Swydd Wag -- Rheolwr Swyddfa

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cafcass Cymru
EO - £26,900 - £30,610
£25,860
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Caerdydd, Y De-ddwyrain
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Cafcass Cymru'n sefydliad sy’n canolbwyntio ar blant ac sy’n darparu gwasanaethau statudol i blant agored i niwed a chyngor arbenigol i’r Llys Teulu.

Prif ddyletswyddau Cafcass Cymru, fel y nodir yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000, yw'r canlynol:

  • Diogelu a hyrwyddo lles y plant
  • Rhoi cyngor i unrhyw lys ynghylch unrhyw gais a wneir iddo mewn achosion o'r fath
  • Gwneud darpariaeth i'r plant gael eu cynrychioli
  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i'r plant a'u teuluoedd

Mae'r sefydliad wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon sy'n canolbwyntio ar blant ac sy'n cydnabod anghenion a hawliau unigryw plant unigol. Ar hyn o bryd, mae Cafcass Cymru yn cyflogi 225 o staff sy'n gweithio o nifer o swyddfeydd ledled Cymru.

Mae'r Rheolwr Swyddfa yn darparu gwasanaeth cymorth effeithlon ac effeithiol i Brif Weithredwr Cafcass Cymru i'w gynorthwyo i gyflawni ei gyfrifoldebau corfforaethol ac i gyflawni ei amcanion personol a busnes.  Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod swyddfa’r Prif Weithredwr yn gweithredu'n llyfn o ddydd i ddydd, rhoi cymorth i’r Dirprwy Brif Weithredwr, a sicrhau bod y busnes yn cael ei reoli’n effeithiol ac yn effeithlon.

Byddwch hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda Swyddfa Cyfarwyddwr Cyffredinol / Prif Weithredwr GIG Cymru a byddwch yn cyflenwi ar gyfer yr Uwch-gynorthwyydd Gweithredol pan fydd ef/hi ar wyliau ac ati.

Prif dasgau

Fel y Rheolwr Swyddfa, byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Trefnu cyfarfodydd mewnol ac allanol, a chomisiynu a pharatoi briffiau i gefnogi'r cyfarfodydd hynny.
  • Trefnu agendâu, paratoi papurau, cymryd cofnodion, a mynd ar drywydd camau dilynol ar gyfer cyfarfodydd Uwch-dîm Arwain y Cyfarwyddwr.
  • Trefnu digwyddiadau ad-hoc sy'n cynnwys rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys trefnu lleoliadau ac arlwyo, drafftio agendâu, coladu rhestrau mynychwyr, dosbarthu papurau digwyddiadau, gofynion gweinyddol ar y diwrnod, a mynd ar drywydd cynlluniau gweithredu.
  • Trefnu sesiynau briffio staff ad-hoc gyda'r Prif Weithredwr, gan ddefnyddio offer saingynadledda a fideogynadledda yn ôl yr angen.
  • Rheoli dyddiadur y Prif Weithredwr, sy'n hynod o brysur, i sicrhau defnydd priodol o'i amser, gan hwyluso cyflawni blaenoriaethau gwaith.
  • Paratoi ffolder electronig ar gyfer diwrnod y Prif Weithredwr sy'n cynnwys yr holl bapurau ar gyfer y diwrnod canlynol, gan sicrhau ei fod wedi'i friffio'n llawn.
  • Darparu dyletswyddau ysgrifenyddol i Bwyllgor Ymgynghorol Cafcass Cymru a Phwyllgor Partneriaethau Cafcass Cymru, gan gynnwys drafftio agendâu, comisiynu'r holl bapurau perthnasol, drafftio cofnodion, a mynd ar drywydd yr holl gamau gweithredu.  Mae hon yn rhan bwysig a chanolog o'r rôl hon.  (Mae sgiliau cymryd cofnodion ac ysgrifenyddol ardderchog yn hanfodol i'r rôl hon.)
  • Datblygu a chynnal cydberthnasau gwaith agos â rhanddeiliaid allanol allweddol, gan gynnwys Gwasanaethau Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, Cafcass Lloegr, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan, ADSS Cymru, a sefydliadau trydydd sector.
  • Darparu dyletswyddau ysgrifenyddol i’r Dirprwy Brif Weithredwr, gan gynnwys trefnu cyfarfodydd y Pennaeth Gweithrediadau a’r Grŵp Arweinyddiaeth Weithredol, gan gynnwys agendâu, drafftio cofnodion, a mynd ar drywydd yr holl gamau gweithredu.
  • Rheoli negeseuon e-bost y Prif Weithredwr a'u blaenoriaethu, gan reoli'r rhan fwyaf o’r gwaith dosbarthu heb droi at rywun am gymorth.
  • Gweithredu system dwyn ymlaen effeithlon ac effeithiol i sicrhau bod terfynau amser ar gyfer busnes sy'n mynd allan a busnes sy'n dod i mewn yn cael eu bodloni.
  • Derbyn galwadau ffôn a’u hailgyfeirio neu gymryd camau yn ôl yr angen.
  • Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer Prif Weithredwr Cafcass Cymru a’r Uwch-dîm Arwain.
  • Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf â Gweinidogion a swyddfeydd preifat Gweinidogion a’r farnwriaeth.

