Swydd Wag -- Cyfreithwyr Llywodraeth Cymru

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Swyddfa'r Prif Weinidog
Yr Adran Gyfreithiol
Arall
Cyflog cychwynnol yn dibynnu ar brofiad: Cyfreithiwr - yn dechrau ar £49,625 sy'n codi fesul cam dros dair blynedd i £59,350 (os oes gennych dair blynedd neu fwy o brofiad ar ôl cymhwyso); Swyddog Cyfreithiol - yn dechrau ar £29,850 os oes gennych lai na thair blynedd o brofiad ar ôl cymhwyso. Mae’n bosib y byddwch yn gymwys i ail-raddio i radd a chyflog Cyfreithiwr pan fyddwch yn cyrraedd blwyddyn o wasanaeth neu dair blynedd o brofiad ar ôl cymhwyso, pa un bynnag sydd gynharaf (yn amodol ar berfformiad boddhaol)
Dibynnol ar brofiad yr unigolyn yn yr maes
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Arall
Mae Swyddi Parhaol a dros dro ar gael (1- 2 blwyddyn). Mae'r swyddi dros dro hefo phosibilrwydd o droi’n barhaol erbyn diwedd y cyfnod. Mae hefyd gyfleoedd posibl am secondiadau tymor byr (1-2 flynedd). Bydd yr ymarfer yn ceisio dod o hyd i sawl ymgeisydd llwyddiannus naill ai i ddechrau swydd ar unwaith neu i gael cyfle i ddechrau swydd a fydd yn codi yn ystod y 12 mis wedi hynny.
Amherthnasol
Lleoliad arall
Cymru Gyfan, fodd bynnag, byddai angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus deithio'n aml i Gaerdydd i fynychu cyfarfodydd gyda rheolwyr / goruchwylwyr am hyd at 3 diwrnod yr wythnos. Yn ogystal, ar gyfer y cyfnod sefydlu o chwe mis, mae angen teithio'n rheolaidd i Gaerdydd.
I'w Gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Llywodraeth Cymru yng nghanol cyfnod o newid na welwyd ei debyg erioed o'r blaen. Gyda phwerau newydd ac ychwanegol yn sgil setliad datganoli newydd i Gymru, a'r angen i ymgymryd â gwaith hollbwysig mewn perthynas ag ymadael â'r UE, mae'r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol o fewn Llywodraeth Cymru yn chwilio am nifer o gyfreithwyr hynod dalentog i atgyfnerthu ei gallu ar adeg allweddol o ran materion y DU a materion Cymreig. 

Yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol yw'r fwyaf o'i bath yng Nghymru, gyda mwy na 100 o gyfreithwyr a staff cymorth sydd wedi'u trefnu rhwng 17 o feysydd pwnc. Mae'n gyfrifol am ddarparu pob gwasanaeth cyfreithiol i Lywodraeth Cymru. Mae'r gwaith hwn yn gosod cyfreithwyr y llywodraeth wrth wraidd llywodraeth ddatganoledig. Maent yn rhoi cyngor ar faterion cymhleth sy'n ymwneud â chyfraith gyhoeddus, cyfraith cyflogaeth a chyfraith fasnachol, ar brosiectau o arwyddocâd cenedlaethol, ar ddatblygiadau cyfansoddiadol mawr ac ar fynd i'r afael â'r heriau sy'n gysylltiedig ag ymadael â'r UE, ac maent yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddatblygu deddfwriaeth Cymru. 

Os yw gweithio ar flaen y gad ym maes y gyfraith yn apelio atoch, byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu eich diddordeb. Gallech fod newydd gymhwyso, yn gyfreithiwr profiadol sydd am ddefnyddio eich sgiliau mewn cyd-destun newydd a gwahanol, neu'n rhywun sydd â diddordeb mewn gweithio mewn amgylchedd sy'n cynnig ac yn croesawu trefniadau gweithio hyblyg. Croesewir ceisiadau gan unigolion nad ydynt wedi cymhwyso eto hefyd, ond bydd eu penodiad yn amodol ar ennill cymhwyster cyn y dyddiad dechrau. Byddai ceisiadau gan unigolion sydd wedi mynegi diddordeb mewn ymuno â thîm cyfreithiol Llywodraeth Cymru o'r blaen yn cael eu croesawu hefyd.

