Swydd Wag -- Arolygydd Adeiladau Hanesyddol (y Canolbarth)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cadw
SEO - £41,700 - £49,370
£38,355
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Y Canolbarth
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, sy’n gweithio i sicrhau amgylchedd hanesyddol hygyrch sy’n cael ei ddiogelu’n dda yng Nghymru.

Rydym yn gwneud hyn drwy:

  • helpu i ofalu am ein hamgylchedd hanesyddol er budd pobl heddiw ac yfory
  • hyrwyddo datblygiad y sgiliau sydd eu hangen i ofalu am ein hamgylchedd hanesyddol yn iawn
  • helpu pobl i werthfawrogi a mwynhau ein hamgylchedd naturiol
  • gwneud i’n hamgylchedd hanesyddol weithio ar gyfer ein lles economaidd
  • gweithio gyda phartneriaid i gyflawni nodau cyffredin gyda’n gilydd

Mae’r rôl hon o fewn y gangen Amgylchedd Hanesyddol ac mae’n cyflawni dyletswyddau amrywiol sy’n gysylltiedig â diogelu, cadw a chynnal yr amgylchedd hanesyddol adeiledig yng Nghymru. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar waith achos sy’n gysylltiedig â rheoli newid i adeiladau rhestredig, drwy’r gyfundrefn gydsynio a thrwy gynlluniau grant.

Prif dasgau

Ledled y Canolbarth:

  • Darparu cyngor arbenigol ar reoli newid i adeiladau rhestredig, gan gynnwys cyngor cyn gwneud cais, sylwadau ar geisiadau cydsynio adeiladau rhestredig yr hysbysir amdanynt wrth Cadw, a chyngor ar apelio
  • Darparu cyngor arbenigol ar gynlluniau grant ar gyfer adeiladau hanesyddol
  • Darparu cyngor arbenigol ar geisiadau cynllunio ac ymgynghoriadau eraill sy’n ymwneud â’r amgylchedd hanesyddol adeiledig. Gallai hyn gynnwys cynrychioli Cadw mewn ymchwiliadau cynllunio
  • Darparu cyngor ar achosion esemptio treth etifeddiaeth i CThEM
  • Cysylltu â sefydliadau allanol sy’n cyfrannu at reoli’r amgylchedd hanesyddol, a darparu cyngor cyffredinol ar gadwraeth/diddordeb hanesyddol i berchnogion adeiladau, asiantau, Awdurdodau Cynllunio Lleol a rhanddeiliaid eraill
  • Gweithio’n agos gyda thimau cadwraeth awdurdodau lleol, gan gyfrannu at hyfforddiant a mentora lle’n briodol

Yn gyffredinol:

  • Arwain ar fewnbwn a chyngor arbenigol mewn un neu fwy o feysydd thematig amgylchedd hanesyddol, gan gynnwys adeiladau mewn perygl
  • Briffio Gweinidogion a/neu uwch swyddogion ar gyfrifoldebau pwnc, gan gynnwys briffio llafar neu fynychu cyfarfodydd, a chyfrannu cyngor ysgrifenedig ar gyfer comisiynau briffio ledled Cadw.
  • Ar adegau, bydd gofyn i ddeiliad y swydd helpu gyda phwysau gwaith achos ledled Cymru yn ôl yr angen.

Cyfleoedd datblygu

Mae Cadw yn annog staff i fanteisio ar gyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus yn ogystal â chefnogi’r gweithgareddau dysgu a datblygu penodol sy’n gysylltiedig ag anghenion y busnes.

Mae’r rôl yn cynnig y cyfle i weithio o fewn sefydliad proffesiynol sydd wedi ymrwymo i ddatblygu a hyrwyddo amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae’r rôl yn golygu gweithio’n agos gydag ystod o randdeiliaid lleol er mwyn rheoli newid yn yr amgylchedd hanesyddol a sicrhau potensial mwyaf asedau treftadaeth ar gyfer y gymuned.

Dyddiad Cau

06/03/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Dim sgiliau

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  1. Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Gwneud penderfyniadau pan fo angen, hyd yn oed os ydynt yn anodd neu’n amhoblogaidd.
  2. Arwain a Chyfathrebu - Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.
  3. Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi’r broses o wireddu canlyniadau busnes.
  4. Cyflawni'n Brydlon - Rheoli, cefnogi ac ymestyn eu hunain a’u tîm yn llwyddiannus i gyflawni nodau ac amcanion y cytunwyd arnynt.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  1. Mae cymhwyster lefel gradd mewn disgyblaeth berthnasol fel cadwraeth adeiladau hanesyddol, rheoli treftadaeth, cynllunio neu arolygu yn hanfodol. (Mae cymhwyster ôl-raddedig perthnasol yn ddymunol).
  2. O leiaf 5 mlynedd o brofiad ar ôl cymhwyso yn gweithio ym maes adeiladu adeiladau hanesyddol ac ymarfer cadwraeth presennol.
  3. Dangos tystiolaeth o waith partneriaeth effeithiol yn y sector treftadaeth.

Proses Asesu

Bydd y ceisiadau'n cael eu sifftio, wedyn bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad lle bydd gofyn iddynt gynnal cyflwyniad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Judith Alfrey - judith.alfrey@gov.wales - 03000 259152

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.