Ymdrin â gwybodaeth gyfrinachol yn briodol mewn perthynas â materion staffio, gan gynnwys recriwtio, rheoli perfformiad, cwynion, a gweithdrefnau disgyblu.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn rhoi'r cyfle i weithio mewn rôl proffil uchel o fewn sefydliad sy'n canolbwyntio ar blant, gan ddarparu cymorth gweinyddol i'r Prif Weithredwr. Mae'r swydd yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau ag uwch-reolwyr ar draws Cafcass Cymru, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol.

Dyddiad Cau

19/10/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau: 

  • Gweld y Darlun Cyflawn - Bod yn ymwybodol o’r diweddaraf am gyfres o faterion cyffredinol sy’n berthnasol i waith yr Adran. 
  • Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Dangos diddordeb mewn pobl eraill a datblygu amrywiaeth o gysylltiadau y tu allan i’w timau eu hunain i’w helpu i gyflawni’r gwaith. 
  • Rheoli Gwasanaeth Safonol - Gweithio gyda’r tîm i osod blaenoriaethau, creu cynlluniau clir a rheoli’r holl waith er mwyn diwallu anghenion y cwsmer a’r busnes. 
  • Cyflawni’n Brydlon - Dal ati i fod yn bositif a chanolbwyntio ar wireddu canlyniadau hyd yn oed os bydd pethau’n mynd o chwith. 

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  • Profiad o ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office, yn benodol Word ac Outlook.
  • Yn gallu defnyddio barn bersonol i wneud penderfyniadau cadarn, gan fod yn ymwybodol o faterion sensitif a chynnal y lefel eithaf o gyfrinachedd rhwng fy uwch-reolwr a myfi fy hun.
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, gan ddefnyddio tact a diplomyddiaeth.

Proses Asesu

Caiff ceisiadau eu sifftio, wedyn bydd ymgeiswyr llwyddianus yn derbyn gwahoddiad i gyfweliad. 

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
  • Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gorfod aros yn y swydd am o leiaf 2 flynedd cyn bod yn gymwys i symud swyddi (amod eu bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd eraill sy'n gymwys ar y pryd).
  • Lleoliad y swydd - Y swyddfa ar gyfer y rôl hon fydd Caerdydd neu Ferthyr Tudful. Fodd bynnag, efallai y bydd angen teithio i swyddfeydd eraill ledled Cymru yn achlysurol hefyd.
  • Ar hyn o bryd mae staff Cafcass Cymru yn gweithio o bell, ond yn y tymor hir byddwn yn mabwysiadu dull cyfunol a hyblyg sy'n ymgorffori gweithio swyddfa a gweithio o bell, gan ystyried angen busnes.  Felly, dylai ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl y bydd yn ofynnol iddynt fynychu'r swyddfa benodol yn rheolaidd.
  • Croesewir ceisiadau gan bobl ag ystod amrywiol o brofiadau byw a phroffesiynol. Mae Cafcass Cymru wedi ymrwymo'n weithredol i ddod yn sefydliad cynyddol amrywiol sy'n diwallu anghenion yr ystod amrywiol o ddefnyddwyr gwasanaeth. Ategir hyn gan ddull deinamig o ddysgu a datblygu. Mae nifer o rwydweithiau Amrywiaeth y gall staff gymryd rhan ynddynt, sy'n cynnwys Y Rhwydwaith Staff Lleiafrifoedd Ethnig, Rhwydwaith PRISM LHDTRh+, a'r Rhwydwaith Menywod Ynghyd.
Jen Noble - CafcassCymruHR@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.