Swydd Wag -- Cafcass Cymru – Rheolwr Ymarfer (Gogledd Cymru)
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Mae Cafcass Cymru yn weithredol – yn cynghori’r llys ar achosion lle mae lles plentyn yn y fantol – ac mae hefyd yn rhan o Lywodraeth Cymru. Mae gennym felly'r gorau o ddau fyd - cyflawni gwasanaethau a'r gallu i siapio a dylanwadu. Rydym yn sefydliad sy'n byw ac yn anadlu ei werthoedd. Rydym yn sefydliad sy'n wirioneddol yn ei awydd i wella canlyniadau i'r plant rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn sefydliad sy’n rhoi Cymru ar y map ym myd gwaith cymdeithasol a chyfiawnder teuluol. Rydym am i chi fod yn rhan o’r daith gyffrous hon o roi’r plentyn yn gyntaf a gwneud gwahaniaeth.
Yn Cafcass Cymru, rydym yn cefnogi miloedd o blant a theuluoedd mewn achosion llys teulu bob blwyddyn. Ein pwrpas yw diogelu’r plentyn a sicrhau bod ei lais yn cael ei glywed yn y system cyfiawnder teuluol. Mae dyfodol y plentyn wrth wraidd pob argymhelliad a wneir a phob cam a gymerir gan Cafcass Cymru.
Ein Nodau
Fel sefydliad sy’n dysgu, mae Cafcass Cymru wedi ymrwymo’n gryf i barhau i fuddsoddi yn ein staff er mwyn cynnal lefelau cyson o ansawdd, datblygu ein gwasanaethau ac arloesi a gwella’n barhaus mewn ymateb i heriau’r dyfodol. Ein nodau yw:
- Darparu gwasanaeth o’r ansawdd gorau i gefnogi canlyniadau gwell i bob plentyn, unigolyn ifanc a theulu rydym yn gweithio gyda nhw
- Creu amgylchedd a diwylliant dysgu lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod eu llesiant yn cael ei gefnogi
- Rhannu ein gwybodaeth, dysgu gan bartneriaid a defnyddio ein dylanwad ar y cyd i wella'r system cyfiawnder teuluol a gofal cymdeithasol plant yng Nghymru
Buddion Gweithwyr
Mae Cafcass Cymru yn Is-adran o’r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru ac mae gyrfa gyda ni yn cynnig llawer o fanteision gwasanaeth sifil gan gynnwys:
- Dilyniant cyflog yn seiliedig ar flaenswm cynyddrannol blynyddol
- Hawl gwyliau llawn amser o 31 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd â deg diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint
- Mynediad i gyfleoedd hyfforddi niferus
Fel Rheolwr Ymarfer, byddwch yn treulio rhywfaint o'ch amser allan yn cyfarfod â phlant a theuluoedd ac yn mynychu'r llys. Mae lwfans o £1,000 y flwyddyn ar gael os ydych yn defnyddio eich car eich hun ar gyfer yr holl deithiau busnes swyddogol ac yn teithio dros 2,000 o filltiroedd statudol y flwyddyn. Mae angen trwydded yrru ddilys ac yswiriant modur. Mae rhagor o wybodaeth am leoliad a theithio isod.
Amrywiaeth
Rydym yn ymroddedig i ddod yn sefydliad sy'n fwyfwy amrywiol gyda gweithlu sy'n adlewyrchu amrywiaeth y plant a'r teuluoedd rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan unigolion o gefndiroedd amrywiol sydd ag ystod o brofiadau gwaith cymdeithasol proffesiynol a byw. Cefnogir hyn gan ein hymagwedd ddeinamig at ddysgu a datblygu ac mae nifer o rwydweithiau amrywiaeth y gall staff gymryd rhan ynddynt, sy'n cynnwys Rhwydwaith y Staff Ethnig Lleiafrifol, Rhwydwaith PRISM LGBTI+, a'r Rhwydwaith Menywod Ynghyd.
Y Rôl
Rôl Rheolwyr Ymarfer Cafcass Cymru yw darparu rheolaeth llinell uniongyrchol i dîm bach o ymarferwyr Cafcass Cymru o fewn rhanbarth daearyddol dynodedig yng Nghymru wrth gynnal baich achosion bach o achosion cyfraith breifat a/neu gyhoeddus sy’n gymesur â chyfrifoldebau rheoli’r rôl. Cynorthwyo a chefnogi'r Pennaeth Gweithrediadau i reoli darpariaeth gwasanaeth yn effeithiol, yn amserol ac yn effeithlon. Asesu anghenion plant unigol sy’n ymwneud ag achosion teuluol, eu diogelu a hyrwyddo eu llesiant, ynghyd â darparu cyngor ac adroddiadau i’r llysoedd teulu er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’r plant hyn.
