Swydd Wag -- Rheolwr Polisi TB

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
TB
SEO - £41,700 - £49,370
£41,700
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
2 wythnos
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Amcanion Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol (OCVO) yw:

  • Diogelu iechyd y cyhoedd;
  • Sicrhau cyflwr o barodrwydd i ddelio ag unrhyw ymlediad o glefyd anifeiliaid egsotig ac i reoli clefyd anifeiliaid endemig;
  • Codi ymwybyddiaeth a gwella iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru; a
  • Mynd i'r afael â TB mewn gwartheg drwy raglen waith fel y nodir yn y cynllun cyflawni.

Mae Canlyniadau Strategol Allweddol OCVO fel a ganlyn:

  • Bod gan Gymru anifeiliaid cynhyrchiol, iach;
  • Bod gan anifeiliaid yng Nghymru ansawdd bywyd da;
  • Bod gan bobl ffydd a hyder yn y ffordd mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a'r ffordd y mae iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu;
  • Bod gan Gymru economi wledig ffyniannus; a
  • Bod gan Gymru amgylchedd o safon uchel.

Mae gennym 5 ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, ac mae un ohonynt yn ymwneud â'r rhaglen TB a'r polisi parhaus o beidio difa moch daear.

Er mwyn cyflawni hyn, mae OCVO yn gweithio'n agos gyda Llywodraethau eraill y DU, cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, partneriaid gweithredol a rhanddeiliaid y diwydiant i reoli polisïau sy'n bodoli eisoes a datblygu polisïau newydd mewn modd rhagweithiol a strategol. 

Mae ein dull o ymdrin ag Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru wedi'i nodi yn Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru. Dylai ein hanifeiliaid fferm:

  • Fod yn iach a chynhyrchiol, i fod yn rhan o fusnesau ffermio sy'n gynaliadwy yn ariannol;
  • Cael ansawdd bywyd da, i gwrdd â disgwyliadau cymdeithasol a marchnad ar gyfer lles anifeiliaid; a
  • Gwella, ac nid niweidio, yr amgylcheddau y maent yn byw ynddynt, i fod yn rhan o ecosystemau bioamrywiol i leihau'r effaith ar newid yn yr hinsawdd.

Un o brif egwyddorion Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid yw “gwell atal na gwella” i leihau clefydau anifeiliaid a’u heffeithiau cysylltiedig ar les. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gydag arweinwyr polisi a Chynghorwyr Milfeddygol i integreiddio’r egwyddor hon ym mhob math o gymorth a pholisi yn y dyfodol. Bydd Cynllunio Iechyd Anifeiliaid yn rhan allweddol o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Mae'r swydd hon yn Nhîm TB Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol (OCVO) yn cynnig cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn rhan o dîm ymroddedig sydd ar flaen y gad o ran rheoli clefydau mewn maes polisi heriol, uchel ei broffil, ac sy'n symud yn gyflym.

Mae OCVO yn gyfrifol am wella iechyd a lles da byw sy'n cael ei ffermio er mwyn cefnogi datblygiad diwydiant ffermio iach yng Nghymru. Mae'r Tîm TB yn arwain ar waith i weithredu'r rhaglen dileu TB buchol: strategaeth | LLYW. CYMRU. Mae ein nod hirdymor o ddileu'r clefyd yng Nghymru yn ymrwymiad a fydd yn golygu defnyddio technolegau newydd a datblygiadau gwyddonol wrth iddyn nhw ddod ar gael.

Mae TB gwartheg yn effeithio ar rywogaethau eraill hefyd, nid yn unig ar wartheg ac mae'r Rhaglen Dileu TB buchol wedi'i anelu at fynd i'r afael â phob ffynhonnell haint gan gynnwys gwartheg, anifeiliaid nad ydynt yn wartheg a bywyd gwyllt. Mae'r swydd hon mewn tîm sy'n ymdrin â nifer o feysydd gwaith gan gynnwys:

  • Gwyliadwriaeth a rheolaethau gwartheg
  • Gwyliadwriaeth a rheolaethau anifeiliaid nad ydynt yn wartheg
  • Mentrau bioddiogelwch
  • Achosion gorfodi ar gyfer diffyg cydymffurfio.

Bydd deiliad y swydd yn arwain ar ddatblygu a gweithredu nifer o feysydd polisi allweddol fel rhan o'r Rhaglen Dileu TB sydd wedi'i hadnewyddu.

