Swydd Wag -- Rheolwr Diogelwch Amddiffynnol X2

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Uned Ddiogelwch Adrannol
HEO - £32,460 - £39,690
£30,600
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Arall
Parhaol. Croesewir ceisiadau gan bobl ar secondiad neu fenthyciad hefyd.
Parhaol.
Cymru gyfan, Lleoliad arall
Mae ymrwymiadau Gweinidogol yn cael eu cynnal ledled Cymru yn ystod yr wythnos gyfan (gan gynnwys gyda'r nos ac ar benwythnosau). Mae gofynion teithio yn amrywio rhwng unwaith yr wythnos a sawl gwaith yr wythnos, weithiau ar fyr rybudd. Efallai y bydd angen teithio dramor o bryd i'w gilydd hefyd. Byddwch yn derbyn amser i ffwrdd yn gyfnewid am waith gyda'r nos ac ar benwythnosau.
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.

Pwrpas y swydd

Mae'r swyddi hyn yn cynnwys darparu diogelwch amddiffynnol i Weinidogion a chyfrannu at gylch gwaith ehangach yr Uned Ddiogelwch Adrannol. Byddwch yn gweithio'n agos gyda Gweinidogion a'r heddlu, yn rhoi cyngor diogelwch cyffredinol i swyddogion Llywodraeth Cymru a datblygu ac yn cynnal polisïau diogelwch. Bydd angen i chi gael Gwiriad Diogelwch Cenedlaethol ar gyfer Senedd Cymru. 

Prif dasgau

  • Gweithio gyda'r heddlu a chysylltiadau allanol ar gyfer digwyddiadau ac ymrwymiadau ymwelwyr pwysig iawn.
  • Paratoi asesiadau risg – asesu dyddiaduron Gweinidogion, nodi meysydd risg posibl i ymrwymiadau Gweinidogol a gwerthuso asesiadau o fygythiadau perthnasol (e.e. hysbysiadau gan yr heddlu am brotestiadau arfaethedig).
  • Sicrhau bod trefniadau diogelwch priodol ar waith ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus sy'n cael eu mynychu gan Weinidogion – mae hyn yn cynnwys ymweld â lleoliadau ymlaen llaw a mynychu digwyddiadau.
  • Cynorthwyo'r Prif Swyddog Diogelwch i adolygu trefniadau diogelwch Llywodraeth Cymru (e.e. arolygiadau, gwiriadau diogelwch).
  • Mynychu cyfarfodydd diogelwch gyda chydweithwyr o adrannau Llywodraeth y DU a Gweinyddiaethau Datganoledig eraill yn ôl yr angen.
  • Cynorthwyo cydweithwyr yn yr Uned Ddiogelwch Adrannol a chyfrannu at gylch gwaith ehangach yr Is-adran (e.e. ymchwiliadau, gwaith prosiect, arolygiadau, cyflwyniadau, ymateb i ymholiadau staff).

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swyddi hyn yn cynnig cyfleoedd i weithio wrth wraidd Llywodraeth Cymru gyda rhanddeiliaid ac ystod eang o arbenigwyr diogelwch. Yn ogystal â diogelwch amddiffynnol, byddwch yn datblygu eich gallu a'ch set sgiliau trwy gymryd rhan mewn ystod eang o waith diogelwch ffisegol. 

Dyddiad Cau

03/08/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  1.  Newid a Gwella - Bod yn barod i gymryd risgiau a reolir, gan sicrhau eu bod wedi'u cynllunio a bod eu heffaith wedi'i hasesu.
  2.  Gwneud penderfyniadau effeithiol - Gwneud penderfyniadau pan fydd eu hangen, hyd yn oed os ydynt yn anodd neu'n amhoblogaidd.
  3.  Cydweithredu a Gweithio mewn Partneriaeth - Ymdrin â gwrthdaro mewn ffordd brydlon, ddigyffro ac adeiladol.
  4. Arwain a chyfathrebu - Cyfathrebu â’r holl randdeiliaid mewn ffordd syml ac onest ac sy’n denu eu sylw, gan sefyll yn gadarn pan fydd angen.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

Hanfodol

  1.  Y gallu i asesu risgiau a darparu lefel gymesur o ddiogelwch amddiffynnol mewn digwyddiadau ac ymrwymiadau.
  2.  Y gallu i ddarparu diweddariadau a briffiau i Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru ar amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud â diogelwch.
  3.  Y gallu i ymateb i ddigwyddiadau nas rhagwelwyd ac ymdrin â nhw, gan gynnwys gwrthdaro posibl.

Dymunol

  1. Profiad amlwg o ddarparu diogelwch amddiffynnol/amddiffyniad agos mewn digwyddiadau cyhoeddus. 

Proses Asesu

Y Broses Asesu

Mae tri cham i'r Broses Asesu:

1. Ffurflen Gais

Wrth lenwi'r Ffurflen Gais ar gyfer y cyfle hwn, gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth (gan ddefnyddio enghreifftiau go iawn) o'ch gwybodaeth, eich sgiliau, eich profiad a'ch gallu yn yr wyth Ymddygiad HEO a restrir uchod (4 Cymhwysedd a 4 Maen Prawf Penodol i Swydd). Dyma'r rhan bwysicaf o'ch Ffurflen Gais a bydd yn cael ei hasesu gan banel recriwtio yn y Cam Sifftio.

2. Cam Sifftio

Bydd y dystiolaeth a ddarparwyd gennych yn eich Ffurflen Gais yn cael ei hasesu gan banel recriwtio. Os ydych chi'n llwyddiannus yn y cam hwn, fe'ch gwahoddir i Gyfweliad ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams.

Os nad ydych chi'n llwyddiannus yn y cam hwn, ni fydd eich cais yn symud ymlaen i gyfweliad a byddwch yn cael gwybod mai dyma’r canlyniad.

3. Cyfweliad Ar-lein

Bydd y cyfweliad ar-lein yn cael ei gynnal dros Microsoft Teams a bydd dwy ran iddo:

1. Ar ddechrau'r cyfweliad, byddwch yn cael tasg sy'n seiliedig ar senario. Gofynnir i chi ystyried senarios penodol ac, ar ôl rhywfaint o amser paratoi, byddwch yn esbonio eich ymateb i'r panel recriwtio.

2. Yna, gofynnir cwestiynau i chi yn archwilio'r cymwyseddau y gofynnwyd i chi ddangos tystiolaeth ohonynt yn eich Ffurflen Gais.

 

 

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Kath Jenkins - 03000250339

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.