I fod yn Rheolwr Ymarfer, rhaid i chi fod yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, yn meddu ar wybodaeth am wasanaethau diogelu i blant a'u teuluoedd yn y sector statudol, yn ogystal â phrofiad o reoli a chefnogi eraill.
Mae ein gwaith yn heriol, felly bydd angen i chi fod yn wydn a threfnus, gyda'r gallu i weithio'n gymesur, gyda sgiliau TG cryf a sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol.
Os mai dyma’r math o ddiwylliant a sefydliad y credwch y gallwch ffynnu ynddynt a’ch bod yn cael eich ysgogi i wneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd, byddai Cafcass Cymru yn croesawu eich diddordeb.
Prif dasgau
Arweinyddiaeth a Rheolaeth:
- Darparu gwaith arwain a rheoli o ddydd i ddydd sy’n effeithiol, ysbrydoledig ac ymroddedig i dîm bach o ymarferwyr Cafcass Cymru ar gymhareb o un Rheolwr Ymarfer hyd at uchafswm o wyth ymarferydd.
- Mabwysiadu dull rhagweithiol sy’n canolbwyntio ar arweinyddiaeth wrth ddarparu goruchwyliaeth/adolygiad ymarfer myfyriol rheolaidd sy'n seiliedig ar gryfder, a rheoli perfformiad yr ymarferwyr a nodwyd yn effeithiol.
- Sicrhau bod plant ac oedolion yn cael eu diogelu yn unol â gofynion sefydliadol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru drwy gynnal trosolwg rheoli o ymarfer a chydymffurfedd.
- Bod yn gyfrifol am ddyrannu gwaith i ymarferwyr dynodedig mewn modd amserol ac effeithlon ac yn unol â phrosesau a gofynion y sefydliad.
- Cefnogi'r Pennaeth Gweithrediadau perthnasol i sicrhau ymateb amserol a chyflawn i'r holl sylwadau, canmoliaeth, pryderon a chwynion yn unol â gweithdrefnau Cafcass Cymru.
- Darparu gwasanaethau yn unol ag angen gweithredol fel y dynodwyd gan y Pennaeth Gweithrediadau/yr Uwch-dîm Arwain/y Tîm Arwain Gweithredol, gan gynnwys gwaith cyflenwi ar gyfer Rheolwyr Ymarfer eraill yn ôl yr angen.
- Bod yn gyfrifol am arwain a rheoli'r gwaith o ddarparu'r gwasanaeth, ymarfer a pherfformiad trwy gyfrannu’n effeithiol at ddethol, recriwtio a sefydlu staff.
- Cefnogi'r Pennaeth Gweithrediadau perthnasol i arwain a llywio dysgu a datblygu ar lefel unigol, lefel ardal a lefel sefydliadol.
- Cymryd rôl arweiniol wrth hyrwyddo diwylliant o wella arferion, lle y rhoddir sylw llawn i faterion amrywiaeth a chydraddoldeb a'u hintegreiddio i arferion ac yn ein perthnasoedd a'n hymwneud â chydweithwyr yn fewnol a thu hwnt i'r sefydliad.
- Cymryd cyfrifoldeb am sicrhau cydymffurfedd â pholisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch o fewn y maes cyfrifoldeb.
- Bod yn gyfrifol am hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus fel rhan o dîm arwain yr ardal ddynodedig, a gweithredu fel hyrwyddwr newid yn ôl yr angen.
- Bod yn gyfrifol am gysylltu ag asiantaethau partner (gan gynnwys awdurdodau lleol, y Farnwriaeth a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM) ar faterion gweithredol.
Ymarfer:
- Cynnal baich achosion o achosion cyfraith breifat a/neu gyhoeddus sy'n gymesur â lefel y cyfrifoldeb rheoli, fel y cytunwyd arno gyda'r Pennaeth Gweithrediadau perthnasol.
- Bod yn uniongyrchol gyfrifol ac yn atebol i'r Pennaeth Gweithrediadau perthnasol am faterion ymarfer yn unol â gofynion y sefydliad.
- Darparu cyngor a chymorth gwaith cymdeithasol proffesiynol i'r Llysoedd i ddod ag achosion i benderfyniad amserol a sicrhau'r canlyniad gorau posibl i'r plentyn yn seiliedig ar yr anghenion unigol a'u budd pennaf.
