Swydd Wag -- Secondai Busnes

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
Gwaith Teg
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Yn unol a chyflog presennol
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Secondiad
2 Flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
i'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Cyfarwyddiaeth y Bartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg

Mae’r Prif Weinidog wedi ymrwymo i ddatblygu a chryfhau partneriaeth gymdeithasol er mwyn gwella ansawdd gwaith a gwella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth, gan ddod o hyd i ddatrysiadau ar gyfer yr heriau economaidd a chymdeithasol sy’n wynebu Cymru.

Mae partneriaeth gymdeithasol yn cyfeirio at waith teirochrog sy'n dod â Llywodraeth Cymru, undebau llafur a chyflogwyr ynghyd i ddatblygu agenda gyffredin. Mae'r Llywodraeth yn bwriadu deddfu i ddarparu sail statudol ar gyfer partneriaeth gymdeithasol, i wella'r dull caffael cyhoeddus ac i ymgorffori gwaith teg yn y dull o ymdrin â llesiant.

Mae Cyfarwyddiaeth y Bartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg yn gyfrifol am weithredu argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg, datblygu polisi a deddfwriaeth i ymgorffori partneriaeth gymdeithasol a rhoi cymorth i Gyngor y Bartneriaeth Gymdeithasol a fydd yn cael ei sefydlu. Mae'r Gyfarwyddiaeth yn rhoi cymorth i Weinidogion, ond mae hefyd yn ganolbwynt yn Llywodraeth Cymru i hyrwyddo a datblygu arferion da mewn meysydd nad oes angen deddfwriaeth arnynt, ond lle gellir gwneud cynnydd gyda'r agenda bwysig hon.

Mae'r Gyfarwyddiaeth yn cynnwys gweision sifil a secondeion o undebau llafur a cynrychiolwyr o fusnesau a chyrff yn y sector cyhoeddus, gan weithio gyda'i gilydd i gyflawni'r agenda gyffrous hon.

Rôl Secondai o'r Sector Preifat

Rydym yn awyddus i benodi aelod o'r tîm o'r sector preifat, neu rywun a all gynrychioli safbwyntiau’r sector preifat. Rydym yn chwilio am rywun sydd â hygrededd yn y gymuned fusnes ac sy'n gallu chwarae rhan lawn yng ngwaith y Gyfarwyddiaeth i ddatblygu a chyflwyno partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â gwaith datblygu polisi ac yn ymgysylltu'n fewnol ac yn allanol er mwyn llywio'r gwaith cyflawni yn effeithiol. Bydd yn cael cyfle i weithio gyda Gweinidogion a defnyddio eu rhwydweithiau a'u harbenigedd i sicrhau bod barn a safbwyntiau'r sector preifat yn cael eu hystyried. Bydd yn ganolbwynt ar gyfer gwella'r berthynas rhwng yr holl bartneriaid cymdeithasol.

Prif dasgau

Bydd deiliad y swydd yn:

  • Sefydlu a chefnogi dulliau o ymgysylltu ag ystod eang o fusnesau a chyrff sy'n cynrychioli busnesau a'r sector preifat.
  • Cynghori ar weithgorau a'u cynnull fel sy'n ofynnol gan y Gyfarwyddiaeth i ddatblygu ei gwaith ac ymgysylltu â phartneriaid cymdeithasol ar faterion perthnasol sy'n ymwneud â datblygu polisi neu gorchwyl a gorffen
  • Rhoi cyngor i sefydliadau busnes ar ymgysylltu â Lywodraeth Cymru.
  • Rhoi cyngor arbenigol i adrannau Llywodraeth Cymru ar ymgysylltu â sefydliadau busnes ar draws ystod o faterion.

