Swydd Wag -- Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi Sgiliau a Chyfoeth Naturiol a Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus (2 Swydd)

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manylion y Swydd

Llywodraeth Cymru
Uwch Wasanaeth Sifil 3
Rydym yn cynnig cyflog o tua £120,000 y flwyddyn.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Arall
Parhaol neu Secondiad
Caiff y penodiadau hyn eu cynnig un ai yn barhaol neu fel secondiad am hyd at 5 mlynedd
Cymru gyfan
Caiff deiliaid y swydd weithio o unrhyw un o Swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghymru. Y prif leoliadau yw Caerdydd, Merthyr Tudful, Cyffordd Llandudno ac Aberystwyth. Fodd bynnag, bydd yn hanfodol i chi deithio i Gaerdydd yn wythnosol.

Dyddiad Cau

02/10/17 23:55

Pwrpas y Swydd

Gan adrodd yn uniongyrchol i'r Ysgrifennydd Parhaol, bydd deiliaid swyddi'r Cyfarwyddwyr Cyffredinol yn mynd ati i sicrhau bod y Llywodraeth gyfan yn gweithio tuag at gyflawni Symud Cymru Ymlaen (PDF) a'r strategaeth drawsbynciol Ffyniant i Bawb (i’w gyhoeddi ym mis Medi). Byddant yn gweithio fel rhan o'r Uwch-Dîm i helpu i sicrhau bod adnoddau Llywodraeth Cymru, ei phrosesau a'i systemau corfforaethol, ynghyd â gwaith y Gwasanaeth Sifil yn cyd-fynd â'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau Gweinidogol, yn ogystal ag yn canolbwyntio'n ddiflino arnynt.

Yng nghyd-destun cyfyngiadau parhaus ar adnoddau, bydd y Cyfarwyddwyr Cyffredinol yn cefnogi'r Prif Weinidog a'r Cabinet i wneud penderfyniadau anodd er mwyn blaenoriaethu gwaith y Llywodraeth, gyda'r bwriad o sicrhau’r effaith gadarnhaol fwyaf ar fywydau pobl Cymru. Bydd y Cyfarwyddwyr Cyffredinol yn annog y gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau arloesol ac effeithiol sy'n cynnig gwerth am arian drwy annog cydweithio ar draws ffiniau, o fewn Llywodraeth Cymru a'r tu allan iddi. Bydd y Cyfarwyddwyr Cyffredinol yn cynrychioli Llywodraeth Cymru yn allanol, gan ddefnyddio'u perthynas a'u dylanwad i gyfleu a chefnogi rhaglen y Llywodraeth ynghyd â buddiannau’r  gweinyddiaethau datganoledig a Chymru.

Bydd y Cyfarwyddwyr Cyffredinol yn rhan hanfodol o weithredu'r newidiadau sydd eu hangen i ddatblygu Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru i fod yn gryf, yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy at y dyfodol. Byddant yn darparu'r arweinyddiaeth ardderchog sy’n angenrheidiol er mwyn bwrw ymlaen â chynlluniau’r Ysgrifennydd Parhaol i sicrhau bod y Llywodraeth yn barod at y dyfodol drwy wella sgiliau, gallu, hyder a chadernid y sefydliad. Mae hyn yn cynnwys datblygu arweinwyr y dyfodol ac annog arweinyddiaeth effeithiol ar bob lefel. Byddant yn hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth ac yn herio ffyrdd o weithio sydd wedi dyddio a’r rhai sy’n derbyn y drefn fel y mae hi. Bydd y Cyfarwyddwyr Cyffredinol yn rheoli perfformiad staff eu hadrannau yn fanwl, gan gynnwys meithrin talent a delio'n effeithiol â pherfformiad gwael, gan osod ac annog safonau ansawdd ardderchog. 

