Swydd Wag -- Arbenigwr Arloesi x3

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
Arloesi (Busnes a Rhanbarthau)
SEO - £41,700 - £49,370
Bydd dechrau ar bwynt 1 o'r raddfa gyda chymeradwyaeth yn ei le i gynnig hyd at bwynt 3 (£44,200) i ymgeiswyr eithriadol.
Amser llawn (dydy hyn ddim yn addas i bobl sydd am weithio'n rhan-amser neu rannu'r swydd).
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae hon yn swydd allweddol lle bydd y deiliaid yn cefnogi'r gyfres o raglenni SMART sy'n cynorthwyo busnesau a sefydliadau ymchwil i ymgymryd â phrosiectau ym maes arloesi ac ymchwil a datblygu.

Diben rôl yr Arbenigwr Arloesi o fewn y gyfres o raglenni Arloesedd SMART yw ysgogi a datblygu twf economaidd yng Nghymru drwy annog a chynorthwyo busnesau a’r byd academaidd i fod yn fwy cystadleuol drwy wella eu sylfaen dechnoleg a thrwy fabwysiadu arferion rheoli a phrosesau mwy arloesol. Bydd yn cyflawni hyn drwy gyflwyno gwyddoniaeth, technolegau a gwaith ymchwil a datblygu newydd er mwyn datblygu cynhyrchion a phrosesau newydd a gwell.

Mae'r rôl yn rhan annatod o'r gyfres o raglenni SMART, a bydd yn helpu i sicrhau bod pob un o elfennau gwahanol y rhaglen yn rhannu gwybodaeth â'i gilydd mewn modd effeithiol er mwyn cyflawni i'r eithaf ym maes masnacheiddio a chydweithio ac o ran edrych at y dyfodol.

Prif dasgau

  • Darparu technolegau arbenigol proffesiynol, rhoi cyngor ar ddatblygu cynhyrchion newydd a rhannu arbenigedd y sector gyda busnesau technoleg arloesol a newydd, fel arfer ar lefel cyfarwyddwr. Cydweithio â sefydliadau academaidd ar lefel athrawon cadeiriol er mwyn cyflwyno cyfleoedd, sy’n cael eu harwain gan fusnesau, i gydweithio ym maes technolegau cymhleth. 
  • Darparu adnodd arbenigol a fydd yn defnyddio sgiliau penodol y sector i sicrhau bod cymorth yn cael ei roi'n barhaus i brosiectau ymchwil a datblygu, a mynd ati hefyd i hwyluso perthynas gynaliadwy ar ôl i brosiectau ddod i ben. "Cyfieithu technoleg" er mwyn helpu partïon sydd â lefelau gwahanol o ddealltwriaeth o dechnoleg i gydweithio’n llwyddiannus.
  • Gan ddefnyddio proses ddiagnostig, nodi a phwyso a mesur anghenion busnesau o ran technoleg ac arloesi, a darparu adnodd er mwyn mynd i'r afael â phroblemau allweddol a'u datrys. Nodi manteision a buddiannau rhoi technolegau newydd ar waith a dewis atebion sy’n ateb y gofyn a chynghori ar gymorth ariannol priodol, ee Innovate UK, Horizon Ewrop, SMARTCymru a rhaglenni eraill.
  • Paratoi cynigion manwl ar gyfer datblygu technoleg a chynhyrchion newydd a mynd i’r afael ag agweddau ar broblemau technolegol, masnachol, cylch bywyd cynhyrchion, ariannol, ac eiddo deallusol. Hefyd, asesu, gwerthuso a hidlo’n drylwyr gynigion tebyg fel rhan o broses diwydrwydd dyladwy ar gyfer cyllid SMARTCymru.
  • Mynd ati ar y lefel uwch i fentora ac i oruchwylio prosiectau, fel arfer rhai sy'n gysylltiedig ag ymchwil a datblygu cynnyrch, gan ganolbwyntio ar fusnesau sydd â llai na 10 o staff neu'r rheini sydd â chryn botensial i dyfu.   
  • Cydweithio ag is-gontractwyr i ddarparu'r elfennau cymorth dylunio, cynhyrchiant a gweithgynhyrchu digidol sy'n rhan o waith ArloeseddSMART. Mae'r gwaith hwn hefyd yn cynnwys asesu adroddiadau technegol ac archwiliadau diagnostig sy'n cael eu paratoi gan yr is-gontractwyr.
  • Darparu gwasanaeth cynghori arbenigol ar eiddo deallusol a thrwyddedu ac addysgu cleientiaid am y manteision, y problemau a’r prosesau sy’n gysylltiedig ag ennill statws eiddo deallusol ym meysydd ymchwil, datblygu a gweithgynhyrchu. Cynnal chwiliadau ac archwiliadau ar eiddo deallusol, a chynnig argymhellion.
  • Darparu cymorth arloesi a thechnoleg i fusnesau sy'n cymryd rhan yn y rhaglen Cyflymu Twf, busnesau sy'n ystyried gweithgareddau cydweithredol rhyngwladol ac, yn fwy cyffredinol, randdeiliaid a busnesau sy'n gysylltiedig â rhaglenni eraill sy'n seiliedig ar ymchwil ac arloesi.
  • Drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus, mynd ati i gynnal ac i feithrin gwybodaeth am dechnolegau a gwyddoniaeth newydd ac am gyllid ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu, a hefyd wybodaeth berthnasol am y sector.

