Swydd Wag -- Pennaeth Cyllid y Rhaglen

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
Cymunedau Dysgu Cynaliadwy
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Cyflog cychwynnol gwirioneddol fydd £51,380 gyda'r gallu i benodi hyd at bwynt 3 ar raddfa G7 ar gyfer ymgeisydd eithriadol.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
2 flynedd - Bydd adolygiad o anghenion gwaith a threfniadau ariannu yn cael ei wneud cyn y pen-blwydd yn ddwy flynedd i weld a ddylid gwneud yr apwyntiad yn barhaol, yn amodol ar y cymeradwyaethau priodol a'r cyllid sy'n cael eu cadarnhau ar y pryd.
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau.

Pwrpas y swydd

Mae rôl Pennaeth Cyllid y Rhaglen yn uwch-swydd a’r deiliad fydd yn gyfrifol am arwain y gwaith o reoli Tîm Cyllid y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy mewn modd effeithlon ac effeithiol.

Yn ystod y cam cyllido presennol, caiff swm o £2.3 biliwn ei fuddsoddi mewn adeiladau ysgolion a cholegau newydd ac wedi’u hadnewyddu ledled Cymru. O'r arian hwn, cyllid cyfalaf fydd £1.8 biliwn, gyda gwerth cyfwerth cyfalaf o £0.5 biliwn (gwerth refeniw o tua £1.25 biliwn dros gyfnod o 25 mlynedd) drwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) arloesol. Ymrwymwyd i ddarparu cyfalaf pellach o £1.5 biliwn ar gyfer y cam nesaf yn y Rhaglen.

Mae'r rôl yn atebol am ddarparu gwaith o ansawdd uchel ym maes cynllunio ariannol, dadansoddi ac adrodd ar gyllid y rhaglen. Bydd deiliad y swydd yn ymgysylltu ag uwch-randdeiliaid, gan ddarparu cyngor strategol hirdymor a chan herio cynlluniau busnes er mwyn sicrhau eu bod yn fforddiadwy ac yn cynnig canlyniadau sydd â gwerth am arian, gan helpu'r Rhaglen i fonitro risgiau a chyfleoedd yn effeithiol.  

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio'n effeithiol ar draws ffiniau gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid er mwyn sicrhau'r gwerth mwyaf posibl am arian. Bydd hyn yn cynnwys awdurdodau lleol, colegau addysg bellach, Cyfarwyddwyr Addysg Esgobaethol a phartneriaid masnachol.

Oherwydd natur gymhleth y Rhaglen, bydd angen i ddeiliad y swydd feddu ar ddealltwriaeth gynhwysfawr o gyllid cyhoeddus a chyllid masnachol, a gallu rhoi cyngor annibynnol priodol yn uniongyrchol i randdeiliaid allanol (awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach), uwch-reolwyr a Gweinidogion, yn ogystal â herio'n effeithiol mewn perthynas â gwerth am arian a materion eraill, ar gyfer prosiectau uchel eu proffil.

Bydd Pennaeth Cyllid y Rhaglen hefyd yn chwarae rôl allweddol o ran sicrhau gwerth am arian drwy benderfyniadau ynghylch buddsoddi sy'n gysylltiedig â phrosiectau a gyflawnir drwy ffrwd fuddsoddi'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM), gan sicrhau na aiff prosiectau a ariennir drwy MIM yn rhan o ddyledion y llywodraeth a chan ddiogelu buddiannau ariannol Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid cyflawni[1]. Bydd yn hanfodol meithrin a chynnal cydberthynas waith gadarnhaol â'r Tîm Cyllid Arloesol a Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru. 

Cyd-fenter yw Cwmni Partneriaeth Addysg Cymru, sef partneriaeth hirdymor rhwng Banc Datblygu Cymru (ar ran Gweinidogion Cymru) a Meridiam i ddatblygu cyfleusterau addysg ar ran Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru. Rôl y Cwmni yw hwyluso'r gwaith o gyflawni prosiectau sydd ar y gweill, sy’n cynnwys hyd at 30 o gyfleusterau addysg newydd (cynradd, uwchradd, a cholegau addysg bellach) yng Nghymru gan ddefnyddio'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM).

Mae'r Cytundeb Partneriaeth Strategol, a lofnodwyd gan Gwmni Partneriaeth Addysg Cymru, Gweinidogion Cymru a 24 o Gyfranogwyr (sef awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach) yn nodi, ymhlith pethau eraill, y gofynion ar gyfer datblygu prosiectau MIM. Bydd Pennaeth Cyllid y Rhaglen yn gyfrifol am oruchwylio holl elfennau ariannol Llywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig â'r broses hon.

