Swydd Wag -- Rheolwr Trwyddedau Tanwydd Ffosil
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Mae'r swydd hon yn cael ei chreu i gynyddu capasiti Llywodraeth Cymru i reoli trwyddedau tanwydd ffosil sydd eisoes yn bodoli. Mae'r llwyth achosion wedi cynyddu'n sylweddol, ac mae angen cymorth ar frys i sicrhau bod gweinidogion yn derbyn cyngor da, bod y prosesau ar gyfer rheoli trwyddedau presennol yn glir ac yr ymdrinnir â gwaith achosion yn gyflym ac yn effeithlon. Gellir cynnig y swydd hon ar sail penodiad parhaol neu fel secondiad. Bydd angen y swydd am ddwy flynedd.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r Rheolwr Trwyddedau Tanwydd Ffosil Arweiniol ar draws meysydd trwyddedu petroliwm a glo, gyda rhywfaint o gymorth i ddatblygu syniadau mewn perthynas â dal, defnyddio a storio carbon. Mae gan y swydd dri phrif ddiben:
- Cefnogi'r gwaith o gyflawni rhaglen Cymru ar gyfer ymdrin â thrwyddedau tanwydd ffosil, drwy weithio'n uniongyrchol gyda gweithredwyr, rheoli gweithgareddau trwyddedu, helpu i wneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau cymhleth a chadw cofnodion cadarn.
- Helpu i greu fersiynau terfynol o'r fframwaith deddfwriaethol, yr offerynnau a'r systemau trwyddedu sydd eu hangen i reoleiddio a gweinyddu swyddogaethau trwyddedu petroliwm, glo a dal carbon yn unol â'r gofynion statudol datganoledig newydd.
- Rhoi cyngor i Weinidogion Cymru pan fyddant yn ymateb i heriau cyfreithiol i'r ffordd maent yn gweithredu eu pwerau datganoledig mewn perthynas â thrwyddedau tanwydd ffosil.
Disgwylir y bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth am ddatblygu neu reoli systemau trwyddedu, a phrofiad uniongyrchol o wneud hynny – yn ddelfrydol gyda phwyslais ar weithgareddau diwydiannol ac ynni, gan gynnwys gwneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau a gweithio'n uniongyrchol â gweithredwyr.
Bydd angen i ddeiliad y swydd allu rheoli rhaglenni'n effeithiol, i sicrhau bod y gwaith trwyddedu yn cael ei gyflawni o fewn yr amserlenni priodol, yn unol â'r gyfraith, a bod penderfyniadau'n adlewyrchu dealltwriaeth gywir o'r dystiolaeth, y rheoliadau a pholisïau.
Bydd deiliad y swydd yn gweithredu mewn amgylchedd lle bydd pob penderfyniad ynghylch trwyddedu yn destun craffu.
Prif dasgau
Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth i'r Rheolwr Trwyddedau Tanwydd Ffosil Arweiniol ar draws y swyddogaethau canlynol:
Cynllunio a pharatoi'r system gynllunio
- Llunio'r fersiynau terfynol o'r offerynnau a'r canllawiau ar gyfer y system trwyddedu petroliwm. Bydd hyn yn cynnwys profi cadernid a chyhoeddi dogfennau.
- Parhau i ddatblygu hanes cyfreithiol a hanes caniatadau ar gyfer pob trwydded tanwydd ffosil er mwyn ei rheoli'n effeithiol yn y dyfodol.
- Gwneud gwaith achosion ar geisiadau am drwyddedau petroliwm a glo ac estyniadau. Mae hyn yn cynnwys casglu tystiolaeth gan amrediad o randdeiliaid, ei hasesu yn erbyn y fframwaith a'r cyd-destun cyfreithiol a gwneud argymhelliad i'w ystyried gan weinidogion.
- Helpu i ddatblygu system drwyddedu ar gyfer dal a storio carbon. Bydd hyn yn cynnwys cynllunio proses, gweithio i roi unrhyw newidiadau deddfwriaethol ar waith a datblygu unrhyw ganllawiau ac offerynnau cysylltiedig.
- Rheoli materion ariannol sy'n gysylltiedig ag incwm o drwyddedau, gan gynnwys sefydlu prosesau effeithiol ar gyfer rheol incwm ac arian.
- Paratoi deunyddiau cyfathrebu a rheoli presenoldeb ar-lein i sicrhau bod y wybodaeth sy'n cael ei rhannu am brosesau trwyddedu yng Nghymru yn glir.
- Creu trwyddedau os oes angen, gwirio data a chyhoeddi dogfennau ar gyfer trwyddedau.
Dyletswyddau cyffredinol
- Darparu cyngor ar drwyddedau ar gyfer trwyddedau tanwydd ffosil a dal a storio carbon.
- Cefnogi'r amrediad llawn o fusnes y Llywodraeth, gan gynnwys cwestiynau gan y Senedd, cyngor ar gyfer Aelodau a gohebiaeth.
Ymateb i heriau
- Darparu ymatebion i heriau i benderfyniadau ynghylch trwyddedau, gan gefnogi'r Rheolwr Trwyddedau Tanwydd Ffosil Arweiniol a datblygu dealltwriaeth fanwl o'r rheoliadau a hanes pob trwydded yng Nghymru.
- Cadw cofnodion cywir o'r gwaith o reoli achosion.
- Darparu cyngor ar gyfer Gweinidogion a chefnogi ymatebion i ymholiadau gan y cyhoedd a'r cyfryngau gyda chymorth staff cyfathrebu a pholisi.
Cyfleoedd datblygu
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Cymwyseddau:
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
- Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu’r costau, y manteision, y risgiau a’r ymatebion posibl.
Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth
- Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi’r broses o wireddu canlyniadau busnes
Gweld y Darlun Cyflawn
- Bod yn effro i faterion a thueddiadau newydd a allai effeithio ar eu gwaith eu hunain a’u tîm, neu a allai fod o fudd i’r gwaith hwnnw
Cyflawni'n Brydlon
- Monitro eu gwaith eu hunain a gwaith y tîm yn rheolaidd yn unol â cherrig milltir neu dargedau, a gweithredu’n brydlon i gadw gwaith ar y trywydd iawn a chynnal perfformiad
Meini Prawf Penodol i’r Swydd:
- Profiad o reoli, gweithredu neu gynnal systemau trwyddedu cymhleth, yn enwedig mewn perthynas â phrosesau diwydiannol
- Profiad o ddehongli darnau niferus o ddeddfwriaeth gymhleth, a'u cymhwyso i brosesau cymhleth a newydd
- Dangos gwybodaeth dechnegol am brosesau diwydiannol a nodi eu effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd, a'u heffeithiau ar strwythurau daearegol
Proses Asesu
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.