Swydd Wag -- Uwch-gyfieithydd / Senior Translator
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Cynorthwyo Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar gyfer Llywodraeth Cymru a'i Gweinidogion, a chefnogi’r Llywodraeth i gydymffurfio â gofynion ieithyddol statudol.
- Bydd pob uwch-gyfieithydd yn meddu ar y sgiliau iaith a’r crebwyll gwleidyddol a sefydliadol i gyfieithu, heb oruchwyliaeth, rhwng y Saesneg a’r Gymraeg.
- Ar ôl meithrin rhywfaint o brofiad yn y swydd, disgwylir i uwch-gyfieithwyr adolygu cyfieithiadau a hyfforddi cyfieithwyr llai profiadol. Gall hyn hefyd olygu cyfrifoldebau rheoli llinell.
- Bydd rhai uwch-gyfieithwyr yn canolbwyntio ar gyfieithu testunau cyffredinol, tra bydd y gweddill yn gweithio ar ddogfennau deddfwriaethol.
- Gan ddibynnu ar allu a phrofiad yr unigolyn, bydd rhai uwch-gyfieithwyr hefyd yn darparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd (CAP).
- Gan ddibynnu ar anghenion busnes y Gwasanaeth Cyfieithu, a chryfderau’r unigolyn, disgwylir i uwch-gyfieithwyr gyfrannu at amryw agweddau ar waith y proffesiwn, ee datblygu a chyflwyno technoleg arbenigol, caffael gwasanaethau cyfieithu a CAP, prosiectau safoni terminoleg.
Prif dasgau
Cyfieithu ysgrifenedig
- Cyfieithu heb oruchwyliaeth o’r Saesneg i’r Gymraeg ac, o bryd i’w gilydd, o’r Gymraeg i’r Saesneg. Bydd natur y testunau yn amrywio o ddogfennau polisi i sgriptiau ac areithiau, a gall y gwaith gynnwys amrediad eang o gyweiriau o’r creadigol i’r deddfwriaethol.
Sicrhau ansawdd
- Sicrhau bod eich gwaith cyfieithu yn gywir, yn briodol ac yn cydymffurfio bob amser â chywair, arddull a therminoleg safonol y Gwasanaeth Cyfieithu ar gyfer y math o destun dan sylw.
- Sicrhau ansawdd gwaith cyfieithwyr mewnol eraill yn ôl y galw, a chyfrannu at broses monitro ansawdd gwaith y cyflenwyr allanol a ddefnyddir dan gontract gan y Gwasanaeth Cyfieithu
Gwasanaeth i gwsmeriaid
- Meithrin perthynas â chwsmeriaid mewn meysydd polisi gweinidogol neu dimau cyfreithiol. Bydd hyn yn golygu deall gofynion cyfieithu Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun y Safonau Iaith Gymraeg a Rheolau Sefydlog y Senedd, deall y gweithdrefnau deddfu a’r meysydd pwnc, a mynd i’r afael â materion sy’n codi wrth drefnu gwaith cyfieithu.
- Bod yn atebol am eich gwaith cyfieithu o’i ddechrau i’w ddiwedd, a chymryd y cyfrifoldeb am gyfathrebu’n briodol ac yn brydlon â chwsmeriaid a chydweithwyr eraill i sicrhau gwasanaeth effeithiol ac effeithlon.
- Bod yn ymwybodol o gynulleidfaoedd targed ein cyfieithiadau, ac ystyried eu hanghenion hwythau wrth ddarparu cyfieithiadau ar ran Llywodraeth Cymru.
Arddull a therminoleg
- Ymgyfarwyddo â’r prif egwyddorion ar gyfer safoni termau, a dilyn trefniadau gosodedig y Gwasanaeth ar gyfer paratoi, safoni a rhannu termau drwy gyfrwng TermCymru.
- Cydweithio â chyfieithwyr ac eraill i sicrhau cysondeb arddull y Gwasanaeth Cyfieithu a chynorthwyo i ddatblygu’r canllawiau arddull a gyhoeddir ar BydTermCymru.
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
- Defnyddio systemau craidd y Llywodraeth, ynghyd â systemau a meddalwedd arbenigol y Gwasanaeth Cyfieithu, i’w llawn botensial o ddydd i ddydd. Mae’r systemau arbenigol yn cynnwys cof cyfieithu, system llif gwaith, system rheoli dogfennau, meddalwedd drafftio deddfwriaeth a meddalwedd fynegeio. Mae cynlluniau ar waith hefyd i ymgorffori cyfieithu peirianyddol i’r broses gyfieithu.
- Helpu i ddatblygu’r defnydd o offer TGCh arbenigol a chadw ar drywydd y datblygiadau technolegol diweddaraf sy’n hyrwyddo prosesau cyfieithu.
