Swydd Wag -- Swyddog Cymorth Tîm– Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol x4

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol
Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
£19,240
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
24 mis gyda'r posibilrwydd o fod yn barhaol
Caerdydd

I'w gadarnhau



Pwrpas y swydd

Darparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid mewnol ac allanol mewn perthynas â phrosesau sy'n rhan o gyfrifoldebau’r Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol. Sicrhau bod Polisïau a Gweithdrefnau yn cael eu dilyn, gan ddarparu cyngor a chyfarwyddyd rheolaidd ar y polisïau hynny.

Prif dasgau

• Rheoli baich gwaith eich hun drwy achosion yn y system CRM sy'n cael eu dyrannu gan Reolwr y Tîm, cyflawni gweithgareddau yn ôl y gofyn, yn unol â'r prosesau a chanllawiau y cytunwyd arnynt.

• Dyletswyddau gweinyddol cyffredinol gan gynnwys ffeilio, gwaith ffôn, ymdrin â phost a dogfennau a cofnodi a threfnu cyfarfodydd.

• Darparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid mewnol ac allanol. Ymateb i unrhyw gwestiynau yn gywir, yn llawn gwybodaeth ac yn amserol (yn unol â Chytundeb Lefel Gwasanaeth y Tîm).

• Cynnal cofnodion gan gynnwys y rhai sydd ar systemau electronig a chydosod dogfennaeth ar gyfer ffolderi cyfarfodydd ayyb.

• Sicrhau bod data a gwybodaeth sensitif bersonol / masnachol yn cael ei phrosesu yn effeithiol a’i hymdrin yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau.

• Sicrhau bod cwsmeriaid yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eu cais / ymholiad

• Cysylltu â thimau / unigolion eraill fel y bo'n briodol os oes angen hyn er mwyn sicrhau bod yr achos yn cael ei datrys yn foddhaol

• Diweddaru'r systemau perthnasol mewn modd amserol, gan sicrhau cywirdeb bob amser, ac yn unol â chanllawiau a ddarperir

• Bwydo unrhyw ymholiadau / ceisiadau anarferol i Reolwr y Tîm fel y bo'n briodol, a chyn gynted ag y bo modd

• Tynnu sylw Rheolwr y Tîm at unrhyw broblemau posib, fel y bo'n briodol

• Cefnogi cynnal a chadw'r systemau a ddefnyddir gan y tîm, gan gyfrannu at brofi / diweddariadau dan gyfarwyddyd y Rheolwr Darparu Adnoddau, a chywiro unrhyw anghysondebau sy’n cael eu codi mewn adroddiadau eithriadau, o dan gyfarwyddyd Rheolwr y Tîm.

Cyfleoedd datblygu

Gan fod y swydd yn cynnwys llawer iawn o gysylltu ag amrywiaeth o unigolion, gan ymateb i ymholiadau a sicrhau bod prosesau yn unol â pholisïau a chanllawiau, mae cyfle i ddatblygu sgiliau gofal cwsmeriaid rhagorol. Mae'r rôl hefyd yn rhoi'r cyfle i ddatblygu'r gallu i ddefnyddio systemau Adnoddau Dynol amrywiol, gan gynnwys y system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM). Byddai’r rôl hefyd yn rhoi cyflwyniad da i'r proffesiwn AD, pe bai gennych ddiddordeb yn y proffesiwn.

Mae unigolion yn cael eu hannog i weithio’n hyblyg ar draws y Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol a nodi ffyrdd o wella gwasanaethau, prosesau neu’r systemau er mwyn darparu gwasanaeth effeithlon sy’n canolbwyntio ar anghenion y cwsmer.

Dyddiad Cau

04/09/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunydd mewn sefyllfa waith
Gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gwaith
Deall y rhan fwyaf o sgyrsiau mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi'r rhan fwyaf o waith ysgrifenedig yn y Gymraeg

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl

Cyflawni’n Brydlon
1. Gweithio mewn modd trefnus, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u harbenigedd i gyflawni’n brydlon a safonol
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
2. Ymchwilio i fylchau, amryfusedd ac anghysondeb mewn gwybodaeth, ac ymateb iddynt

Rheoli Gwasanaeth Safonol

3. Mynd ati i holi am wybodaeth gan gwsmeriaid er mwyn deal eu hanghenion a’u disgwyliadau a rheoli gwybodaeth yn briodol

Rheoli gwasanaeth o safon

4. Bod yn atebol am faterion, gan ganolbwyntio ar ddarparu’r ateb cywir a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid a phartneriaid cyflenwi

Meini prawf penodol i'r swydd

Profiad ac adnabyddiaeth o ddefnyddio sgiliau a systemau TG megis MS Office er mwyn cyflawni gwaith arferol yn effeithlon gyda chywirdeb. Byddai profiad o ddefnyddio cronfeydd data a / neu system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid yn ddefnyddiol
Sgiliau rhyngbersonol da gyda chydweithwyr a chwsmeriaid er mwyn helpu cwblhau tasgau.
Sgiliau rhifedd a llythrennedd (ar lafar ac yn ysgrifenedig) ardderchog.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae’r swyddi yma wedi’u lleoli yn y Ganolfan Gydwasanaethau Corfforaethol, sydd yn delio gyda recriwtio, cyllid, tal a phensiwn. 

Oherwydd gofynion y swydd, bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus aros yn y swydd am 2 flynedd.

Ian Evans - 03000258816

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.