Swydd Wag -- Prosiect 2050: Pennaeth Cynllunio Ieithyddol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Is-adran y Gymraeg
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£50,870
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

  • Arwain ar ddylunio ymddygiad ieithyddol a chynyddu defnydd unigolion a chymunedau o’r Gymraeg vis-à-vis Strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr.
  • Rheoli rhaglen ffurfiol er mwyn sicrhau ymateb llawn gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid i adroddiad ac argymhellion Effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg: canfyddiadau arolwg.
  • Gweithio ar y cyd gydag adrannau eraill Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â sefydliadau eraill er mwyn eu cynorthwyo i roi ysbryd Cymraeg 2050 ar waith yn eu gweithgarwch polisi.

Prif dasgau

  • Byddwch chi’n arwain, rheoli ac yn datblygu tîm yn Prosiect 2050, Is-adran y Gymraeg, er mwyn cynyddu defnydd rhyngbersonol o’r Gymraeg yn y Gymru ehangach.
  • Chi fydd yn datblygu’n gwaith ar y Gymraeg yn y sector preifat. Byddwch chi’n gwneud hyn, er enghraifft drwy:

- arwain a datblygu gwasanaeth Helo Blod, ein gwasanaeth sy’n helpu busnesau i ddefnyddio mwy ar y Gymraeg
- chwilio am gyfleoedd i ddatblygu mentrau cymdeithasol, cymunedol ac economaidd er mwyn cefnogi Cymraeg 2050—a gweithredu’r cyfleoedd hynny
- datblygu’n gwaith ym myd caffael (e.e. dysgu gwersi o’n cynllun i helpu i gaffael meddalwedd sy’n darparu profiad da i ddefnyddwyr sy’n siarad Cymraeg)
- cydweithio gyda’n cydweithwyr ym Musnes Cymru ac â rhanddeiliaid perthnasol eraill er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio’n holl gyfleoedd posibl i fwrw agenda polisi’r Gymraeg yn ei blaen

  • Eich gwaith chi fydd rheoli rhaglen o waith trawsadrannol a thrawslywodraethol er mwyn ymateb i argymhellion ac adroddiad Effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg: canfyddiadau arolwg. Un o brif argymhellion y gwaith hwn yw cynyddu datblygu ac ymbweru cymunedol yn ein gwaith.
  • Byddwch chi’n ‘berchennog’ polisi ein cynllun Grantiau i Hybu a Hwyluso’r Gymraeg ac yn sicrhau bod y grantiau hynny’n addas at ddibenion Cymraeg 2050.
  • Byddwch chi’n arwain ar ein gwaith ym maes plant a phobl ifanc, fel bod y plant hynny’n siaradwyr Cymraeg hyderus y dyfodol—o ba gefndir ieithyddol bynnag maen nhw’n dod. Byddwch chi’n gwneud hyn, er enghraifft, drwy sicrhau bod argymhellion adroddiad diweddar i’r Siarter Iaith a’i rhaglenni cysylltiedig yn cael eu rhoi ar waith a thrwy gyswllt â chydweithwyr yn y Llywodraeth, y sector addysg a’r tu hwnt.
  • Byddwch chi’n sicrhau bod technegau newid ymddygiad cydnabyddedig yn cael eu cynnwys yn ein holl waith, fel bo modd i ni wybod bod ein hymyraethau’n gweithio. Os na fyddan nhw’n gweithio, byddwch chi’n ein helpu i ddysgu o hynny ac yn addasu beth ry’n ni’n ei wneud.
  • Byddwch chi’n berchennog polisi ein gwaith ym myd cerddoriaeth ac yn gyfrifol am ddatblygu’r maes hwnnw tua’r dyfodol.
  • Byddwch chi’n bwynt cyswllt rhwng Prosiect 2050 a’n cydweithwyr yn ein hadran Cyfathrebu a Marchnata er mwyn:

- Sicrhau bod rhaglen marchnata/cyfathrebu lawn yn cael ei chreu ar y cyd â Prosiect 2050
- Fel bo rhanddeiliaid yn ymwybodol o’n gwaith cyfredol a chanlyniadau’n gwaith blaenorol
- Fel bo naratif a strategaeth eiriol gyson yn ein holl waith

  • Byddwch chi’n gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Cyffredinol a’r Cyfarwyddwyr ar ran Gweinidogion i adnabod blaenoriaethau ac i ddatblygu strategaethau a chynlluniau gweithredu sy’n cefnogi cyflawniad a gwerthuso polisïau allweddol, adrodd yn gyson ar gynnydd y rheini drwy ddefnyddio dangosyddion ‘canlyniadau’ ieithyddol, yn hytrach na dim ond rhestru’r gwaith a wnaed
  • Byddwch chi’n rhoi cyngor proffesiynol i randdeiliaid allanol a sefydliadau partner allweddol ar gynyddu defnydd o’r Cymraeg.
  • Byddwch chi’n rheoli’r holl gyllidebau ar gyfer y gwaith uchod ac yn sicrhau bod arian yn cael ei wario’n briodol. Byddwch chi’n adrodd yn rheolaidd ar wariant yn erbyn y cyllidebau hynny.

Cyfleoedd datblygu

Y cyfle i weithio mewn amgylchedd cyflym ar draws portffolios polisi.

Dyddiad Cau

09/07/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Gweld y darlun mawr

  • Rhagweld datblygiadau economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol, amgylcheddol a thechnolegol i sicrhau bod gweithgareddau yn berthnasol ac yn cael eu targedu’n briodol.

Newid a gwella

  • Casglu, defnyddio a rhannu sylwadau a safbwyntiau eu cwsmeriaid yn effeithiol, gan gynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid, er mwyn gwella’r polisi a’r ffordd y caiff ei weithredu.

Arwain a chyfathrebu

  • Ymwneud yn hyderus â rhanddeiliaid a chydweithwyr ar bob lefel i ennyn ymrwymiad at gyrraedd nodau.

Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth

  • Sicrhau bod partneriaid yn cael eu cynnwys yn y broses o wireddu canlyniadau busnes, drwy gydweithredu mewn ffordd sy’n sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer y cyhoedd.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd:

  1. Profiad o weithio gyda chymunedau ac ennill eu parch/ymddiriedaeth.
  2. Profiad o systemau grantiau, naill ai fel dyrannwr neu dderbyniwr grant, ac o brofi canlyniadau’r grantiau hynny.
  3. Ymgysylltu â rhanddeiliaid ar bob lefel, hyd at, er enghraifft, lefel Bwrdd/Prif Weithredwr neu weinidogol.

Proses Asesu

Bydd ymgeiswyr sy’n mynd heibio i’r sifft gychwynnol yn cael eu gwahodd i gyfweliad ffurfiol. Yn ystod y cyfweliad, bydd gofyn iddyn nhw wneud cyflwyniad 5 munud o hyd.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Penodiad dwy flynedd yw hwn—sy’n agored i’r rheini sydd am wneud cais am gontract penodol ei dymor neu secondiad gan eu cyflogwr presennol.

Byddwn ni’n cynnal adolygiad o anghenion gwaith a threfniadau ariannu cyn pen y ddwy flynedd er mwyn gweld a ddylid gwneud y penodiad yn un parhaol, a hynny’n amodol ar sicrhau cymeradwyaeth briodol a chyllid ar y pryd.

Jeremy Evas - jeremy.evas@gov.wales - 03000 25625057

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.