Swydd Wag -- Rheolwr Gwaith Cadwraeth – (Canol De Cymru)
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Prif dasgau
Cefnogi’r Pennaeth Cadwraeth a’r Uwch-syrfëwr Cadwraeth wrth ddatblygu rhaglen flynyddol fanwl a’i chyflwyno’n amserol, gan gynnwys rhaglenni cysylltiedig ym maes gwaith cadwraeth ar draws cangen Eiddo mewn Gofal yn rhanbarth Canol De Cymru.
Cyfrifoldeb uniongyrchol o reoli llinell am Oruchwyliwr y Gwaith Cadwraeth gyda chyfrifoldeb anuniongyrchol am Gadwraeth. Goruchwylio cyfeiriad a chymhelliant staff er mwyn sicrhau arferion gweithio diogel a chydymffurfiaeth â rheoliadau statudol ar y cyd â gweithredu rhaglenni diogelwch a hyfforddant gorfodol cymeradwy. Goruchwylio a chymeradwyo Datganiadau Dull, Cynlluniau Diogelwch, Dogfennaeth Safle Adeiladu ac Asesiadau Risg, yn ôl yr angen. Sicrhau bod arferion Iechyd a Diogelwch cywir yn cael eu cadw ar y safle bob amser. Rhoi gwybod i reolwyr am achosion o dorri rheolau yn brydlon. Sicrhau bod holl offer a chyfarpar Cadw a cherbydau les yn cael eu gwasanaethu, eu hadfer a’u chynnal yn ôl yr angen. Bydd hefyd angen sicrhau bod y sgaffaldiau, y planhigion a’r deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer yr holl waith a gynhelir gan Cadwraeth yn cael eu darparu a’u cyflenwi’n amserol, i gael parhad a sicrhau bod y cynhyrchiant mor uchel â phosibl.
Archwilio cyflwyniadau a pherfformiadau cyflwr yn rheolaidd mewn henebion a safleoedd er mwyn deall y risgiau i ddiogelwch ymwelwyr a staff, a sicrhau bod safonau cyflwyno’r safle’n cael eu cyflawni a’u cynnal. Sicrhau bod ymlyniad at gyfundrefnau cynnal a chadw cylchol yn effeithiol a bod cydymffurfiaeth statudol yn cael ei bodloni (gan gynnwys arsylwadau ar feysydd cynnal a chadw, safleoedd, sbwriel, diogelwch coed ac ati) a chymryd camau gweithredu yn ôl yr angen. Rhoi gwybod am achosion o fylchau mewn perfformiad, difrod, risg o ran cydymffurfio neu ddirywio gan gyflawni gwaith cywiro, adfer, ymatebol a brys pan fo angen.
Cynnal arolygiadau cyfnodol o safleoedd i asesu cyflwr y safleoedd a’r ffabrig, safonau cynnal a chadw, diogelwch ymwelwyr a difrod, dirywiad neu bydredd. Blaenoriaethu canfyddiadau arolygu a gwaith adferol yn rhanbarthol yn unol â risg, arwyddocâd hanesyddol ac adnoddau, drwy gontractwyr allanol neu Cadwraeth. Cydlynu hefyd cyngor arbenigol allanol a mewnol lle bo angen e.e. Adroddiadau Ecoleg, Arolygiaeth Cadw, Peirianwyr Strwythurol ac ati, er mwyn sicrhau bod opsiynau adferol yn cydymffurfio ac yn dilyn arferion gorau cadwraeth. O arolygiadau ac adroddiadau eraill, cynhyrchu a datblygu rhaglenni gwaith parhaus gan gynnwys adnabod potensial prosiect cyfalaf mwy, ar gyfer rhaglenni cadwraeth blynyddol yn y dyfodol. Bydd angen lefel ganolraddol o brofiad TG ar gyfer hyn.