Prif dasgau

  • Arwain ar ddatblygiad polisi a fydd yn mynd rhagddo fel rhan o'r Rhaglen Dileu TB sydd wedi’i hadnewyddu. Bydd hyn yn cynnwys adolygiad o drefniadau iawndal a phrynu gwybodus. Bydd angen ymgysylltu'n sylweddol â rhanddeiliaid allanol er mwyn adeiladu sylfaen dystiolaeth a hwyluso achos dros newid.
  • Monitro’n barhaus y Cynllun Cyflawni ar gyfer Dileu TB yn barhaus a darparu polisi newydd neu ddiwygiedig.
  • Rheoli prosiectau sy’n ymwneud â datblygu, gweithredu, a chyfathrebu polisi diwygiedig, gan gynnwys ynghylch iawndal a phrynu gwybodus.
  • Rhoi cyngor i Weinidogion, cyfathrebu a briffio ehangach ar bolisi TB.
  • Darparu atebion drafft i Gwestiynau cysylltiedig y Senedd, ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth, Ceisiadau Ymchwil Aelodau, gohebiaeth Gweinidogol a Thrin yn Swyddogol.
  • Cefnogi gwaith TB ehangach drwy gysylltu â Defra, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), gweinyddiaethau datganoledig a rhanddeiliaid eraill.
  • Rheoli un HEO yn y tîm Polisi TB.
  • Trefnu a chynrychioli’r tîm TB mewn cyfarfodydd priodol ac ymweliadau safle.
  • Gweithgareddau ad hoc yn ôl y galw ar gyfer gweithredu'r rhaglen dileu TB sydd wedi'i hadnewyddu.
  • Mae’n bosibl y bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyflawni gwaith mewn meysydd eraill â blaenoriaeth yn OCVO lle bo angen, er enghraifft yn ystod achos o glefyd.

Cyfleoedd datblygu

Bydd y rôl yn cynnig cyfle gwych i arwain ar ddatblygu polisi mewn maes uchel ei broffil a chyflym, gan weithio'n agos gyda Gweinidogion ac uwch-swyddogion yn Llywodraeth Cymru ac adrannau eraill y Llywodraeth. Mae'r swydd yn cynnig ystod o sgiliau angenrheidiol i alluogi deiliad y swydd i gamu ymlaen.

Mae'r swydd yn cynnig cyfle i ymgysylltu'n uniongyrchol â rhanddeiliaid a chynrychioli OCVO mewn digwyddiadau uchel eu proffil fel y 'Sioe Frenhinol' a'r 'Ffair Aeaf'.

Dyddiad Cau

11/04/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau;

Cyflawni’n Brydlon

  • Dangos agwedd bositif tuag at gadw ymdrechion y tîm cyfan sy'n ffocysu ar y prif flaenoriaethau.

Gwneud penderfyniadau effeithiol

  • Cyflwyno argymhellion cryf yn brydlon gan amlinellu ystyriaeth i opsiynau, costau, buddion a risgiau eraill.

Gweithio ar y cyd

  • Sefydlu perthynas broffesiynol gydag ystod o randdeiliaid. Cydweithio â'r rhain i rannu gwybodaeth, adnoddau a chymorth.

Arweinyddiaeth

  • Sicrhau bod gan gydweithwyr a rhanddeiliaid ddealltwriaeth glir o amcanion, gweithgareddau a fframiau amser.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd;

  1. Profiad o weithio ar draws y llywodraeth, gan gynnwys gyda Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill, gan sicrhau bod amcanion polisi Llywodraeth Cymru yn cael eu bodloni.
  2. Profiad o ddatblygu polisi, gan gynnwys defnyddio dull sy’n seiliedig ar risg i ddatrys problemau mewn maes polisi cymhleth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
  3. Y gallu i flaenoriaethu a dadansoddi gwybodaeth gymhleth, ystyried opsiynau a gwneud argymhellion ar y ffordd ymlaen.

Proses Asesu

Fe fydd ymgeiswyr yn cael eu siftio a'u hasesu gan bob aelod o'r panel ac fe wahoddir ymgeiswyr llwyddiannus am gyfweliad. Caiff ymgeiswyr eu hasesu yn erbyn yr ymddygiadau sydd wedi eu hamlinellu yn y manylion swydd.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Emily Lay – Head of TB Policy - bovinetb@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.