[1] Cyfranogwyr o dan delerau'r Cytundeb Partneriaeth Strategol


Cyfrifoldebau

Bydd Pennaeth Cyllid y Rhaglen yn gyfrifol am arwain a rheoli Tîm Cyllid y Rhaglen, a bydd yn atebol am ei waith yn ogystal â'i berfformiad a'i ddatblygiad.

Bydd yn defnyddio sgiliau technegol a sgiliau dylanwadu cryf, a dealltwriaeth gadarn o'r maes busnes i weithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i reoli cynlluniau cyflawni cyllidol ac achosion busnes cysylltiedig y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy mewn modd effeithiol sy'n bodloni gofynion cydymffurfio, gan uwchgyfeirio materion sydd heb eu datrys yn briodol a chan sicrhau bod y Swyddog Cyfrifyddu, timau a Gweinidogion yn deall risgiau a chanlyniadau unrhyw weithgaredd arfaethedig.

Gan weithio'n agos gydag uwch-gydweithwyr yn Nhîm y Rhaglen a'r Tîm Gweithrediadau, bydd y Pennaeth Cyllid yn sicrhau bod cyllidebau yn cael eu llunio, eu rheoli a'u monitro'n dda, a bydd yn herio rheolwyr cyllidebau'r rhaglen yn briodol ar gynlluniau gwariant gan sicrhau bod gwariant yn cyd-fynd â'r blaenoriaethau strategol a chan feithrin sgiliau cyllid da mewn pobl eraill.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli tîm cyllid bach, sy'n cynnwys 1 Uwch-reolwr Cyllid Cyfalaf SEO ac 1 Rheolwr Cyllid Cyfalaf HEO ar hyn o bryd.

Bydd yn gweithredu ag uniondeb bob amser i arwain a rheoli cyllidebau cymhleth ac adolygiadau gwariant yn y dyfodol. Bydd Pennaeth Cyllid y Rhaglen hefyd yn arwain y gwaith o ddarparu cyngor ar gyllid a llywodraethiant i uwch-reolwyr, y Panel Buddsoddi mewn Addysg mewnol a Grŵp Llywio allanol y Rhaglen.

Prif dasgau

  • Gweithiwr cyllid proffesiynol arweiniol sy'n gyfrifol am reoli ariannol effeithiol yn ystod y flwyddyn ac yn y dyfodol ar gyfer dyraniadau cyllideb Llinell Wariant yn y Gyllideb y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (cyllideb cyfalaf 2022-23 yn £354m), gan sicrhau bod y gwaith o herio, monitro ac adrodd am berfformiad ariannol Llinell Wariant yn y Gyllideb y Rhaglen i Gyfarwyddwr y Rhaglen yn cael ei wneud yn effeithiol, a thrwy friffiau i uwch-swyddogion a Gweinidogion.

 

  • Arwain, rheoli, datblygu ac ysgogi Tîm Cyllid y Rhaglen, gan feithrin diwylliant sy'n canolbwyntio ar wasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a gwelliant parhaus.

 

  • Meithrin a chynnal partneriaethau a chydberthnasau strategol, a dylanwadu ar bobl eraill pan fo safbwyntiau yn wahanol ac yn groes i'w gilydd o bosibl, gan sicrhau bod y meysydd busnes yn deall y goblygiadau ariannol sy'n deillio o benderfyniadau a’r opsiynau sydd ar gael sy'n gysylltiedig â chyllid cyfalaf a chyllid refeniw.

 

  • Arwain ar waith proffesiynol ym maes cyllid, gan weithio gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen, Uwch-arweinwyr y Rhaglen, swyddogion Cyllidebu Strategol a swyddogion Gweithrediadau i lunio cynlluniau ariannol a blaenoriaethau, gan arwain y gwaith o baratoi'r cyllid cyllideb ym mhob rhan o'r Llinell Wariant yn y Gyllideb, fel rhan o broses flynyddol Llywodraeth Cymru o bennu'r gyllideb, ac ar gyfer achosion penodol yn ôl y gofyn. Mae hyn yn cynnwys llunio papurau tystiolaeth, gan gynnwys pwysau ar gyllidebau, yn ogystal ag esboniadau, dewisiadau, effeithiau a goblygiadau os na fydd lefel y cyllid sy'n ofynnol ar gael.

 

  • Meithrin cydberthnasau proffesiynol a hygrededd personol â rhanddeiliaid, gan gynnwys Cwmni Partneriaeth Addysg Cymru, er mwyn sicrhau bod prosesau cadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau ariannol yn rhan annatod o brosesau gwneud penderfyniadau ar gyfer pob penderfyniad am fuddsoddi.

