Swydd Wag -- Rolau Amrywiol Gradd EO - Benthyciad o’r Tu Allan (Ar agor)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Llywodraeth Cymru
EO - £26,900 - £30,610
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Benthyciad
Hyd at 2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.

Pwrpas y swydd

Rydym yn awyddus i wneud yn fawr o arbenigedd staff o bob rhan o’r Gwasanaeth Sifil er mwyn cael effaith ymarferol a chadarnhaol yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Fel arfer, band cyflog Swyddog Gweithredol (EO) yw’r lefel gyntaf â chyfrifoldebau rheoli pobl. Gall y rôl rheoli gynnwys trefnu llwyth gwaith, monitro llif gwaith, rheoli perfformiad, hyfforddi a datblygu, mentora a chymell/coetsio.

Rydym yn chwilio am ystod amrywiol o weision sifil i weithio mewn amrywiaeth o rolau cyffrous ar radd EO ar draws Llywodraeth Cymru.

Bydd y swyddi'n gofyn am wybodaeth, sgiliau a phrofiadau ar draws yr ystod eang o nodweddion gradd EO, ond bydd rolau swyddi yn amrywio.

Bydd y rolau sydd ar gael ar draws yr holl Grwpiau yn Llywodraeth Cymru a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu paru â swyddi â blaenoriaeth. Felly, wrth wneud cais am un o'r rolau hyn, rydych chi'n cytuno i symud i swydd yr ystyrir ei bod yn fwyaf priodol ar y sail y wybodaeth a roddwch i ni.

Prif dasgau

1) Yr hyn y bydd y sefydliad yn ei ddisgwyl gennych mewn rôl Swyddog Gweithredol (EO).

  • Byddwch yn gallu gweithio’n annibynnol ar dasgau bob dydd, gan roi cyngor i unigolion mewn swyddi uwch a chefnogi blaenoriaethau adrannol.
  • Byddwch yn unigolyn hyblyg, rhagweithiol a brwdfrydig, gan weithio ar draws timau os oes angen er mwyn cyflawni amcanion busnes y sefydliad; byddwch yn deall eich meysydd cyfrifoldeb ac yn dangos ymwybyddiaeth o effaith ehangach eich camau gweithredu.
  • Bydd gennych ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng eich maes gwaith, meysydd gwaith eraill a strwythur ehangach y sefydliad.

2) Yr hyn y bydd eich tîm yn ei ddisgwyl.

  • Byddwch yn gallu rheoli’ch llwyth gwaith a’ch blaenoriaethau eich hun i sicrhau bod amcanion yn cael eu cyflawni yn brydlon ac i safon uchel, gan ddefnyddio’ch blaengarwch a’ch penderfyniadau eich hun.
  • Byddwch yn buddsoddi amser yn eich datblygiad personol, gan osod esiampl dda a chynorthwyo datblygiad eraill. Byddwch yn darparu cyfleoedd ac anogaeth i unigolion ddatblygu, gan rannu’ch gwybodaeth a’ch profiad.
  • Byddwch yn rheoli/goruchwylio, yn datblygu, yn cymell ac yn cefnogi grwpiau amrywiol o staff a chydweithwyr, gan fanteisio’n llawn ar staff ac adnoddau eraill. Byddwch yn cefnogi ac yn cynnwys yr holl staff a chydweithwyr mewn ffordd weithredol, gan eu trin yn deg a pharchu pawb fel unigolion.

3) Yr hyn y bydd rhanddeiliaid allweddol yn ei ddisgwyl.

  • Byddwch yn sefydlu perthynas waith broffesiynol gyda grŵp amrywiol o randdeiliaid a chwsmeriaid mewnol ac allanol er mwyn sicrhau canlyniadau.
  • Byddwch yn cyfathrebu mewn ffordd effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol.  

Cyfleoedd datblygu

Dyma gyfle gwych i greu effaith trwy ddod â’ch gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad gwerthfawr i adran wahanol yn y llywodraeth. Hefyd, bydd modd i chi feithrin eich gallu a’ch set sgiliau trwy fod yn rhan o ystod eang o waith hollbwysig, yn cynnwys blaenoriaethau fel ymateb i COVID-19 a threfniadau pontio’r UE.

Dyddiad Cau

06/09/22 16:00

Hyderus o ran Anabledd

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Hanes profedig o reoli neu gefnogi tîm er mwyn cwblhau prosiect neu dasg yn effeithiol.

Proses Asesu

Gweler y pecyn ymgeisydd yma.

Bydd ein hysbysebion Adran Arall o’r Llywodraeth yn rhedeg nes ein bod wedi llenwi pob rôl wag. O ganlyniad, ni fydd dyddiad cau a bydd ceisiadau’n cael eu didoli a’u penodi wrth iddynt ddod i law. Bydd y drefn deilyngdod yn seiliedig ar amseriad y ceisiadau. Unwaith y byddwn yn agos at lenwi ein holl swyddi gwag, byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd sydd wedi dechrau llunio cais i roi gwybod i chi y bydd yr hysbyseb yn cau ymhen pythefnos o ddyddiad anfon yr e-bost.