- Sicrhau bod llesiant y plentyn o'r pwys mwyaf drwy gydol yr achos, gan gynnwys sicrhau bod y plentyn ac oedolion yn cael eu diogelu yn unol â gofynion y sefydliad a Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
- Sicrhau pennu a chyfarwyddo cynrychiolaeth gyfreithiol ar gyfer y plentyn yn ôl yr angen ac yn unol â gofynion statudol a sefydliadol.
- Sicrhau bod dymuniadau a theimladau'r plentyn yn cael eu hystyried yn briodol a rhoddir adroddiad amdanynt drwy gydol yr asesiad o anghenion y plentyn fel rhan o achosion teulu.
- Cynghori a chynorthwyo rhieni a phartïon perthnasol eraill ynghylch achosion a ddadleuir er budd pennaf y plentyn er mwyn lleihau'r angen am ymyrraeth y llys.
- Gweithio'n effeithiol gyda sefydliadau partner, rhanddeiliaid a defnyddwyr y gwasanaeth wrth gynnal yr annibyniaeth ofynnol fel rhan o'r achos.
- Cael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn deddfwriaeth, canllawiau, rheolau llys, polisïau, gweithdrefnau a datblygiadau arferion gorau.
- Cydymffurfio â pholisïau sefydliadol, gweithdrefnau, gofynion statudol a rheolau llys wrth ddarparu gwasanaethau i blant a theuluoedd sy'n ymwneud ag achosion teulu.
- Bod yn gyfrifol am ddysgu a datblygiad personol yn unol â gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru a phroses rheoli perfformiad Llywodraeth Cymru.
- Gweithio fel aelod o dîm, mynychu cyfarfodydd perthnasol a chyfrannu at effeithiolrwydd a gwaith cynllunio ehangach Cafcass Cymru yn ôl yr angen.
- Darparu gwybodaeth reoli ar lwyth gwaith, ymarfer a pherfformiad yn ôl yr angen, a defnyddio TG yn effeithiol i gefnogi'r gwaith o ddarparu'r gwasanaeth.
- Bod yn gynrychiolydd gweledol ac effeithiol i Cafcass Cymru a Llywodraeth Cymru, a gweithredu mewn modd proffesiynol sy’n hyrwyddo delwedd gadarnhaol bob amser.
Cyfleoedd datblygu
Yn Cafcass Cymru, rydym am fuddsoddi mewn dysgu parhaus, gan helpu i ysbrydoli ac ysgogi ein staff i ddatblygu yn eu rolau a bod y gorau y gallant fod o fewn sefydliad deinamig, amrywiol ac agored.
Mae rôl Rheolwr Ymarfer yn cynnig cyfleoedd sylweddol i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o reoli, datblygu a gwella gwasanaeth Cymru gyfan, gan gynnwys cysylltu ag amrywiaeth o asiantaethau a sefydliadau
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Cymwyseddau:
Newid A Gwella
- Bod yn barod i wynebu heriau neu newidiadau anodd neu gymhleth, gan annog a chefnogi eraill i wneud yr un fath
Arwain a Chyfathrebu
- Cydnabod, parchu a gwobrwyo eraill am eu cyfraniad a’u llwyddiant, gan roi gwerth ar wahaniaethau
Gwella Gallu Pawb
- Nodi a mynd i’r afael â gofynion neu fylchau o ran gallu ymhlith timau neu unigolion, er mwyn cyflawni gwaith heddiw ac yfory
Cyflawni’n Brydlon
- Rheoli, cefnogi ac ymestyn eu hunain a’u tîm yn llwyddiannus i gyflawni nodau ac amcanion y cytunwyd arnynt
Meini Prawf Penodol i’r Swydd:
- Bydd gennych ddealltwriaeth o anghenion plant sy’n ymwneud ag achosion cyfraith breifat a chyhoeddus o fewn y system cyfiawnder teuluol gan gynnwys profiad o herio eraill pan roeddech o’r farn nad oedd gweithredoedd neu benderfyniadau er budd pennaf plant.
- Bydd gennych brofiad o arwain, rheoli a/neu weithredu newid, gan gynnwys newid sefydliadol a diwylliannol er mwyn darparu gwasanaethau a chanlyniadau gwell i blant a theuluoedd.
- Tystiolaeth o gynllunio achos effeithiol a chofnodi gwaith achos gyda phlentyn/plant a theuluoedd yn unol â'r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol
Proses Asesu
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.