 

  • Llunio modelau ariannol manwl o gyllid y prosiect i ganfod pa mor fforddiadwy yw'r prosiect cyn i Gwmni Partneriaeth Addysg Cymru ddechrau ei waith.

 

  • Monitro pa mor fforddiadwy yw'r prosiect drwy gydol y gwaith o ddatblygu'r prosiect, gan ymgysylltu'n agos â Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru a'r Cyfranogwyr drwy gydol y gwaith.

 

  • Cefnogi Cyfranogwyr drwy'r broses o ddatblygu achos busnes a chael cymeradwyaeth.

 

  • Darparu cyngor ariannol ar yr holl delerau masnachol allweddol mewn Cytundebau Prosiect MIM.

 

  • Cydgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid sy'n Gyfranogwyr cyn cwblhau'r agweddau ariannol ac arwain y broses o gytuno ar delerau.

 

  • Cynhyrchu'r manylion ariannol a masnachol sy'n benodol i MIM sy'n ofynnol ar gyfer unrhyw ddogfennau Cyngor i Weinidog y mae angen eu llunio.

 

  • Cyfrifoldeb am roi/monitro/casglu benthyciadau rhwng Llywodraeth Cymru (Addysg) a Banc Datblygu Cymru.

 

  • Cyfrifoldeb am reoli ac adrodd ar y Tâl Gwasanaeth Blynyddol o tua £50m a ariennir gan gyllid refeniw ar gyfer prosiectau a ariennir drwy MIM.

 

  • Cydgysylltu a rheoli'r holl gynghorwyr ariannol allanol yn ôl y gofyn.

 

  • Cyfrifoldeb am herio, monitro ac adrodd ar berfformiad ariannol Llinell Wariant yn y Gyllideb cyfalaf Addysg yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys amrywiaeth o linellau cyllido/gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag addysg yn ogystal â llinell cyllideb y Rhaglen ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith craidd.

 

  • Yn gyfrifol am lunio a chydgysylltu adroddiadau rheoli (gwybodaeth ariannol a gwybodaeth am berfformiad) i uwch-reolwyr ac i'r adran Cyllid Canolog.

 

  • Cefnogi a chynghori Cyfarwyddwr y Rhaglen, prif arweinwyr y rhaglen a'u timau i sicrhau rheolaeth effeithiol dros y gyllideb, gan gynnwys helpu gyda'r gwaith o gynllunio cyllidebau, delio â phwysau ar gyllidebau yn ystod y flwyddyn ac unrhyw faterion ariannol eraill.

 

  • Arfarnu gwybodaeth am berfformiad ariannol a pherfformiad y Prosiect yn feirniadol, a darparu cyngor ariannol strategol i helpu i gyflawni gwasanaethau o ansawdd.

 

  • Adolygu cyflwyniadau/briffiau i Weinidogion yn feirniadol drwy roi cyngor ar oblygiadau ariannol unrhyw gynigion newydd, atebion i gwestiynau Aelodau o'r Senedd etc. Llunio briffiau a rhoi cyngor i Weinidogion ar gyllid y Rhaglen a materion y gyllideb.

 

  • Cefnogi Cyfarwyddwr y Rhaglen ac Uwch-berchnogion Cyfrifol y Rhaglen i sicrhau bod y safonau proffesiynol uchaf yn cael eu cyrraedd wrth weinyddu cyllidebau'r Rhaglen, fel bod gofynion statudol a gofynion o ran cydymffurfio yn cael eu bodloni.

 

  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i adeiladu capasiti a gwella gallu'r sefydliad.

 

  • Darparu dealltwriaeth a thynnu sylw Cyfarwyddwr ac arweinwyr y Rhaglen at y materion, y risgiau a’r cyfleoedd allweddol, a gallu mynegi neges ac ‘adrodd y stori’ ynghylch gwybodaeth ariannol.

 

  • Darparu cyngor strategol a gwaith dadansoddi ar effaith ariannol, perfformiad a risgiau i uwch-randdeiliaid a thrwy hyn gyfrannu at gyfeiriad strategol yr Adran.

 

  • Sicrhau bod systemau adrodd effeithiol ar waith ar gyfer cofnodi gwariant gwirioneddol yn erbyn cyllidebau, ac ar gyfer rhagweld amrywiadau blynyddol oddi wrth gyllidebau.

 

  • Llunio a chyflwyno adroddiadau cyllid misol i dîm uwch-reolwyr y Rhaglen gan sicrhau uniondeb sefyllfa gyffredinol y gyllideb.

