Swydd Wag -- Hyfforddai Graddedigion Cyllid
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Mae'r Is-adran Rheoli Cyllid yn Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddarparu Gwasanaethau Cyllid a Chyfrifyddu, gan gynnwys rhoi cyngor ar faterion cyfrifyddu cymhleth, trin materion ariannol uchel eu proffil, a pharatoi cyfrifon ariannol - rhai adrannol a rhai cyfunol.
Bydd Cyfrifwyr dan Hyfforddiant Llywodraeth Cymru yn gweithio i uwch-gyfrifydd cymwys sy'n gweithio yn y Tîm Canolog neu'r Tîm Archwilio Mewnol.
Bydd Cyfrifwyr dan Hyfforddiant yn cael eu lleoli yn ôl anghenion datblygu'r unigolyn ac anghenion busnes y sefydliad. Mae'n debygol y bydd yr hyfforddiant yn cael ei rannu yn bedwar cyfnod. O fewn y cyfnod hwn gallai cyfnod o 6 mis gael ei dreulio mewn sefydliad arall yn y sector cyhoeddus
Bydd y Cyfrifwyr dan Hyfforddiant yn gweithio dan oruchwyliaeth gyffredinol i un o'r Penaethiaid Cyllid.
Prif dasgau
- Darparu gwaith cyllid, cyfrifyddu ac archwilio a chyfrannu at y gwaith hwnnw mewn tîm Cyllid;
- Helpu i fonitro a chysoni cyfrifon;
- Cynorthwyo'r Tîm i sicrhau ei fod yn ymateb i anghenion cwsmeriaid/cleientiaid ac amgylchiadau sy'n newid;
- Ymgymryd ag unrhyw ymchwiliadau, tasgau, a phrosiectau a bennir gan Uwch-gyfrifydd neu Ddirprwy Gyfarwyddwr sy'n gydnaws â lefel y Cyfrifydd dan Hyfforddiant;
- Cynnig cefnogaeth i gydweithwyr o fewn yr adran, yn unol â chyfarwyddiadau Uwch-gyfrifydd neu Ddirprwy Gyfarwyddwr.
Cyfleoedd datblygu
Mae ein cynllun hyfforddi ar gyfer graddedigion cyllid yn cynnig cyfle datblygu unigryw i raddedigion disglair a dawnus sy'n hyblyg, yn uchelgeisiol ac yn angerddol ynghylch gwneud newid i fywyd pobl ac sy'n dymuno dilyn gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru'n cynnig rhaglen ddatblygu wedi'i hariannu'n llawn, sy'n arwain at gymhwyster proffesiynol trwy Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA). Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i weithio yn y sector cyhoeddus fel rhan o grŵp o weithwyr ariannol proffesiynol sy'n meddu ar sgiliau o'r radd flaenaf. Mae hynny'n cynnig cyfle gwych i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth.
Bydd eich hyfforddiant yn digwydd trwy sawl lleoliad gwaith ar draw meysydd allweddol cyllid, gan ymgymryd â gwaith sydd wrth wraidd rhoi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar waith. Rydym yn recriwtio 6 o raddedigion newydd i ymuno â grŵp o raddedigion presennol sy'n gyfrifol am gymysgedd o ddyletswyddau cyllid cyffredinol a gwaith prosiect arbenigol, yn ogystal â chael cyfle i feithrin sgiliau rheoli ac arwain.
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Cymwyseddau
- Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Pwyso a mesur gwybodaeth gymhleth a chael rhagor o wybodaeth er mwyn gwneud y penderfyniadau cywir.
- Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Gwrando’n astud ar eraill a gwneud yn siwˆr eu bod yn deall drwy ofyn cwestiynau.
- Arwain a Chyfathrebu - Mynegi syniadau’n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, mewn modd sy’n dangos sensitifrwydd a pharch at eraill.
- Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd - Sicrhau bod rhagoriaeth ac arbenigedd proffesiynol yn cael ei gyflawni.
Meini Prawf Penodol i’r Swydd
- Y gallu i ddefnyddio gwybodaeth am safonau ariannol wrth ymdrin â materion ariannol a chyllidebol cymhleth ynghyd â sgiliau da mewn rhifedd.
- Dangos cymhelliant ac ymrwymiad i weithio mewn amgylchedd heriol sy'n symud yn gyflym tra'n astudio i fod yn gyfrifydd ariannol siartredig yn y sector cyhoeddus.
- Bydd gofyn i'r ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd nad yw'n llai na 2:1, ond nid oes angen i honno fod yn radd mewn Cyllid a Chyfrifyddu.
Proses Asesu
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Bydd gofyn i'r ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd nad yw'n llai na 2:1, ond nid oes angen i honno fod yn radd mewn Cyllid a Chyfrifyddu.
Os caiff nifer uchel o geisiadau i law noder y bydd y ceisiadau yn cael eu hasesu yn y lle cyntaf ar sail y dystiolaeth a ddarperir mewn perthynas â meini prawf penodol y swydd. Nid asesir ymhellach unrhyw geisiadau gan ymgeiswyr na fyddant yn bodloni ein gofynion yn erbyn meini prawf penodol y swydd.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.