Swydd Wag -- Pennaeth polisi Rheoliadau Adeiladu
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Prif dasgau
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am:
- Datblygu a rheoli rhaglen o weithgareddau ar gyfer bwrw ymlaen ag amcanion y Papur Gwyn ar Ddiogelwch Adeiladu a'r Bil Diogelwch Adeiladu yng Nghymru gan gynnwys drafftio is-ddeddfwriaeth, cysylltu â'r HSE fel y rheoleiddiwr yn Lloegr a chefnogi gweithgareddau sy'n ymwneud â datblygu cymhwysedd diwydiant a rheoli adeiladu a safonau gweithredol ar gyfer rheoli adeiladu.
- Rheoli cyllideb flynyddol i ariannu ymchwil, cyngor arbenigol a gweithgareddau ymgysylltu a chyhoeddi i lywio adolygiad cyfnodol o Rannau A – R o Reoliadau Adeiladu 2010.
- Rheoli adolygiadau o reoliadau adeiladu gan gynnwys caffael a chomisiynu arbenigwyr allanol, sefydlu gweithgorau diwydiant, ymgynghori â'r cyhoedd, dadansoddi ac ymateb.
- Rheoli Pwyllgor Ymgynghorol Rheoliadau Adeiladu Cymru gan gynnwys recriwtio ac arfarnu perfformiad.
- Gweithio gydag adrannau eraill o fewn Llywodraeth Cymru a chynrychioli buddiannau Llywodraeth Cymru mewn amrywiaeth o weithgareddau rhynglywodraethol sy'n gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill.
- Goruchwylio polisi ariannu Adeiladu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru (BREEAM).
- Cynrychioli buddiannau Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r diwydiant adeiladu a'i sefydliadau.
- Datblygu rhaglen waith flynyddol a rheoli adnoddau i adlewyrchu blaenoriaethau gweinidogol.
- Cyfarwyddo a chysylltu â Gwasanaethau Cyfreithiol o fewn Llywodraeth Cymru ynghylch darparu cyngor a chymorth cyfreithiol.
- Darparu cyfraniadau effeithiol i bob agwedd ar Fusnes y Llywodraeth (gan gynnwys Cwestiynau'r Senedd, Gohebiaeth gan Weinidogion, Cyflwyniadau ac ati) ac ymateb i ddiddordeb yn y cyfryngau a darparu cyngor cynhwysfawr a gwybodus;
- Datblygu a chynnal perthynas gynhyrchiol â'r holl randdeiliaid mewnol/allanol i gefnogi'r amcanion uchod, gan gynnwys Gweinidogion a Chynghorwyr Arbennig.
Cyfleoedd datblygu
- Bod yn rhan o'r gwaith pwysicaf o ddatblygu safonau diogelwch tân ac adeiladu ers Deddf Adeiladu 1984.
- Datblygu dealltwriaeth o faes polisi datganoledig sydd â chysylltiadau agos â'r diwydiant adeiladu yng Nghymru a gweddill y DU.
- Datblygu perthynas waith â Gweinyddiaethau eraill y DU yn ogystal â rhanddeiliaid allanol.
- Datblygu sgiliau polisi a deddfwriaeth drwy gysylltu'n uniongyrchol â datblygu deddfwriaeth newydd.
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
1. Dylai ymgeiswyr gynnwys CV a datganiad personol,
2. Dylai CV fod yn uchafswm o 3 thudalen o A4 (bydd unrhyw beth dros hyn yn cael ei ddiystyru) a dylai ddarparu tystiolaeth o:
- Profiad sylweddol o weithio o fewn y diwydiant adeiladu mewn rolau technegol ac arweinyddiaeth, gan ddangos sgiliau rhyngbersonol cryf a thystiolaeth o ymgysylltu a dylanwadu ar ystod o randdeiliaid mewnol ac allanol i gyflawni amcanion ar y cyd.
3. Ni ddylai'r datganiad personol fod yn fwy na 1500 o eiriau (bydd unrhyw beth dros hyn yn cael ei ddiystyru) ac yn mynd i'r afael â'r gofynion canlynol sy'n benodol i'r swydd:
- Sgiliau datrys problemau a dadansoddi cryf gyda hyder amlwg wrth wneud defnydd llawn o wybodaeth feintiol ac ansoddol a'r gallu i ddatblygu opsiynau ymarferol sy'n deillio o ddadansoddi.
- Tystiolaeth o sgiliau drafftio cryf, gan gynnwys adroddiadau ffurfiol, gohebiaeth a briffio i uwch reolwyr.
- Y gallu i ddeall materion cyfreithiol a thechnegol cymhleth, a chyfleu'r rhain mewn ffordd glir ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Tystiolaeth o brofiad sylweddol, uniongyrchol, ôl-raddedig o weithio gyda chyrff rheoli adeiladu a rheoliadau adeiladu ar adeiladau domestig ac annomestig newydd a phresennol.
- Tystiolaeth o gyflawni gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosibl, tra'n rheoli blaenoriaethau busnes sy'n cystadlu ac yn newid.
- Bydd gan ymgeiswyr gymwyster adeiladu proffesiynol cydnabyddedig e.e. pensaer cofrestredig, peiriannydd siartredig neu syrfewr rheoli adeiladu siartredig.
4. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn y cymwyseddau a'r manylion swydd a ddisgrifir uchod.
Proses Asesu
Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio, gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i gyfweliad.
Yn y cyfweliad, bydd gofyn i ymgeiswyr ymgymryd â'r canlynol cyflwyniad, a bydd manylion y rhain yn cael eu darparu ar y cam gwahoddiad i gyfweliadau i ymgeiswyr sy'n llwyddiannus ar y camau cyntaf.
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.