Swydd Wag -- Cynghorydd Proffesiynol – Dysgu Sylfaen

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
Dysgu Sylfaen
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Rhan-amser
3 diwrnod yr wythnos
Secondiad
24 mis
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
'I' w gadarnhau'

Pwrpas y swydd

Mae’r Gangen Dysgu Sylfaen (y Cyfnod Sylfaen gynt) yn rhan o Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru. Mae’r Gangen yn gyfrifol am gryfhau addysgeg addysg gynnar, a sicrhau bod anghenion ein dysgwyr ieuengaf yn cael eu hystyried yn llawn wrth weithredu’r Cwricwlwm i Gymru, yn benodol sicrhau bod galluogi dysgu, Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir a threfniadau asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir - sy’n cael eu cytuno’n derfynol ar hyn o bryd - yn cael eu hymgorffori’n llawn.

Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno parhau i gryfhau'r arbenigedd proffesiynol ac ymarferol sydd ar gael i gefnogi gweithredu llwyddiannus.  Fel cynghorydd proffesiynol, bydd gofyn ichi gefnogi gwaith yr Is-adran Cwricwlwm, Asesu a Gwella Ysgolion i sicrhau bod addysgeg ac ymarfer addysg gynnar yn cael eu hymgorffori mewn ysgolion a lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.  Rydym yn awyddus i sicrhau bod cymorth priodol ar gael i bob ymarferydd i ddiwallu anghenion ein dysgwyr ieuengaf yn effeithiol. Mae'r ethos hefyd yn ymestyn i bob lleoliad gofal plant yn unol â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.

Mae'r swyddi hon yn hanfodol i ddatblygu blaenoriaethau trawsbortffolio ehangach, gan gynnwys cydweithio ar ddatblygu system gydlynol o chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar.  

Prif dasgau

Tasgau Allweddol

  • Cyfrannu at gyflawni blaenoriaethau perthnasol a amlinellir yn i sicrhau bod ein dysgwyr ieuengaf yn dilyn cwricwlwm sy'n eu galluogi i ddatblygu i'w llawn botensial.
  • Darparu cyngor proffesiynol ac ymarferol – gan weithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach – ar bob mater sy'n ymwneud ag ymarfer addysgeg addysg gynnar.
  • Cefnogi'r gwaith parhaus o ddatblygu adnoddau ar gyfer ymarferwyr yn y sector nas cynhelir i weithredu cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir a'r trefniadau asesu cysylltiedig yn effeithiol.
  • Datblygu trefniadau i gryfhau'r dull o ddysgu a datblygu - gan adeiladu ar ganllawiau Cwricwlwm i Gymru - mewn lleoliadau gofal plant nad ydynt wedi'u hariannu i ddarparu addysg feithrin.
  • Cefnogi'r gwaith parhaus o ddatblygu’r cyfathrebu a’r ymgysylltu ag ysgolion a lleoliadau i hyrwyddo ac ymgorffori dealltwriaeth o addysgeg addysg gynnar yn y Cwricwlwm i Gymru.
  • Helpu i lywio datblygiad a darpariaeth rhaglenni i roi dull gweithredu ar waith sy’n fwy cydlynol o ran chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar yng Nghymru. 

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn gyfle gwych i gael dealltwriaeth ehangach o waith datblygu polisi yn Llywodraeth Cymru, gyda chyfleoedd i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol o fewn y Llywodraeth ac ar draws Cymru gyfan. Mae'r swydd yn cynnig gwaith traws-bortffolio o broffil uchel, sy'n helpu i ddatblygu sgiliau cydweithredu mewn maes darpariaeth cymhleth.

Dyddiad Cau

21/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Gweld y darlun cyflawn

  • Casglu ynghyd farn a safbwyntiau rhanddeiliaid er mwyn cael darlun mwy cyflawn o gefndir gweithgareddau a pholisïau.

Newid a gwella

  • Casglu, defnyddio a rhannu sylwadau a safbwyntiau cwsmeriaid yn effeithiol, gan ystod amrywiol o randdeiliaid, er mwyn gwella polisi a’r ffordd y caiff ei weithredu.

Arwain a chyfathrebu

  • Egluro strategaethau a chynlluniau, gan gyfleu diben a chyfeiriad mewn modd clir a brwdfrydig.

Gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth

  • Mynd ati i feithrin a chynnal rhwydwaith o gydweithwyr a chysylltiadau, er mwyn bwrw ati ag amcanion a buddiannau sy’n gyffredin rhyngddynt.

 

Meini Prawf / Profiad sy'n benodol i’r swydd:

  • Profiad diweddar, llwyddiannus o arweinyddiaeth mewn ysgol, e.e. arweinydd Dysgu Sylfaen, neu weithio ar lefel weithredol o fewn awdurdod lleol neu ar lefel ranbarthol neu genedlaethol, neu brofiad perthnasol tebyg o ddarpariaeth ac ymarfer addysg gynnar yng Nghymru.
  • Record o reoli'n effeithiol ar lefel genedlaethol ar bolisi addysg, neu brofiad perthnasol tebyg yn ymwneud â darpariaeth addysg gynnar.
  • Record o weithredu newid mewn ysgolion neu leoliadau.
  • Mae'n rhaid bod gennych dystysgrif statws athro cymwysedig.

Proses Asesu

Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Gwybodaeth a Sgiliau Gofynnol

1. Gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o:

  • y dirwedd addysg bresennol yng Nghymru
  • addysgeg addysg gynnar
  • y trefniadau strwythurol presennol ar gyfer gweithredu mewn gwahanol leoliadau addysg ledled Cymru
  • Cwricwlwm i Gymru, gydag arbenigedd penodol mewn darpariaeth addysg gynnar sydd wedi'i sefydlu drwy alluogi dysgu, a’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.

2. Cysylltiadau cryf â rhanddeiliaid ar draws y sector addysg gynnar yng Nghymru, gan gynnwys mewn ysgolion, sector meithrin a ariennir nas cynhelir, y sector gofal plant, Dechrau'n Deg a'r rhai sy'n gweithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol.

3. Profiad o waith partneriaeth cryf lle roedd yna gydweithio ystyrlon wrth ddatblygu neu weithredu polisi ac ymarfer.

4. Sgiliau cyfathrebu a drafftio rhagorol, gan ysgrifennu mewn gwahanol arddulliau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.

5. Gweithio gyda'r tîm a rhanddeiliaid i bennu blaenoriaethau ac amserlenni, nodi risgiau a rheoli cynlluniau prosiectau.

Averil Petley

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.