Swydd Wag -- Swyddog Cymorth Tribiwnlys

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Swyddfa'r Prif Weinidog
Uned Tribiwnlysoedd Cymru
Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
19,240
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Y Canolbarth
04/07/19

Pwrpas y swydd

Mae Uned Tribiwnlysoedd Cymru yn darparu cymorth gweinyddol, gwaith achos a chlercio ar gyfer tribiwnlysoedd annibynnol a arweinir yn farnwrol. Mae hon yn swydd i gefnogi tribiwnlysoedd a wasanaethir o'r swyddfa yn Llandrindod. 

Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth gweinyddol i Dribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru (TTA) a Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbenigol Cymru (TAAAC), yn bennaf, yn ogystal â darparu cymorth gweinyddol cyffredinol i'r tîm yn ôl yr angen. 

Mae TTA yn chwarae rhan bwysig wrth benderfynu ar anghydfodau a materion eraill rhwng landlordiaid a thenantiaid amaethyddol sy'n deillio o gytundebau tenantiaeth a gynhelir o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986. Mae TTA hefyd yn penderfynu ar anghydfodau yn ymwneud â draenio tir amaethyddol o dan Ddeddf Draenio Tir 1991. 

Mae TAAAC yn dyfarnu ar apeliadau a wneir gan rieni am anghenion dysgu ychwanegol eu plant ac yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan Awdurdodau Lleol. Mae TAAAC hefyd yn delio â hawliadau o wahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion yng Nghymru. Mae'r achosion hyn yn aml yn anghytundebau rhwng rhieni, Awdurdodau Lleol a Llywodraethwyr Ysgolion; yn gyfreithiol gymhleth eu natur ac yn sensitif o ran y canlyniad o gael effaith ar addysg y plentyn a'r math o help a chymorth a dderbynnir yn yr ysgol. Bydd deiliad y swydd yn prosesu apeliadau a hawliadau, yn cwblhau gwaith â lefel uchel o gywirdeb ac yn cydymffurfio'n llwyr ag amserlenni statudol ac amserlenni penodedig eraill, ac yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel i ddefnyddwyr ac aelodau'r tribiwnlys.

 Efallai y bydd angen i ddeiliad y swydd gyflawni gwaith tebyg mewn perthynas â thribiwnlysoedd eraill a gefnogir gan staff o'r Uned Tribiwnlysoedd Cymru yn Llandrindod, a all gynnwys y canlynol: Apeliadau Arolygwyr Ysgolion Cofrestredig; Apeliadau Arolygwyr Addysg Feithrin Cofrestredig a Phanel Dyfarnu Cymru.

