Swydd Wag -- Cydlynydd Drafftio Gohebiaeth

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Rhwydwaith Ffyrdd Strategol
EO - £26,900 - £30,610
26900
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
'I' w gadarnhau'

Pwrpas y swydd

Braslun o'r rôl

Dyma gyfle cyffrous i ymgymryd â rôl hanfodol o fewn Is-adran Rhwydwaith Ffyrdd Strategol Llywodraeth Cymru. 

Mae'r is-adran yn gyfrifol am gynllunio, gweithredu, cynnal a chadw a gwella'r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru, ar ran Weinidogion Cymru.  Dyma un o asedau seilwaith pwysicaf Cymru. Mae'n werth dros £18 biliwn ac yn hanfodol ar gyfer cefnogi Gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru gynaliadwy a ffyniannus.

Mae'r Is-adran yn lle cyfeillgar a chefnogol i weithio, gyda'r tîm yn canolbwyntio ar weithio gyda'i gilydd er mwyn gwneud ei waith yn dda.

Mae'r rôl yn rhan annatod o'r gwaith o reoli'r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cymorth i'r peirianwyr ar draws yr Is-adran wrth ymateb i ohebiaeth a dderbynnir gan amryw ffynonellau.

Gellir derbyn gohebiaeth gan aelodau o'r cyhoedd, Awdurodau Lleol, Cynghorau/Cynghorwyr yn uniongyrchol i Ganolfan Pwynt Cyswllt Llywodraeth Cymru, Traffig Cymru drwy ei Asiantiaid Cefnffyrdd, peirianwyr Llywodraeth Cymru ac yn uniongyrchol i'r mewnflwch penodol.

Bydd y rôl yn rhoi'r cyfle i weithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, a bydd hefyd yn rhoi dealltwriaeth unigryw o ganfyddiadau cwsmeriaid o'r rhwydwaith cefnffyrdd.  Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o'r ffordd mae'r rhwydwaith cefnffyrdd yn cael ei gynnal a'i gadw a'i weithredu, gyda'r potensial i weithio gyda'r Gyfarwyddiaeth Trafnidiaeth a Chysylltedd Digidol yn fwy cyffredinol wrth i'r rôl ohebiaeth ehangu.

Bydd y rôl yn cynnwys drafftio'n bersonol ddeunydd sy'n gysylltiedig ag amrediad o destunau ar draws Is-adran brysur a chymhleth. Bydd angen ichi reoli pwysau a dyddiadau cau sy'n gwrthdaro, i sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud mewn modd amserol i'r safon uchaf.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am goladu ystadegau ar berfformiad i fonitro effeithiolrwydd y tîm – gan gynnwys nifer o eitemau o ohebiaeth, cyfraddau ymateb a chyfraddau perfformiad (bodloni dyddiadau cau).

Prif dasgau

Prif dasgau

  • Darparu ymatebion i eitemau o ohebiaeth.
  • Dilyn gofynion llywodraethu mewn perthynas â derbyn cymeradwyaeth ar gyfer ymateb a chadw cofnod cywir o wybodaeth.
  • Drafftio ymatebion o'r safon uchaf yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf. Bydd hyn yn golygu perthynas weithio gref ar draws yr Is-adran ac Asiantiaid Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf am y maes.
  • Dyletswyddau gweinyddol gan gynnwys cofnodi'r holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth a chynhyrchu ystadegau wythnosol, i sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlenni a ganiateir.
  • Cofnodi, dadansoddi a rhannu ystadegau perfformiad y tîm.
  • Adeiladu perthynas weithio gref â swyddogion ar draws y Gyfarwyddiaeth Trafnidiaeth a Chysylltedd Digidol i sicrhau dealltwriaeth glir o flaenoriaethau a phroblemau, a'r ffordd maent yn berthnasol i bortffolio'r Weinidog.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r rôl hon yn rhoi'r cyfle i ddatblygu gwybodaeth ac ennill profiad o reoli a chynnal a chadw'r Rhwydwaith Cefnffyrdd yng Nghymru, gan weithio o fewn adran Llywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar gyflawni. 

Bydd y swydd yn cynnig y cyfle i ddatblygu rhwydwaith helaeth o gysylltiadau â rhanddeiliaid yn y sector seilwaith – o fewn Llywodraeth Cymru a'r tu allan.

Dyddiad Cau

21/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Siarad â'r bobl berthnasol er mwyn cael yr wybodaeth fwyaf cywir a chael cyngor pan na fyddwch yn siŵr sut i symud ymlaen.

Arwain a Chyfathrebu

  • Mynegi syniadau’n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, mewn modd sy’n dangos sensitifrwydd a pharch at eraill.

Rheoli Gwasanaeth Safonol

  • Egluro’n glir i gwsmeriaid yr hyn y gellir ei wneud.

