Swydd Wag -- Goruchwyliwr Gwaith Cadwraeth - De Gorllewin Cymru

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
Cadw
EO - £26,900 - £30,610
£25,860
Amser llawn (dydy hyn ddim yn addas i bobl sydd am weithio'n rhan-amser neu rannu'r swydd).
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Gwasanaeth amgylcheddol hanesyddol Llywodraeth Cymru yw Cadw. Ei fwriad yw sicrhau bod amgylchedd hanesyddol Cymru yn cael ei warchod yn dda ac ar gael i bawb.

Rydym yn gwarchod etifeddiaeth Cymru i’r safon gorau posib ac yn helpu i gynnal cymeriad unigryw tirwedd a threfi Cymru. Rydym yn gyfrifol am rai o’r lleoliadau mwyaf neilltuol yn y byd, ac rydym yn helpu pobl i ddeall ac i ofalu am eu llefydd a’u hanes – ynghyd â phwysigrwydd Cymru i’r byd.

Byddwch chi’n rhan o dîm sy’n gweithredu cyfrifoldebau statudol dros gadwraeth, cynnal a chadw yr henebion dan ein gofal.

Eich swydd fydd rheoli llinell, goruchwylio, trefnu ac arwain gwaith timau Crefft mewnol Cadw (Cadwraeth Cymru) ar safleoedd. Byddwch chi’n gyfrifol am reoli Cadwraeth yn ddiogel, effeithlon ac yn effeithiol, ac am brosiectau cynnal a chadw a chadwraeth y cynllun rhanbarthol. Bydd y gallu gennych i deithio o fewn ardal ddaearyddol gan yrru cerbyd gwaith Llywodraeth Cymru

Prif dasgau

  • Helpu’r Rheolwr Gwaith ac Eiddo Cadwraeth i reoli Gwaith gwarchod henebion Cadwraeth Cymru yn y rhanbarth yn effeithiol ac effeithlon, ac i reoli perfformiad contractwyr allanol a’r contractiwr FM yn ôl y galw ar sawl safle, yn aml ar yr un pryd.
  • Sicrhau bod rhannau dynodedig o’r rhaglen gadwraeth yn cael eu cyflawni’n unol â’r gofynion a safonau arfer gorau, a bod y gallu gennych chi i gyfathrebu cyfarwyddiadau cryno a chlir a chadw a chynnal cofnodion.
  • Cyfeirio, arwain, archwilio ac ysgogi timau’r rhanbarth i sicrhau eu bod yn gweithio’n ddiogel ac yn cydymffurfio â rhaglenni hyfforddiant diogelwch sydd wedi eu cymeradwyo. Byddwch chi hefyd yn rhoi cyngor am arfer gorau mewn cadwraeth ac yn datblygu cynlluniau datblygu effeithiol wedi eu targedu. Byddwch chi hefyd yn creu Datganiadau Dull, Cynlluniau Diogelwch, Asesiadau Risg, dogfennau Safleoedd Adeiladu, Sgyrsiau am Focsys Offer, a.y.y.b. Byddwch chi’n sicrhau bod arferion Iechyd a Diogelwch yn cael eu dilyn bob tro ac yn adrodd am dramgwyddau neu’n eu datrys yn brydlon. Byddwch chi’n monitro perfformiad, hyfforddiant, datblygiad, absenoldeb a recriwtio staff. Bydd gennych lefel ganolradd o sgiliau TG, gan gynnwys defnyddio PC, tabled, camera a ffôn clyfar. 
  • Caffael sgaffaldiau, peiriannau a deunydd angenrheidiol a sicrhau eu bod yn cael eu dosbarthu a’u cyflenwi’n brydlon ar gyfer holl waith y timau crefft. Byddwch chi’n sicrhau bod holl beiriannau, offer a cherbydau llog Cadw’n cael eu gwasanaethau a’u hatgyweirio yn ôl y galw.
  • Rhoi cefnogaeth i sicrhau bod rhaglenni prosiectau cadwraeth yn cael eu cyflawni ar amser a helpu goruchwylio gwaith contractwyr allanol yn ôl y galw.
  • Casglu dogfennau’r safle, asesiadau risg, cofnodion a pharatoi manylebau, cyfryngau digidol, a.y.y.b. Byddwch chi’n cynhyrchu Archebion Prynu ac yn awdurdodi taliadau gan gadw cofnodion manwl gywir, a.y.y.b. wrth ddilyn rheolau caffael Llywodraeth Cymru. Byddwch chi’n arolygu safleoedd ac yn cynhyrchu adroddiadau. Bydd angen lefel ganolradd o brofiad TG arnoch chi.
  • Cyfrannu at hyrwyddo dealltwriaeth y cyhoedd o waith Cadw gan arddangos ein gwaith i ymwelwyr, mynychu digwyddiadau allanol Cadw a’n cynrychioli ni yno, arddangosfeydd o’n gwaith, cyfleoedd gan y cyfryngau a.y.y.b.
  • Yn ogystal â’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau a restrwyd, efallai y bydd gofyn i chi gyflawni dyletswyddau eraill a aseinir gan reolwyr sy’n berthnasol i’r Radd.

