Swydd Wag -- Rheolwr Gweithrediadau Iechyd a Diogelwch

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
Cadw
HEO - £32,460 - £39,690
£32,460
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
2 blwyddyn
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Cadw yw gwasanaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol, ac mae'n gweithio i sicrhau bod amgylchedd hanesyddol Cymru yn hygyrch ac yn cael ei ddiogelu'n dda.

Mae cadw'n chwarae rôl strategol yn y gwaith o gynnal yr amgylchedd hanesyddol ledled Cymru, a galluogi pobl i fwynhau a chael mynediad at y safleoedd rydym yn gofalu amdanynt, gan gynnwys rhai o safleoedd treftadaeth pwysicach Cymru. Rydym yn croesawu 1.4 miliwn o ymwelwyr â'n safleoedd bob blwyddyn, yn ogystal â chynnal gwaith cadwraeth, atgyweirio a chynnal a chadw – rydym hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad i berchnogion safleoedd hanesyddol eraill ledled Cymru, gan gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig.  

Mae'r swydd yn dod o dan y Gangen Gwasanaethau Canolog ac Ariannol o fewn Cadw, ac mae deiliad y swydd yn adrodd i'r Rheolwr Iechyd, Diogelwch a Lles. Mae'r swydd yn cyfrannu at reoli materion iechyd, diogelwch a lles yn effeithiol ar draws holl safleoedd hanesyddol Cadw (130 ar hyn o bryd), sy'n cynnwys trefniadau ar gyfer gweithwyr unigol, gweithgareddau masnachol, digwyddiadau, adeiladau/cynnal a chadw, ac amgylchedd swyddfeydd. Bydd deiliad y swydd yn gweithio i sicrhau bod Cadw yn cynnig amgylchedd diogel ar gyfer ymwelwyr a staff fel ei gilydd ar draws ei holl weithrediadau, ac yn gweithio'n agos gyda thimau o weithwyr proffesiynol treftadaeth a staff arbenigol eraill i roi ar waith, gweithredu a diweddaru systemau i gefnogi'r nod hwn. 

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am fonitro prosesau a gweithdrefnau gweithredol er mwyn sicrhau bod rhwymedigaethau statudol mewn perthynas ag iechyd a diogelwch yn cael eu cyflawni. Bydd yn rhoi cyngor ac arweiniad i gydweithwyr ar reoli risg a rheolaethau addas er mwyn cefnogi gwelliannau parhaus ar draws y sefydliad, gan hyrwyddo diwylliant iechyd, diogelwch a lles cadarnhaol. 

Bydd deiliad y swydd yn diweddaru a chynnal systemau rheoli diogelwch presennol a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r polisïau a'r gweithdrefnau diogelwch sydd eu hangen i sicrhau cydymffurfedd. Bydd yn galluogi cydweithwyr gyda chyfrifoldeb ar draws y sefydliad i gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol drwy drefnu hyfforddiant perthnasol a darparu cyngor priodol, mewn cydweithrediad â'r Rheolwr Rheoli Iechyd, Diogelwch a Lles.  

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi gwelliannau parhaus i'r ffordd mae iechyd a diogelwch yn cael eu rheoli drwy broses o arolygiadau ac archwiliadau rhagweithiol ac ymatebol, ac felly sicrhau bod Cadw yn cydymffurfio â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.
 

Prif dasgau

Cynnal arolygiadau ac archwiliadau ar draws ystad Cadw (Cymru gyfan) yn unol â Chynllun Cyflawni Iechyd a Diogelwch blynyddol Cadw.
 
Cynnal dadansoddiadau o ddata ystadegol, gan ddefnyddio rhaglenni fel Microsoft PowerBi, Excel a Map Data Cymru, mewn perthynas â damweiniau a damweiniau y bu bron iddynt ddigwydd, a materion iechyd a diogelwch eraill

Gweithio gyda'r Rheolwr Iechyd, Diogelwch a Lles ar y gwaith o ddatblygu a chynnal y system rheoli diogelwch, gan gynnwys creu / adolygu canllawiau, templedi a phecynnau cymorth.
 
Darparu canllawiau a chyngor i staff ar draws Cadw ar baratoi asesiadau risg a strategaethau lleihau risg. 

Bod yn rhagweithiol wrth annog diddordeb a chyfranogiad mewn materion diogelwch, gan annog a chefnogi lle mae angen ar draws yr ystad.

Rheoli'r gronfa data damweiniau, archwilio ar lefel safle ac adrodd i'r Rheolwr Iechyd, Diogelwch a Lles a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch pan fydd hynny'n berthnasol o dan Reoliadau RIDDOR 2013.

