Swydd Wag -- Rolau Amrywiol Gradd EO - Benthyciad o’r Tu Allan

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
EO - £26,900 - £30,610
£25,030
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Benthyciad
Hyd at 2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
Cynhelir sgyrsiau rhagarweiniol anffurfiol gyda Rheolwyr Llinell yn rhithwir. Dyddiadau i’w cadarnhau

Pwrpas y swydd

Rydym yn awyddus i wneud yn fawr o arbenigedd staff o bob rhan o’r Gwasanaeth Sifil er mwyn gwneud effaith ymarferol a chadarnhaol yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Mae ein Swyddogion Gweithredol Uwch yn darparu rôl allweddol yn Llywodraeth Cymru a disgwylir iddynt weithio’n annibynnol, gan ddangos barn gadarn, dehongli gwybodaeth gymhleth sy’n gwrthdaro i raddau uwch. Bydd Swyddogion Gweithredol Uwch yn cefnogi a datblygu aelodau tîm drwy hyfforddi a mentora, byddant yn rheoli eu gwaith a’u blaenoriaethau eu hunain ac eraill i sicrhau bod amcanion yn cael eu bodloni ac yn cyrraedd y safon ofynnol.

 

Caiff pob un ohonom ein hysgogi gan y gwerthoedd a nodir yng Nghod y Gwasanaeth Sifil: sef uniondeb, gwrthrychedd, gonestrwydd ac amhleidioldeb. Yn ychwanegol at y cod mae gennym ein gwerthoedd a’n disgwyliadau ein hunain sy’n crynhoi ein ‘ffordd Gymreig’ o weithio, gan adlewyrchu’r uchelgeisiau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Mae gennym amrywiaeth o rolau â blaenoriaeth i’w llenwi, lle bydd ystod eang o sgiliau a phrofiad yn angenrheidiol. Mae’r rolau ar gael yn y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yng Ngrŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, yn y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, ac yng Ngrŵp yr Ysgrifennydd Parhaol (PSG).

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu paru â swyddi â blaenoriaeth. Wrth wneud cais am un o’r rolau hyn, felly, byddwch yn cytuno i symud i swydd yr ystyrir ei bod yn fwyaf priodol i chi ar sail yr wybodaeth a gyflwynwch.


Prif dasgau

Beth fydd eich tîm yn ei ddisgwyl?

  • Gweithio’n annibynnol o ddydd i ddydd gyda materion bob dydd a allai gynnwys rhoi cyngor i raddau uwch a chefnogi gwaith datblygu polisi, digidol, deddfwriaeth neu weithredol; gan fod yn swyddog arweiniol i ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid yn fewnol ac yn allanol. (Arweinyddiaeth)
  • Rheoli llinell i unigolion neu dîm. Gall cyfrifoldebau rheoli gynnwys cefnogi aelodau tîm ar achosion anoddach, rheoli dyraniad gwaith a blaenoriaethu. Cyfrifoldeb am reoli perfformiad, hyfforddi, mentora a datblygu staff o bob cefndir er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwireddu eu potensial llawn, gan sicrhau bod unrhyw gyfleoedd datblygu yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb. (Datblygu eich Hunain ac Eraill)

 Beth fydd eich rhanddeiliaid yn ei ddisgwyl?

  • Rhoi barn gadarn gyda’r gallu i ddehongli gwybodaeth lle mae materion yn gymhleth neu’n gwrthdaro gyda’r gallu i bwyso a mesur nifer o ffactorau i lunio syniadau a datrysiadau adeiladol. (Cyfathrebu a Dylanwadu)
  • Angen cyfathrebu gwybodaeth, er mwyn rhoi cyngor i uwch gydweithwyr ar effeithiau polisi neu newidiadau gweithredol a dylanwadu ar ganlyniadau. (Cyfathrebu a Dylanwadu)
  • Y gallu i feithrin cysylltiadau proffesiynol cadarn gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gydweithredu’n effeithiol i rannu gwybodaeth, adnoddau a chymorth. (Cydweithio)

 Beth fydd y sefydliad yn ei ddisgwyl?

  • Y gallu i reoli eich gwaith eich hun ac eraill a blaenoriaethu er mwyn sicrhau bod amcanion yn cael eu bodloni ac i safon, gan ddefnyddio’ch cymhelliant eich hun a gwneud penderfyniadau, gan reoli risgiau fel sy’n briodol. (Cyflawni’n gyflym).
  •  Y gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau gweithredol/polisi a/neu argymhellion drwy ddewis rhwng nifer o opsiynau a allai gynnwys ymchwilio, trefnu a dadansoddi ffeithiau a data. (Gwneud Penderfyniadau Effeithiol)

Cyfleoedd datblygu

Dyma gyfle gwych i greu effaith trwy ddod â’ch gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad gwerthfawr i adran wahanol yn y llywodraeth. Hefyd, bydd modd i chi feithrin eich gallu a’ch set sgiliau trwy fod yn rhan o ystod eang o waith hollbwysig, yn cynnwys blaenoriaethau fel ymateb i COVID-19 a threfniadau pontio’r UE.