Cyfleoedd datblygu

Anogir cyfleoedd hyfforddi a datblygu mewnol ac allanol fel rhan o gynllun hyfforddi a datblygu strwythuredig. Fel rhan o dîm arbenigol bach, mae llwybr gyrfa a chyfleoedd posibl yn y dyfodol i ddatblygu gyrfa.

Dyddiad Cau

04/11/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Bydd y cynllun hwn yn defnyddio elfennau o’r Fframwaith Proffiliau Llwyddiant. Mae dolen i’r fframwaith ar gael yma: Proffiliau Llwyddiant - GOV.UK (www.gov.uk)  

Meini Prawf Profiad

Mae’r meini prawf profiad canlynol yn HANFODOL ar gyfer y rôl hon. Bydd angen sicrhau eich bod yn cynnwys CV sy’n dangos eich gallu a’ch profiad mewn perthynas â’r sgiliau hyn.

  1. Profiad o warchod neu ailadeiladu adeiladau neu waliau carreg neu frics
  2. Gwybodaeth a phrofiad o gymhwyso Iechyd a Diogelwch mewn gweithiau
  3. Profiad o reoli prosiect cadwraeth
  4. Profiad o reoli tîm

Gofynnwn i chi sicrhau nad yw eich CV yn fwy na 2 ochr o A4 ond gofalwch ei fod yn cwmpasu’r holl feini prawf a nodir uchod

Proses Asesu

1. Y Cam Sifftio

Fel rhan o’ch cais bydd gofyn i chi lanlwytho copi o’ch CV. Ni ddylai hwn fod yn fwy na 2 ochr o A4. Ni fydd unrhyw wybodaeth y tu hwnt i 2 ochr o A4 yn cael ei hystyried fel rhan o’r broses sifftio hon.

Bydd proses sifftio gychwynnol yn cael ei chynnal gan ddefnyddio eich CV a’r 4 maen prawf profiad a nodir uchod. I gadarnhau, y rhain yw:

  1. Profiad o warchod neu ailadeiladu adeiladau neu waliau carreg neu frics
  2. Gwybodaeth a phrofiad o gymhwyso Iechyd a Diogelwch mewn gweithiau
  3. Profiad o reoli prosiect cadwraeth
  4. Profiad o reoli tîm

2. Y Cam Cyfweld

Bydd ymgeiswyr sydd wedi llwyddo yn y cam sifftio yn cael eu gwahodd i fod yn rhan o gyfweliad rhithwir ar-lein gyda’r panel dethol.

Yn ystod y cyfweliad ar-lein, bydd y panel yn:

  1. gofyn cwestiynau i chi sy’n ymwneud â sgiliau a phrofiad, yn gyson â’r Meini Prawf Profiad a nodir uchod.
  2. gofyn i chi ddangos eich gwybodaeth dechnegol drwy asesu’ch ymateb i gwestiynau a ofynnir am ddelweddau sy’n gysylltiedig â’r proffesiwn saer maen/ gosod brics.
  3. gofyn cwestiynau i chi er mwyn deall eich angerdd, yr hyn sy’n eich cymell a’ch ymrwymiad i’r proffesiwn saer maen/gosod brics.

Elfennau cyffredinol y Fframwaith Proffil Llwyddiant sy’n cael eu hasesu

Cam Sifftio: Profiad

Cam Cyfweld: Profiad, Technegol, Cryfderau

Cryfderau a asesir yn y Cyfweliad

  1. Disgybledig
  2. Datryswr Problemau
  3. Arweinydd Tîm

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae'r swydd hon yn denu lwfans cyfrifoldeb o 10%


Keiran McLenaghan - 07812379660

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).


Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.