Cyflawni'n Brydlon

  • Edrych ar eu perfformiad eu hunain a pherfformiad y tîm yn erbyn canlyniadau, gan wneud awgrymiadau am welliannau neu gymryd camau i ddatrys problemau.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  • Y gallu i weithio mewn amgylchedd pwysau uchel sy'n symud yn gyflym, wrth gynnal safonau drafftio o'r radd flaenaf.
  • Gweithio gyda nifer o ddyddiadau cau a'r gallu i flaenoriaethu'n briodol.
    • Y gallu i nodi, dadansoddi a datrys problemau cymhleth.

      Proses Asesu

      Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad.

      Gwybodaeth arall

      • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
      • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
      • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
      • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

      Y Gyfarwyddiaeth Trafnidiaeth a Chysylltedd Digidol

      ‘Pwy ydym ni a pham yr ydym yma’

      Ein cefndir

      Mae cyfrifoldebau Trafnidiaeth a Chysylltedd Digidol wedi ehangu o ganlyniad i setliadau datganoli olynol, ac erbyn hyn mae cyfrifoldebau wedi ymestyn i gynnwys ffyrdd, gweithrediadau rheilffyrdd, y diwydiant bysiau, teithio llesol (cerdded a beicio), porthladdoedd a hedfanaeth.

      Mae’r Gyfarwyddiaeth yn rhan o’r Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, gan adlewyrchu mai datgarboneiddio’r system drafnidiaeth a gwneud y defnydd gorau o gysylltedd digidol yw un o’r heriau mwyaf o ran cyrraedd targedau sero net Cymru.

      Cysylltedd yw’r hyn sy’n ein clymu at ein gilydd – drwy dechnoleg, seilwaith a pholisïau trafnidiaeth, rydym yn cynorthwyo pobl a busnesau i gysylltu â’i gilydd ledled Cymru, y DU a gweddill y byd.

      Ein cenhadaeth

      Newid dulliau teithio a lleihau carbon yw’r prif amcanion ac mae targedau heriol wedi eu gosod yn Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Cafodd ei lansio ym mis Mawrth 2021, ac mae’n llywio ein system drafnidiaeth dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae’n nodi ffordd newydd o feddwl sy’n gosod pobl a newid hinsawdd wrth wraidd ein system drafnidiaeth. Dyma’r tro cyntaf hefyd i’n strategaeth drafnidiaeth gynnwys cysylltedd digidol a newid ymddygiad yn benodol.

      Ein strwythur

      Mae oddeutu 150 o bobl yn ein tîm, sy’n cynnwys pum Is-adran.

      Mae dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i ddarparu rhwydwaith cefnffyrdd diogel a dibynadwy. Mae Is-adran y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol (SRN) yn gweithredu, yn cynnal ac yn gwella rhwydwaith cefnffyrdd Cymru fel awdurdod priffyrdd statudol.

      Mae’r Is-adran yn un o’r asedau unigol mwyaf sydd ar fantolen Llywodraeth Cymru, gyda chost amnewid dibrisiedig o oddeutu £18 biliwn. Yn ddim ond oddeutu 5% o gyfanswm hyd y ffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys 75 milltir o draffordd a 1000 o filltiroedd o gefnffyrdd, mae’r rhwydwaith yn cario un rhan o dair o’r holl draffig ac yn cefnogi’r broses o gyflawni nifer o amcanion strategol Llywodraeth Cymru. Mae’n hanfodol i’r economi, ac yn cysylltu pobl a chymunedau â’i gilydd.  Mae’n galluogi mynediad at wasanaethau pwysig ac mae ganddi rôl bwysig i’w chwarae mewn perthynas â chynnal a gwella ein hasedau amgylcheddol, cefnogi teithio llesol a newid dulliau teithio.

      Ar hyn o bryd mae’r model darparu ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd strategol yn seiliedig ar ddirprwyo rhai swyddogaethau statudol i’r asiantau cefnffyrdd, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) ac Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA). O ddydd i ddydd maent yn gweithredu, yn cynnal ac yn gwella’r rhwydwaith yn eu hardal hwy o dan gyfarwyddyd a llywodraethiant Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio eu cadwyni cyflenwi o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat.

      Gan weithio drwy’r asiantau cefnffyrdd, mae’r Is-adran yn sicrhau bod y rhwydwaith yn rhedeg yn esmwyth ac yn ddiogel, ochr yn ochr â rheoli nifer o brosiectau sydd ar y gweill ar gyfer cynnal a gwella’r rhwydwaith. Mae’n Is-adran fawr, ag elfen sylweddol o waith technegol, yn enwedig o ran y proffesiwn peirianneg.

      Mae’r Is-adran yn cynnwys 70 o staff sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, a channoedd yn rhagor yn cael eu cyflogi drwy’r Asiantau Cefnffyrdd a’n cadwyn gyflenwi. 

      Byddwch yn ymuno â thîm o weithwyr proffesiynol ymroddgar er mwyn cynorthwyo i sicrhau uniondeb a chynaliadwyedd y rhwydwaith cefnffyrdd.  Mae’n prosiectau ledled Cymru yn cynnwys rhai sy’n mynd i’r afael â heriau mwyaf hanfodol y wlad; o brosiectau seilwaith cymhleth, cynyddu anghenion trafnidiaeth aml-ddull, i fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd.  Bydd eich gwaith yn helpu i gyfrannu at gefnogi’r ased pwysig hwn a chael effaith barhaol ar Gymru a chymunedau lleol. 