Bydd yr Ysgrifennydd Parhaol yn dynodi'r Cyfarwyddwyr Cyffredinol yn Swyddogion Cyfrifyddu Ychwanegol a byddant yn atebol iddi  o ran y modd y byddant y cyflawni eu dyletswyddau. Byddant yn ymgymryd â swyddogaethau'r Swyddogion Cyfrifyddu Ychwanegol mewn perthynas â'u meysydd cyfrifoldeb penodol, sy'n gyfran sylweddol o gronfa £15 biliwn Llywodraeth Cymru. Byddant yn gweithredu o fewn y fframwaith llywodraethiant cyffredinol a gyflwynwyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol a byddant, yn benodol, yn ymgynghori â hithau ynghylch materion a allai fod yn newydd, yn gynhennus neu â sgil-effeithiau, neu a fyddai'n effeithio'n negyddol ar enw da. O fewn y ffiniau hyn, byddant yn sicrhau wrth i gynigion polisi neu benderfyniadau ynghylch gwariant gael eu gwneud yn eu Grŵp, neu pan gyflwynir cynigion i'r Gweinidogion, bod yr holl ystyriaethau ariannol perthnasol gan gynnwys rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian yn cael eu hasesu a'u hystyried. Byddant hefyd yn sicrhau cydymffurfiaeth â gwerthoedd a safonau corfforaethol a safonau gofynnol ymddygiad moesegol. Bydd y Cyfarwyddwyr Cyffredinol yn adrodd yn uniongyrchol i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol yn bersonol neu drwy eu huwch-Gyfarwyddwyr, a byddant yn darparu tystiolaeth ffurfiol i gynorthwyo'r Pwyllgor i gynnal ei archwiliadau.

Bydd y Cyfarwyddwyr Cyffredinol, fel Penaethiaid Grwpiau a Swyddogion Cyfrifyddu Ychwanegol, yn annog ac yn galluogi cydymffurfiaeth â’r gwasanaethau, y safonau a’r prosesau corfforaethol effeithlon sy’n gyffredin i bawb yn Llywodraeth Cymru, gyda'r bwriad o wella ansawdd, effeithlonrwydd a thryloywder y gwaith a wneir gan Wasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru.

Bydd y Cyfarwyddwyr Cyffredinol yn aelodau o Fwrdd ac Uwch-Dîm Llywodraeth Cymru, a byddant yn ymgymryd â nifer o rolau corfforaethol gan gynnwys cefnogi un o Rwydweithiau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth staff Llywodraeth Cymru. Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad cryf tuag at hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth ledled y sefydliad. 

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Proses Asesu

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ffurflen gais wedi'i llenwi, CV diweddar, ynghyd â datganiad personol o'ch addasrwydd ar gyfer y swydd erbyn y dyddiad cau.  Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SCSrecruitment@cymru.gsi.gov.uk i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.


I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru.  Fe fydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i gofrestru.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio’r Uwch Wasanaeth Sifil o fewn Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol yr Uwch Wasanaeth Sifil (dolen).  Mae canllawiau pellach ar Baratoi eich Datganiad Personol (dolen) hefyd ar gael.


Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Gwybodaeth arall am y swydd

> Caiff y penodiadau hyn eu cynnig un ai yn barhaol neu fel secondiad am hyd at 5 mlynedd (os yw’r ymgeiswyr llwyddiannus yn ymgymryd â’r rolau hyn fel secondiad, maent yn cadw eu telerau ac amodau presennol, gan gynnwys eu cyflog).

> Mae'r swyddi hyn yn rhai amser llawn, ond gellid ystyried trefniadau gweithio hyblyg (gan gynnwys trefniadau rhannu swydd). Os hoffech ymgeisio mewn partneriaeth rhannu swydd, disgwylir bod y trefniant hwnnw eisoes yn ei le wrth i chi gyflwyno’ch cais. Nid oes modd cynnig y swydd fel un rhan amser, felly dylech gofio hynny wrth gyflwyno’ch cais.

> Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gael ei fetio at ddibenion diogelwch (ar lefel Fetio Uwch). 

> Mae’n bosibl y gellid talu costau adleoli. 

 

**Nodwch yn y blwch gwybodaeth ychwanegol ar y ffurflen gais pa un o’r ddwy swydd Cyfarwyddwr Cyffredinol rydych yn gwneud cais amdani (neu’r ddwy).**

6 a 8 Tachwedd 2017

Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Llywodraeth Cymru

Peter.Kennedy@llyw.cymru

Tel. 03000 251659

Jemma Terry, Odgers Berndston Cymru

jemma.terry@odgersberndston.com

Tel. 02920 783050

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.