Swydd Wag -- Secondai Cyflogwr Sector Cyhoeddus

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
Gwaith Teg
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Yn unol a chyflog presennol
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Secondiad
2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
i'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Cyfarwyddiaeth y Bartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg

Mae’r Prif Weinidog wedi ymrwymo i ddatblygu a chryfhau partneriaeth gymdeithasol er mwyn gwella ansawdd gwaith a gwella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth, gan ddod o hyd i ddatrysiadau ar gyfer yr heriau economaidd a chymdeithasol sy’n wynebu Cymru.

Mae partneriaeth gymdeithasol yn cyfeirio at waith teirochrog sy'n dod â Llywodraeth Cymru, undebau llafur a chyflogwyr ynghyd i ddatblygu agenda gyffredin. Mae'r Llywodraeth yn bwriadu deddfu i ddarparu sail statudol ar gyfer partneriaeth gymdeithasol, i wella'r dull caffael cyhoeddus ac i ymgorffori gwaith teg yn y dull o ymdrin â llesiant.

Mae Cyfarwyddiaeth y Bartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg yn gyfrifol am weithredu argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg, datblygu polisi a deddfwriaeth i ymgorffori partneriaeth gymdeithasol a rhoi cymorth i Gyngor y Bartneriaeth Gymdeithasol a fydd yn cael ei sefydlu. Mae'r Gyfarwyddiaeth yn rhoi cymorth i Weinidogion, ond mae hefyd yn ganolbwynt yn Llywodraeth Cymru i hyrwyddo a datblygu arferion da mewn meysydd nad oes angen deddfwriaeth arnynt, ond lle gellir gwneud cynnydd gyda'r agenda bwysig hon.

Mae'r Gyfarwyddiaeth yn cynnwys gweision sifil a secondeion o undebau llafur a cynrychiolwyr o fusnesau a chyrff yn y sector cyhoeddus, gan weithio gyda'i gilydd i gyflawni'r agenda gyffrous hon.

Rôl Secondai o'r Sector Cyhoeddus:

Rydym yn awyddus i benodi aelod o'r tîm ar secondiad o ochr cyflogwyr y sector cyhoeddus. Rydym yn chwilio am rywun sydd â hygrededd ymysg cyflogwyr ac sy'n gallu chwarae rhan lawn yng ngwaith y Gyfarwyddiaeth i ddatblygu a chyflwyno partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal perthynas Llywodraeth Cymru â chyflogwyr sector cyhoeddus yn y maes polisi hwn. Bydd yn gweithio’n agos gyda’r rhai sy’n cynrychioli cyflogwyr y sector cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill i ddeall, datblygu a dylanwadu ar eu safbwynt ar faterion sy’n ymwneud â gwaith teg, gan helpu i lywio polisi Llywodraeth Cymru ar bartneriaeth gymdeithasol. Bydd hefyd yn gyfrifol am ffrydiau gwaith polisi diffiniedig yn y Gyfarwyddiaeth, er enghraifft helpu i sicrhau bod gwariant y Llywodraeth yn adlewyrchu blaenoriaethau gwaith teg, gan gyfrannu at ddatblygu’r ddeddfwriaeth. Bydd yn gyfrifol am gynghori Gweinidogion ar y polisi sy’n datblygu.

Prif dasgau

Bydd deiliad y swydd yn:

Arwain gwaith gyda chyrff cyhoeddus a’r sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru i wneud y canlynol:

  • Cynyddu achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol ar draws cyrff cyhoeddus a’r sector cyhoeddus datganoledig;
  • Cynghori cyrff cyhoeddus a’r sector cyhoeddus datganoledig ynghylch ffyrdd y gallant ystyried gwaith teg wrth ddatblygu a mynd ar drywydd eu hamcanion llesiant;
  • Datblygu rhwydwaith o gyrff cyhoeddus a fydd yn gweithredu fel cyflogwyr sy’n esiampl dda mewn perthynas â gwaith teg, gan fynd ati i hyrwyddo gwaith teg i’w cyfoedion, i’r gymuned fusnes ac i’r gymdeithas ehangach.

  • Gweithio ar draws cyflogwyr sector cyhoeddus i gyfleu disgwyliadau a gofynion partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg, gan gynnwys archwilio cyfyngiadau a rhwystrau rhag cyflawni deilliannau.
  • Sefydlu a rheoli dulliau ar gyfer ymgysylltu cyflogwyr a’u cynrychiolwyr yng ngwaith y Gyfarwyddiaeth, gan ddeall a llywio ystod eang o farn a safbwyntiau.
  • Cyfrannu at ddatblygu a chyflwyno polisi gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru ac arwain ar waith teg yn y sector cyhoeddus.
  • Llunio dulliau gweithredu ymarferol mewn ffordd gydweithredol sy’n manteisio i’r eithaf ar ysgogiadau Llywodraeth Cymru.
  • Rhoi cyngor a chymorth polisi strategol i Weinidogion ar ystod o faterion sy’n ymwneud â phartneriaeth gymdeithasol a gwaith teg.
  • Cyfrannu at ddatblygu deddfwriaeth partneriaeth gymdeithasol mewn meysydd polisi penodedig.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn gyfle i gael dealltwriaeth ehangach o ddatblygiad polisi Llywodraeth Cymru. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at ddatblygu'r polisi hwn, yn ogystal â chyfrannu at gyngor ar gyfleoedd i Lywodraeth Cymru ysgogi deilliannau partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg gyda chyflogwyr sector cyhoeddus.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn gweithio'n agos gyda Gweinidogion ac uwch-gynrychiolwyr y partneriaid cymdeithasol ac yn rhoi cyngor iddynt, tra'n adeiladu a chynnal rhwydwaith eang o randdeiliaid.

Dyddiad Cau

01/07/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Gweld y Darlun Cyflawn

  • Casglu ynghyd farn a safbwyntiau rhanddeiliaid er mwyn cael darlun mwy cyflawn o gefndir gweithgareddau a pholisïau

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Dehongli beth yw’r prif faterion mewn problemau cymhleth, a chadarnhau dealltwriaeth neu ddisgwyliadau rhanddeiliaid, er mwyn chwilio am yr opsiwn gorau

Arwain a Chyfathrebu

  • Ymwneud yn hyderus â rhanddeiliaid a chydweithwyr ar bob lefel i ennyn ymrwymiad at gyrraedd nodau 

Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth

  • Mynd ati i feithrin a chynnal rhwydwaith o gydweithwyr a chysylltiadau, er mwyn bwrw ati ag amcanion a buddiannau sy’n gyffredin rhyngddynt

Meini Prawf Penodol i’r Swydd 

1. Y gallu i feithrin rhwydwaith cryf o gysylltiadau cydweithredol ag uwch-arweinwyr yn Llywodraeth Cymru ac ar draws yr undebau llafur a busnesau, gyda'r gallu i rymuso, ysgogi a dylanwadu ar ddeilliannau
2. Gwybodaeth am gyflogaeth a materion cymdeithasol yng Nghymru
3. Gwybodaeth am gyflogwyr sector cyhoeddus a phrofiad o weithio gyda nhw.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio, yna bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad lle gofynnir iddynt wneud cyflwyniad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Mae'r trefniadau gweithio presennol yn hwyluso dull hybrid o weithio gartref a/neu o'r swyddfa. Mae'r swyddfa wedi'i lleoli ym Mharc Cathays, Caerdydd. Mae trefniadau gweithio yn y dyfodol yn cael eu hystyried.
SocialPartnership@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.