Prif dasgau

  • Dadansoddi'r wybodaeth – crynhoi a gweithio gyda gwybodaeth gymhleth gan gynnwys rheoliadau a deddfwriaeth Tribiwnlysoedd, o dan arweiniad y SwyddogTribiwnlysoedd 
  • Post – prosesu post sy'n dod i mewn ac yn mynd allan, gan sicrhau y caiff pob eitem ei nodi'n gywir a drafftio cydnabyddiaethau ac ymatebion i ohebiaeth reolaidd o fewn yr amserlenni gofynnol. 
  • Gwiriadau cyn cofrestru – paratoi apeliadau a hawliadau ar gyfer cofrestru – agor ffeil achos, cwblhau'r rhestr wirio, neilltuo rhif achos, mewnbynnu manylion ar daenlen gwybodaeth apeliadau, anfon llythyr cydnabod, cael cymeradwyaeth rheolwr a drafftio llythyrau cofrestru o fewn yr amserlenni gofynnol. 
  • Taenlenni gwybodaeth – sicrhau y caiff taenlenni gwybodaeth a dangosyddion perfformiad      allweddol eu diweddaru ar ôl cymryd unrhyw gam gweithredu ar achos  
  • Bwndeli – tudalennu, mynegeio a llungopïo prif fwndel Tribiwnlys ar gyfer pob achos, ac unwaith y caiff ei gymeradwyo gan y swyddog tribiwnlys, llungopïo bwndeli i'w dosbarthu i bartïon a phaneli, gan sicrhau bod yr holl waith o lungopïo a mynegeio papurau o ansawdd uchel ac y caiff bwndeli eu cyhoeddi yn unol ag amserlenni gofynnol. 
  • Cyfarfodydd – cael dyfynbrisiau ar gyfer lleoliadau a cheisio cymeradwyaeth gan y rheolwr busnes, trefnu lleoliad, rheoli gwahoddiadau a rhestrau presenoldeb a chyhoeddi papurau. Darparu cymorth ysgrifenyddol mewncyfarfodydd mewnol ac allanol, gan gynnwys cymryd cofnodion 
  • Trefnu gwrandawiadau – trefnu lleoliadau a llety ar gyfer gwrandawiadau a digwyddiadau gan ystyried polisi caffael Llywodraeth Cymru a'r angen i gael gwerth am arian, cynnal cofnodion cywir, cyfredol o wrandawiadau a rhoi gwybod i aelodau o bartïon a phaneli am derfynnau amser gofynnol.  
  • Clercio gwrandawiadau – cyfarch partïon a phaneli, gan ymateb yn briodol i gwestiynau, delio â materion gweithdrefnol sy'n codi neu gyfeirio at banel y tribiwnlys a sicrhau bod y gwrandawiad yn rhedeg yn ddidrafferth.  
  • Teithio – teithio ledled Cymru, gan gynnwys aros dros nos ambell waith 
  • Penderfyniadau Tribiwnlysoedd – anfon copi o bob penderfyniad newydd at yr Arweinydd Barnwrol 
  • Llinell gymorth Tribiwnlys – delio ag ymholiadau ffôn, gan sicrhau bod y wybodaeth a roddir yn gywir ac yn cydymffurfio â pholisïau diogelwch gwybodaeth; cyfeirio ymholiadau cymhleth at y swyddog tribiwnlys neu'r rheolwr busnes 
  • Rheoli cofnodion – cynnal a chadw ffeiliau, archifo ffeiliau achos sydd wedi'u cau a recordiadau gwrandawiadau (ar CD), cynnal cofrestriadau electronig, nodi recordiadau sydd i'w dinistrio ac – ar ôl eu cymeradwyo – dinistrio'r eitemau hynny  
  • Cymorth busnes – helpu gyda'r broses o baratoi DPA ac adroddiadau boddhad cwsmeriaid a darparu unrhyw gymorth arall fel y bo angen 
  • Diogelwch gwybodaeth – cydymffurfio â pholisïau diogelwch Llywodraeth Cymru bob amser a chwblhau'r holl hyfforddiant gorfodol cysylltiedig

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau gweinyddol a chlercio wrth weithio mewn cyd-destun barnwrol a sicrhau mynediad i gyfiawnder gweinyddol ar gyfer pobl Cymru.

Dyddiad Cau

20/06/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Monitro a storio data critigol mewn modd diogel, priodol a chyfrifol gan gynnal cyfrinachedd.
Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Gofyn am gymorth pan fo angen er mwyn cwblhau eu gwaith eu hunain yn effeithiol.
Rheoli Gwasanaeth Safonol - Casglu’r wybodaeth sydd ei hangen i ddilyn y ddeddfwriaeth, polisïau, gweithdrefnau a rheolau sy’n berthnasol i’r swydd.
Cyflawni’n Brydlon - Cymryd cyfrifoldeb amansawdd eu gwaith a rhoi gwybod i’w rheolwyr sut y mae’r gwaith yn dod yn ei flaen.

Meini prawf penodol i'r swydd

Y gallu i gynllunio, blaenoriaethu a chyflwyno gwaith o fewn amserlenni penodedig.
Y gallu i ddarparu lefelau uchel o wasanaeth cwsmeriaid dros y ffôn, gohebiaeth ysgrifenedig a chyfarfodydd wyneb-yn-wyneb.
Y gallu i weithio fel rhan o dîm er mwyn darparu gwasanaeth i'r cyhoedd.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Adrian Evans - 03000 257809 / Adrian.evans@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.