Adolygu, ôl-olygu a phrawfddarllen testunau
- Adolygu testunau a gynhyrchir gan gyd-gyfieithwyr a/neu gyfieithwyr llai profiadol, ôl-olygu testunau sydd wedi’u cynhyrchu gan gyfuniad o gof cyfieithu a chyfieithu peirianyddol, a phrawfddarllen cyfieithiadau er mwyn cyhoeddi testunau sy’n cyfateb yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Rheoli a datblygu cyfieithwyr llai profiadol
- Ar ôl cyfnod o ymgynefino â’r swydd, ysgwyddo’r cyfrifoldeb o reoli, arwain a datblygu cyfieithwyr llai profiadol.
Gwirio a chynghori
- Darparu gwasanaeth gwirio testun ar gyfer swyddogion sy’n drafftio testunau yn Gymraeg.
- Rhoi cyngor a chanllawiau clir a safonol i swyddogion ar faterion gramadeg, arddull a therminoleg.
Cyfieithu ar y pryd
- Gan ddibynnu ar allu a phrofiad, helpu i ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg mewn cyfarfodydd Gweinidogol. Bydd cyfieithwyr ar y pryd profiadol yn cyfieithu ar eu pennau eu hunain yn ôl y galw, ac yn goruchwylio a chynorthwyo cyfieithwyr ar y pryd llai profiadol.
- Cynorthwyo ag agweddau eraill ar ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
Cyffredinol
- Gan ddibynnu ar gryfderau’r unigolyn ac anghenion busnes y Gwasanaeth, arwain a/neu gyfrannu at swyddogaethau a phrosiectau y mae’r Gwasanaeth yn ymwneud â nhw, gan gynnwys cyflwyno technolegau cyfieithu a CAP newydd, prosesau caffael gwasanaethau cyfieithu, rhoi cyflwyniadau i fyfyrwyr ac ymwelwyr.
- Gwneud unrhyw dasg resymol arall ar gais arweinydd tîm neu reolwyr eraill y Gwasanaeth Cyfieithu.
Cyfleoedd datblygu
- Gweithio mewn gwasanaeth mawr, amlddisgyblaeth a datblygu neu fireinio ystod dda o sgiliau arbenigol yn y maes cyfieithu, ee cyfieithu deddfwriaethol, CAP, rheoli terminoleg, a defnyddio cofau cyfieithu a chyfieithu peirianyddol.
- Datblygu’ch gallu i reoli a datblygu staff.
- Atgyfnerthu’ch sgiliau adolygu gwaith (gan gynnwys ôl-olygu, gwirio testun a phrawfddarllen) a chyfrannu at brosesau sicrhau ansawdd y Gwasanaeth.
- Datblygu ac ehangu’ch gyrfa oddi mewn i’r proffesiwn cyfieithu, a chymryd cyfrifoldebau uwch am wasanaethau cyfieithu, ee cynorthwyo’r arweinyddion timau i ddyrannu gwaith; cyfrannu at swyddogaethau neu brosiectau arbenigol ym maes cyfieithu, terminoleg a thechnoleg gyfieithu; a hyfforddi cyfieithwyr llai profiadol.
- Cefnogaeth i sefyll profion aelodaeth cymdeithasau cyfieithu proffesiynol, megis Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, yr ITI/IOL. Telir y ffioedd aelodaeth gan y Gwasanaeth Cyfieithu.
- Cyfle i gyfrannu at ddatblygiad y proffesiwn cyfieithu yn Llywodraeth Cymru a rhoi syniadau newydd ar waith.
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Cymwyseddau:
- Gwella gallu pawb - Mynd ati i reoli eu gyrfa eu hunain a nodi eu hanghenion dysgu eu hunain gyda’u rheolwyr llinell, yn ogystal â chynllunio a chynnal cyfleoedd dysgu yn y gweithle.
- Rheoli gwasanaeth safonol - Gweithio gyda’r tîm i bennu blaenoriaethau, nodau, amcanion ac amserlenni.
- Gweld y darlun cyflawn - Bod yn effro i faterion a thueddiadau newydd a allai effeithio ar eu gwaith eu hunain a’u tîm, neu a allai fod o fudd i’r gwaith hwnnw.
- Collaborating and partnering - Establish relationships with a range of stakeholders to support delivery of business outcomes.
Mein Prawf Penodol i'r Swydd:
- Sgiliau iaith cadarn yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Profiad o weithio yn broffesiynol ym maes y Gymraeg fel cyfieithydd neu olygydd neu mewn swydd sy’n gofyn am sgiliau Cymraeg o’r radd flaenaf.
- Meddu ar sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn ynghyd â’r gallu a’r parodrwydd i’w datblygu ymhellach.
Proses Asesu
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.