Gwybodaeth arall

Penodiadau a Thelerau ac Amodau

  • Dim ond i Weision Sifil presennol mae cyfleoedd benthyciad o’r tu allan ar gael (ar sail benthyg yn unig).
  • Mae rolau i’w cael ar gyfer cyfleoedd tymor byr (6-12 mis) neu gyfleoedd tymor hir (hyd at ddwy flynedd).
  • Ni ddisgwylir i chi drosglwyddo’n barhaol i Lywodraeth Cymru.
  • Mae’r holl rolau ar gael ar radd y swydd barhaol ac ar sail symud ar draws yn unig.
  • Ni fydd dyrchafiadau dros dro na dyrchafiadau parhaol ar gael trwy gyfrwng y cyfle hwn; fodd bynnag, bydd nifer o’r rolau’n cynnig cyfle i ennill profiad gwerthfawr, ehangu rhwydweithiau a dysgu sgiliau newydd.
  • Byddwn yn gwneud pob ymdrech i’ch paru â rôl ar sail y dystiolaeth a gyflwynwch yn eich ffurflen gais.
  • Ni allwn warantu y byddwch yn cael cynnig unrhyw swydd, neu swydd benodol.
  • Os cewch eich paru’n llwyddiannus â rôl, byddwch yn symud dan drefniadau ffurfiol Benthyciad o’r Tu Allan, h.y. byddwch yn symud i Delerau ac Amodau Llywodraeth Cymru.
  • Bydd eich cyflog parhaol yn cael ei baru â’r pwynt cyflog agosaf ar fand cyflog y radd, ac ni fyddwch ar eich colled https://llyw.cymru/telerau-buddion-gwasanaeth-sifil-llywodraeth-cymru
  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael cymeradwyaeth/caniatâd gan eich rheolwr llinell i’ch rhyddhau.
  • Rhaid i chi fod ar gael i’ch rhyddhau yn syth, oherwydd ar ôl i chi gael eich paru â rôl disgwylir i chi fynd i’r afael â’r swydd yn ddi-oed.
  • Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o wahanol broffesiynau a’r rhai â sgiliau arbenigol neu gyffredinol.
  • Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi pob aelod o staff i ffynnu mewn amgylchedd gwaith cynhwysol.
  • Rydym yn gefnogol i’r arfer o weithio gartref a’r arfer o deilwra patrymau i weddu i amgylchiadau’r unigolyn. Yn y tymor byr, bydd mwyafrif y deiliaid swyddi yn gweithio gartref.
  • Er nad yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer proses ddethol yr ymgyrch hon, rydym yn annog ceisiadau gan unigolion a all weithio’n ddwyieithog.
  • Gan mai benthyciad yw hwn, pe bai’r swydd yn dod i ben dylech gadw mewn cof y bydd disgwyl i chi ddychwelyd i’ch sefydliad presennol.
HRTransitionTeam@gov.wales / TimTrawsnewidAD@llyw.cymru

Sut i wneud cais

I Wneud Cais

Dylai pob cais am y swydd wag hon gael ei wneud ar-lein drwy system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. 

I wneud cais am gyfle benthyciad o’r tu allan, bydd angen i chi baratoi templed CV Symud ar Draws. Os na chaiff hwn ei lenwi a/neu ei gyflwyno, ni fydd y cais yn cael ei ystyried.

Yn y cais CV Symud ar Draws, bydd angen i chi gyflwyno 500 gair yn ymwneud â’r canlynol:

  • Soniwch am adeg pan wnaethoch chi reoli staff a pherfformiad, adnoddau a phrosiectau i sicrhau bod modd cyflawni gwaith yn effeithiol.
  • Beth fu’r effaith a’r canlyniad?

Ymhellach, bydd angen i chi nodi eich sgiliau a’ch profiad, cyflwyno hanes byr o’ch gyrfa a nodi eich hoff ddewisiadau o ran Grŵp/Adran a maes gwaith craidd â blaenoriaeth.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y cyfleoedd a’r camau sy’n berthnasol i’r broses dethol a pharu yn y pecyn i ymgeiswyr sydd ynghlwm.

Os oes gennych chi anabledd a fyddai’n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, anfonwch e-bost i TimTrawsnewidAD@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat arall neu i ofyn am addasiad rhesymol yn ymwneud â’ch anabledd er mwyn cyflwyno eich cais.

I wneud cais, rhaid bod gennych chi gyfrif ar ein system ymgeisio ar-lein. Cliciwch y botwm 'Gwneud cais' isod, a gofynnir i chi 'Mewngofnodi' os oes gennych chi gyfrif yn barod, neu 'Cofrestru' os nad oes gennych chi gyfrif. Ychydig funudau yn unig y mae’n ei gymryd i gofrestru. Byddwch chi angen cyfeiriad e-bost i allu cofrestru. Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer cyfrif a mewngofnodi, cewch eich tywys i’r ffurflen gais ar-lein; bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn llawn a’i chyflwyno cyn yr amser terfyn ar y dyddiad cau.  

Os hoffech chi wneud cais am y swydd wag hon yn Gymraeg, defnyddiwch y ddolen ‘Newid Iaith / Change Language’ ar frig y dudalen hon i fynd i fersiwn Gymraeg yr hysbyseb hon; gallwch chi wneud cais yn Gymraeg o’r fan honno.

**Noder: Os oes gennych chi gyfrif Penodi yn barod a’ch bod eisiau diweddaru eich enw defnyddiwr a’ch cyfeiriad e-bost i’r cyfeiriad @llyw.cymru newydd, mewngofnodwch gan ddefnyddio eich hen fanylion, cliciwch ar eich enw yn y ddewislen a dewiswch ‘Golygu Manylion Personol’ yn y gwymplen. Gallwch ddiweddaru unrhyw un o’ch manylion personol cofrestredig ar y dudalen hon.**

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.