 

  • Darparu cyngor i Gyfarwyddwr y Rhaglen ar gyllidebau a rheoli achosion o danwario/gorwario a ragwelir a chynnig opsiynau i'w cyfrannu at gyngor i Weinidogion ar benderfyniadau polisi.

 

  • Darparu uwch-gyngor ariannol proffesiynol ar faterion strategol a materion sy'n ymwneud â'r prosiect i Gyfarwyddwr y Prosiect/y Panel Buddsoddi mewn Addysg/Gweinidogion, gan gynnwys cyngor proffesiynol ar gyfrifyddu technegol cyn penderfyniadau mewn achosion busnes, ar gyfer cynigion buddsoddi ac eitemau sy'n gysylltiedig â mantolen i Lywodraeth Cymru.

 

  • Rheoli'r broses o ddyrannu grantiau a'r holl brosesau cysylltiedig o ran taliadau.

 

  • Gan weithio gydag arweinwyr y rhaglen a Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru, darparu cyngor ar bob mater cyllid, cynllunio a chydymffurfio sy'n ymwneud â phenderfyniadau buddsoddi a'u trafod â rhanddeiliaid, gan gyfeirio'n benodol at brosiectau a ariennir drwy MIM.

 

  • Creu cyfleoedd i rannu arferion gorau a gwybodaeth ym mhob rhan o Dîm y Prosiect, ac â rhanddeiliaid a chydweithwyr yn yr Adran.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r rôl yn golygu gweithio ar lefel uwch gyda staff ym mhob rhan o'r Is-adran, a chyda rhanddeiliaid allanol allweddol ledled Cymru er mwyn llywio ac arwain y prosesau llywodraethiant ariannol ar gyfer Rhaglen Buddsoddi mewn Addysg Llywodraeth Cymru gwerth £2.3 biliwn, sef Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Mae'r rôl yn darparu cyfle unigryw i arwain y gwaith o reoli cyllideb cyfalaf blynyddol sylweddol a chyflawni'n arloesol ym maes cyllid drwy ffrwd refeniw Addysg MIM ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith, gan ymgorffori arferion rheoli ariannol cywir ym mhob rhan o'r Rhaglen a'r cyrff sy'n cael eu cyllido.

Dyddiad Cau

05/12/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Gweld y Darlun Mawr

  • Nodi’r goblygiadau sy’n deillio o flaenoriaethau a strategaeth Adrannol a gwleidyddol yn eich maes eich hun i sicrhau bod cynlluniau a gweithgareddau yn eu hadlewyrchu.

Arwain a Chyfathrebu

  • Bod yn weladwy i staff a rhanddeiliaid ac ymgymryd â gweithgareddau’n rheolaidd i feithrin ymddiriedaeth ac ymgysylltu â'r bobl sy'n ymwneud â'r maes gwaith.

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Dod i gasgliadau rhesymol ar sail amrywiaeth eang o dystiolaeth a data anghyflawn a chymhleth, a chyflwyno’r casgliadau hynny – gan allu gweithredu neu benderfynu hyd yn oed pan nad yw’r manylion yn glir 

Cyflawni’n Brydlon

  • Cynnal perfformiad effeithiol mewn amgylchiadau anodd a heriol, ac annog eraill i wneud yr un fath

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  1. Cyfrifydd sy'n gwbl gymwysedig ag un o'r cyrff cyfrifyddu cydnabyddedig megis CIMA (Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli), neu mae cymwysterau cyfrifyddu CCAB (Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig, Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Ardystiedig, Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Byddai Cymhwyster Rheoli megis MBA yn fanteisiol.
  2. Rhyngweithio mewn modd hyderus ac effeithiol fel cwsmer doeth a hygred iawn â swyddogion cyfatebol o'r sefydliadau cyflawni masnachol ac arbenigwyr masnachol wrth sicrhau canlyniadau masnachol.
  3. Darparu cyngor ariannol, her a chefnogaeth werthfawr, a chynnig dealltwriaeth strategol ac atebion busnes i Gyfarwyddwyr a deiliaid cyllideb eraill yn aml.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio, bydd ymgeiswyr llwyddiannus wedyn yn cael eu gwahodd i gyfweliad lle bydd gofyn iddynt wneud cyflwyniad geiriol 5 munud.  Nid oes angen cymhorthion na thaflenni cyflwyno.  Gall ymgeiswyr ddefnyddio cardiau/nodiadau prydlon yn ystod eu cyflwyniad. 

Bydd y broses o sifftio'r cais yn cael ei wneud yn erbyn Fframwaith Cymwyseddau Llywodraeth Cymru a Fframwaith Cymwyseddau Swyddogaeth Cyllid y Llywodraeth.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Neal O'Leary - SustainableCommunitiesForLearning@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.