Swydd Wag -- Lleoli Myfyrwyr Israddedig Ystadegau x3

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Llywodraeth Cymru
Proffesiwn Ystadegau
Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
£21,300
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
12 Mis
Caerdydd
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Diben y swydd yw darparu cymorth ar gyfer Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi mewn perthynas ag anghenion a phrosiectau ystadegol.

Prif dasgau

Diffinnir y tasgau allweddol gan y prosiectau penodol y bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus eu cyflawni.  Bydd enghreifftiau yn cynnwys y canlynol:

  • Paratoi cyhoeddiadau ystadegol a gwybodaeth i Weinidogion
  • Paratoi tablau a siartiau ystadegol i helpu i ddangos negeseuon yn y data, a thynnu allan y pwyntiau allweddol
  • Trin data, gan gynnwys tynnu allan data penodol o setiau data mawr a thraws-dablu data
  • Ateb ceisiadau am ddata o amrywiaeth o ffynonellau mewnol ac allanol
  • Cefnogi rheoli data, gan gynnwys storio data yn effeithlon
  • Cysylltu, a rhoi cymorth i ddarparwyr o ran casglu a dilysu data

 

Cyfleoedd datblygu

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ennill amrywiaeth eang o brofiad o waith ystadegol, dysgu am yr amgylchedd lle mae data yn cael eu rheoli ac ystadegau yn cael eu cynhyrchu. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda, ac yn cael eu mentora gan staff ystadegol profiadol ac yn cael mynediad i hyfforddiant penodol ac yn y gwaith, er enghraifft, mewn perthynas â sgiliau TG fel MS-Excel, MS-Access, SAS, SPSS a SQL.

Dyddiad Cau

16/11/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl

Chyfathrebu

  • Mynegi syniadau'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, mewn modd sy’n dangos sensitifrwydd a pharch at eraill.

Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth

  • Cyfrannu'n rhagweithiol i waith y tîm cyfan.

 

Cyflawni’n Brydlon

  • Gweithio mewn modd trefnus, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a'u harbenigedd i gyflawni’n brydlon a safonol.

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Ystyried goblygiadau eu penderfyniadau cyn cadarnhau sut i fynd i’r afael â phroblem/mater.

Meini prawf penodol i'r swydd

Gallu i ddatblygu a defnyddio gwybodaeth am gasglu a dadansoddi data a chynhyrchu allbynnau ystadegol, yn cynnwys y gallu i ddefnyddio technegau ystadegol priodol.

 

Gwybodaeth weithredol dda am o leiaf un pecyn ystadegol neu iaith raglennu (fel. MS-Excel, SAS, SPSS, R, VBA, Python, SQL).

 

Myfyriwr/myfyrwraig prifysgol israddedig yn astudio ar gyfer gradd mewn disgyblaeth rifog (megis ystadegau, mathemateg, economeg, seicoleg neu ddaearyddiaeth) lle mae’r radd yn cynnwys elfen ystadegol.

Proses Asesu

NODER BOD Y CYNLLUN HWN YN AGORED I FYFYRWYR ISRADDEDIG YN EU BLWYDDYN RHYNG-GWRS MEWN PRIFYSGOL, NEU I FYFYRWYR SYDD, AR ÔL EU HAIL FLWYDDYN MEWN PRIFYSGOL, WEDI DEWIS CYMRYD BLWYDDYN ALLAN.

NI DDYLAI GRADDEDIGION GYFLWYNO CAIS.

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth yn erbyn pob un o'r cymwyseddau a meini prawf penodol i'r swydd a nodir yn yr hysbyseb hon (hyd at uchafswm o 300 o eiriau ar gyfer pob cymhwysedd / maen prawf):

  •         Arwain a Chyfathrebu
  •         Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth
  •         Cyflawni’n Brydlon
  •         Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
  •         Sgiliau sy’n benodol i’r swydd 1
  •         Sgiliau sy’n benodol i’r swydd 2
  •         Sgiliau sy’n benodol i’r swydd 3 

Fel canllaw, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio’r sgiliau allweddol a’r meini prawf penodol i’r swydd fel penawdau ac yn anelu i ysgrifennu 250 i 300 o eiriau ar gyfer pob un. Gallai defnyddio’r ‘dechneg STAR’ eich cynorthwyo i strwythuro eich tystiolaeth. Ar gyfer Sgiliau sy’n benodol i’r swydd 3 mae’n ddigonol i chi nodi enw eich rhaglen gradd a rhestru’r elfennau ystadegol rydych wedi eu hastudio.  

Rydym yn annog pob ymgeisydd i bori ein gwefan i ddeall y gwaith rydym yn ei wneud a’r mathau o gyhoeddiadau ystadegol y byddwch yn cyfrannu at eu llunio.

https://llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sefyll prawf rhifedd ac ystadegau ar’lein ar 17/11/2020. Bydd ymgeiswyr yn derbyn copi o'r prawf dewis lluosog trwy e-bost am 14:00 ar 17/11/2020 a bydd ganddynt tan 15:00 (yr un diwrnod) i ddychwelyd eu hatebion i Rebecca.Gillard@llyw.cymru. Dim ond y rhai sy’n pasio’r prawf fydd symud ymlaen i’r cam sifftio ceisiadau. Ni ddisgwylir y bydd angen i ymgeiswyr adolygu ar gyfer y prawf rhifedd.

Bydd y rhai sy’n llwyddiannus ar ôl y sifft yn cael eu hasesu drwy brawf lledaenu ystadegol a chyfweliad ar sail y cymwyseddau yn ogystal â chwestiynau sefyllfaol, yn ymdrin â’r cymwyseddau a’r meini prawf penodol i’r swydd a restrir yn yr hysbyseb hon.

Diben y lleoliad gwaith hwn i fyfyrwyr israddedig yw rhoi cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu ei sgiliau ym maes ystadegau llywodraeth. Fel y cyfryw, mae un o gymwyseddau gofynnol y lleoliad gwaith hwn wedi’i ddewis o lefel 2 Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (Arwain a Chyfathrebu). Dyma’r lefel sy’n rhoi’r cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus fagu profiad priodol i gefnogi ei gymwysterau academaidd. Bydd cymorth digonol yn cael ei roi i’r ymgeisydd llwyddiannus drwy gydol y lleoliad gwaith i’w alluogi i ddysgu’r sgiliau a’r ymddygiadau angenrheidiol i weithredu ar y lefel uwch hon yn y dyfodol.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Rebecca Gillard - rebecca.gillard@gov.wales - 03000258124

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.