Cyfleoedd datblygu

Bydd gan ddeiliad y swydd y cyfle i ehangu ac adeiladu ar ei wybodaeth am y busnes / ymchwil academaidd a’r dirwedd datblygu yng Nghymru a’r DU. Bydd deiliad y swydd yn cael ei gefnogi i ymgymryd â datblygu proffesiynol parhaus a hyfforddiant sy’n cynyddu ei gyfraniad ar y tîm arloesi.

Dyddiad Cau

05/12/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau: 

  • Gwneud penderfyniadau effeithiol - Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu’r costau, y manteision, y risgiau a’r ymatebion posibl. (Rydym yn chwilio am wybodaeth sy'n gysylltiedig â phrosiectau a data ymchwil a datblygu). 
  • Gweld y Darlun Cyflawn - Mynd ati i chwilio am brofiadau i ddatblygu dealltwriaeth o’u gwaith eu hunain ac o feysydd busnes eu timau, a rhannu’r profiadau hynny.
  • Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi’r broses o wireddu canlyniadau busnes.
  • Cyflawni’n Brydlon - Cynllunio ymlaen llaw ond gan ailystyried llwythau gwaith a blaenoriaethau os bydd sefyllfaoedd yn newid neu os bydd y galwadau ar unigolion yn gwrthdaro. 

Meini Prawf Penodol i'r Swydd: 

  • Gradd mewn pwnc Gwyddoniaeth/Technoleg, ac yn aelod o sefydliad priodol a chymhwyster proffesiynol fel CEng.
  • Profiad helaeth o weithio gyda diwydiannau gan gynnwys datblygu cynhyrchion newydd a phrosesau dylunio o fewn diwydiant a’r maes academaidd.
  • Achrediad Eiddo Deallusol neu wybodaeth helaeth am eiddo deallusol a materion yn ymwneud â masnacheiddio.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau’n seiliedig ar ffurflen gais, CV a datganiad personol.

Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno’r canlynol:

  • CV heb fod yn fwy na dwy ochr o A4 (bydd unrhyw beth hirach na hyn yn cael ei ddiystyru) sy’n nodi hanes gwaith, profiad a chymwysterau, ac sy’n dangos sut mae’r ymgeisydd yn meddu ar y sgiliau allweddol ar gyfer y rôl.
  • Datganiad personol heb fod yn hirach na 1750 gair (bydd unrhyw beth hirach na hyn yn cael ei ddiystyru) sy’n dangos enghreifftiau yn erbyn yr holl feini prawf sy’n benodol i’r swydd a’r cymwyseddau a restrir yn yr hysbyseb.

Bydd ceisiadau’n cael eu sifftio a gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i gael cyfweliad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Gellir lleoli'r swydd yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd, Abertawe, y Drenewydd, Aberystwyth neu Gyffordd Llandudno. Bydd gofyn am deithio'n rheolaidd ledled Cymru er mwyn gallu ymgymryd â'r swydd.
Gwion Williams - 07796991278

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.