Gwelir pecyn gwybodaeth o’r adran gyfreithiol isod:

https://llyw.cymru/sites/default/files/inline-documents/2019-10/candidate-brief-wg-lawyers-2019-cy.pdf


Prif dasgau

Yn benodol, mae'r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol yn ceisio penodi cyfreithwyr a all ddarparu gallu ychwanegol ac arbenigedd cyfraith gyhoeddus.

Os yw gweithio ar flaen y gad ym maes y gyfraith yn apelio atoch, byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu eich diddordeb. 

Byddwch yn darparu cyngor cyfreithiol mewn amgylchedd cyfraith gyhoeddus, lle mae’r gwaith yn digwydd yn gyflym a’r materion o dan sylw yn aml yn uchel eu proffil ac yn arwyddocaol o ran sut mae cyfansoddiad y DU yn datblygu. Byddwch yn gweithio mewn tîm, gan ennill profiad o gydweithio â chyfreithwyr, cleientiaid polisi a Gweinidogion Cymru i lywio polisi yng Nghymru.

Cyfleoedd datblygu

Fel un o gyfreithwyr y llywodraeth byddwch yn rhan o’r Gwasanaeth Sifil ac o Wasanaeth Cyfreithiol y Llywodraeth. Bydd eich profiad yn rhoi dealltwriaeth unigryw ichi o’r setliad datganoli yng Nghymru. Mae’n cynnig cyfle unigryw i gyfreithwyr weithio mewn amgylchedd deinamig sy’n eu rhoi yng nghanol llywodraeth ddatganoledig a phrosiectau o bwys cenedlaethol, ac yn y rheng flaen o ran datblygiadau cyfansoddiadol pwysig, gan gynnwys yr heriau mawr sy’n codi o ganlyniad i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a’r broses o lunio polisi a chyfreithiau.

Dyddiad Cau

23/10/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Meini prawf penodol i'r swydd (Datganiad Personol):

  1. Dealltwriaeth o gyfraith Gyfansoddiadol neu Weinyddol (e.e. y seiliau cyfreithiol dros herio penderfyniadau awdurdodau cyhoeddus), sy’n ddigonol i nodi peryglon cyfreithiol posibl.
  2. Dealltwriaeth o gyfraith yr UE neu gyfraith Hawliau Dynol, sy’n ddigonol i nodi peryglon cyfreithiol posibl.

Cymwysedddau (Cyfweliad):

  1. Sgiliau datrys problemau a dadansoddi cyfreithiol cadarn gan gynnwys y gallu i nodi manteision, anfanteision a pheryglon camau gweithredu posibl.
  2. Y gallu i gyfathrebu cysyniadau cyfreithiol anodd yn glir ac yn syml.
  3. Y gallu i gydweithio ag eraill yn effeithiol.
  4. Y gallu i gynnal perfformiad effeithiol a dangos uniondeb a didueddrwydd o dan amgylchiadau anodd a heriol, gan annog eraill i wneud yr un fath.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
  • Sifft – CV a Datganiad Personol (Hydref 2019)
  • Os byddwch yn llwyddiannus yn y broses sifftio, cynhelir Prawf Cyfreithiol mewn Canolfan Brawf naill ai yn y Gogledd neu yn y De (Tachwedd 2019). Bydd y prawf yn seiliedig ar Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Gweler y ddolen isod i’ch helpu i baratoi: http://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/2006/32/contents
  • Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus yn y cam prawf i gyfweliad (Rhagfyr 2019)

Gwelir pecyn gwybodaeth o'r adran gyfreithiol isod:

https://gov.wales/sites/default/files/inline-documents/2019-10/candidate-brief-wg-lawyers-2019-en.pdf 

https://llyw.cymru/sites/default/files/inline-documents/2019-10/candidate-brief-wg-lawyers-2019-cy.pdf

Nikita Worrad - nikita.worrad@gov.wales - 03000 625413

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.