Paratoi amserlenni gwaith, manylebau a dogfennau contract ar gyfer gwaith contract unigol (e.e. ar gyfer gwaith untro megis atgyweirio, cynnal a chadw, datblygiadau bach, amnewidiadau, gwelliannau ac addasiadau). Helpu i adnewyddu contractau cenedlaethol (e.e. rheoli cyfleusterau, fflyd cerbydau, Cyfarpar Diogelu Personol ac ati), fframweithiau ymgynghori a chyflenwyr, a phenodi a goruchwylio'n rhanbarthol. Caffael deunyddiau amserol, planhigion, offer a gwasanaethau a nodwyd mewn Rhaglenni Cadwraeth, a chaffael a phenodi contractwyr, cyflenwyr ac ymgynghorwyr. Sicrhau ymlyniad llym at reolau Caffael LlC, rheoli cyllidebau ac arferion gorau.
Helpu i sicrhau bod gwaith Cadw’n cael ei hyrwyddo, a bod ymwelwyr a chynulleidfaoedd ehangach yn ei ddeall lle bo hynny’n briodol, gan gynnwys arddangos ein gwaith i ymwelwyr, gan fynychu digwyddiadau allanol, arddangosiadau gwaith, a chyfleoedd gyda’r cyfryngau ac ati gan gynrychioli Cadw ynddynt. Yn ogystal â’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau a restrir, efallai y bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gyflawni dyletswyddau eraill a bennir gan reolwyr sy'n berthnasol i'r Radd.
Cyfleoedd datblygu
Mae Cadw yn annog staff i fachu ar gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus yn ogystal â chefnogi dysgu penodol a gweithgareddau datblygu sy’n gysylltiedig ag anghenion busnes.
Byddwch yn gweithio mewn tîm integredig o weithwyr proffesiynol ym maes cadwraeth ac eiddo gan ofalu am rai o enghreifftiau gorau Cymru o dreftadaeth adeiledig, gan eu cyflwyno a’u hyrwyddo.
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Cymwyseddau:
- Gweld y darlun cyflawn - Ceisio deall sut y mae’r gwasanaethau, y gweithgareddau a’r strategaethau yn y maes yn ategu ei gilydd i greu gwerth am arian ar gyfer y cwsmer/defnyddiwr.
- Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi’r broses o wireddu canlyniadau busnes.
- Sicrhau Gwerth am Arian - Dilyn gweithdrefnau ariannol priodol i fonitro contractau er mwyn sicrhau eu bod yn darparu’r hyn y cytunwyd arno.
- Rheoli Gwasanaeth Safonol - Datblygu, gweithredu, cynnal ac adolygu systemau a safonau gwasanaethau er mwyn sicrhau rhagoriaeth ac arbenigedd proffesiynol ynghyd â gwerth am arian.
Meini Prawf Penodol i'r Swydd:
- Gweithiwr proffesiynol priodol (NVQ lefel 4 neu uwch) neu gymhwyster lefel crefft uwch a ategir gan gymwysterau rhaglennu a rheoli prosiectau neu brofiad o wneud hynny, a/neu'r gallu i ddangos gallu a dawn o ganlyniad i brofiad ac ymarfer dros gyfnod o fwy na 5 mlynedd o leiaf gyda chorff treftadaeth cydnabyddedig neu brif gontractwr.
- Dealltwriaeth o'r amgylchedd hanesyddol, cadwraeth adeiladu, deunyddiau a dulliau traddodiadol o adeiladu, technegau cadwraeth arbenigol, ac arferion gorau wrth gynnal a chadw, cadwraeth, adfer a rheoli adeiladau hanesyddol, ynghyd â gwybodaeth weithredol o'r rheoliadau sy'n effeithio ar waith adeiladu, iechyd a diogelwch, cynnal a chadw gweithredol, rheoli gwaith adeiladu a chydymffurfio statudol.
- Profiad o nodi, cynllunio a rheoli nifer o brosiectau gwaith bach a rheoli staff, rhaglenni, a chyllidebau a ddyrannwyd. Y gallu i amldasgio, a nodi ac asesu sefyllfaoedd lle gall risg uwch godi, a chymryd camau cywiro priodol yn brydlon lle gall blaenoriaethau newid.
Proses Asesu
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.