Swydd Wag -- Swyddog Nyrsio ar gyfer Nyrsio Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Nyrsio
Gradd 6 - £67,100 - £76,990
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

  • Byddwch yn rhoi cyngor proffesiynol ar nyrsio i Lywodraeth Cymru ac yn gweithredu fel arweinydd polisi ar gyfer: iechyd pobl ag anableddau dysgu, gan gynnwys cyflawni’n unol â’r argymhellion iechyd yn y rhaglen drawslywodraethol Gwella Bywydau; materion proffesiynol yn ymwneud ag ymarfer ac addysgu nyrsio anableddau dysgu; gweithredu'r gwasanaeth nyrsio ysgolion mewn ysgolion arbennig; materion proffesiynol yn ymwneud ag ymarfer ac addysgu nyrsio iechyd meddwl; a rhoi cyngor proffesiynol i'r gyfarwyddiaeth iechyd meddwl a'i hamrywiol raglenni gwaith.
  • Byddwch yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu dulliau'r gweithlu i alluogi ymestyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio i leoliadau iechyd meddwl ac anableddau dysgu.
  • Byddwch yn aelod o dîm o swyddogion nyrsio proffesiynol yn y Gyfarwyddiaeth Nyrsio yng ngrŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ac yn cyfrannu at swyddogaeth graffu perfformiad Llywodraeth Cymru o fewn GIG Cymru, gan ganolbwyntio yn benodol ar wasanaethau nyrsio.

Prif dasgau

  • Gweithredu fel arweinydd polisi ar gyfer iechyd pobl ag anableddau dysgu, gan weithio i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd
  • Arwain wrth weithredu'r argymhellion iechyd o'r rhaglen drawslywodraethol Gwella Bywydau; goruchwylio'r gwaith sy'n cael ei arwain gan y swyddi a ariennir yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn benodol ar gyfer gwneud y gwaith mewn gwasanaethau; rheoli'r gyllideb sydd wedi'i dyrannu ar gyfer y gwaith hwn.
  • Cydweithio gyda'r tîm trawslywodraethol sy'n gyfrifol am ddarparu'r rhaglen Gwella Bywydau yn ei chyfanrwydd i sicrhau bod cyfraniad nyrsio ar gael ym mhob maes priodol.
  • Ystyried y camau gweithredu sy'n ymwneud â datblygu gwasanaethau arbenigol sy'n lleihau'r angen i dderbyn pobl i'r ysbyty ac ynarwain at anfon cleifion ag anableddau dysgu a salwch meddwl mewn unedau diogel adref o'r ysbyty mewn cydweithrediad â Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a Grŵp Comisiynu'r GIG.
  • Rhoi cyngor proffesiynol i Lywodraeth Cymru (gweinidogion a swyddogion) ar faterion yn ymwneud ag: addysg ac ymarfer nyrsio anableddau dysgu; ac addysg ac ymarfer nyrsio iechyd meddwl.
  • Rhoi cyngor a chymorth proffesiynol i'r gyfarwyddiaeth iechyd meddwl i'w cynorthwyo i gyflawni eu rhaglen waith.
  • Gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar y blaenoriaethau addysg ar gyfer nyrsio anableddau dysgu ac iechyd meddwl; cefnogi datblygu gyrfaoedd a chynlluniau recriwtio; meithrin perthynas gyda'r darparwyr addysg uwch ar gyfer nyrsio iechyd meddwl ac anableddau dysgu
  • Arwain ar weithredu'r fframwaith gwasanaeth nyrsio mewn ysgolion ar gyfer ysgolion arbennig
  • Cefnogi gweithrediad gwaith mewngymorth iechyd meddwl a llesiant ym mhob ysgol.
  • Cefnogi ehangu'r gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru
  • Goruchwylio'r rhaglen waith genedlaethol i ddatblygu sgiliau'r gweithlu ar gyfer iechyd meddwl ac anableddau dysgu mewn meysydd yn ymwneud â chleifion. Gwneud gwaith paratoi i ymestyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i'r meysydd hyn.
  • Cymryd rhan weithgar yn y broses o reoli perfformiad dan arweiniad Llywodraeth Cymru mewn perthynas â GIG Cymru.
  • Dirprwyo ar gyfer y Prif Swyddog Nyrsio yn ei habsenoldeb yn ôl yr angen.
  • Arwain datblygiad cynhadledd arddangos flynyddol y Prif Swyddog Nyrsio yn 2021. 

Cyfleoedd datblygu

  • Cewch gyfle i ddatblygu sgiliau trafod a dylanwadu ar lefel uwch a gallu dylanwadu ar newid ar lefel system gyfan; byddwch yn meithrin dealltwriaeth o sut i gynghori gweinidogion a gwneuthurwyr polisi: cewch gyfle i greu rhwydweithiau proffesiynol allanol helaeth; a chyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu mewn sawl cyfrwng.
  • Cewch eich cefnogi i ymgymryd â gofynion y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth i gwblhau eich ailddilysiad.

Dyddiad Cau

11/12/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

1. Arwain a chyfathrebu - Egluro strategaethau a chynlluniau, gan gyfleu diben a chyfeiriad mewn modd clir a brwdfrydig

2. Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth -Sicrhau bod partneriaid yn cael eu cynnwys yn y broses o wireddu canlyniadau busnes, drwy gydweithredu a chydgynhyrchu mewn modd sy’n sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer y cyhoedd.

3. Rheoli Gwasanaeth Safonol - Gwneud cynlluniau clir, ymarferol a hawdd eu rheoli ar gyfer cyflenwi gwasanaethau, gan ddefnyddio disgyblaethau rheoli rhaglenni a phrosiectau

4. Rheoli gwasanaeth safonol - Sicrhau bod y gwasanaeth sydd ar gael yn ystyried anghenion cwsmeriaid yn drylwyr a'r ystod eang o ddulliau sydd ar gael i ddiwallu'r anghenion hyn, gan gynnwys technoleg newydd os yw'n berthnasol.


Meini Prawf Penodol i’r Swydd:

1. Gallu rheoli amrywiol ffrydiau gwaith, gan flaenoriaethu a sicrhau darpariaeth

2. Nyrs brofiadol gydag arbenigedd iechyd meddwl a/neu nyrsio anableddau dysgu, ac wedi cael addysg i lefel gradd meistr.

3. Sgiliau cyfathrebu rhagorol o sawl math gwahanol gyda phrofiad o ddylanwadu a negodi ar faterion sy'n effeithio ar bobl â phroblemau iechyd meddwl neu sydd ag anabledd dysgu. 


Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
  • Amser llawn ond croesewir ceisiadau gan bobl sy'n dymuno gweithio'n rhan-amser neu rannu swydd, gan rannu'r swydd yn gyfartal rhwng y portffolios iechyd meddwl ac anableddau dysgu.
  • Cynigir y swydd fel swydd barhaol, ond ystyrir ceisiadau gan unigolion sy'n dymuno gwneud y swydd hon fel secondiad.
Jean White - Jean.White@gov.wales - 03000 255517

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.