Dyddiad Cau

28/06/21 12:00

Hyderus o ran Anabledd

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Hanes profedig o reoli eich gwaith a’ch blaenoriaethu chi ac eraill i sicrhau bod amcanion yn cael eu bodloni ar amser ac i safon ofynnol.

Proses Asesu

Gwelir y pecyn ymgeisydd isod:

cliciwch yma.

Yn adran gwybodaeth bellach eich cais, peidiwch â pha swydd rydych chi'n gwneud cais amdani. Gweler y teitlau isod -

xxxxxx

xxxx


Gwybodaeth arall

Penodiadau a Thelerau ac Amodau

  • Dim ond i Weision Sifil presennol mae cyfleoedd benthyciad o’r tu allan ar gael (ar sail benthyg yn unig).
  • Mae rolau i’w cael ar gyfer cyfleoedd tymor byr (6-12 mis) neu gyfleoedd tymor hir (hyd at ddwy flynedd).
  • Ni ddisgwylir i chi drosglwyddo’n barhaol i Lywodraeth Cymru.
  • Mae’r holl rolau ar gael ar radd y swydd barhaol ac ar sail symud ar draws yn unig.
  • Ni fydd dyrchafiadau dros dro na dyrchafiadau parhaol ar gael trwy gyfrwng y cyfle hwn; fodd bynnag, bydd nifer o’r rolau’n cynnig cyfle i ennill profiad gwerthfawr, ehangu rhwydweithiau a dysgu sgiliau newydd.
  • Byddwn yn gwneud pob ymdrech i’ch paru â rôl ar sail y dystiolaeth a gyflwynwch yn eich ffurflen gais.
  • Ni allwn warantu y byddwch yn cael cynnig unrhyw swydd, neu swydd benodol.
  • Os cewch eich paru’n llwyddiannus â rôl, byddwch yn symud dan drefniadau ffurfiol Benthyciad o’r Tu Allan, h.y. byddwch yn symud i Delerau ac Amodau Llywodraeth Cymru.
  • Bydd eich cyflog parhaol yn cael ei baru â’r pwynt cyflog agosaf ar fand cyflog y radd, ac ni fyddwch ar eich colled https://llyw.cymru/telerau-buddion-gwasanaeth-sifil-llywodraeth-cymru
  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael cymeradwyaeth/caniatâd gan eich rheolwr llinell i’ch rhyddhau.
  • Rhaid i chi fod ar gael i’ch rhyddhau yn syth, oherwydd ar ôl i chi gael eich paru â rôl disgwylir i chi fynd i’r afael â’r swydd yn ddi-oed.
  • Byddem yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob rhan o'r gwahanol broffesiynau a'r rhai â sgiliau arbenigol neu gyffredinol.
  • Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi pob aelod o staff i ffynnu mewn amgylchedd gwaith cynhwysol.
  • Rydym yn gefnogol i’r arfer o weithio gartref a’r arfer o deilwra patrymau i weddu i amgylchiadau’r unigolyn. Yn y tymor byr, bydd mwyafrif y deiliaid swyddi yn gweithio gartref.
  • Er nad yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer proses dethol yr ymgyrch hon, rydym yn annog ceisiadau gan unigolion a all weithio’n ddwyieithog.
  • Gan mai benthyciad yw hwn, pe bai’r swydd yn dod i ben dylech gadw mewn cof y bydd disgwyl i chi ddychwelyd i’ch sefydliad presennol.
  • Am rhagor o wybodaeth - gweler y ddogfen ar https://bit.ly/3pFecju
HRTransitionTeam@gov.wales / TimTrawsnewidAD@llyw.cymru

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.

I wneud cais am gyfle benthyciad o’r tu allan, bydd angen i chi baratoi templed CV Symud ar Draws . Os na chaiff hwn ei lenwi a/neu ei gyflwyno, ni fydd y cais yn cael ei ystyried.

Yn y cais CV symud ar draws, bydd angen i chi gyflwyno 500 gair yn ymwneud â’r canlynol:

  • Hanes profedig o reoli eich gwaith a’ch blaenoriaethu chi ac eraill i sicrhau bod amcanion yn cael eu bodloni ar amser ac i safon ofynnol.

Ymhellach, bydd angen i chi nodi eich sgiliau a’ch profiad, cyflwyno hanes byr o’ch gyrfa, a nodi eich hoff ddewisiadau o ran Grŵp/Adran a maes gwaith craidd â blaenoriaeth.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y cyfleoedd a’r camau sy’n berthnasol i’r broses dethol a pharu yn y pecyn i ymgeiswyr.

Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch TimTrawsnewidAD@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

**Nodwch:  Os oes gennych chi gyfrif Penodi yn barod, a hoffech chi ddiweddaru eich enw defnyddiwr i’r cyfeiriad e-bost @llyw.cymru newydd, dylech fewngofnodi i’ch cyfrif gan ddefnyddio’ch hen fanylion, yna clicio ar eich enw, a dewis ‘Golygu manylion personol’.  Gallwch ddiweddaru eich manylion personol cofrestredig ar y dudalen hon.**

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.