar hyn o bryd yw 30/09/2021.  Fodd bynnag, pe bai unrhyw swyddi gwag yn codi bydd yr hysbyseb yn cau yn gynharach, gyda pythefnos o rybudd cau yn cael ei roi.

Mae rhaid i ymgeiswyr fod ag o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol yn gweithio mewn gwasanaethau diogelu i blant a'u teuluoedd yn y sector statudol, Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster cyfatebol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru) ac yn Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu Reoleiddiwr Gofal arall?

I wneud cais, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein, gan ateb y 2 gwestiwn canlynol yn seiliedig ar y meini prawf penodol i swydd uchod:

  1. Gan ddefnyddio enghraifft o'ch ymarfer, dangoswch eich dealltwriaeth o anghenion plant sy'n destun achosion teulu ac esboniwch pam mae adrodd a gwneud penderfyniadau amserol yn hanfodol er mwyn sicrhau canlyniadau da i blant. (Cyfanswm 500 o eiriau)
  2. Trwy ddefnyddio esiamplau o’ch ymarfer, dywedwch wrthym am eich profiad o ddefnyddio ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth i lywio eich dadansoddi a sut mae hyn yn arwain at argymhellion diogel a chadarn sy'n llywio'r gwaith o wneud penderfyniadau er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau posibl i blant a phobl ifanc. (Cyfanswm 500 o eiriau)

Nodwch, nid oes angen i chi ddarparu ymateb ysgrifenedig ar gyfer y 4 cymhwysedd.  Caiff rhain eu profi yn ystod y cam cyfweld.

Cofiwch ddweud wrthym beth yw eich lleoliad a ffefrir yn y blwch 'Gwybodaeth ychwanegol'.

Pan fyddwch wedi cyflwyno eich ffurflen gais, bydd y broses ddethol yn cynnwys y camau canlynol:

  • Cam 1 – Llunio rhestr fer yn seiliedig ar ymatebion i'r cwestiynau uchod
  • Cam 2 – Cyfweliad gan banel ar y cymwyseddau a meini prawf penodol i swydd, gan gynnwys cyflwyniad a baratowyd ar y diwrnod

I gael rhagor o fanylion am y broses gwneud cais a chyfweld cysylltwch â CafcassCymruHR@llyw.cymru

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Croesewir ceisiadau gan bobl ag ystod amrywiol o brofiadau gwaith cymdeithasol byw a phroffesiynol. Mae Cafcass Cymru wedi ymrwymo'n weithredol i ddod yn sefydliad cynyddol amrywiol sy'n diwallu anghenion yr ystod amrywiol o ddefnyddwyr gwasanaeth. Ategir hyn gan ddull deinamig o ddysgu a datblygu. Mae nifer o rwydweithiau Amrywiaeth y gall staff gymryd rhan ynddynt, sy'n cynnwys Y Rhwydwaith Staff Lleiafrifoedd Ethnig, Rhwydwaith PRISM LHDTRh+, a'r Rhwydwaith Menywod Ynghyd.

Mae lwfans o £1,000 y flwyddyn ar gael os ydych yn defnyddio eich car eich hun ar gyfer holl deithio busnes swyddogol ac yn teithio dros 2,000 o filltiroedd statudol y flwyddyn. Mae trwydded yrru ddilys ac yswiriant cerbyd modur yn ofynnol.

Rydym yn annog yn gryf y dylai'r holl ymgeiswyr posibl gysylltu â Cafcass Cymru cyn llenwi cais er mwyn trafod y rôl a'r broses recriwtio.

Cysylltwch â CafcassCymruHR@llyw.cymru, gan nodi'r ardal y mae gennych ddiddordeb mewn gweithio ynddi, er mwyn trefnu apwyntiad i siarad â rheolwr. 

CafcassCymruHR@gov.wales

Sut i wneud cais

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.