Yn cyfrannu at ddatblygu 'symudiad busnesau gwaith teg' gan gynnwys:

  • Sefydlu cyflogwyr sy’n esiampl dda ac sy'n dangos ac yn hyrwyddo gwaith teg i gyfoedion.
  • Rhannu arferion da, gwersi a ddysgwyd a chyngor, gan gynnwys gwersi a ddysgwyd drwy dysgu cyfoedion o fusnesau i fusnesau.
  • Cyfleu'r achos busnes ac economaidd dros waith teg.
  • Arddangos gwaith teg drwy astudiaethau achos ysbrydoledig sydd â chyrhaeddiad ac effaith eang.
  • Creu cydberchnogaeth o'r agenda gwaith teg – gydag elfen gadarn ar gyfer busnes.
  • Gweithio gydag undebau llafur a’r secondai i gynnwys astudiaethau achos o berthynas dda rhwng undebau a chyflogwyr yn y symudiad.
  • Ystyried pa hyfforddiant arwain a rheoli a/neu adnoddau ac offer ychwanegol sy'n angenrheidiol i gefnogi busnesau i fod yn gyflogwyr gwaith teg.
  • Sicrhau mewnbwn gan y sector preifat i agendâu polisi sy'n dod i'r amlwg ac sy'n uchel eu proffil, gan gynnwys yr wythnos waith fyrrach a gweithio hyblyg yn ehangach a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Gweithio fel rhan o'r tîm i wella prosesau cydweithio ar draws partneriaid cymdeithasol a helpu partneriaid cymdeithasol i fynegi eu safbwyntiau yn effeithiol ar amrywiaeth o faterion.
  • Cefnogi'r Gyfarwyddiaeth i ddarparu cyngor a chymorth polisi strategol i Weinidogion, sy'n adlewyrchu barn partneriaid cymdeithasol ar amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â phartneriaeth gymdeithasol a gwaith teg.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn gyfle i gael dealltwriaeth ehangach o ddatblygiad polisi Llywodraeth Cymru. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at ddatblygu'r polisi hwn, yn ogystal â chyfrannu at gyngor ar gyfleoedd i Lywodraeth Cymru gefnogi cyflogwyr i hyrwyddo gwaith tecach a dod yn gyflogwyr gwaith teg. Bydd deiliad y swydd hefyd yn gweithio'n agos gyda Gweinidogion ac uwch-gynrychiolwyr y partneriaid cymdeithasol ac yn rhoi cyngor iddynt, tra'n adeiladu a chynnal rhwydwaith eang o randdeiliaid.

Dyddiad Cau

01/07/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Gweld y Darlun Cyflawn

  • Casglu ynghyd farn a safbwyntiau rhanddeiliaid er mwyn cael darlun mwy cyflawn o gefndir gweithgareddau a pholisïau

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Dehongli beth yw’r prif faterion mewn problemau cymhleth, a chadarnhau dealltwriaeth neu ddisgwyliadau rhanddeiliaid, er mwyn chwilio am yr opsiwn gorau

Arwain a Chyfathrebu

  • Ymwneud yn hyderus â rhanddeiliaid a chydweithwyr ar bob lefel i ennyn ymrwymiad at gyrraedd nodau 

Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth

  • Mynd ati i feithrin a chynnal rhwydwaith o gydweithwyr a chysylltiadau, er mwyn bwrw ati ag amcanion a buddiannau sy’n gyffredin rhyngddynt

Meini Prawf Penodol i’r Swydd 

1. Y gallu i feithrin rhwydwaith cryf o gysylltiadau cydweithredol ag uwch-arweinwyr yn Llywodraeth Cymru ac ar draws yr undebau llafur a busnesau, gyda'r gallu i rymuso, ysgogi a dylanwadu ar ddeilliannau
2. Gwybodaeth am gyflogaeth a materion cymdeithasol yng Nghymru
3. Gwybodaeth am y gymuned fusnes a'r mudiad undebau llafur a phrofiad o weithio gyda nhw

Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio, yna bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad lle gofynnir iddynt wneud cyflwyniad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Mae'r trefniadau gweithio presennol yn hwyluso dull hybrid o weithio gartref a/neu o'r swyddfa. Mae'r swyddfa wedi'i lleoli ym Mharc Cathays, Caerdydd. Mae trefniadau gweithio yn y dyfodol yn cael eu hystyried.
SocialPartnership@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.