      Mae’r Is-adran Strategaeth a Pholisi Trafnidiaeth (TSP) yn gyfrifol am weithredu a monitro’r strategaeth drafnidiaeth, gan ganolbwyntio’n benodol ar newid dulliau teithio. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn teithio llesol, pontio at ddefnyddio cerbydau trydan, gwneud 20mya yn derfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl a hyrwyddo newid ymddygiad. Mae’r Is-adran yn gweithio’n agos iawn gyda llywodraeth leol a Thrafnidiaeth Cymru.

      Trafnidiaeth Gyhoeddus ac Integredig sydd yn gyfrifol am bolisïau rheilffyrdd a bysiau yng Nghymru, gan integreiddio’r ddau rwydwaith cymaint â phosibl lle bynnag y bo’n bosibl. Mae swyddogaethau’r rheilffyrdd yn cael eu cyflawni mewn partneriaeth agos iawn â Thrafnidiaeth Cymru, yn enwedig mewn perthynas â darparu cerbydau rheilffyrdd newydd a thrawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd yn wasanaethau modern, sy’n rhedeg yn aml. Ochr yn ochr â hyn, mae’r Is-adran yn arwain ar y diwygiadau mwyaf uchelgeisiol yn y DU o ran y sector bysiau, sy’n golygu gweithio ar ddeddfwriaeth sylfaenol, dylunio rhwydweithiau a pholisïau prisiau.

      Mae’r Is-adran Cysylltedd Cenedlaethol a Rhyngwladol yn gyfrifol am drafnidiaeth pan fo cydgyfrifoldeb gan lefelau eraill o lywodraeth – llywodraeth leol a Llywodraeth y DU, gan gynnwys hedfanaeth, cludo llwythi, y sector morol a thacsis. Mae rolau allweddol o fewn yr Is-adran yn cynnwys y model llywodraethu ar gyfer Maes Awyr Caerdydd, creu cynllun cludo llwythi a logisteg newydd, a moderneiddio’r sail gyfreithiol ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat.

      Is-adran y Seilwaith Digidol sydd â chyfrifoldeb polisi dros faterion teleathrebu, gan gynnwys band eang, ffonau symudol ac ymgysylltu ag Ofcom. Mae’r Is-adran hefyd yn darparu ymyraethau seilwaith wedi eu targedu er mwyn mynd i’r afael â methiant yn y farchnad, datrys problemau diffyg capasiti ac ymestyn gwasanaethau cysylltedd ledled Cymru.

      Ymrwymiadau a swyddogaethau

      Ar draws yr holl ddulliau, mae bron i 40 o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu gan y Gyfarwyddiaeth, y mae nifer ohonynt yn deillio’n uniongyrchol o’r strategaeth drafnidiaeth. Fodd bynnag, dim ond un rhan o’r hyn yr ydym yn ei wneud yw gwaith polisi newydd; mae elfen weithredol a llywodraethu sylweddol i’n gwaith – o ran swyddogaethau statudol a rheoli prosiectau. Yn gyffredinol, mae’r Gyfarwyddiaeth yn arwain ar bolisi, cyllid, cynllunio a chyflawni’r holl swyddogaethau datganoledig a ddisgrifir uchod – yn ogystal â phortffolio eang o brosiectau cyfalaf.

      Sut yr ydym yn ymgorffori gwerthoedd Llywodraeth Cymru

      Creadigrwydd. Rydym yn edrych yn barhaus am ffyrdd newydd i wneud hyn ac i brofi dulliau arloesi. Rydym yn gefnogol o herio’r status quo yn ein hymdrechion i ddarparu polisïau a gweithrediadau newydd.

      Tegwch. Rydym yn gwybod bod angen inni fod yn amrywiol er mwyn darparu trafnidiaeth a chysylltedd sydd yn gwasanaethu’r holl grwpiau. Rydym yn buddsoddi mewn rheolaeth ardderchog ac yn trin ein staff yn deg, waeth beth yw eu rôl, eu graddfa na’u proffesiwn.

      Partneriaeth. Rydym yn edrych tuag allan ac yn gwybod mai dim ond gyda’n partneriaid y gallwn gyflawni – a hynny y tu mewn a’r tu allan i lywodraeth. Rydym yn datblygu cysylltiadau diwylliannol ystyrlon er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni’n strategaeth.

      Proffesiynoldeb. Rydym yn ddiduedd ac yn wrthrychol, gan sicrhau bod ein penderfyniadau wedi eu seilio ar dystiolaeth eang. Rydym yn blaenoriaethu’n barhaus er mwyn cael y gwerth gorau am arian. Rydym yn parchu ac yn cefnogi’n proffesiynau.

       

      Nicci Hunter

      Sut i wneud cais

      Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

      I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

      I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

      Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

      Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

      Anghydfod a Chwynion

      Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

      Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.