Rhoi cyngor i gydweithwyr Cadw yn ystod argyfyngau, gan weithio gyda'r Rheolwr Iechyd, Diogelwch a Lles.
 
Rhoi cyngor ac arweiniad ar gynlluniau wrth gefn pan fydd hynny'n briodol.

Datblygu a darparu hyfforddiant ar y safle ar draws nifer o bynciau diogelwch.
 
Mynychu cyfarfodydd Tîm Gweithrediadau Cadw pan fydd hynny'n briodol.

Darparu gwasanaeth ysgrifenyddiaeth i Grŵp Rheoli Risg Cadw a Phwyllgor Iechyd a Diogelwch Cadw. 

Mynychu cyfarfodydd Pwyllgor Diogelwch Grŵp yr Economi, y Trysorlys a'r Cyfansoddiad. 
 
Cefnogi'r Rheolwr Iechyd, Diogelwch a Lles gyda'r gwaith o gyflawni archwiliadau mewnol drwy Lywodraeth Cymru ehangach. Helpu gydag archwiliad allanol ISO45001 Cadw a'r cynllun gweithredu cysylltiedig. 
 
Arwain sesiynau cofnodi camau gweithredu, helpu gyda lleihau'r risg o dân ar draws Cadw h.y. camau gweithredu sy'n deillio o asesiadau risg tân, archwiliadau ac asesiadau risg ar gyfer safleoedd penodol. 

Dirprwyo ar gyfer Rheolwr Iechyd, Diogelwch a Lles Cadw pan fydd yn absennol, gan gynnwys darparu cyngor ar bob math o fater iechyd a diogelwch ar gyfer staff Cadw.
 
Sicrhau bod pawb sy'n gweithio i Cadw yn cydymffurfio â'r ddyletswydd gofal i gymryd camau rhesymol i sicrhau eu hiechyd a diogelwch eu hunain a phobl eraill pan fyddant yn y gwaith, a phobl eraill a all gael eu heffeithio gan yr hyn maent yn ei wneud neu'n methu ei wneud; i gydweithio ag eraill i’w galluogi i gyflawni’r ddyletswydd sydd arnynt neu i gydymffurfio â hi; i beidio â chamddefnyddio neu ymyrryd ag unrhyw beth a ddarperir ar gyfer eu hiechyd, eu diogelwch neu eu lles.

Sicrhau bod pob gweithgaredd yn cael ei gynnal yn unol â chyfleoedd polisïau cyfle cyfartal Llywodraeth Cymru a pholisïau iaith Gymraeg.

Sicrhau y cydymffurfir â Chod Ymarfer IOSH ar bob adeg. 

Cynnal unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill yn ôl y gofyn. 

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i fod yn rhan o dîm ymroddedig sy'n gofalu am asedau hanesyddol Cymru ac yn galluogi ymwelwyr i gael mynediad at hanes Cymru, ei fwynhau a datblygu eu dealltwriaeth ohono. Mae Cadw yn sefydliad dysgu ac mae'n annog staff i ymgymryd â chyfleoedd hyfforddi priodol sy'n cael eu nodi ochr yn ochr â datblygu proffesiynol parhaus.

Dyddiad Cau

15/02/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Newid a Gwella: Adolygu gweithdrefnau neu systemau’n rheolaidd gyda thimau er mwyn nodi gwelliannau a symleiddio prosesau a phenderfyniadau 

Gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth: Annog cydweithio fel tîm o fewn eich tîm eich hun ac ar draws yr Adran 

Rheoli Gwasanaeth o Safon: Defnyddio sgiliau a thechnegau rheoli prosiect i sicrhau canlyniadau, gan gynnwys nodi risgiau a lleihau eu heffaith 

Cyflawni’n Gyflym: Monitro eich gwaith eich hun a gwaith eich tîm yn rheolaidd yn unol â cherrig milltir neu dargedau, a gweithredu’n brydlon i gadw gwaith ar y trywydd iawn a chynnal perfformiad 


Meini Prawf Penodol i’r Swydd:

  1. Cymhwyster Diploma NEBOSH, aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol (e.e. IOSH, ROSPA, IIRSM).
  2. Y gallu i reoli a dylanwadu ar y proses newid drwy ddwyn perswâd a dylanwadu ar unigolion a thimau i fabwysiadu arferion gweithio newydd, syniadau a mentrau corfforaethol.
  3. Sgiliau dadansoddi ardderchog fel y dangosir gan y gallu i ddatrys problemau mewn modd rhesymegol a gwneud y penderfyniadau a'r argymhellion cywir i reolwyr.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio, yna bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Tracy Dictaldo, 03000 250297, Tracy.Dicataldo@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.