Swydd Wag -- Pennaeth Ansawdd a Chyngor Clinigol Acíwt

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£51,380, ond gall cyflog cychwynnol o hyd at £54,280 gael ei gynnig ar gyfer ymgeisydd eithriadol
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Gan fod yn atebol i'r Cyfarwyddwr Ansawdd a Chyngor Clinigol Acíwt:

  • Arwain a rheoli pob agwedd ar y dull gweithredu a'r strategaeth ansawdd corfforaethol 
  • Arwain a rheoli dull AGIC o fesur ansawdd o fewn ei swyddogaethau 
  • Datblygu a goruchwylio'r gwaith o ddarparu cyngor clinigol acíwt yn AGIC, ar y cyd â'r Cyfarwyddwr Cyngor Clinigol ac Ansawdd
  • Arwain a rheoli'r cynlluniau misol, chwarterol a blynyddol ar gyfer ansawdd ac ysgrifennu adroddiadau ar hyn 
  • Rhoi cymorth i'r holl swyddogaethau yn AGIC mewn perthynas ag ansawdd a chyngor clinigol acíwt. 

Prif dasgau

Tasgau sy'n benodol i'r swydd:

  • Goruchwylio'r gwaith o roi'r strategaeth ansawdd a rhaglenni mesur ansawdd cysylltiedig ar waith. 
  • Rhoi strwythur adrodd ar ansawdd ar waith yn AGIC yn fisol, chwarterol a blynyddol. 
  • Gweithio gyda'r holl swyddogaethau a changhennau i'w helpu i ymgorffori prosesau mesur a sicrhau ansawdd yn eu timau. 
  • Gweithio gyda'r holl swyddogaethau a changhennau i'w helpu i ymdrin ag unrhyw faterion lle mae angen cyngor clinigol acíwt. 
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod AGIC yn bresennol ym mhob maes perthnasol sy'n ymwneud ag ansawdd a meysydd clinigol acíwt. 
  • Helpu staff i ddysgu a datblygu ym meysydd ansawdd ac iechyd acíwt. 
  • Cyflwyno gwybodaeth a chynnydd yn erbyn y strategaeth ansawdd i Grŵp yr Uwch-arweinwyr. 
  • Goruchwylio, cydlynu a rheoli'r ymateb i unrhyw ymgyngoriadau sy'n berthnasol i'r maes ymarfer. 
  • Sicrhau bod AGIC yn cynnal ac yn rhoi prosesau a gweithdrefnau ar waith yn unol ag arferion gorau. 
  • Rheoli cydberthnasau â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill mewn perthynas â materion ansawdd a chyngor clinigol acíwt. 
  • Mynd ati'n rhagweithiol i gynghori Grŵp Uwch-arweinwyr AGIC ynghylch y meysydd lle mae gan y swydd gyfrifoldeb arweiniol, gan nodi cryfderau a gwendidau a dwyn y sefydliad i gyfrif fel y bo'n briodol.
  • Bod yn aelod o Grŵp Uwch-arweinwyr AGIC. Helpu'r Prif Weithredwr a rheolwyr eraill i hyrwyddo arweinyddiaeth weledol a brwdfrydig i gyflawni busnes AGIC.  
  • Sicrhau ansawdd adroddiadau arolygu fel y bo angen. 
  • Mynychu archwiliadau rhithwir ac ar y safle fel y bo angen er mwyn rhoi cyngor arbenigol. 
  • Cyflawni rôl Rheolwr Cydberthnasau dros AGIC fel y bo angen. 

Tasgau cyffredin:

  • Gweithio o dan ddirprwyaeth y Prif Weithredwr.  
  • Gweithio gyda'r Cyfarwyddwr Llywodraethu Ansawdd a Chyngor Clinigol a'r arweinydd iechyd meddwl i sicrhau dull cydlynol o ddarparu cyngor clinigol. 
  • Cydweithio â chydweithwyr yn AGIC. 
  • Cymryd rhan yng ngweithgareddau AGIC. 
  • Rheoli ei ddatblygiad proffesiynol parhaus ei hun a datblygiad aelodau ei dîm. 
  • Cynnal cenhadaeth, diben, rôl a gwerthoedd AGIC. 

Cyfleoedd datblygu

Bydd yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â'r Dirprwy Gyfarwyddwyr a'r Prif Weithredwr. 
Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar gyfer rhai agweddau ar y rôl.

Dyddiad Cau

30/11/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau: 

Gweld y darlun mawr - Sicrhau y caiff materion perthnasol yn ymwneud â'i faes polisi / gweithgarwch eu cynnwys yn effeithiol mewn strategaeth ac ystyriaethau o ran y darlun mawr. 

Gwneud penderfyniadau effeithiol - Nodi'r prif faterion mewn problemau cymhleth, cadarnhau dealltwriaeth neu ddisgwyliadau rhanddeiliaid er mwyn ceisio nodi'r opsiwn gorau.

Meithrin gallu i bawb - Nodi anghenion o ran gallu i gyflawni amcanion y tîm yn y dyfodol a rheoli adnoddau'r tîm i ddiwallu'r anghenion hynny.

Sicrhau gwerth am arian - Deall effeithiau'r sefyllfa ariannol yn ei faes ei hun a'r sefydliad a defnyddio dealltwriaeth i gwtogi neu gefnogi gweithgareddau buddsoddi a busnes. 


Meini prawf sy'n benodol i'r swydd: 

  1. Profiad o arolygu gofal iechyd a dealltwriaeth o'r dirwedd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. 
  2. Profiad o wella a mesur ansawdd. 
  3. Cofrestriad proffesiynol â chorff cenedlaethol a phrofiad helaeth o weithio mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol acíwt. 

Proses Asesu

Caiff ceisiadau eu sifftio yn ôl yr arfer, ac yna cynhelir cyfweliadau.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Katherine.williams030@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.